Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:30 – 9:35) |
Ethol Cadeirydd Dros Dro 1. Yn dilyn
ymddiswyddiad Syr George Reid o'i rôl yn Gadeirydd ar Fwrdd Taliadau Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, gofynnodd Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad i aelodau'r Bwrdd
Taliadau enwebu Cadeirydd Dros Dro o dan Adran 1(3) o Fesur Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. 2. Etholwyd Sandy
Blair yn unfrydol gan aelodau'r bwrdd yn Gadeirydd Dros Dro ar y Bwrdd
Taliadau. 3. Croesawodd y
Cadeirydd Dros Dro aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod ac estynnodd groeso i Anna
Daniel, Pennaeth y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol, Gareth Price, Clerc newydd
y Bwrdd a Dan Collier, y Dirprwy Glerc newydd. 4. Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant. Cofnodion: 1. Yn dilyn ymddiswyddiad Syr George Reid o’i rôl fel Cadeirydd
Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gwahoddodd Cyfarwyddwr Busnes y
Cynulliad y Bwrdd Taliadau i enwebu Cadeirydd Dros Dro o dan Adran 1(3) o Fesur
Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2010). 2. Etholodd y
Bwrdd Sandy Blair yn unfrydol yn Gadeirydd Dros Dro y Bwrdd Taliadau. 3. Croesawodd
y Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd i’r cyfarfod a chroesawodd Anna Daniel, Pennaeth y
Gwasanaeth Trawsnewid Strategol, Gareth Price, Clerc newydd y bwrdd, a Dan
Collier, Dirprwy Glerc newydd y Bwrdd. 4. Nid oedd
datganiadau o fuddiant. |
|
(9:35 – 10:00) |
Trafod ffyrdd o weithio 1. Trafododd y
Bwrdd ddulliau o weithio. Cofnodion: 1. Trafododd y
Bwrdd ddulliau o weithio. |