Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. 1.2
Mynegodd y
Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd eu dymuniadau gorau i Lleu Williams, clerc y
Bwrdd. 1.3
Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2019. 1.4
Nododd y
Bwrdd y diweddariad a roddwyd ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sydd yng
Nghyfnod 2 o'r broses graffu ddeddfwriaethol ar hyn o bryd. 1.5
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar y cam nesaf o ran diwygio'r Cynulliad a phenderfyniad y
Cynulliad i sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. 1.6
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar gyflwyno dyfeisiau diogelwch i Aelodau. 1.7
Nododd y
Bwrdd y diweddariad ar ymchwiliadau annibynnol fel rhan o'r weithdrefn gwyno. 1.8
Nododd y
Bwrdd y diweddariad yn dilyn galw'r Cynulliad yn ôl. 1.9
Gwnaeth y
Pwyllgor drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref. Cam gweithredu: - Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2019. |
|
Eitem i'w thrafod/i'w phenderfynu: Taliadau Cadeirydd Pwyllgor Diwygio Etholiadol y Cynulliad Cofnodion: 2.1 Nododd y Bwrdd benderfyniad y Cynulliad i
sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. 2.2 Nododd y Bwrdd y bydd y Pwyllgor Busnes yn
rhoi cynigion i'r Cynulliad ar faint ac aelodaeth y Pwyllgor maes o law. 2.3 Trafododd y Bwrdd lythyr oddi wrth y
Llywydd yn nodi cylch gwaith y Pwyllgor. Nododd aelodau’r Bwrdd y byddai gwaith
y Pwyllgor yn cael ei gyflawni’n unol â therfyn amser penodol, ond cytunwyd y
dylid talu’r Cadeirydd ar y gyfradd uwch oherwydd y posibilrwydd y gallai cylch
gwaith y Pwyllgor fod yn gymhleth ac yn dechnegol. Cam
gweithredu: - Y Bwrdd i ysgrifennu at y Llywydd i
gadarnhau y dylid pennu lefel tâl Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad ar y gyfradd uwch. |
|
Eitem i'w thrafod/i'w phenderfynu: Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau Cofnodion: 3.1 Trafododd y Bwrdd benodiad Cadeirydd
Annibynnol Proffesiynol y Bwrdd Pensiynau. Mae'r penodiad am bedair blynedd a
bydd penodiad y Cadeirydd presennol yn dod i ben ym mis Mai 2020. 3.2 Trafododd y Bwrdd ei opsiynau gan gynnwys
hysbysebu am benodiad newydd neu ymestyn penodiad y Cadeirydd presennol am
bedair blynedd arall. 3.3 Gan nodi perfformiad y Cadeirydd presennol,
cytunodd y Bwrdd i ymestyn ei phenodiad am dymor arall o bedair blynedd. Cam
gweithredu: - Rhoi gwybod i Glerc y Bwrdd
Pensiynau am benderfyniad y Bwrdd i ymestyn penodiad y Cadeirydd presennol am
bedair blynedd arall. |
|
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cynigion ar gyfer ymgynghori, rhan tri Cofnodion: 4.1 Trafododd y Bwrdd y materion sy'n dod o dan
ran tri o'r adolygiad ynghylch cyflogau Aelodau,
deiliaid swyddi, gadael swyddi a chymorth ychwanegol. 4.2 Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion
i ddiwygio'r penodau hyn o'r Penderfyniad. 4.3 Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fydd
11 Tachwedd 2019. Cam
gweithredu: - Cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad; - Paratoi crynodeb o'r ymatebion i'w
hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol |
|
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad Cofnodion: 5.1 Trafododd y Bwrdd y diweddariadau ar Lwfans
Cymorth y Pleidiau Gwleidyddol a’r broses o Gyflogi Staff y Grwpiau
Gwleidyddol. 5.2 Cytunodd y Bwrdd i beidio ag ystyried
unrhyw newidiadau o ran pwy yw’r cyflogwr ar gyfer staff y grwpiau ar yr adeg
hon. Cytunwyd y byddai angen gwneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â
hunaniaeth cyflogwr staff grŵp yng nghyd-destun unrhyw newid i faint y
Cynulliad. 5.3 Nododd y Bwrdd nad oes disgwyl i ddeddfwriaeth
ar faint y Cynulliad gael ei chyflwyno tan dymor nesaf y Cynulliad, a chytunodd
y dylid tynnu sylw at y mater hwn yn ei adroddiad etifeddiaeth ar gyfer y Bwrdd
newydd yn 2020. 5.3
Cytunodd y Bwrdd i ystyried Lwfans Cymorth y Pleidiau Gwleidyddol fel rhan o'i
adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad. 5.4 Cytunodd y Bwrdd y byddai angen ystyried
unrhyw newidiadau i fformiwla neu strwythur y lwfans yng nghyd-destun diwygio'r
Cynulliad. Felly, cytunwyd y dylid tynnu sylw at hyn yn adroddiad etifeddiaeth
y Bwrdd ar gyfer y Bwrdd newydd yn 2020. Camau
gweithredu: - Trafod Lwfans Cymorth y Pleidiau
Gwleidyddol fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad mewn cyfarfod yn
y dyfodol. - Cynnwys hyn yn adroddiad
etifeddiaeth y Bwrdd i'w gyhoeddi yn haf 2020. |