Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10:00 – 10:15)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

·         Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2013

·         Datganiadau o fuddiant

·         Trafod y cyfarfod sydd i ddod â Chynghorwyr Annibynnol

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod a nododd mai hwn oedd cyfarfod cyntaf y Bwrdd heb Syr George Reid. Roedd y Bwrdd yn falch o nodi bod llawdriniaeth Syr George Reid wedi bod yn llwyddiannus a’i fod yn gwella’n dda. Cydnabu’r Bwrdd y rôl bwysig a chwaraewyd gan Syr George Reid yn y Bwrdd Taliadau, a dymunodd adferiad buan iddo.

 

1.2     Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro Gareth Price a Dan Collier, a oedd newydd gael eu penodi fel Clerc a Dirprwy Glerc yn ôl eu trefn, i’r cyfarfod, a dymunai gofnodi ei werthfawrogiad i’r Clerc a’r Dirprwy Glerc a oedd yn gadael, sef Carys Evans ac Al Davies, am eu cyfraniadau gwerthfawr i waith y Bwrdd Taliadau.

 

1.3     Ar ôl eu hadolygu, cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf, ar 22 Mawrth, yn gofnod cywir.

 

1.4     Datganodd y Cadeirydd Dros Dro fuddiant, oherwydd ei fod wedi’i benodi fel Cadeirydd Sefydliad Bevan yn ddiweddar, ac mae’r Sefydliad wedi gwneud gwaith ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Aelodau Cynulliad unigol yn y gorffennol. Nid oedd buddiannau eraill i’w datgan.

(10:15 – 10:30)

2.

Pensiynau Aelodau’r Cynulliad - Adolygiad o waith a gyflawnwyd hyd yma

·         Papur 2 – Nodyn gan staff y Comisiwn

Cofnodion:

2.1     Yn dilyn cynnal proses gaffael drylwyr a manwl, dewisodd y Bwrdd Taliadau y cwmni Wragge & Co i ddarparu cyngor cyfreithiol ar drefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, yn ei gyfarfod ar 30 Hydref.

 

2.2     Trafododd y Bwrdd y datganiad dull a ddarparwyd gan PwC, a phenodwyd y cwmni hwnnw’n ffurfiol i ddarparu cyngor actiwaraidd ar drefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

 

2.3     Nododd y Bwrdd fod Adran Actiwari’r Llywodraeth wedi cael ei chadarnhau ar gyfer costio unrhyw gynigion.

 

2.4     Cytunodd y Bwrdd y dylai Mary a Stuart barhau i arwain y gwaith ar drefniadau pensiwn i sicrhau bod modd gwneud cynnydd rhwng cyfarfodydd y Bwrdd.

 

2.5     Nododd y Bwrdd y bydd angen i unrhyw drefniadau pensiwn gydymffurfio mewn ysbryd â Deddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, hyd yn oed lle nad yw’r Ddeddf ei hun yn gymwys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

2.6     Cytunodd y Bwrdd y byddai angen iddynt gwrdd â swyddogion o Drysorlys Ei Mawrhydi, i ofyn am eglurhad ar rai materion, gan gynnwys llywodraethu.

 

2.7     Bu’r Bwrdd yn trafod y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r opsiynau a ganlyn:

o        Cadw’r cynllun pensiwn presennol;

o        Symud tuag at gynllun Enillion Cyfartalog Gyrfa
wedi’u Hail-werthuso (CARE);

o        Symud tuag at gynllun o fath arall, er enghraifft, cynllun balans arian.

 

2.8     Cytunodd y Bwrdd, pa bynnag opsiwn a ddewisir, y byddai’n bwysig ystyried y goblygiadau posibl o ran y gost a’r risgiau i gostau, o newid o gynllun pensiwn cyflog terfynol, yn benodol, mewn perthynas â hawliau sefydliedig a hawliau cronnus, (hynny yw, buddion pensiwn sydd wedi cronni hyd at y dyddiad y bydd unrhyw drefniadau newydd yn cael eu rhoi ar waith).

 

(10:30 – 11:45)

3.

Pensiynau Aelodau’r Cynulliad – Briff gan y cynghorwyr cyfreithiol a benodwyd

·         Papur 3 – cyngor gan y cwmni cyfreithiol a benodwyd

·         Papur 4 – dogfen dendro gan y cwmni cyfreithiol a benodwyd

·         Papur 5 – PwC - cyngor actiwaraidd

·         Papur 6 – Strawman - prif delerau cynllun pensiwn newydd arfaethedig

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro Paul Carberry, Prif Bartner; Helen Beacham, Uwch Gyfreithiwr, y Grŵp Adnoddau Dynol; a Kevin Milton, Cyfreithiwr Cyswllt o Wragge & Co. Cyflwynwyd eu cynigion ar gyfer darparu trefniadau pensiwn Aelodau’r Cynulliad.

