Agenda a chofnodion drafft
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a
nododd ymddiheuriadau gan Dr Aled Eirug a Clare James, Archwilio Cymru.
Rhannwyd y cyfarfod yn ddwy ran. Rhan 1: Sicrwydd a Busnes y Pwyllgor a Rhan 2:
Trafodaeth Strategol. Roedd y Cadeirydd eisoes wedi nodi mai dim ond aelodau
o’r Bwrdd Gweithredol fyddai’n bresennol ar gyfer rhan 2. 1.2 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion cyfarfod 27 Tachwedd 2023, y camau i’w cymryd a’r materion a gododd Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 1 – Cofnodion drafft cyfarfod 27 Tachwedd 2023 ARAC (24-01) Papur 2 – Crynodeb o'r camau i’w cymryd 2.1 Cymeradwywyd cofnodion drafft cyfarfod 27
Tachwedd yn ffurfiol a byddent yn cael eu cyhoeddi ar y wefan maes o law. 2.2 Nododd y Pwyllgor y cynnydd yn erbyn y camau
i’w cymryd o’r cyfarfod blaenorol a nododd un cam a fyddai wedi’i gwblhau
unwaith bod y Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo’r diagram ar strwythurau
cynllunio corfforaethol. |
|
Adroddiad gweithgarwch Archwilio Mewnol Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 3 – yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch Archwilio
Mewnol 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Lee Glover, Pennaeth
Dros Dro Archwilio Mewnol, i’r cyfarfod. Yn ogystal â chyflwyno papur, rhoddodd
y diweddariad a ganlyn: · roedd y papur briffio ar gyfer yr
archwiliad Llywodraethu Prosiectau a Rhaglenni wedi’i ddosbarthu i’r rheolwyr
i’w gymeradwyo; · roedd Steve Connors yn gweithio gyda
chydweithwyr TGCh i bennu cwmpas yr adolygiad Seiberddiogelwch; a · byddai strategaeth fanwl ar gyfer 2024-25
yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod 5 Mai. 3.2 Holodd y Pwyllgor ynghylch yr archwiliadau
gohiriedig ar gyfer 2023-24 a datblygu’r Asesiad o Anghenion Archwilio. 3.3 Nododd Lee ei fod yn aros am gadarnhad o’r
gyllideb ar gyfer 2024-25 a oedd wedi creu rhywfaint o oedi wrth ddatblygu
strategaeth 2024-25. Nodwyd bod ymadawiad y Pennaeth Llywodraethu wedi
effeithio ar waith archwilio mewnol yn ail ran y flwyddyn a bod hyn wedi
lleihau’r adnoddau archwilio mewnol o fewn y Comisiwn. 3.4 Cytunodd y Pwyllgor fod penderfyniad
ynghylch adnoddau yn hanfodol i barhau i ddatblygu’r strategaeth yn y dyfodol
ac i sicrhau bod yr Asesiad o Anghenion Archwilio yn cael ei gynnal. 3.5 Er mwyn i Lee ddatblygu’r strategaeth yn y
dyfodol, roedd Kate Innes yn rhannu gwybodaeth o’r gorffennol ag ef ac roeddent
yn datblygu cynllun 3 blynedd yn lle’r amserlen flynyddol gyfredol. Byddai’r
cynllun yn parhau i ystyried y gofrestr risgiau, ond pan fo lefel sicrwydd
wedi’i dangos yn y gorffennol, h.y. yr archwiliadau hynny a gafodd ‘sicrwydd
sylweddol’ yn flaenorol, gellid archwilio’r meysydd hyn yn llai rheolaidd.
