Agenda a Chofnodion

Lleoliad: By teleconference

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

·         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 - Papur 1

·         Papur diweddaru a'r rhaglen waith – Papur 2

 

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan y Fonesig Dawn Primarolo. Dymunodd y Bwrdd yn dda iddi yn ystod ei habsenoldeb. Dewiswyd Jane Roberts fel Cadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

1.3     Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.4     Roedd y Bwrdd yn dymuno diolch i swyddogion am drefnu cyfarfod heddiw dan yr amgylchiadau presennol.

1.5     Cytunodd y Bwrdd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror yn gofnod cywir.

1.6     Nododd y Bwrdd ohebiaeth y Comisiwn yn ymwneud â chostau offer swyddfa a ariennir yn ganolog. Cytunodd y Bwrdd i drafod paper arall ar y mater yn ei gyfarfod nesaf.

1.7     Nododd y Bwrdd fod y Comisiwn yn adolygu rheolau yn ymwneud â defnyddio adnoddau'r Cynulliad a nododd y bydd Clerc y Cynulliad yn cysylltu â Chadeirydd y Bwrdd ynglŷn â’r diwygiadau a gynigiwyd.

1.8     Nododd y Bwrdd fod y Cynulliad wedi canslo ei gynlluniau i gynnal wythnos o fusnes yng ngogledd-ddwyrain Cymru ym mis Mehefin 2020. Cytunodd y Bwrdd y gallai ei benderfyniad blaenorol, y dylai’r nifer gyfyngedig o deithiau dwyffordd gan staff cymorth a amlinellwyd yn y Penderfyniad gael eu defnyddio rhwng etholaeth/rhanbarth yr Aelod a'r lleoliad yng ngogledd-ddwyrain Cymru, fod yn gymwys o hyd pe bai'r wythnos yn cael ei haildrefnu.

1.9     Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater hwn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.

1.10 Trafododd y Bwrdd wybodaeth a roddwyd am Covid-19. Mewn ymateb i newidiadau a wnaed gan y Cynulliad, cytunodd y Bwrdd y byddai'n rhesymol darparu lwfans deiliad swydd ychwanegol ar gyfer rôl y Darpar Lywydd Dros Dro, ond nid rôl Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfod Llawn.

1.11 Gwnaeth y Bwrdd nodi a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer gweddill ei dymor.

1.12 Nododd y Bwrdd y gallai fod yn ofynnol iddo gynnal ei gyfarfod ym mis Mai drwy ddulliau rhithwir. Cytunodd y Bwrdd hefyd i adolygu yn nes at y dyddiad a ddylid bwrw ymlaen â’r cyfarfodydd Grŵp Cynrychiolwyr a drefnwyd.

Camau gweithredu:

-     Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion cyfarfod mis Chwefror.

-     Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi papur ar gostau offer swyddfa a ariennir yn ganolog.

-     Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi opsiynau ar gyfer diogelwch gwybodaeth i'r Bwrdd.

 

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cefnogi Aelodau o ran Covid-19

·         Papur trosolwg – Papur 3

 

Cofnodion:

1.1     Trafododd y Bwrdd ei opsiynau mewn perthynas â chefnogi’r Aelodau wrth ymateb i argyfwng Covid-19.

1.2     Cytunodd y Bwrdd i beidio â darparu costau swyddfa ychwanegol ar hyn o bryd, ond i adolygu'r sefyllfa'n gyson.

1.3     Cytunodd y Bwrdd i barhau â’r status quo ar gyfer y ddarpariaeth staffio am y tro.

1.4     Cytunodd y Bwrdd i drafod sefydlu lwfans canolog i ariannu lwfans gweithio gartref ar gyfer staff cymorth, yn seiliedig ar gyfraddau Cyllid a Thollau EM. Nododd y Bwrdd mai’r Aelod dan sylw fyddai’n penderfynu ei ddarparu i’w staff ai peidio.

1.5     Trafododd y Bwrdd pa ddarpariaethau pellach y gallai eu rhoi ar waith i gefnogi trefniadau gweithio hyblyg. Cytunodd y Bwrdd i sicrhau cymaint o hyblygrwydd â phosibl lle y bo modd, ac y byddai'n rhoi ystod o opsiynau ar waith i helpu’r Aelodau i gefnogi eu staff i weithio'n hyblyg lle y bo angen.

Cam gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi llythyr at yr Aelodau a’r staff cymorth yn amlinellu penderfyniadau’r Bwrdd.

 

3.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Newid i Weithdrefnau Disgyblu a Chwyno’r staff cymorth

·         Ymatebion i'r ymgynghoriad – Papur 4

 

Cofnodion:

1.1     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad. Penderfynodd y Bwrdd weithredu’r newidiadau i Weithdrefnau Disgyblu a Chwyno’r staff cymorth. Cytunodd y Bwrdd y dylai'r newidiadau ddod i rym ar unwaith.

Cam gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio’r Gweithdrefnau a’u cyflwyno i’r Aelodau a’r staff cymorth.

 

4.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

·         Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad - Papur 5

·         Amlinelliad o'r adroddiad drafft i'w adolygu - Papur 6

·         Cyhoeddi adolygiad - Papur 7

 

Cofnodion:

1.1     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i'w ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Senedd. Nododd y Bwrdd ei ddiolch i’r rhai a gyflwynodd ymatebion. Trafododd y Bwrdd yr holl ymatebion a’r opsiynau’n fanwl.

1.2     Nododd y Bwrdd ei fwriad, pe bai’r amgylchiadau’n caniatáu, i gyhoeddi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd erbyn diwedd mis Mai 2020.

Cam gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a’r adroddiad cysylltiedig er mwyn i’r Bwrdd gytuno arno.