Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Cyswllt: Lleu Williams
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 10.00) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2
Cytunodd
y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr. 1.3
Nododd
y Bwrdd y datganiad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ystod
y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth ynghylch ei waith ar ddatblygu polisi urddas a
pharch. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r polisïau perthnasol ar waith ar gyfer
staff cymorth unwaith y derbyniwyd y polisïau ar gyfer Aelodau er mwyn sicrhau
bod y ddau bolisi yn gyson. 1.4
Cytunodd
y Bwrdd i adolygu sut mae'n ymgysylltu â'r Grwpiau Cynrychioliadol. 1.5
Trafododd
y Bwrdd y dyddiadau cyfarfod dros dro a'r flaenraglen waith ddrafft hyd at fis
Gorffennaf 2020 a chytunodd i edrych ar y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(10.00 - 11.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2018-19 Cofnodion: Cyflogau
staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2018-19 2.1.
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a ddaeth i law ar y cynigion i gynyddu
cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 o 2.3 y cant yn unol â ffigurau 2017
dros dro ar gyfer enillion canolrif ASHE yng Nghymru. 2.2.
Yn
sgil yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i gynyddu
cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 o 2.3 y cant. Lwfans
costau swyddfa ar gyfer 2018-19 2.3.
Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad ar y cynigion i: -
gynyddu
lwfans costau swyddfa 5 y cant yn unol â chyfradd CPI ar gyfer mis Medi 2017 ac
i fynd i'r afael â'r galw am gostau cynyddol y disgwylir i Aelodau eu hariannu
o'u cyllidebau; - cynnig lwfans heb ei gapio a fydd yn
cael ei gyfyngu i'r meini prawf a ddefnyddir ar hyn o bryd i ganiatáu i Aelodau
weithredu argymhellion diogelwch. 2.4.
Yn
sgil yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i gynyddu'r
lwfans costau swyddfa 5 y cant ar gyfer 2018-19 a'r darpariaethau newydd ar
gyfer gweithredu argymhellion diogelwch. Gwariant
ar Lety Preswyl ar gyfer 2018-19 2.5.
Trafododd
y Bwrdd yr ymateb i'r ymgynghoriad ar ei benderfyniad y dylid cynnal y lwfans
presennol ar gyfer Aelodau y tu allan i'r ardal o £9,200 y flwyddyn/£775 bob
mis calendr, yr uchafswm ar gyfer atgyweiriadau hanfodol o £882 y flwyddyn a'r
uchafswm o gostau rhent i Aelodau â dibynyddion o £120 y mis. 2.6.
Cytunodd
y Bwrdd i gynnal y darpariaethau o fewn y Penderfyniad ar gyfer y lwfans ond i
ystyried y materion a nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad fel rhan o'i
adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Camau
gweithredu: Cytunodd
y Bwrdd i drafod y materion eraill a nodwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn
ystod darnau perthnasol o waith. Yr
ysgrifenyddiaeth i: - gyhoeddi'r Penderfyniad diwygiedig; - ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau’r
Cynulliad a staff cymorth yn cadarnhau'r newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer
2018-19. |
|
(11.15 - 12.15) |
Eitem i'w thrafod: Yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar y rhwystrau a'r cymhellion dros sefyll mewn etholiad i'r Cynulliad Cofnodion: 3.1.
Nododd
y Bwrdd, yn sgil gweithredu diwydiannol diweddar a'r tywydd gwael, nid oedd
cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi gallu dod i'r cyfarfod i
drafod yr adroddiad. 3.2.
Trafododd
y Bwrdd yr adroddiad a chytunodd i wahodd cynrychiolwyr o Ganolfan
Llywodraethiant Cymru yn ei gyfarfod ym mis Mai i drafod camau nesaf yr
adolygiad. Cam
gweithredu: Yr
ysgrifenyddiaeth i wahodd cynrychiolwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru i'w
gyfarfod ym mis Mai. |
|
(13.15 - 14.15) |
Eitem i'w thrafod: Adolygu strategaeth y Bwrdd flwyddyn yn ddiweddarach Cofnodion: 4.1.
Adolygodd
y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn erbyn
y pedair blaenoriaeth strategol y cytunwyd arnynt yn ei adroddiad ym mis Ionawr
2017. Cam
gweithredu: Y
Bwrdd i gyhoeddi crynodeb o'i benderfyniad yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer
2017-18. |
|
(14.30 - 16.30) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o gefnogaeth staffio i’r Aelodau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1.
Trafododd
y Bwrdd y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma ar gyfer adolygu cymorth staffio i
Aelodau. Trafododd y Bwrdd pa faterion a allai fod angen eu hystyried ymhellach
a pha faterion y gellid mynd i'r afael â nhw yn gynt. 5.2.
Cytunodd
y Bwrdd i ymgynghori ar y materion canlynol ar unwaith: - cyllidebu Lwfans Staffio ar bwyntiau
cyflog gwirioneddol; - cyhoeddi'r gwariant y mae pob Aelod
unigol yn ei wneud ar eu Lwfans Staffio; - dileu'r cap o 111 awr ar gyfer staff
cymorth a gyflogir yn barhaol; - cynyddu'r hyblygrwydd o drosglwyddo
arian rhwng cyllidebau. 5.3.
Y
dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai dydd Gwener 11 Mai 2018. 5.4.
Cytunodd
y Bwrdd i edrych eto ar faterion eraill a nodwyd yn ystod yr adolygiad yn ei
gyfarfod ym mis Mai. Camau
i'w cymryd Yr
ysgrifenyddiaeth i: -
gyhoeddi
a hyrwyddo'r ymgynghoriad; -
paratoi
crynodeb o'r ymatebion er mwyn i'r Bwrdd eu hystyried. |