Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(11:00 – 11:15)

1.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd.

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd yn ôl i’r cyfarfod.

(11:15 – 12:30)

2.

Lwfansau Gofalwyr

·         Papur 10 – Nodyn ar Lwfansau Gofalwyr, a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

2.1     Ystyriodd y Bwrdd bapur a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil sy’n amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a sut y mae’n cymharu â Deddfwrfeydd eraill yn y DU. Mae’r papur yn amlinellu modelau cymorth posibl hefyd.

 

2.2     Cytunodd y Bwrdd y dylid ystyried heriau a brofir gan sbectrwm ehangach o ofalwyr pan fydd y Bwrdd yn pwyso a mesur y Penderfyniad ar gyfer y pumed cynulliad.

 

2.3     Cytunodd y Bwrdd i beidio ag ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad ar yr opsiynau ar gyfer cefnogi Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu ar hyn o bryd, ond i ystyried y mater eto fel rhan o’r pecyn ar gyfer y pumed  Cynulliad.

(12:45 - 13:00)

3.

Cyfraddau rhenti llety

·         Papur 11 – Nodyn a ddarparwyd gan staff y Comisiwn.

Cofnodion:

3.1     Nododd y Bwrdd fod y Cadeirydd wedi cael cais yn gofyn i’r Bwrdd Taliadau adolygu’r Gwariant Llety Preswyl sydd ar gael i Aelodau y mae eu prif gartrefi yn yr ardal allanol.

 

3.2     Ystyriodd y Bwrdd a oedd y terfyn presennol, sef £8,400 y flwyddyn yn ddigon, ac a ddylid ei adolygu ar unwaith, neu ei gynnwys fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ym mis Ebrill 2014.

 

3.3     Nododd y Bwrdd fod ystod fawr o brisiau rhenti yng Nghaerdydd, a chytunodd y dylid gwneud rhagor o waith ymchwil i’r farchnad rhentu yn y brifddinas yn y flwyddyn newydd, er mwyn cael asesiad mwy cywir.

 

Cam i’w gymryd:

Y Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i adolygu’r amrywiaeth o brisiau rhenti ar gyfer tai yng Nghaerdydd sydd o fewn y terfyn presennol, sef £8,400 y flwyddyn, ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd.

(13:00 – 13:30)

4.

Treuliau eithriadol

·         Papur 12 – Nodyn ar lwfansau eithriadol, a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol

Cofnodion:

4.1     Nododd y Bwrdd fod y Cadeirydd wedi cael cais yn gofyn i’r Bwrdd Taliadau adolygu’r treuliau eithriadol a ysgwyddir, neu sydd i gael eu hysgwyddo, gan Aelodau’r Cynulliad, wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.

 

4.2     Ystyriodd y Bwrdd bapur a oedd yn cadarnhau’r arfer presennol, ac yn nodi’r ffordd ymlaen bosibl. Roedd y papur, a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ceisio cael cydbwysedd rhwng yr angen am ddisgresiwn i’r sawl sy’n gwneud cais, ag arferion llywodraethu clir a chadarn.

 

4.3     Cytunodd y Bwrdd y dylid diwygio’r Penderfyniad, ac na ddylid cynnal ymgynghoriad ag Aelodau’r Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd y dylid rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am unrhyw newidiadau a wnaed o ran treuliau eithriadol yn y Penderfyniad.

 

 

Cam i’w gymryd:

Yr ysgrifenyddiaeth neu’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i ddiwygio’r Penderfyniad i adlewyrchu’r cynigion yn y papur.

(13:30 – 14:00)

5.

Ystyried y rhaglen waith

·         Papur 13 – Rhaglen Waith

Cofnodion:

5.1 Nododd y Bwrdd raglen waith y Bwrdd Taliadau hyd at ddechrau 2015, sy’n cynnwys y gweithgareddau a fydd yn digwydd rhwng y cyfarfodydd.

 

5.2 Cytunodd y Bwrdd y dylai’r cyfarfodydd ar 21 Mawrth a 20 Mehefin gael eu trefnu dros dro fel cyfarfodydd deuddydd, o gofio faint o waith a fydd i gael ei ystyried yn y cyfarfodydd hynny.

 

5.3 Cytunodd y Bwrdd fod yn rhaid ystyried y cyfnod o 12 wythnos ar gyfer cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflogau Aelodau’r Cynulliad yn y Pumed Cynulliad o fewn y rhaglenni gwaith sydd i gael eu hystyried gan y Bwrdd yn y dyfodol.

 

Cam i’w gymryd:

 

Yr ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y materion a drafodwyd a’r penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwn.