Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30 - 10.45)

1.

Eitem i'w drafod: Trafod y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn yr adolygiad i nodi rhwystrau a chymhellion o ran ymgeisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Huw Pritchard, Dr Diana Stribu a Naomi White i'r cyfarfod. Atgoffodd y Cadeirydd y Bwrdd fod y tri yn cynrychioli Canolfan Llywodraethiant Cymru y dyfarnwyd y tendr iddi i gynnal yr adolygiad ar ran y Bwrdd.

 

1.2 Gwahoddodd y Cadeirydd i'r ddirprwyaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am eu gwaith hyd yn hyn ac amlinellu'r camau nesaf yn yr adolygiad i nodi rhwystrau a chymhellion o ran ymgeisio mewn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

(11.00 - 11.45)

2.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Trafod Adroddiad Blynyddol Drafft y Bwrdd Taliadau 2016-17

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2016-17 ac, yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd i gyhoeddi'r adroddiad.

 

Cam gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn diwygio'r adroddiad drafft a pharatoi'r adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi.

 

(11.45 - 13.00)

3.

Eitem i'w drafod: Adolygiad o strwythur gyrfa a thelerau ac amodau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Bwrdd y papur yn amlinellu sut y gallai strwythuro ei adolygiad o strwythur gyrfa a thelerau ac amodau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth i lywio'r adolygiad, gan gynnwys canlyniadau'r arolwg diweddar.

 

3.2 Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y mater yn ei gyfarfod ym mis Hydref.

 

Camau gweithredu:

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi papur cwmpasu diwygiedig i'r Bwrdd ei ystyried yn ei gyfarfod ym mis Hydref.

 

4.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nododd y Bwrdd y canlynol:

-     gohebiaeth gan y Llywydd ynghylch bwriad y Comisiwn i gyflwyno deddfwriaeth i newid enw'r Cynulliad a'r newid yn sgil hynny i enw'r Bwrdd (Papur i'w nodi 1);

-     adroddiad y Tasglu Digidol, 'Creu Dialog Digidol', i gynorthwyo trafodaeth y Bwrdd o'i strategaeth ymgysylltu yn y dyfodol (Papur i'w nodi 2);

-     'Adroddiad ar Senedd yr Alban' y Comisiwn ar Ddiwygio Seneddol, yn arbennig yr argymhellion ynglŷn â thaliadau i Aelodau (Papur i'w nodi 3).