Gwaith ar y gweill oedd hwn a byddai’n cael ei rannu â’r Pwyllgor ar ôl i’r
Bwrdd Gweithredol ei gymeradwyo. 3.6 Nododd y Cadeirydd ddiweddariad Lee a
diolchodd iddo am ei waith parhaus yn y maes hwn. Roedd hefyd eisiau diolch a
thalu teyrnged i Victoria Paris, Rheolwr Llywodraethu, a oedd yn gadael y
Comisiwn am swydd yn Llywodraeth Cymru. |
|
Trafod Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2024-25 Diweddariad llafar Cofnodion: Diweddariad llafar 4.1 Roedd cynllun archwilio mewnol ar gyfer
2024-25 yn cael ei ddatblygu a byddai’n cael ei rannu â’r aelodau maes o law. |
|
Trafod yr adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 4 – Adroddiad Archwilio Mewnol - Cardiau Caffael 2023-24
5.1 Cyflwynodd Lee adroddiad archwilio blynyddol
y Cardiau Caffael. Roedd yn fodlon â’r dystiolaeth a ddarparwyd a nododd un mân
argymhelliad ynghylch cofnodion hyfforddi gwrth-dwyll / gwrth-lwgrwobrwyo. 5.2 Diolchodd y Pwyllgor i Lee am ei adroddiad a
nododd yr argymhelliad. 5.3 Nodwyd bod archwiliad o Benodiadau Cyhoeddus
yn parhau a’i fod i fod i gael ei gwblhau cyn i Vic Paris adael y Comisiwn.
Cadarnhaodd Lee ei fod yn cydweithio â Vic i drosglwyddo unrhyw waith archwilio
mewnol. 5.4 Cadarnhaodd Lee fod proses archwilio
Validera yn ystyried effaith cydraddoldeb fel arfer da yn y gwaith yr oeddent
yn ei wneud. |
|
Yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith o gynllunio ar gyfer archwilio cyfrifon y Comisiwn 2023-24 Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 5 – cynllun archwilio amlinellol 2023-24 6.1 Croesawodd y Cadeirydd Anthony Veale,
Archwilio Cymru i’r cyfarfod. Cyfeiriodd Anthony at amserlen yr oedd ef a’i dîm
yn gweithio tuag ati gyda’r gwaith archwilio terfynol yn cael ei gwblhau ym mis
Mehefin 2024. 6.2 Amcangyfrifodd mai’r ffi am yr archwiliad
fyddai £71,627. Roedd hyn yn gynnydd o 6.4% ar alldro y llynedd, a oedd £1,690
yn is na’r ffi gychwynnol a amcangyfrifwyd.
6.3 Nodwyd hefyd fod Archwilio Cymru yn bwriadu
caffael arbenigedd allanol o ran pensiynau eto eleni a bod y broses hon ar y
gweill. 6.4 Cydnabu’r Pwyllgor yr heriau parhaus o ran
adnoddau yn Archwilio Cymru. Diolchwyd i Anthony am y diweddariad hwn a
chroesawyd gwaith parhaus y tîm archwilio a fyddai’n cynorthwyo’r broses dros y
misoedd nesaf. 6.5 Rhannodd y Cadeirydd ei siom nad oedd
archwiliad interim llawn yn cael ei gynnal unwaith eto eleni, ond nododd ei bod
yn ymddangos bod y cynllun profi yn ddull synhwyrol o ymdrin ag archwiliad y
Comisiwn i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau’n brydlon. |
|
Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 6 – diweddariad Llywodraethu a Sicrwydd – Chwefror
2023 7.1 Croesawodd Kathryn Hughes y cyfle i rannu
rhai uchafbwyntiau a nodwyd yn yr adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd. 7.2 Er mwyn llywio’r Datganiad Llywodraethu
cyffredinol, roedd sesiwn her wedi’i threfnu ar gyfer 7 Mawrth, i herio
datganiadau’r Cyfarwyddwr a chraffu arnynt mewn ffordd annibynnol. Byddai Bob
Evans a Mark Egan yn bresennol. 7.3 Yn dilyn cais gan y Comisiwn i fewnoli holl
gontractau’r Comisiwn, roedd y Pennaeth Caffael yn arwain ymarfer i benderfynu
