Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.

1.2        Diolchodd y Cadeirydd i Rebecca Hardwicke a Craig Stephenson am eu gwaith yn cefnogi'r Bwrdd, a dymunodd bob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.

1.3        Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai.

1.4        Nododd y Bwrdd y diweddariad a roddwyd ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sydd yng Nghyfnod 1 o'r broses graffu yn y Cynulliad ar hyn o bryd.

1.5        Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gam nesaf Diwygio'r Cynulliad.

1.6        Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gaffael dyfeisiau diogelwch i Aelodau.

1.7        Nododd y Bwrdd y diweddariad ar wrandawiad tribiwnlys diweddar a dyfarniad dilynol o ran contractau ar gyfer staff grwpiau.

1.8        Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar yr archwiliad mewnol diweddar o waith Cymorth Busnes Aelodau.

1.9        Nododd y Bwrdd ddiweddariad yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r arolwg Urddas a Pharch gan y Comisiwn.

1.10     Gwnaeth y Bwrdd drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mai 2019.

Yr ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at staff grwpiau yn rhoi gwybod iddynt am effaith y dyfarniad o ran eu contractau.

 

2.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Yr ymatebion i'r ymgynghoriadau ar Ran Un

Cofnodion:

2.1 Ystyriodd y Bwrdd yr ymatebion i'w ymgynghoriad.

2.2 O ran Cynnig 1, cytunodd y Bwrdd i ystyried y math o eiriau i gael gwared ar daliad llog ar forgeisiau yn 2026, ond i anrhydeddu trefniadau cytundebol presennol. Cytunodd y Bwrdd hefyd i ystyried y mater hwn ymhellach yn yr ymgynghoriad terfynol ar y Penderfyniad yn y flwyddyn newydd.

2.2 Cytunodd y Bwrdd i weithredu Cynnig 2 fel yr amlinellwyd.

2.3 O ran Cynnig 3, cytunodd y Bwrdd i ddisodli'r gair 'Esteem' gyda’r geiriau 'Enw Da' ac i ddileu'r gair 'gorfodol'. Cytunodd y Bwrdd hefyd i ddileu'r cyfeiriad at 'drafnidiaeth gyhoeddus' a’i newid i hygyrch a chyraeddadwy i'r cyhoedd.

2.4 Wrth ystyried yr ymatebion i Gynnig 4 a Chynnig 5, cytunodd y Bwrdd i beidio â darparu cyllid ar wahân ar gyfer prisio prydlesau ar hyn o bryd ond i gadw'r newidiadau hyn mewn cof wrth ystyried cyfanswm gwerth y lwfans ar ddiwedd yr adolygiad.

2.5 O ystyried yr ymatebion i Gynnig 6 a Chynnig 7 cytunodd y Bwrdd i newid y geiriad i roi eglurhad nad yw Aelodau wedi'u cyfyngu i brynu drwy'r Comisiwn, ond os bydd Aelodau'n dewis prynu gan gyflenwyr eraill yna ni fydd cefnogaeth ar gael gan y Comisiwn.

2.2 Cytunodd y Bwrdd i weithredu Cynnig 8 a Chynnig 9 fel yr amlinellwyd.

2.7 Cytunodd y Bwrdd i anfon llythyr yn amlinellu ei benderfyniadau cyn gynted â phosibl.

 

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi ymateb y Bwrdd i'r ymgynghoriad cyn gynted â phosibl.

 

3.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cynnig ymgynghori ar Ran Dau

Cofnodion:

3.1        Ystyriodd y Bwrdd y darpariaethau yn y penodau ar lwfansau cymorth staffio o’r Penderfyniad sy'n dod o dan ran dau o'r adolygiad.

3.2        Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio'r penodau hyn o'r Penderfyniad.

3.3        Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 11 Hydref 2019.

3.4        Ystyriodd y Bwrdd faterion yn ymwneud â’r Lwfans Cymorth Pleidiau Gwleidyddol a chytunodd i ddychwelyd at y mater hwn yn ei gyfarfod nesaf.

 

Cam gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-        cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-        paratoi crynodeb o'r ymatebion i'w hystyried gan y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol

 

4.

Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ail drafodaeth o Ran Tri

Cofnodion:

4.1     Trafododd y Bwrdd y materion sy'n dod o dan ran tri o'r adolygiad ynghylch cyflogau Aelodau, deiliaid swyddi, gadael swyddi a chymorth ychwanegol.

4.2 Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y mater yn ei gyfarfod nesaf.

 

5.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adroddiad Blynyddol

Cofnodion:

5.1.    Trafododd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2018-19 ac, yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd i gyhoeddi'r adroddiad a’i osod gerbron y Cynulliad maes o law.

 

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-     gwneud y newidiadau y gofynnodd y Bwrdd amdanynt yn yr adroddiad;

-     paratoi'r adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi.

 

6.

Eitem i'w thrafod: Ymgynghori ar bensiynau

Cofnodion:

6.1        Cynigiodd y Bwrdd newidiadau i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau ar ôl cael cyngor cyfreithiol ynghylch goblygiadau posibl gwahaniaethu ar sail oedran.

6.2        Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio Rheolau'r Cynllun Pensiwn.

6.3        Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 11 Hydref 2019.

 

Cam gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-        cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;

-        paratoi crynodeb o'r ymatebion i'w hystyried gan y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol