Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 10.00)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1.     Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2.     Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod ar 24 Mai 2018.

 

(10.00 - 11.30)

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Cwmpas yr adolygiad

Cofnodion:

2.1.     Trafododd y Bwrdd gwmpas adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad a chytunodd ar y canlynol:

-     y darpariaethau yn y Penderfyniad y gallai fod angen rhoi sylw arbennig iddynt yn ystod yr adolygiad;

-     sut gallai ddymuno grwpio'r materion a godwyd i'w hystyried;

-     trafod y dulliau mwyaf priodol o ymgysylltu â rhanddeiliaid fesul achos.

2.2.     Cytunodd y Bwrdd i drafod goblygiadau rhaglen y Comisiwn ar gyfer diwygio'r Cynulliad i'r Penderfyniad pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

2.3.     Cadarnhaodd y Bwrdd ei fwriad i gyhoeddi'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn yr etholiad cyffredinol.

2.4.     Cytunodd y Bwrdd i drafod rhaglen waith fanylach ar gyfer yr adolygiad yn ei gyfarfod nesaf.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi rhaglen waith fanwl i'r Bwrdd ei drafod yn ei gyfarfod nesaf.

(11.30 - 12.15)

3.

Eitem i'w thrafod: Effaith newid Arweinydd ar staff cymorth grŵp

Cofnodion:

3.1.  Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd am y tribiwnlys cyflogaeth presennol.

(13.00 - 13.45)

4.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Treuliau eithriadol: Trafod canllawiau a ffurflen gais

Cofnodion:

4.1.     Cytunodd y Bwrdd i dreialu ffurflen gais newydd i'r Aelodau a hoffai wneud cais am dreuliau eithriadol o dan adran 2.4 o'r Penderfyniad.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-     cyhoeddi'r ffurflen gais;

-     monitro unrhyw adborth a geir am y ffurflen.

(13.45 - 14.30)

5.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Trafod Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2017–18

Cofnodion:

5.1.     Trafododd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2017-18 ac, yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd i gyhoeddi'r adroddiad maes o law.

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-     adlewyrchu'r newidiadau y gofynnodd y Bwrdd amdanynt yn yr adroddiad;

-     paratoi'r adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi.

(14.30 - 15.00)

6.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Llywodraethiant Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

6.1.     Cytunodd y Bwrdd i sefydlu corff dynodedig a fyddai'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran staff cymorth.

6.2.     Hefyd, cytunodd y Bwrdd ar y canlynol:

-     byddai'r corff yn cynnwys y Pennaeth Pensiynau a chynrychiolydd o'r Bwrdd a'r Comisiwn;

-     a dylai gyfarfod yn flynyddol.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i sefydlu'r corff ac i hysbysu'r Bwrdd am ei weithgareddau.

7.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

7.1.     Nododd y Bwrdd:

-     yr ohebiaeth gan y Grŵp Llafur a chytunodd i ymateb i'r materion a godwyd;

-     adroddiad y datganiad a chanlyniadau'r arolwg Urddas a Pharch.

Cam gweithredu:

Y Bwrdd i ymateb i'r Grŵp Llafur.