pa mor ymarferol fyddai hyn. 7.4 Holodd y Cadeirydd ynghylch y penderfyniad i
allanoli’r gwasanaeth gweinyddu pensiynau, a oedd yn cael ei gyfrifo’n fewnol
ar hyn o bryd. 7.5 Yn ystod y broses gaffael ar gyfer disodli’r
system Cyflogres ac Adnoddau Dynol, daeth i’r amlwg bod angen dileu’r elfen
gweinyddu pensiynau fel na ellid peryglu elfennau craidd y system. Cytunwyd ar
lif gwaith ar wahân a chyhoeddwyd tendr ym mis Rhagfyr 2023. 7.6 Rhoddodd Kate sicrwydd i’r Pwyllgor fod y
goblygiadau llawn wedi’u dogfennu a’u derbyn gan y Bwrdd Gweithredol. Roedd
hi’n ymwybodol bod y system bresennol yn risg uchel i’r Comisiwn gan ei bod yn
dibynnu ar nifer o daenlenni nad oedd modd eu mudo i SharePoint oherwydd eu
cyd-ddibyniaethau. Cadarnhaodd mai dim ond yr elfen cyfrifiadau budd-daliadau
fyddai’n cael ei hallanoli ac y byddai’r Tîm Pensiynau yn parhau i ymdrin â’r
holl ymholiadau. 7.7 Gan fod Victoria Paris ar fin gadael, roedd
Arwyn Jones wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros lunio adroddiad blynyddol Comisiwn
y Senedd. Roedd erthyglau ar gyfer y naratif wedi’u comisiynu a chytundeb ar yr
amserlen wedi’i sicrhau. |
|
Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 7 – Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid 8.1 Nododd y Pwyllgor ddiweddariad Kate a
chyfeiriwyd yn benodol at y canlynol: · Fel rhan o asesiad o brosiectau, roedd y
Grŵp Rheoli Portffolio wedi sgorio 46 o brosiectau ar ddechrau 2023-24 i’w
cyflawni o bosibl yn 2023-24. Sgoriwyd 14 o brosiectau fel rhai hanfodol a
chawsant arian yn y gyfran gyntaf. Roedd wyth prosiect wedi’u cwblhau, roedd
pump ar y gweill ac roedd un yn y cyfnod olaf ar gyfer caffael. Roedd y
prosiectau hynny’n cael eu hystyried ymhellach a gellid eu rhannu’n ‘ddarnau’ i
reoli gwariant. · Aeth Kate i bob cyfarfod o’r Bwrdd
Taliadau Annibynnol ar ran y Bwrdd Gweithredol. Rhoddodd gefndir o ran sut
roedd cyllideb y Bwrdd Taliadau Annibynnol yn rhan o gyllideb gyffredinol y
Comisiwn, ond cafodd ei chlustnodi i gwmpasu’r Penderfyniad. Cefnogodd y tîm
Cyllid y Bwrdd Taliadau Annibynnol drwy baratoi cyfrifiadau a chostau ar gyfer
eu gwaith. Cadarnhaodd hefyd y byddai rhaid ariannu unrhyw orwariant o’r
Penderfyniad mewn egwyddor o gyllideb weithredol y Comisiwn. · Roedd dyddiadau dechrau penodol o fewn
recriwtio wedi sicrhau manteision ychwanegol gan gynnwys galluogi’r tîm
Adnoddau Dynol i reoli llwythi gwaith a recriwtio rheolwyr i gynllunio ar gyfer
eu staff newydd. Byddai dyddiadau dechrau penodol yn parhau gan fod yr
amgylchedd economaidd cyhoeddus yn golygu ei bod yn ofynnol rheoli’r trosiant
staff er mwyn rhyddhau £1 miliwn mewn cyllidebau staffio i gydbwyso’r gyllideb
gyffredinol. 8.2 Llongyfarchodd y Pwyllgor y tîm Cyllid ar
dalu cyflenwyr yn brydlon, sef mewn 3.36 diwrnod fel y cyfrifir ar hyn o bryd. 8.3 Wrth ateb cwestiwn am y dull a ddefnyddiwyd
i flaenoriaethu prosiectau, eglurodd Kate mai’r Grŵp Rheoli Portffolio a
sgoriodd y prosiectau. Kate sy’n cadeirio’r Grŵp hwn, mae staff o bob rhan
o’r sefydliad yn aelodau ohono ac maent yn craffu ar achosion busnes ac yn
argymell prosiectau i’r Bwrdd Gweithredol eu cymeradwyo ar gyfer bwrw ymlaen â
hwy. Roedd meini prawf sgorio yn cynnwys gwella busnes y Senedd, cynyddu
