Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Eitem i'w benderfynu: Diogelwch Aelodau'r Cynulliad a'u staff Cofnodion: 1.1 Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu
adolygiad o ddarpariaeth diogelwch ym mhob swyddfa etholaethol/rhanbarthol, a
oedd yn cael ei gynnal gan Uned Heddlu'r Cynulliad a thîm Diogelwch Comisiwn y
Cynulliad. Cynhaliwyd yr adolygiad mewn ymateb i gyngor gan Uned
Gwrthderfysgaeth Cymru, ac yn unol â gweithgarwch tebyg yn Lloegr. 1.2 Trafododd y Bwrdd y cymorth ariannol ar
gyfer darpariaethau diogelwch sydd ar gael ar hyn o bryd a thynnwyd sylw at
nifer o gamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch ar gyfer yr Aelodau a'u
staff pan nad ydynt ar ystâd y Cynulliad, yn sgil penderfyniad Comisiwn y
Cynulliad i adolygu'r trefniadau diogelwch yn swyddfeydd yr Aelodau. 1.3 Cytunodd y Bwrdd fod diogelwch yr Aelodau
yn flaenoriaeth uchel ac y dylid mynd i'r afael ag unrhyw faterion sydd o fewn
cylch gwaith y Bwrdd fel mater o flaenoriaeth. Pwysleisiodd y Bwrdd, yn dilyn
marwolaeth drasig Jo Cox AS, fod mwy o frys i adolygu'r mesurau diogelwch
presennol. 1.4 Cytunodd y Bwrdd y byddai angen iddo
sicrhau bod adnoddau effeithiol ar gael er mwyn darparu mesurau ar gyfer helpu
i ddiogelu'r Aelodau. 1.5 Cytunodd y Bwrdd i ddileu'r gofyniad
presennol, sef fod y £500 cyntaf ar gyfer costau diogelwch sy'n gysylltiedig
â'r swyddfa yn cael ei dalu drwy Gostau Swyddfa'r Aelod unigol. Cytunodd y
Bwrdd i greu cronfa wedi'i neilltuo a fyddai'n darparu gwelliannau diogelwch
angenrheidiol a rhesymol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn eu swyddfeydd, eu
llety preswyl a'u cartrefi. 1.6 Nododd y Bwrdd fod yr adolygiad diogelwch a
gynhaliwyd gan swyddogion cymwysedig yn nodi gwelliannau sy'n 'rhaid' digwydd,
a 'ddylai' ddigwydd ac y 'gallent' ddigwydd.
Bydd yr holl ychwanegiadau y mae'n 'rhaid' iddynt ddigwydd ac y 'dylent'
ddigwydd yn cael eu hariannu gan Gomisiwn y Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y
Bwrdd y byddai'r gwelliannau hynny y 'gallent' ddigwydd yn amodol ar achos
busnes gan Aelodau'r Cynulliad. |
|
Eitem i'w benderfynu: Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar dâl Cadeiryddion y Pwyllgorau Cofnodion: 2.1 Trafododd y
Bwrdd ymatebion i'w ymgynghoriad ar dâl Cadeiryddion y Pwyllgorau drwy e-bost
yn dilyn cyfarfod ffurfiol y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal y lefelau
cyflog ar gyfer Cadeiryddion y Pwyllgorau. 2.2 Nododd y
Bwrdd y byddai cyfrifoldebau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol newydd mor arwyddocaol â rhai y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth
eraill. Felly, cytunodd y Bwrdd y dylai cadeirydd y Pwyllgor hwn dderbyn y
cyflog uchaf o'r ddau gyflog ychwanegol. 2.3 Fel sy'n wir
am gyflogau'r Aelodau a phob Deiliad Swydd, cytunodd y Bwrdd y byddai cyflogau
ychwanegol i gadeiryddion y pwyllgorau yn cael eu haddasu ym mis Ebrill bob
blwyddyn yn ôl y newid yn y Canolrif Enillion ASHE yng Nghymru, rhwng mis
Mawrth a mis Mawrth y flwyddyn flaenorol . 2.4 Cytunodd y
Bwrdd y byddai cyflog Cadeiryddion y Pwyllgorau newydd yn cael ei ôl-ddyddio
o'r dyddiad y cawsant eu hethol i'w rolau. |
|
Ein Strategaeth Cofnodion: 3.1 Cynhaliodd y
Bwrdd ddiwrnod strategaeth i flaenoriaethu meysydd gwaith ar gyfer gweddill
mandad y Bwrdd ac i baratoi ar gyfer y Chweched Cynulliad. 3.2 Hwyluswyd y
diwrnod strategaeth gan Roger Dobson, arbenigwr mewn Adnoddau Dynol, a Ben
Shimshon o Britain Thinks. 3.3 Mewn
trafodaeth, ystyriodd y Bwrdd ei nodau strategol a datblygodd gyfres
uchelgeisiol o flaenoriaethau sy'n canolbwyntio ar ymgynghori, ymgysylltu a
chasglu tystiolaeth. 3.4 Cytunodd y Bwrdd i ddatblygu dogfen strategaeth sy'n
nodi ei egwyddorion, ei flaenoriaethau a'i amcanion ar gyfer y Pumed Cynulliad,
gan ganolbwyntio ar greu Penderfyniad sy'n addas ar gyfer y Chweched Cynulliad. |
|
Ymweliadau â swyddfeydd etholaethol Aelodau'r Cynulliad yng ngogledd Cymru Cofnodion: Dydd Gwener 16
Medi 2016: 4.1 Ymwelodd y Bwrdd â detholiad o Aelodau'r
Cynulliad yng ngogledd Cymru i gael dealltwriaeth well o'r heriau a wynebir gan
yr Aelodau yn eu swyddfeydd etholaethol, y gwaith a wneir gan y staff cymorth,
ac i gael trafodaeth gyffredinol er mwyn darparu'r bwrdd gyda mwy o wybodaeth
gyd-destunol. 4.2 Byddai'r Bwrdd yn defnyddio'r dystiolaeth
hon i lywio ei strategaeth yn ystod y Pumed Cynulliad. |