Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:05 – 9:15) |
Cyflwyniad y Cadeirydd ·
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2014 – Papur 3
·
Datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd y Bwrdd i’r
cyfarfod. 1.2 Adolygwyd cofnodion y cyfarfod ar 31 Ionawr
2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
(9:15 – 9:45) |
Materion i wneud penderfyniad yn eu cylch yn sgîl ymatebion i'r ymgynghoriad ·
Crynhoad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad – Papur 4 Cofnodion: 2.1 Nododd y Bwrdd yr ymatebion i'r
ymgynghoriad yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ar 31 Ionawr 2014. |
|
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer pumed flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad Cofnodion: 2.2 Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a gyflwynwyd gan
Aelodau'r Cynulliad a chytunodd y dylai cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer
blwyddyn olaf y Pedwerydd Cynulliad gynyddu 1% yn unol â pholisïau cyflog yn y
sector cyhoeddus. |
||
Cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad – dyfarniad cyflog 2014–15 Cofnodion: 2.3 Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a gyflwynwyd gan staff cymorth
Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad a chytunodd y bydd staff cymorth yn
cael cynnydd o 1% mewn cyflog yn ystod
blwyddyn 2014-15, yn unol â pholisïau cyflog yn y sector cyhoeddus. Cytunodd y
Bwrdd y byddai'n edrych yn fanylach ar y materion allweddol canlynol sy'n codi
o'r ymgynghoriad fel rhan o'i waith yn y dyfodol: - A ddylai staff cymorth Aelodau'r Cynulliad
fod yn gymwys ar gyfer buddion marwolaeth mewn gwasanaeth - Dileu
swydd a pharhad cyflogaeth - Gwyliau
a dyddiau disgresiwn - Cyfraniadau
pensiwn. |
||
Newidiadau posibl i’r darpariaethau trosiannol – y grant ailsefydlu ar ôl 2016, eiddo dan forgais Cofnodion: 2.4 Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a gyflwynwyd gan
Aelodau'r Cynulliad a chytunodd i gynyddu'r ad-daliad uchaf ar gyfer llety
preswyl ar gyfer yr Aelodau hynny sy'n byw yn yr Ardal Allanol o £700 i £735 y
mis. Bydd costau swyddfa yn cynyddu yn unol â rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb
Cyllidebol o Fynegai Prisiau Defnyddwyr (1.9%). 2.5 Cytunodd y Bwrdd i gael gwared ar y grant
ymaddasu i Aelodau a etholwyd cyn 2011 sy'n dewis rhoi'r gorau iddi mewn dau
gam. |
||
(9:45 – 11:45) |
Materion i benderfynu ac ymgynghori yn eu cylch: Pensiynau ·
Adolygiad o'r gwaith hyd yn hyn – Papur 5 ·
Trefniadau llywodraethu ar gyfer pensiynau Aelodau'r
Cynulliad – Papur 6 Egwyl ·
Adroddiad cyfreithiol terfynol gan Wragge & Co – Papur 7 ·
Cytuno ar y dogfennau ymgynghori terfynol ac ar yr
ymgynghoreion – Papur 8 Cofnodion: Adolygiad
o'r gwaith hyd yma 3.1 Trafododd y Bwrdd ei gynnydd o ran gweithredu trefniadau pensiwn
addas ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad, a
chytunodd ar ddogfen ymgynghori gyhoeddus, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ym mis
Ebrill. Dyma fyddai'r rhan gyntaf mewn ymgynghoriad dwy ran, yn ceisio barn
rhanddeiliaid am y cynllun yn gyffredinol. Bydd ail ymgynghoriad yn ddiweddarach
yn y flwyddyn yn ceisio barn am gynllun mwy manwl. Trefniadau
Llywodraethu ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad 3.2 Ystyriodd y Bwrdd bapur a baratowyd gan y
Gwasanaeth Ymchwil a chytunodd i ymgynghori ag Ymddiriedolwyr ynghylch
trefniadau llywodraethu ar gyfer y cynllun newydd. Adroddiad
cyfreithiol terfynol gan Wragge & Co. 3.3 Croesawodd y Bwrdd Paul Carberry,
Cyfarwyddwr, a Hannah Beacham, Uwchgyfreithiwr, Grŵp Adnoddau Dynol,
Wragge & Co. i'r cyfarfod. 3.4 Ystyriodd y Bwrdd adroddiad cyfreithiol
terfynol Wragge & Co. a chytunodd ar ei gynnwys. Dogfennau
ymgynghori terfynol ac ymgyngoreion 3.5 Trafododd y Bwrdd y dogfennau ymgynghori
drafft ar drefniadau pensiwn yr Aelodau, a ddarparwyd gan Carys Evans a Richard
Bettley. Cytunodd y Bwrdd y byddai modd cyflwyno'r ymgynghoriad ar bensiynau
wedi mân newidiadau a awgrymwyd gan Mary a Stuart. |
|
(12:00 – 12:30) |
Archwiliad o weithgareddau a chylch gwaith y Bwrdd • Nodyn o'r
archwiliad mewnol – Papur 9 Cinio Cofnodion: 4.1 Gwahoddodd y Bwrdd Gareth Watts, Archwilydd
Mewnol, i'r cyfarfod. 4.2 Cytunodd y Bwrdd â'r cynigion ar gyfer archwiliad
mewnol a thrafododd cwmpas a methodoleg adolygiad o'r fath. |
|
(13:00 – 14:00) |
Strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ·
Adolygiad o strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r
Cynulliad – Papur 10 Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y Bwrdd bapur ar strwythur
staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad, a ddarparwyd gan Gomisiwn y
Cynulliad. 5.2 Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal adolygiad o
gyflogaeth a strwythur staffio'r Staff Cymorth ar gyfer y Pumed Cynulliad. |
|
(14:00 – 14:30) |
Asesiad Effaith Cydraddoldeb ·
Charles Willie, Prif Weithredwr, Diverse Cymru Cofnodion: 6.1 Croesawodd y Bwrdd Charles Willie,
Cyfarwyddwr Diverse Cymru. 6.2 Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal Asesiad o'r
Effaith ar Gydraddoldeb ar y pecyn Penderfyniad llawn ar gyfer y Pumed
Cynulliad. Roedd y Bwrdd yn edrych ymlaen at adolygu cyfraniad Diverse Cymru. Cam i’w
gymryd: ·
Yr
ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf iddynt am y materion a drafodwyd a'r penderfyniadau a wnaed yn y
cyfarfod hwn, ac yn gofyn iddynt ymateb i'r materion yn y nodyn. ·
decisions made by the Board at this meeting and
requesting a response to issues raised in the note. |