ymgysylltiad, cyflwyno strategaethau ac ati. Cydnabu Kate fod craffu ar brosiectau
a’u hargymell o ran sut roeddent yn mynd yn eu blaen yn faes a oedd yn parhau i
gael ei ddatblygu. Mae hyn ochr yn ochr â gwaith ynghylch deall gofynion y
prosiectau hynny o ran adnoddau fel rhan o’r gwaith o gynllunio gwasanaethau. 8.4 Roedd sicrhau cyllid ar gyfer gwaith cynnal
a chadw yn flaenoriaeth i’r Bwrdd Gweithredol yn 2024-25, yn dilyn rhai
problemau ym mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr. 8.5 Nododd Kate hefyd y penderfyniad gan y Bwrdd
Gweithredol i ddefnyddio unrhyw weddill dros ben ar gyfer materion seilwaith
critigol fel TGCh y gellid ei gyflawni cyn diwedd mis Mawrth 2024 ynghyd â
phrosiectau y gellid eu tynnu ymlaen a’u cyflawni yn 2024-25. 8.6 Gofynnodd y Cadeirydd fod papur cyllideb
Cynilion 2024-25 yn cael ei ddosbarthu gan fod aelodau o’r pwyllgor yn cael
trafferth gyda’r linc a ddarparwyd. 8.7 Croesawodd y Pwyllgor yr wybodaeth hon. |
|
Adolygiad Blynyddol o bolisïau cyfrifyddu Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 8 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu 9.1 Roedd yr adolygiad o newidiadau cyfrifyddu
allanol wedi nodi nad oedd unrhyw newidiadau disgwyliedig i’r safonau
cyfrifyddu yn y polisïau cyfrifyddu a gymhwysir gan y Comisiwn ar gyfer
2023-24. Argymhellodd archwiliad Archwilio Cymru o Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2022-23 y dylid cynnal adolygiad o’r canlynol: · Oes economaidd ddefnyddiol asedau · Lefelau cyfalafu ar gyfer asedau · Polisïau a phrosesau partïon cysylltiedig 9.2 O ganlyniad i’r adolygiad hwn, roedd oes
asedau rhai eitemau wedi’i diwygio a byddai adolygiad yn cael ei gynnal ar adeg
eu prynu. 9.3 Nododd y Pwyllgor y diweddariad hwn a’r
newid arfaethedig i’r polisi Asedau. |
|
Adroddiad yn ystod y flwyddyn ar dorri diogelwch data a’r wybodaeth ddiweddaraf am grwp yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 9 – Torri Diogelwch Data 10.1 Amlinellodd Matthew Richards, Uwch-berchennog
Risg Gwybodaeth, gylch gwaith grŵp yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth a
sefydlwyd yn ddiweddar ac a oedd bellach â chylch gorchwyl y cytunwyd arno.
Dywedodd Matthew hefyd wrth y pwyllgor ei fod yn cadeirio grŵp
llywodraethu Deallusrwydd Artiffisial (AI), a bod Arwyn yn cadeirio grŵp
cyfleoedd AI. 10.2 Ers mis Rhagfyr, pan oedd nodyn briffio ar
dorri diogelwch gwybodaeth wedi’i rannu y tu allan i’r pwyllgor, amlygodd
Matthew waith pellach a wnaed gan y tîm Llywodraethu Gwybodaeth ar broseswyr
trydydd parti, a chynhyrchu cyfres o fideos hyfforddiant diogelu data gorfodol
ar gyfer staff y Comisiwn, er mwyn annog mwy o bobl eto ar draws y sefydliad i
gydymffurfio. 10.3 Yna, gwahoddwyd Mark Neilson, Pennaeth TGCh, i
rannu rhagor o wybodaeth am ystyriaethau’r Comisiwn o’r defnydd o Microsoft
Copilot a ChatGPT. Mae gwiriadau mewnol ar y gweill cyn cyfnod o brofi Copilot
ar lwyfannau Bing a Microsoft. 10.4 Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad hwn a
gwahoddodd Matthew i gyfarfod yr hydref i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am
grŵp yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth.
