Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd ·
Cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 - Papur 1 ·
Papur
diweddaru a'r rhaglen waith – Papur 2 ·
Cynllun
Pensiwn Aelodau Cynulliad: Strategaeth buddsoddi– Papur 2a Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd dros dro
Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. 1.2
Nododd y Cadeirydd ac aelodau'r
Bwrdd y newidiadau staffio dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn, a chroesawyd Huw
Gapper a Dan Collier. 1.3
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion cyfarfod
21 Tachwedd fel cofnod cywir, yn amodol ar welliant i baragraff 3.13 i
atgyfnerthu bod y Bwrdd wedi ystyried cymariaethau â Seneddau eraill y DU wrth
wneud ei benderfyniad ar lefelau cyflog staff cymorth. 1.4
Nododd y Bwrdd fod Deddf Senedd
Cymru ac Etholiadau (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac y bydd enw'r
sefydliad yn newid ar 6 Mai 2020 i Senedd Cymru / Welsh Parliament. Nododd y
Bwrdd y bydd ei enw wedi newid i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi hynny. 1.5
Nododd y Bwrdd y bydd Cadeirydd y Bwrdd
yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ddydd Llun
20 Ionawr. 1.6
Cytunodd y Bwrdd ar gynigion i
gynnal adolygiad anffurfiol o'r llawlyfr i Staff Cymorth. Cytunodd y Bwrdd i
ystyried papur yn nodi ei ddull o ymdrin â'r adolygiad hwn yn ei gyfarfod
nesaf. 1.7
Cytunodd y Bwrdd i gynnig diwygiad
i'r Weithdrefn Ddisgyblu a Chwyno ar gyfer Staff Cymorth i egluro'r seiliau ar
gyfer apelio. Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori'n ffurfiol ag Aelodau a Staff
Cymorth fel rhan o'i lythyr diweddaru ar ôl y cyfarfod. 1.8
Cytunodd y Bwrdd y dylid atgoffa'r
Aelodau fod ganddynt ddyletswydd gofal, fel cyflogwyr, dros eu Staff Cymorth.
Cytunodd y Bwrdd i annog Aelodau i ofyn am gyngor gan adran ddiogelwch Comisiwn
y Cynulliad ar gadw'n ddiogel bob amser. 1.9
Nododd y Bwrdd y diweddariad ar
Strategaeth Buddsoddi Bwrdd Pensiwn yr Aelodau. 1.10 Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor
y gwanwyn. 1.11 Cytunodd y Bwrdd i geisio trefnu cyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr ar
gyfer yr un diwrnod â chyfarfod nesaf y Bwrdd. Camau
gweithredu: -
Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio a
chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd; -
Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r
Rhaglen Waith i gynyddu amseriad yr eitem ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched
Cynulliad ar gyfer cyfarfod 2 Ebrill. - Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod gyda Grwpiau Cynrychiolwyr cyn y
cyfarfod ym mis Chwefror. - Yr uned Cymorth Busnes i’r Aelodau i baratoi papur yn nodi cwmpas yr
adolygiad o'r llawlyfr i staff cymorth i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf. - Yr ysgrifenyddiaeth i anfon y llythyr yn sgîl penderfyniad y Bwrdd cyn
gynted â phosibl. - - |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Materion heb eu datrys ar y penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad ·
Cyngor ychwanegol ar Wariant ar Lety Preswyl,
Costau Swyddfa a Theithio - Papur 3 ·
Cyngor ychwanegol ar Gymorth Staffio i Aelodau a
Phleidiau Gwleidyddol - Papur 4 ·
Cyngor ychwanegol ar daliadau Aelodau, Cymorth
Ychwanegol ac Aelodau'n gadael eu swydd - Papur 5 Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd Sulafa
Thomas i’r cyfarfod. 2.2 Trafododd y Bwrdd gynigion ar gyfer RAE, costau Swyddfa, teithio, cymorth
staffio ac Aelodau'n gadael y swydd. 2.3 Trafododd y Bwrdd drosglwyddo costau deunydd ysgrifennu a ariennir gan y
Comisiwn i'r Penderfyniad, a chytunodd ei bod yn rhy gynnar i wneud hynny nawr.
Cytunwyd i gymryd sylw o’r ffaith y byddai'r trosglwyddiad yn digwydd o
ddechrau'r Chweched Cynulliad. 2.4 Ystyriodd y Bwrdd y Penderfyniad drafft fesul llinell, a chytunwyd i
ystyried y diwygiadau ac i gymeradwyo'r drafft terfynol ar gyfer ymgynghori yn
eich gylch drwy e-bost. 2.5 Ystyriodd y Bwrdd y ddogfen ymgynghori ddrafft, a chytunwyd i ystyried y
diwygiadau ac i gymeradwyo'r fersiwn derfynol drwy e-bost. 2.6 Cytunodd y Bwrdd i gomisiynu Diverse Cymru i gynnal Asesiad Effaith
Cydraddoldeb ar y Penderfyniad i lywio'r fersiwn derfynol. |
|
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Ymgynghoriad ar y Penderfyniad Drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad ·
Trosolwg
o'r Penderfyniad drafft - Papur 6 ·
Atodiad
A - Penderfyniad Llawn ·
Atodiad
B - Dogfen ymgynghori ddrafft ·
Cyhoeddi
ymgynghoriad - Papur 7 Cofnodion: 3.1
Ystyriodd y Bwrdd opsiynau ar gyfer
sut y mae'n dymuno cyhoeddi ei ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft. 3.2 Ystyriodd y Bwrdd y negeseuon allweddol ac amserlen yr ymgynghoriad ar y
Penderfyniad, a chytunodd arnynt. Cam
gweithredu: - Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r Penderfyniad drafft a chyhoeddi'r
dogfennau atodol ar gyfer ymgynghori yn eu cylch yn unol â'r strategaeth
gyfathrebu y cytunwyd arni gan y Bwrdd. |