Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00 - 10.10)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1.    Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2.    Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 a 12 Gorffennaf 2017.

1.3.    Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2019.

1.4.    Nododd y Bwrdd:

-          y gwaith a gyflawnwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru i gasglu data ar gyfer yr ymchwil i'r hyn sy'n rhwystro pobl rhag sefyll i gael eu hethol i'r Cynulliad, a'r hyn a fyddai'n eu cymell i wneud hynny; a'r

-          wybodaeth ddiweddaraf am brisiad y terfyn uchaf ar gostau'r cyflogwr, a'r lwfans blynyddol ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau.

1.5.    Trafododd y Bwrdd y cynigion ar gyfer ei feicrowefan annibynnol ei hun, a chytunodd arnynt, yn amodol ar rai mân newidiadau. Cytunodd y Bwrdd i adolygu'r feicrowefan yn rheolaidd yn unol â'i strategaeth ymgysylltu ehangach.

1.6.    Trafododd y Bwrdd yr effaith wrth i Aelod adael grŵp gwleidyddol, gan ailddatgan y penderfyniad a wnaeth ar 24 Mai 2017 y bydd y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn cael ei dyrannu i Aelodau annibynnol.

1.7.    Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at bob Aelod nad yw wedi gweithredu'r camau diogelwch a nodwyd yn dilyn yr adolygiad o'i swyddfa / swyddfeydd, i annog yr Aelodau i sicrhau bod y gwaith perthnasol yn cael ei gwblhau. Ar yr un pwnc, cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at yr Aelodau i gyd yn gofyn iddynt sicrhau y cynhelir yr archwiliadau diogelwch perthnasol ar yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio yn eu swyddfeydd.

1.8.    Trafododd y Bwrdd y goblygiadau ariannol os oes gan Aelodau fwy nag un swyddfa, a chytunodd i ystyried y mater hwn yn y dyfodol.

1.9.    Trafododd y Bwrdd y darpariaethau ym maes dileu swyddi, a chytunodd i drafod yn y dyfodol y trefniadau pan fo swyddi'n cael eu dileu wrth ailstrwythuro swyddfeydd.

1.10.     Trafododd y Bwrdd oblygiadau'r trefniadau ariannu newydd arfaethedig ar gyfer system gweithiwr achos i'r Aelodau, a chytunodd i ailedrych ar y mater wrth adolygu'r lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19.

Camau gweithredu:

Y Bwrdd i:

-     ysgrifennu at Aelodau nad ydynt wedi gweithredu'r camau a nodwyd yn ystod adolygiad diogelwch eu swyddfa;

-     ysgrifennu at yr Aelodau i gyd i sicrhau y cynhelir yr archwiliad diogelwch perthnasol ar gyfer unrhyw wirfoddolwyr yn eu swyddfeydd; ac

-     ailedrych ar y materion a nodwyd uchod ar ddyddiadau perthnasol.

Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 a 12 Gorffennaf.

 

(10.10 - 10.20)

2.

Eitem i'w thrafod: Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Lwfans Blynyddol

Cofnodion:

2.1. Nododd y Bwrdd oblygiadau'r Lwfans Blynyddol sy'n lleihau'n raddol ar y lefel y tâl a geir.

2.2. Dywedodd Donna Davies, Pennaeth Pensiynau yn y Cynulliad, wrth y Bwrdd fod Ieuan Wyn Jones (cyn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru) wedi'i enwebu i fod yn un o gynrychiolwyr yr Aelodau ar y Bwrdd Pensiynau, yn lle Gareth Jones (cyn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru). Cymeradwyodd y Bwrdd yr enwebiad.

(10.30 - 12.00)

3.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cytuno ar bapur cwmpasu ar gyfer yr adolygiad o strwythur gyrfa a thelerau ac amodau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad.

Cofnodion:

3.1. Trafododd y Bwrdd y papur cwmpasu ar gyfer yr adolygiad.

3.2. Er mwyn cyfrannu at y drafodaeth, rhannodd aelodau'r Bwrdd y themâu allweddol a gododd yn eu trafodaethau â staff cymorth sy'n gweithio mewn swyddfeydd etholaeth a swyddfeydd rhanbarthol, ac â Grwpiau Cynrychioli Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.

3.3. Cytunodd y Bwrdd:

-     ar gylch gorchwyl yr adolygiad, yn amodol rai mân newidiadau;

-     i ailenwi'r adolygiad yn 'Adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau';

-     ar strwythur a dull gweithredu'r adolygiad, a'r amserlen a ragwelir ar ei gyfer; ac

-     y gall fod angen ailedrych ar rai o argymhellion yr adolygiad wrth baratoi'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad, i adlewyrchu unrhyw ddiwygiadau posibl i'r Cynulliad. 

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cam nesaf y gwaith casglu data, er mwyn cyfrannu at yr adolygiad.

(12.45 - 14.00)

4.

Eitem i'w thrafod: Cyfarfod Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad.

Cofnodion:

4.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad, a Helen Finlayson, Clerc y Panel, i'r cyfarfod.

4.2. Rhoddodd yr Athro McAllister ddisgrifiad o waith y Panel, a allai fod yn berthnasol i Benderfyniad y Bwrdd ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Cam gweithredu:

Y Bwrdd i drafod goblygiadau adroddiad y Panel ac unrhyw gynigion deddfwriaethol y gallai'r Comisiwn eu cyflwyno, o safbwynt blaenraglen waith y Bwrdd.

(14.00 - 14.20)

5.

Eitem i'w thrafod: Y broses ar gyfer treuliau a lwfans Aelodau'r Cynulliad: Y broses hawliadau, apeliadau ac achosion busnes

Cofnodion:

5.1  Trafododd y Bwrdd y prosesau ar gyfer treuliau a lwfans Aelodau'r Cynulliad, a chytunodd arnynt.

 

(14.20 - 14.50)

6.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Arolwg ynglŷn ag effeithiolrwydd y Penderfyniad: Adroddiad

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Bwrdd yr adroddiad ar ganlyniadau ei arolwg diweddar i ba mor effeithiol yw'r Penderfyniad, a chytunodd i gyhoeddi crynodeb o'r canlyniadau yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017-2018.

6.2. Cytunodd y Bwrdd hefyd i gyhoeddi detholiad perthnasol o'r canlyniadau pan fo'n briodol, fel tystiolaeth ar gyfer unrhyw argymhellion y gall fod yn dymuno'u rhoi ar waith yn rhan o'i raglen waith ehangach.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o'r canlyniadau i'r Bwrdd eu trafod mewn pryd cyn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ym mis Gorffennaf.

 

7.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

7.1. Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth gan yr Arglwydd Bew, Cadeirydd y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.