Camau i’w cymryd ·
Matthew
Richards i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am grŵp yr Uwch-berchennog Risg
Gwybodaeth yng nghyfarfod yr hydref. |
|
Risgiau Corfforaethol Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 10 - Risgiau corfforaethol ARAC (24-01) Papur 10 – Atodiad A – Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau
Corfforaethol ARAC (24-01) Papur 10 – Atodiad B – Risgiau corfforaethol a nodwyd 11.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylw ar nifer y risgiau a
gyflwynwyd, eu bod yn fwyfwy cymhleth, a gallu’r Comisiwn i reoli rhai mor
uchel eu proffil, yn enwedig o’u cymharu â mis Ionawr 2023, pan nodwyd llawer
llai o risgiau ar y gofrestr. 11.2 Roedd swyddogion yn ymwybodol iawn o’r risgiau
a nodwyd ar y gofrestr ar hyn o bryd, yr oedd adolygiad a thrafodaeth drylwyr
wedi digwydd arnynt mewn cyfarfod diweddar o’r Bwrdd Gweithredol, felly
roeddent yn gyfforddus â nifer y risgiau a’u sgôr gyfredol. 11.3 Roedd y Pwyllgor yn hyderus y byddai
swyddogion yn monitro’r risgiau hyn yn agos a gofynnodd am gofrestr wedi’i
diweddaru yn y cyfarfod nesaf. |
|
Crynodeb o’r achosion o wyro Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 11 – Crynodeb o’r achosion o wyro 12.1 Nododd y Pwyllgor un achos o wyro oddi ar y
gweithdrefnau caffael arferol ac ni chodwyd unrhyw bryderon. |
|
Arolwg o effeithiolrwydd y Pwyllgor – cynnwys ac amseriadau Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 12 – arolwg o effeithiolrwydd ac amserlen 13.1 Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau’r Pwyllgor
ystyried hyn y tu allan i’r pwyllgor a rhannu unrhyw sylwadau â’r tîm clercio. |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 13 – Blaenraglen waith 14.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a
gofynnodd am sesiwn breifat gyda’r Pennaeth Archwilio Mewnol dros dro, i’w
threfnu ar gyfer cyfarfod mis Mai. |
|
Proses y Gyllideb Eitem lafar Cofnodion: 15.1 Disgrifiodd Kate broses y gyllideb yn fanwl
a’r amserlen ar gyfer gosod y gyllideb ym mis Medi a’r sesiynau craffu sy’n
dilyn ym mis Hydref a mis Tachwedd.
Eglurodd hefyd fod 2024-25 yn gyfnod pontio ac mai’r bwriad yw i
gynlluniau gwasanaeth, cyd-ddibyniaethau rhwng meysydd gwasanaeth a'r
fframwaith adnoddau lywio proses y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod. 15.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylent ganolbwyntio ar y
broses o bennu’r gyllideb a chreu’r cynllun tair blynedd (cyllideb dreigl).
Gellid cyflawni hyn orau drwy adolygiad blynyddol o’r cylch cyllidebol
blaenorol yng nghyfarfod y Pwyllgor yn y Gaeaf. Camau i’w cymryd · Y tîm clercio i ychwanegu diweddariad ar broses y gyllideb (cyllideb dreigl 3 blynedd) at y flaenraglen waith ar gyfer 2025. |
|
Ffyrdd o Weithio – Diweddariad Corfforaethol Diweddariad llafar Cofnodion: 16.1 Rhoddodd Ed Williams ddiweddariad i’r Pwyllgor
ar y rhaglen Ffyrdd o Weithio. Roedd dau
risg newydd wedi’u hychwanegu at y gofrestr o risgiau corfforaethol ers
cyfarfod mis Tachwedd a disgrifiodd weithgaredd parhaus Siambr 2026, Tŷ
Hywel 2026 a Bae Caerdydd 2032. Roedd yn gyfnod cymhleth yn y rhaglen gan fod
angen gwneud sawl penderfyniad yn gyflym wrth barhau i roi gwybod i grwpiau
defnyddwyr am gynnydd. 16.2 Roedd y Llywydd yn ymgysylltu’n llawn â
gweithgareddau’r rhaglen ac roedd cyfathrebu ag arweinwyr y pleidiau, grwpiau’r
pleidiau a Llywodraeth Cymru yn parhau. 16.3 Nododd swyddogion awgrym y Pwyllgor bod
cyfyngiad yn cael ei roi ar waith ar nifer yr Aelodau sy’n bresennol yn Siambr
