Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30 - 09.45) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Bwrdd i’r cyfarfod. 1.2
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 ac 17 Tachwedd
2016 yn amodol ar fân newidiadau. 1.3 Nododd
y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017. 1.4 Cytunodd
y Bwrdd ar ddyddiadau ei gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2018. 1.5
Cytunodd y Bwrdd i drefnu cyfarfodydd gyda'r Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r
Cynulliad a'r Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad. 1.6
Dywedodd y Fonesig Jane Roberts fod ganddi fuddiant yn eitem 3 gan ei bod yn
aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru. |
|
(09.45 - 11.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cylch gorchwyl yr adroddiad i ganfod rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod Cynulliad Cofnodion: 2.1
Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu paramedrau'r adolygiad i ganfod
rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod
Cynulliad, yn enwedig y broses o dendro ymchwil i'r maes. 2.2
Cytunodd y Bwrdd i ofyn am grynodeb o'r gwaith ymchwil sydd eisoes wedi'i wneud
i nodi rhwystrau a chymhellion i sefyll i fod yn Aelod Cynulliad. 2.3
Cytunodd y Bwrdd i ddechrau proses gaffael i nodi'r cymhellion a'r rhwystrau ar
gyfer unrhyw un sydd am sefyll i fod yn Aelod Cynulliad. Roeddent hefyd yn
cytuno ar y pwyntiau a ganlyn: ·
dylai'r
broses ganolbwyntio ar y pecyn tâl, sydd o fewn cylch gwaith y Bwrdd; ·
dylid anfon tendrau'n uniongyrchol at nifer o ddarpar
ymgeiswyr a'u cyhoeddi ar wefannau'r Cynulliad; ·
y broses
ymgeisio a chyfweld; a ·
byddai
angen i'r ymgeisydd llwyddiannus roi methodoleg fanwl i'r Bwrdd o'i adolygiad
arfaethedig a rhoi trosolwg o'r gwaith y mae wedi'i wneud ar adeg briodol o'r
adolygiad. Camau i'w cymryd: ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o waith ymchwil blaenorol a wnaed yn y
maes. ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r dogfennau tendro fel y cytunwyd gan y Bwrdd a
chyhoeddi yn unol â hynny. ·
Cytunodd y
Bwrdd y byddai Jane yn arwain ar y mater hwn. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'n
ystyried ac yn cytuno ar y canlynol y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd: y ddogfen
dendro derfynol, y rhestr o wahoddedigion i anfon y tendr atynt, y rhestr fer o
bobl i'w gwahodd i gyfweliad, a'r ymgeisydd llwyddiannus. |
|
(11.00 - 12.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cylch gorchwyl yr adolygiad a'i egwyddorion sylfaenol ynghyd ag effeithiolrwydd y Penderfyniad Cofnodion: 3.1
Cytunodd y Bwrdd y byddai paramedrau'r adolygiad o egwyddorion sylfaenol ac
effeithiolrwydd y Penderfyniad yn canolbwyntio ar y pecyn ariannol sydd ar gael
i'r Aelodau ar hyn o bryd. 3.2
Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi holiaduron wedi'u teilwra i Aelodau'r Cynulliad a'u
staff cymorth i ofyn eu barn am egwyddorion sylfaenol ac effeithiolrwydd y
Penderfyniad. Bydd pob holiadur yn canolbwyntio ar y rhannau hynny o'r
Penderfyniad sy'n gymwys i'w rôl, gan gynnwys unrhyw ddarpariaethau newydd a
gyflwynwyd ar gyfer y Pumed Cynulliad. 3.3
Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei hysbysu drwy ei
gyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd â'r ddau grŵp o gynrychiolwyr.