 

3.2     Bu’r Bwrdd yn holi Wragge & Co am eu cynigion.

 

3.3     Cytunodd y Bwrdd ar y materion a ganlyn:

        Trafododd aelodau’r Bwrdd gynigion Wragge & Co, a phwysleisiwyd, gan y byddai unrhyw gynllun pensiwn arfaethedig yn gynllun bach, y byddai angen trefniadau ar gyfer terfyn cost uchaf, i atal costau rhag cynyddu’n ormodol;

        O gofio y byddai unrhyw gynllun newydd yn debygol o fod o’r un ysbryd â’r Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd yn debygol na fyddai cynllun cyflog terfynol yn addas ar gyfer trefniadau pensiwn yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd fod angen i’r cynllun fod yn gadarn, a bod angen iddo fod wedi’i ddiogelu rhag unrhyw broblemau ariannol byd-eang posibl;

 

3.4     Byddai’r Bwrdd yn gofyn am gyngor ynghylch cynnal Asesiad o Effaith unrhyw gynigion ar Gydraddoldeb. Dylid cynnal un Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ar y pecyn taliadau yn ei gyfanrwydd yn nes ymlaen.

 

3.5     Nododd y Bwrdd Taliadau fod y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys camau Diogelu Trosiannol dros 10 mlynedd, a chytunodd y byddai’n edrych yn fanwl ar ba mor briodol oedd yr amserlen hon o gofio beth yw hyd cyfnodau’r Cynulliad. Nodwyd bod yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol wedi dewis cael gwarchodaeth drosiannol am 10 mlynedd ar gyfer Aelodau Seneddol.

 

3.6     Nododd y Bwrdd y rhestr o faterion a ddarparwyd gan Wragge & Co, a chytunodd ei bod yn rhoi darlun cywir o’r materion a oedd dan sylw hyd yma.

 

3.7     Cytunodd Wragge & Co i roi gwybodaeth i’r Bwrdd am gasgliadau’r adroddiad ar dreuliau Aelodau Seneddol, yr oedd disgwyl iddo gael ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol erbyn diwedd 2013.

 

3.8     Cytunodd Wragge & Co i ddarparu cwestiynau i’r Bwrdd y byddai modd i Drysorlys Ei Mawrhydi eu hateb.

 

(11:45 – 12:00)

4.

Pensiynau Aelodau’r Cynulliad – Trafod y camau nesaf

Cofnodion:

4.1     Ystyriodd y Bwrdd y drafodaeth â Wragge & Co, a thrafododd y camau nesaf yn y broses o ddarparu trefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.

 

4.2     Penodwyd PwC yn ffurfiol gan y Bwrdd fel cynghorwyr actiwaraidd ar y trefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, a nodwyd y byddai cyfarfod â chynrychiolwyr o PwC yn cael ei gynnal erbyn diwedd mis Tachwedd.

 

4.3     Byddai’r Bwrdd yn gwneud cais i PwC gyfrif cyfradd gyfraniadau y cyflogwr/cyflogai.

 

4.4     Cytunodd y Bwrdd y dylai’r materion a ganlyn gael eu codi gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi:

 

  • Materion llywodraethu;
  • eu gofynion;
  • hyblygrwydd i gydymffurfio â deddfwriaeth;
  • rhagor o fanylion am y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus;
  • Goblygiadau Deddf Llywodraeth Cymru (2006) a’r Mesur Taliadau (2010);
  • Rhagor o wybodaeth am derfynau uchaf costau;
  • Rhagor o wybodaeth ynghylch a ddylid ymgynghori â rheoleiddiwr pensiynau ai peidio.

 

Camau i’w cymryd:

  • Yr ysgrifenyddiaeth i gysylltu â Llywodraeth Cymru yn gofyn am y cyngor a ddarparwyd gan Wragge & Co mewn perthynas â dyfodol prif bensiwn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;
  • Yr ysgrifenyddiaeth i ystyried goblygiadau cyfreithiol yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac ymateb i Wragge & Co;
  • Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi nodyn ar ganlyniadau terfynau ariannu uchaf mewn cynlluniau pensiwn;
  • Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod â Thrysorlys Ei Mawrhydi cyn gynted â phosibl.

 

(13:00 – 14:30)

5.

