Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Microsoft Teams

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2     Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.3     Yn amodol ar destun ychwanegol i baragraff 4.1, cytunodd y Bwrdd ar gofnodion 2 Ebrill fel rhai cywir.

1.4     Nododd y Bwrdd y diweddariad am wariant mewn perthynas â Covid-19 a nifer yr Aelodau sydd wedi cymryd y Lwfans Gweithio o Gartref. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at yr Aelodau i'w hatgoffa o'r cymorth sydd ar gael a rhoi sicrwydd iddynt bod y Bwrdd yn barod i’w cynorthwyo yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cytunodd y Bwrdd i ystyried diweddariad pellach mewn perthynas â Covid-19 yn y cyfarfod nesaf, gan gynnwys gwaith paratoi rhag ofn y byddai'n rhaid delio ag ail don o’r feirws.

1.5     Roedd y Bwrdd hefyd o'r farn y gallai fod cynnydd yn y dyfodol yn y costau sy'n gysylltiedig â DSE ar gyfer gweithio o gartref mewn perthynas ag iechyd a diogelwch gweithwyr. Nododd y Bwrdd y cyngor ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn arbennig mewn perthynas â gweithio unigol. Er bod y Bwrdd yn cydnabod bod gwariant ar deithio gan Aelodau er enghraifft yn llai ac felly y gallai dalu'r costau sy'n gysylltiedig â chymorth mewn perthynas â Covid-19, byddai angen cadw llygad ar hyn. Nododd y Bwrdd fod y Comisiwn yn bwriadu cynnal arolwg gyda’r Aelodau i weld a yw eu gofynion o ran offer TGCh yn cael eu bodloni, a phwysleisiodd ei gyngor y dylai'r Aelodau gaffael offer a gymeradwyir gan y Comisiwn er y gallai’r gost fod ychydig yn uwch.

1.6     Trafododd y Bwrdd ddiweddariad ar ddatblygu Contractau a Llawlyfr Staff Cymorth. Cafodd y Bwrdd sicrwydd o’r ffaith y cafwyd adborth cychwynnol cadarnhaol gan grwpiau’r pleidiau a phenaethiaid staff. Cytunodd y Bwrdd i dynnu sylw'r Bwrdd sy’n ei olynu at y mater hwn yn ei nodyn trosglwyddo.

1.7     Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar y defnydd o ddyfeisiau diogelwch personol a chytunodd i drafod gwybodaeth bellach yn ei gyfarfod nesaf. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai angen cynnwys y mater hwn yn y nodyn trosglwyddo i'r Bwrdd sy’n ei olynu.

1.8     Nododd y Bwrdd ddiweddariad ynghylch apeliadau a gofynnodd am gael tynnu sylw’r Bwrdd at unrhyw apeliadau ynghylch Covid-19 er gwybodaeth ar ôl iddynt gael eu cwblhau.

1.9     Nododd y Bwrdd fod y taliadau goramser ar gyfer aelodau teulu wedi'u cyhoeddi am y tro cyntaf a chytunodd y dylid eu hystyried adeg y cyhoeddiad nesaf, y flwyddyn nesaf.

1.10   Trafododd y Bwrdd y trefniadau ar gyfer trosglwyddo i'r Bwrdd sy’n ei olynu ym mis Medi 2020, a chytunwyd i drafod hyn ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

          Camau gweithredu:

-      Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion cyfarfod mis Ebrill, yn amodol ar y newid bach a nodir uchod.

-      Paratoi papur i'r Bwrdd ei drafod yn y cyfarfod nesaf mewn perthynas â'r cymorth a ddarperir mewn perthynas â Covid-19.

 

 

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Cofnodion:

2.1  Trafododd y Bwrdd destun terfynol y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd.

2.2  Yn amodol ar welliant i'r adroddiad i egluro'r sefyllfa bresennol sy'n ymwneud â theithio gan Aelodau i Aelod-wladwriaethau'r UE ar ôl i'r DU roi'r gorau i fod yn aelod o'r UE, cytunodd y Bwrdd ar yr adroddiad ar yr Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd.

2.3  Trafododd y Bwrdd y trefniadau cyhoeddi ar gyfer y Penderfyniad a chytunodd, oherwydd yr amgylchiadau presennol gyda Covid-19, y byddai'n fwy priodol gohirio’r cyhoeddi o wythnos.

2.4  Roedd y Bwrdd yn dymuno rhoi diolch arbennig i Huw Gapper am ei waith rhagorol yn cynorthwyo'r Bwrdd i gyhoeddi Penderfyniad y mae’n falch ohono ac sy'n crisialu gwaith ac ethos y Bwrdd dros y pum mlynedd diwethaf.

       Camau gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i wneud yr holl drefniadau ar gyfer cyhoeddi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig ar 4 Mehefin 2020.

 

 

 

 

 

3.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Etifeddiaeth y Bwrdd

Cofnodion:

3.1     Trafododd y Bwrdd ei etifeddiaeth i'r Bwrdd olynol. Cytunodd y Bwrdd fod y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd yn crisialu ei waith dros y pum mlynedd diwethaf, ac felly penderfynodd beidio â chyhoeddi adroddiad etifeddiaeth.

3.2     Nododd y Bwrdd ddiweddariad llafar gan Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd, ynghylch yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd yn ystod ei gyfnod gweithredol. Cytunodd y Bwrdd i drafod yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod nesaf, gan gynnwys a fyddai’n cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf.

          Camau gweithredu:

-      Yr ysgrifenyddiaeth i roi nodyn trosglwyddo drafft i'r Bwrdd ar gyfer y Bwrdd nesaf, i gytuno arno yn y cyfarfod nesaf.

-      Paratoi’r Adroddiad ar yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd, i'w drafod a chytuno arno yn y cyfarfod nesaf.