Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.30 - 11.30)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

 

1.2 Fe wnaeth y Fonesig Jane Roberts ddatgan buddiant ar gyfer eitem 3 gan ei bod yn aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru.

 

1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod ar 23 Ionawr 2017 yn amodol ar fân newidiadau.

 

1.4 Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei gyfarfodydd hyd nes mis Mawrth 2018.

 

1.5 Trafododd y Bwrdd gais Rhyddid Gwybodaeth ar ei waith, a chytunodd nad oedd ganddo wybodaeth ar gyfer y cais.

 

1.6 Trafododd y Bwrdd y modd y mae Aelodau'r Cynulliad yn defnyddio gwirfoddolwyr a chytunodd â'r cyngor a roddwyd i'r Aelodau.

 

1.7 Cytunodd y Bwrdd i drafod nifer y swyddfeydd rhanbarthol ac etholaethol y gall Aelodau'r Cynulliad eu prydlesu rhywbryd yn y dyfodol.

 

1.8 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer rhoi cyngor i Aelodau'r Cynulliad ynghylch contractau prydlesu eu swyddfeydd, a chytunwyd i:

·         ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i nodi ei bryderon ynghylch y mater; ac

·         adolygu'r broses yn ystod ei drafodaethau ynghylch y pumed Penderfyniad.

 

1.9 Trafododd y Bwrdd y ffordd orau o ymgysylltu â Phanel Arbenigol y Llywydd ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad o ystyried bod unrhyw un o'i argymhellion y bydd Comisiwn y Cynulliad am weithredu arnynt yn debygol o effeithio ar ei waith. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gadeirydd y Panel i sicrhau bod ganddo gyfle i gyfrannu ar adeg briodol.

 

1.10 Yn wyneb y cyhoeddiad diweddar gan yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol ynghylch Aelodau'n penodi aelodau o'u teulu, cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod yr egwyddor hon yn y dyfodol.

 

1.11 Cytunodd y Bwrdd i fonitro nifer yr hawliadau goramser a hawliwyd gan staff cymorth Aelodau'r Cynulliad i sicrhau bod yr oriau a wneir yn cynnig cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac y gweithredir dyletswydd gofal i'r holl staff.

 

1.12 Cytunodd y Bwrdd i ganiatáu i'r gyllideb sy'n weddill o'r adolygiad diogelwch gael ei drosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf ond pwysleisiodd cymaint o frys sydd i holl Aelodau'r Cynulliad gynnal y gwaith uwchraddio angenrheidiol ar fyrder.

 

1.13 Cytunodd y Bwrdd i drafod ei strategaeth ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn ei gyfarfod nesaf.

 

 

 

 

 

(11.30 - 13.00)

2.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2017-18

Cofnodion:

Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2017-18

2.1 Trafododd y Bwrdd yr ymateb a gafodd i'r ymgynghoriad ynghylch y cynnydd arfaethedig i gyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2017-18 o 2.1 y cant, yn unol â ffigurau dros dro 2016 yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad o 2.1 y cant ar gyfer 2017-18.

 

2.3 Nododd y Bwrdd fod cyflog Aelodau'r Cynulliad yn cynyddu'n awtomatig yn unol â'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru, fel y nodir yn y Penderfyniad.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth yn cadarnhau'r cynnydd cyflog ar eu cyfer. 

·         Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion eraill a nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad yn y dyfodol.

 

Costau swyddfa ar gyfer 2017-18

2.4 Nododd y Bwrdd na chafwyd unrhyw ymatebion i'w ymgynghoriad ar y cynnydd arfaethedig o 1.2 y cant i lwfans costau swyddfa yn unol â'r amcangyfrif ar gyfer y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ym mis Tachwedd 2016.

 

2.5 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu lwfans costau swyddfa o 1.2 y cant erbyn 2017-18.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth yn cadarnhau'r cynnydd yn y lwfans costau swyddfa.

 

Gwariant ar Lety Preswyl

2.6 Nododd y Bwrdd y bydd yr ymgynghoriad i gynyddu gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau sydd y tu allan i'r ardal i £775 y mis yn dod i ben ar 13 Ebrill. Cytunodd y Bwrdd y gwneir penderfyniad ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad y tu allan i gyfarfod ffurfiol y Bwrdd.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r Bwrdd eu hystyried.

 

(14.00 - 15.00)

3.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Camau nesaf yr adroddiad i ganfod rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod Cynulliad

Cofnodion:

3.1 Gwnaeth y Fonesig Jane Roberts ailddatgan ei buddiant. Roedd aelodau'r Bwrdd yn fodlon nad oedd unrhyw wrthdaro buddiannau ac roedd yn fodlon i Jane gyfrannu at yr eitem.

 

3.2 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses dendro. Cytunodd y Bwrdd ar y camau nesaf ar gyfer y darn o waith gan nodi y cytunir ar y tendr llwyddiannus y tu allan i'r cyfarfod ffurfiol.

 

3.3 Cymeradwyodd y Bwrdd y crynodeb ymchwil a roddwyd iddynt gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i weithio â'r tendr llwyddiannus i sicrhau bod eu cynigion a'u hamserlenni yn cyd-fynd â blaenraglen waith y Bwrdd.

 

 

 

(15.00 - 16.00)

4.

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Camau nesaf yr adolygiad o egwyddorion sylfaenol y Penderfyniad a'i effeithiolrwydd

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Bwrdd yr holiadur drafft i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth, a chytunwyd:

·         Ar fân newidiadau yn y ddau holiadur;

·         I ddangos yn glir pam mae agweddau ar y penderfyniad wedi cael eu cynnwys neu eu hepgor o'r holiaduron yn unol â blaenraglen waith ehangach y Bwrdd;

·         I dreialu'r holiadur gyda Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r Cynulliad a Grŵp Cynrychiolwyr y Staff Cymorth o leiaf; ac

·         I nodi ffyrdd arloesol o annog y ddau grŵp i gwblhau'r holiaduron.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r holiaduron fel sydd ei angen, a'u dosbarthu eto yn electronig i'r Bwrdd eu hadolygu.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno treial ar gyfer yr holiadur.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno'r holiadur terfynol yn electronig ac ar gopïau caled unwaith y cytunir arnynt.

 

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Bwrdd adroddiad Gorwel 'Has Wales developed a political elite?'.

 

Unrhyw fater arall

Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Claire Clancy, y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad sydd â'i chyfnod yn dod i ben, i ddiolch iddi ar ran y Bwrdd hwn a Byrddau blaenorol am y gefnogaeth y roddodd yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Manon Antoniazzi i'w chroesawu i'w swydd newydd.