3.4
Cytunodd y Bwrdd ar yr amserlen ar gyfer y darn hwn o waith. Camau i'w cymryd: ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i baratoi holiadur terfynol i'r Bwrdd ei ystyried y tu allan
i'w gyfarfodydd ffurfiol. ·
Ar ôl cael
sêl bendith y Bwrdd, dylai'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu'r holiaduron. ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i roi crynodeb o'r ymatebion yn y cyfarfod nesaf. |
|
(13.00 - 15.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2017-18 Cofnodion: Cyflogau
staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2017-18 4.1
Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.1% yng nghyflogau Staff Cymorth Aelodau'r
Cynulliad ar gyfer 2017-18 yn unol â chanolrif enillion yr Arolwg Blynyddol o
Oriau ac Enillion (ASHE) 2016 yng Nghymru a gafodd eu cyhoeddi ym mis Hydref
2016. 4.2
Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio ffigur ASHE eleni er mwyn bod yn gyson ag adolygiad
cyflogau y llynedd. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd i barhau i fonitro pa mor
briodol yw'r dull hwn o fynegeio. 4.3
Cytunodd y Bwrdd mai 10 Mawrth fyddai dyddiad cau'r ymgynghoriad ar gyflogau'r
staff cymorth. Camau i'w cymryd: ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gyflogau'r staff cymorth. ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i ddosbarthu'r gwaith a wnaeth y Bwrdd blaenorol ar y pwnc
hwn. ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i lunio crynodeb o'r ymatebion ar gyfer y cyfarfod nesaf. Costau
swyddfa ar gyfer 2017-18 4.4 Trafododd
y Bwrdd y gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar gostau swyddfa'r Aelodau, gan
gynnwys lleoliad, offer arbenigol ac ati. 4.5 Nododd
y Bwrdd fod y cynnydd diwethaf yn y costau swyddfa yn seiliedig ar gyfraddau'r
mynegai prisiau defnyddwyr (CPI). Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r un egwyddor
eto eleni. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei ailystyried pan fydd y Bwrdd yn
cynnal ei adolygiad o effeithiolrwydd y Penderfyniad. 4.6 Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 1.2% yn y lwfans
costau swyddfa yn unol ag amcangyfrif CPI hyd at fis Tachwedd 2016. 4.3
Cytunodd y Bwrdd mai 10 Mawrth fyddai dyddiad cau'r ymgynghoriad ar gostau
swyddfa. Camau i'w cymryd: ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gostau swyddfa. ·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i lunio crynodeb o'r ymatebion ar gyfer y cyfarfod nesaf. Y Gwariant
ar Lety Preswyl 4.8
Trafododd y Bwrdd y ffactorau sy'n effeithio ar y Gwariant ar Lety Preswyl ar
gyfer Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol. Cytunodd y Bwrdd fod angen rhagor o
wybodaeth cyn ymgynghori ar gyfradd y gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau
sy'n byw yn yr ardal allanol a bydd yn dychwelyd at y mater maes o law. 4.9
Trafododd y Bwrdd ddau lwfans atodol i Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol ar
gyfer 2017-18. Cytunodd y Bwrdd i gynnal y symiau blynyddol presennol a ganlyn: ·
£882 ar
gyfer atgyweiriadau hanfodol yn achos yr Aelodau hynny sydd â hawl i log ar
forgais; a ·
£1,440 ar
gyfer Aelodau gyda dibynyddion sy'n byw fel mater o drefn gyda hwy yn eu heiddo
yng Nghaerdydd. 4.10
Cytunodd y Bwrdd i ailystyried y materion hyn pan fydd yn cynnal ei adolygiad i
effeithiolrwydd y Penderfyniad. Camau i'w cymryd: ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i gasglu rhagor o wybodaeth am y gost
o rentu ym Mae Caerdydd ac i ddosbarthu'r casgliadau i'r Bwrdd er mwyn cyhoeddi
unrhyw ymgynghoriad cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd pe byddai'n
dymuno newid y lwfansau preswyl ar gyfer 2017-18 y cytunir ar hyn yn electronig
y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 5.1 Nododd
y Bwrdd Adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru/Y Gymdeithas Diwygio
Etholiadol:'Ail-lunio'r Senedd – sut i ethol Cynulliad Cenedlaethol mwy
effeithiol'. |