Cyflogau Aelodau’r Cynulliad ar gyfer 2015-16 a’r Pumed Cynulliad

·         Papur 7 – Nodyn gan y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

5.1     Ystyriodd y Bwrdd bapur a baratowyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir am y setliad cyflog ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yn 2015-16, ac yn trafod y dull gweithredu o ran taliadau ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

5.2     Cytunodd y Bwrdd y dylid ymgynghori ag arweinwyr y pleidiau yn y Flwyddyn Newydd ynghylch yr opsiynau ar gyfer cyflog sylfaenol y setliad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yn 2015-16.

 

5.3     Ar gyfer y Pumed Cynulliad, cytunodd y Bwrdd i asesu rolau a chyfrifoldebau Aelodau’r Cynulliad, Gweinidogion a deiliaid swyddi eraill. Cytunodd y Bwrdd i ystyried taliadau mewn sectorau eraill a chynnal arolwg i fesur y graddau y mae taliad yn ffactor pan fydd pobl yn penderfynu sefyll mewn etholiad.

 

5.4     Cytunodd y Bwrdd i ystyried cynigion ar gyfer cyflogau Aelodau’r Cynulliad ar gyfer 2015/16 yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2014.

 

5.5     Cytunodd y Bwrdd, er mwyn cymharu rôl Aelodau’r Cynulliad â swyddi o’r un ansawdd, y byddai angen caffael sefydliad allanol i gynnal ymarferiad i bwysoli’r swydd.

 

Camau i’w cymryd:

 

·         Y Gwasanaeth Ymchwil i baratoi papur ar gyfer y cyfarfod ar 31 Ionawr 2014, yn cwmpasu dulliau arolygu posibl er mwyn darganfod beth sy’n atal pobl rhag bod yn Aelodau’r Cynulliad;

·         Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi papur cwmpasu ar gyfer y cyfarfod ar 31 Ionawr 2014 yn amlinellu dulliau posibl ar gyfer caffael cyngor ar bwysoli rôl Aelodau’r Cynulliad;

·          Y Gwasanaeth Ymchwil i ddarparu papur ar gyfer y cyfarfod ar 21 Mawrth 2014 yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gynigion ar gyfer cyflogau Aelodau’r Cynulliad yn y pumed Cynulliad.

 

(14:30 – 15:30)

6.

Y Pwyllgor Safonau

·         Papur 8, Atodiad A, B, C – Nodyn gan y Clerc ar y cyfarfod â Chadeirydd y Pwyllgor Safonau, gan gynnwys ymateb a awgrymir i lythyr y Comisiynydd Safonau, Llythyr y Comisiynydd Safonau

Cofnodion:

6.1     Ystyriodd y Bwrdd ohebiaeth gan Gerard Elias QC, y Comisiynydd Safonau, ynglŷn â’r broses a oedd ar waith ar gyfer hawlio lwfans aros dros nos gan Aelodau’r Cynulliad.

 

6.2     Penderfynodd y Bwrdd fod y gweithdrefnau presennol ar gyfer hawlio lwfansau aros dros nos yn ddigon cadarn, a chytunodd i beidio â newid y Penderfyniad.

 

6.3     Cytunodd y Bwrdd i ofyn i dîm Cymorth Busnes yr Aelodau atgoffa Aelodau’r Cynulliad mai dim ond treuliau y bu’n “rhaid” eu gwario "mewn cysylltiad â chyflawni eu rôl fel Aelodau Cynulliad" y gellir eu hawlio’n ôl.

Actions:

 

Camau i’w cymryd:

·         Y Cadeirydd Dros Dro i ysgrifennu at y Comisiynydd Safonau yn egluro penderfyniad y Bwrdd i gadw’r weithdrefn bresennol o ran lwfansau aros dros nos;

·         Y Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad yn eu hatgoffa o’r gweithdrefnau sydd wedi’u sefydlu ar gyfer hawlio lwfansau aros dros nos.

 

(15:45 – 16:30)

7.

Cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad – adroddiad drafft

·         Papur 9 (Adroddiad drafft ar gyflogau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad)

Cofnodion:

7.1     Gwnaeth y Bwrdd sylwadau ar ei adroddiad ar gyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad, a gâi ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2013, a chytunodd arno.

 

7.2     Nododd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ynghylch cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad ar gyfer 2014-15 ddechrau’r Flwyddyn Newydd.

 

7.3     Cytunodd y Bwrdd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr a’i ddosbarthu i bob aelod o staff cymorth Aelodau’r Cynulliad.

 

Cam i’w gymryd:

  • Byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn cyhoeddi’r adroddiad ar gyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad ac yn ei ddosbarthu i holl staff cymorth yr Aelodau.

 

(16:30 – 17:00)

8.

Trafodaeth ynghylch cynghorydd arbenigol