Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Lleu Williams
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 10.15) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd
aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2
Cytunodd y Bwrdd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018. 1.3
Cytunodd y Bwrdd ar gylch
gorchwyl y Grŵp Llywodraethiant ar gyfer Cynllun Pensiwn Staff Cymorth
Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod Comisiwn
y Cynulliad wedi enwebu ei Gyfarwyddwr Cyllid i gynrychioli'r Comisiwn ar y
Bwrdd, ochr yn ochr â Phennaeth Pensiynau'r Comisiwn ac aelod o'r Bwrdd
Taliadau. 1.4
Nododd y Bwrdd fod swydd
wag o hyd ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn
sgil ymddiswyddiad Caroline Jones AC o'r rôl. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at
Gomisiwn y Cynulliad, gan ofyn i'r Comisiwn enwebu cynrychiolydd i'r Bwrdd
Pensiynau cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau dilyniant yn yr aelodaeth. 1.5
Nododd y Bwrdd ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru. Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion perthnasol a
godwyd yn yr ymchwiliad hwn yn ei flaenraglen waith lle bo'n briodol. Cam gweithredu: Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018. |
|
(10.15 - 12.30) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cymorth Staffio ar gyfer Aelodau’r Cynulliad Cofnodion: 2.1.
Trafododd y Bwrdd y
dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad a chytunodd ar yr eitemau a ganlyn: -
pa faterion y byddai'n eu
gohirio tan ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad; -
pa faterion y byddai'n
ymgynghori arnynt fel rhan o'r adolygiad hwn; -
y camau nesaf yn dilyn ei
ymgynghoriad ar hyblygrwydd y lwfansau sy'n ymwneud â'r Lwfans Cymorth i
Bleidiau Gwleidyddol. Materion i'w hystyried o fewn ffrydiau gwaith eraill y
Bwrdd 2.2.
Trafododd y Bwrdd y
dystiolaeth a gafwyd ar nifer o faterion, a chytunodd y byddai rhai o'r
materion hyn yn cael eu hystyried fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar
gyfer y Chweched Cynulliad. Cam gweithredu: Y Bwrdd i
drafod y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer
y Chweched Cynulliad. Ymgynghori ar y materion sy'n weddill 2.3.
Trafododd y Bwrdd y
dystiolaeth a gafwyd ynghylch y darpariaethau canlynol: -
cyllid ar gyfer cyflogi
aelodau o'r teulu; -
amodau a thelerau staff
cymorth; -
cyflogau staff cymorth. 2.4.
Cytunodd y Bwrdd ei fod
wedi cael digon o dystiolaeth ar y materion hyn i ymgynghori ar nifer o
gynigion i ddiwygio'r darpariaethau a amlinellir isod: -
cael gwared ar y cyllid i
Aelodau'r Cynulliad gyflogi aelodau o'r teulu a phartneriaid o'r diddymiad
nesaf; -
cael gwared ar y cyllid
ar gyfer unrhyw aelodau teulu newydd a benodwyd (neu a ddyrchafwyd neu y
newidiwyd eu contract cyfredol) ar ôl 24 Hydref 2018; -
addasu cyflogau'r staff
cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau
ac Enillion; -
cyflwyno diwrnodau braint
ar gyfer staff cymorth; -
cyflwyno polisi
absenoldeb tosturiol newydd ar gyfer y staff cymorth. 2.5.
Y dyddiad cau ar gyfer yr
ymgynghoriad fyddai 13 Rhagfyr 2018. Camau gweithredu Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn: -
cyhoeddi ac yn hyrwyddo'r
ymgynghoriad; -
paratoi crynodeb o'r
ymatebion i'r Bwrdd ei ystyried. Ymgynghori ar hyblygrwydd y lwfansau sy'n ymwneud â'r
Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 2.6.
Trafododd y Bwrdd yr
ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd y dylid gweithredu'r newidiadau a
ganlyn: -
dileu'r ddarpariaeth yn y
Penderfyniad ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau newydd o arian o Lwfans Staffio'r
Aelod i'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o 1 Hydref. O ran yr Aelodau
hynny sy'n trosglwyddo arian o'u Lwfans Staffio i'w Lwfansau Pleidiau
Gwleidyddol ar hyn o bryd, rhoddir caniatâd iddynt barhau i drosglwyddo'r un
swm bob blwyddyn tan ddiwedd y Pumed Cynulliad; -
cyllidebu'r Lwfans
Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn ôl pwyntiau talu gwirioneddol o 1 Ebrill
2019; -
cyhoeddi gwariant pob
Plaid Wleidyddol o’i Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o 1 Ebrill 2019. Camau gweithredu: Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn: -
hysbysu'r Aelodau a'r
staff cymorth o'r newidiadau sydd i ddod; -
paratoi Penderfyniad
diwygiedig ar gyfer ei gyhoeddi. |
|
(13.15 - 15.15) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cwmpas yr adolygiad Cofnodion: 3.1.
Trafododd y Bwrdd ei
flaenraglen waith ar gyfer adolygu ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched
Cynulliad, a fyddai'n bodloni ei amcan o ran cyhoeddi'r Penderfyniad ym mis Mai
2020, blwyddyn cyn yr etholiad nesaf. Cytunodd y Bwrdd ar y flaenraglen waith
hon. 3.2.
Nododd y Bwrdd y gallai
agenda diwygio etholiadol y Cynulliad effeithio ar ei raglen waith, a chytunodd
i fonitro datblygiad y gwaith hwn. 3.3.
Cytunodd y Bwrdd i rannu
gwybodaeth bellach ynglŷn â'r rhaglen waith gydag Aelodau a staff cymorth,
gan gynnwys manylion ynghylch sut y gallant rannu eu sylwadau â'r Bwrdd, maes o
law. Camau gweithredu: Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn: -
monitro datblygiad agenda
diwygio etholiadol y Cynulliad; -
rhannu gwybodaeth bellach
gydag Aelodau a staff cymorth pan fo'n briodol. |
|
(15.30 - 16.15) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno Cofnodion: 4.1.
Trafododd y Bwrdd yr
adborth a gafwyd ar y Weithdrefn Ddisgyblu a'r Weithdrefn Gwyno a chytunodd i
ymgynghori at ddibenion newid y gweithdrefnau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn
cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a Pharch y
Cynulliad. 4.2.
Y dyddiad cau ar gyfer yr
ymgynghoriad fyddai 13 Rhagfyr 2018. 4.3.
Cytunodd y Bwrdd i adolygu
Cod Ymddygiad y staff cymorth unwaith y bydd yr adolygiad sy'n cael ei gynnal
ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn cael ei gwblhau, a hynny er
mwyn sicrhau dull cyson lle bo angen. Camau gweithredu: Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn: -
cyhoeddi ac yn hyrwyddo'r
ymgynghoriad; -
paratoi crynodeb o'r
ymatebion i'r Bwrdd ei ystyried. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Nododd y Bwrdd yr
ohebiaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Comisiwn Etholiadol ynghylch yr adroddiad a ganlyn
gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, "Dadansoddi Amrywiaeth:
Rhwystrau a Chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol
Cymru". 5.2 Nododd y Bwrdd y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Llywydd, sef "Creu Senedd i
Gymru" a'r adroddiad ategol sy'n amlinellu
canfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar. 5.3 Nododd y Bwrdd yr adroddiad a ganlyn gan y
Gymdeithas Diwygio Etholiadol, "Lleisiau Newydd: Sut y gall gwleidyddiaeth
Cymru ddechrau adlewyrchu Cymru". |