Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda B - Ty_Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15 - 10.15) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1.
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2.
Cafodd y Cadeirydd
ymddiheuriad gan Trevor Reaney. Gwnaeth Trevor sylwadau ar bob eitem cyn y
cyfarfod. 1.3.
Croesawodd y Cadeirydd
Joanna Adams i'r cyfarfod, a fydd yn helpu'r Bwrdd yn ei rôl fel Uwch-bartner
Busnes Aelodau'r Cynulliad. 1.4.
Dywedodd y Cadeirydd wrth
y Bwrdd mai hwn fydd cyfarfod olaf Siân Giddins fel Dirprwy Glerc y Bwrdd. Ar
ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Siân am ei gwaith dros y ddwy flynedd
diwethaf a dymunodd yn dda iddi yn ei rôl newydd. 1.5.
Yn amodol ar ddiwygiad
mân, derbyniodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod ar 17 Ionawr 2019. 1.6.
Trafododd y Bwrdd
oblygiadau posibl y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar ei gylch gwaith a chytunodd i fonitro hynt y Bil
drwy'r Cynulliad. 1.7.
Trafododd y Bwrdd y
diwygiadau i'r polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn sgil ei benderfyniadau
blaenorol i gyflwyno diwrnodau braint a pholisi absenoldeb tosturiol ffurfiol,
yn ogystal â diwygio'r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwynion. Cytunodd y Bwrdd i
rannu'r polisïau a'r gweithdrefnau â'r Grwpiau Cynrychiolwyr cyn eu cyflwyno'n
ffurfiol. 1.8.
Nododd y Bwrdd y sylw diweddar
yn y cyfryngau i'r lwfans dirwyn i ben a chytunodd i gynnal y darpariaethau
presennol. 1.9.
Dywedodd yr
ysgrifenyddiaeth wrth y Bwrdd, yn dilyn ei benderfyniad i ysgrifennu at yr holl
staff cymorth sy'n gweithio i Aelodau annibynnol y Cynulliad i ofyn iddynt
ffurfioli trefniadau ar gyfer ymgysylltu â'r Bwrdd, nad oedd consensws wedi'i
gyflawni ynghylch pwy ddylai gynrychioli'r garfan hon o staff. Fel y cyfryw,
cytunodd y Bwrdd i rannu gwybodaeth berthnasol â'r holl staff o'r fath yn
electronig. Camau gweithredu: Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol: -
cyhoeddi nodyn y cyfarfod
ar 17 Ionawr; -
dosbarthu'r polisïau a'r
gweithdrefnau diwygiedig i'r Grwpiau Cynrychiolwyr; -
ysgrifennu at yr holl
staff cymorth sy'n gweithio i'r Aelodau annibynnol i'w hysbysu o'i
phenderfyniad. |
|
(10.15 - 11.15) |
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Trydedd ystyriaeth o ran un Cofnodion: 1.1.
Trafododd y Bwrdd y
darpariaethau ym mhenodau'r Penderfyniad sy'n ymwneud â Gwariant ar Lety
Preswyl, Siwrneiau'r Aelodau a Chostau Swyddfa sy'n dod dan ran un o'r
adolygiad. 1.2.
Cytunodd y Bwrdd i
ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio'r penodau hyn yn y Penderfyniad. 1.3.
7 Mehefin 2019 fyddai'r
dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad. Camau gweithredu: Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn gwneud y canlynol: -
cyhoeddi a hyrwyddo'r
ymgynghoriad; -
llunio crynodeb o'r
ymatebion i'r Bwrdd eu trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(11.15 - 12.15) |
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ystyriaeth gyntaf o ran dau Cofnodion: 1.1.
Cynhaliodd y Bwrdd ei
drafodaeth gyntaf o'r materion sy'n dod dan ran dau o'r adolygiad ynghylch y cymorth
a roddir ar gyfer yr Aelodau ac i Bleidiau Gwleidyddol, sef penodau 7 ac 8 o'r
Penderfyniad yn y drefn honno. 1.2.
Cytunodd y Bwrdd i drafod
y materion hyn yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(13.00 - 14.00) |
Eitem i'w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ystyriaeth gyntaf o ran dau (parhad) Cofnodion: 4.1.
As
item 3. |
|
(14.00 - 14.45) |
Eitemau i'w trafod: Gwerthuso rôl yr Uwch Gynghorydd: Adroddiad gan Capital People Cofnodion: 1.1.
Croesawodd y Bwrdd Paul
Clayton a Joe Glover, a oedd yn cynrychioli Capital People, i'r cyfarfod. 1.2.
Gwahoddodd y Cadeirydd Paul
a Joe i roi trosolwg o'r adroddiad i'r Bwrdd ac i ymateb i'r pwyntiau eglurhad
a godwyd. 1.3.
Cytunodd y Bwrdd i drafod
y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cam gweithredu: Yr
ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Capital People ar ran y Bwrdd i gytuno ar y camau
nesaf. |
|
(15.00 - 15.30) |
Eitem i'w thrafod: Gwerthuso rôl yr Uwch Gynghorydd: Adroddiad gan Capital People (parhad) Cofnodion: 6.1.
As
item 5. |
|
(15.30 - 16.30) |
Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2019-20 Cofnodion: 1.1.
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd i'w gynigion fel rhan o'r adolygiad
blynyddol o'r Penderfyniad. Lwfans Costau Swyddfa 1.2.
Nododd y Bwrdd y pryderon
a godwyd ynghylch ei gynigion i gynnal y lwfans Costau Swyddfa ar gyfer ei
Benderfyniad nesaf. Fodd bynnag, gan nad oedd dim tystiolaeth i awgrymu y dylid
cynyddu'r lwfans, cytunodd y Bwrdd i weithredu ei gynigion sy'n cynnal y
lwfansau ar y gyfradd bresennol. Gwariant ar Lety Preswyl 1.3.
Nododd y Bwrdd y
gefnogaeth i'w gynigion i ddiwygio'r darpariaethau ynghylch y lwfans ardal
ryngol, ar gyfer cynyddu'r gwerth ac egluro ei ddefnydd, a chytunodd i
weithredu'r newidiadau yn ei Benderfyniad nesaf. 1.4.
Cytunodd y Bwrdd hefyd i
gynyddu'r lwfans ardal allanol 2.4 y cant, sef y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar
gyfer mis Medi 2018. 1.5.
Cytunodd y Bwrdd i gynnal
yr holl lwfansau eraill sy'n gysylltiedig â Gwariant ar Lety Preswyl. Camau gweithredu: Bydd yr ysgrifenyddiaeth
yn gwneud y canlynol: -
ysgrifennu'n ffurfiol at
Aelodau'r Cynulliad a'r staff cymorth yn cadarnhau'r newidiadau i'r
Penderfyniad ar gyfer 2019-20, gan gynnwys manylion eu cyflogau a fydd yn
cynyddu 1.2 y cant yn unol â'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE),
Enillion Canolrif gros ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru; -
cyhoeddi'r Penderfyniad
diwygiedig. |