Tŷ Hywel pan fydd yn cael ei defnyddio pan fydd Siambr y Senedd yn cael ei
haddasu, er mwyn arbed arian. Y dybiaeth gynllunio bresennol oedd y byddai lle
i bob un o’r 60 Aelod o’r Senedd yn Siambr Hywel ar ôl ei haddasu. 16.4 Roedd pawb yn ymwybodol o’r sylw yn y
cyfryngau y byddai pob penderfyniad yn ei ddenu yn y dyfodol ac roedd y tîm yn
barod am yr her hon. Canmolodd y Pwyllgor y tîm am ymgyrch gyfathrebu yr oedd
yn ymddangos ei bod yn un llwyddiannus iawn i roi cyhoeddusrwydd i ddechrau’r
prosiectau adeiladu. 16.5 Gofynnodd y Pwyllgor am gael yr wybodaeth
ddiweddaraf ar bob adeg allweddol a byddai diweddariad pellach yn cael ei
drefnu ar gyfer cyfarfod mis Mai. |
|
Diwygio’r Senedd – Diweddariad Corfforaethol Diweddariad llafar Cofnodion: 17.1 Arweiniodd Siwan drafodaeth ar Ddiwygio’r
Senedd, a oedd yn canolbwyntio ar y risgiau gwleidyddol sy’n bodoli ar hyn o
bryd, sylwebaeth ar y model diwygio, ac adnoddau ar gyfer y rhaglen
gyffredinol. 17.2 Diolchodd y Pwyllgor i Siwan am drafodaeth
addysgiadol a chroesawodd unrhyw ddiweddariadau rhwng cyfarfodydd. |
|
Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cofnodion: ARAC (24-01) Papur 14 – Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu y Chweched
Senedd – Mawrth 2022 ARAC (24-01) Papur 15 – Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu y Chweched
Senedd – Adolygiad hanner ffordd 18.1 Roedd Menai Owen Jones eisoes wedi cytuno i
weithio gydag Arwyn ar adolygiad o’r Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
hanner ffordd drwy dymor presennol y Senedd. Ar ôl trafodaeth gadarnhaol â thîm
Arwyn, tynnodd Menai sylw at nifer o gyflawniadau gan nodi, ers ailstrwythuro’r
gyfarwyddiaeth yn 2021, fod mwy o weithio ar y cyd wedi bod ynddi. 18.2 Yn gyffredinol, croesawodd Menai y cyfle hwn i
adolygu gwaith y tîm a sylwodd ar y cydweithio gwell rhwng y tîm Cyfathrebu a’r
Gyfarwyddiaeth Busnes, yn enwedig o fewn Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a
Deddfwriaeth. Diolchodd i Arwyn a’r tîm am eu hamser. 18.3 Diolchodd Arwyn i Menai am ei gwaith a’i
sylwadau cadarnhaol. Teimlai fod amseru’r adolygiad o fudd i’w dîm stopio ac
ailedrych ar bethau, o ystyried gwaith parhaus y gwasanaeth ar y ddwy raglen
fawr sydd ar y gweill ar hyn o bryd h.y. diwygio’r Senedd a Ffyrdd o Weithio, a
ystyriwyd yn fusnes fel arfer i’w dîm. Nododd Arwyn hefyd fod arolwg wedi nodi
nad oedd yr Aelodau wedi gweld cynnydd mewn ymgysylltiad cyhoeddus â’r
allbynnau amrywiol o waith Pwyllgor, ac roedd hyn yn parhau i fod yn faes
ffocws i Arwyn a’i dîm. 18.4 Daeth y Pwyllgor â’r drafodaeth i ben drwy
awgrymu bod ffocws yn cael ei roi ar gyfathrebu mewnol a chytunodd i ychwanegu
diweddariad ar yr adolygiad o’r Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu at y
flaenraglen waith ar gyfer mis Chwefror 2025.
Camau i’w cymryd · Y tîm Clercio i ychwanegu diweddariad ar y
Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu at y flaenraglen waith ar gyfer 2025. |
|
Archwiliad beirniadol o un risg gorfforaethol a nodwyd neu fater amserol (effaith gwneud penderfyniadau gwleidyddol) Diweddariad llafar Cofnodion: 19.1 Cafwyd
trafodaeth fer ar effaith gwneud penderfyniadau gwleidyddol ar fusnes y
Comisiwn. Cytunodd y Pwyllgor i ailedrych ar yr eitem hon yng nghyfarfod mis
Mai. Camau i’w cymryd ·
Y tîm
Clercio i ychwanegu effaith gwneud penderfyniadau gwleidyddol at agenda 3 Mai. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: 20.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Bu
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, a’r Swyddog Cyfrifyddu, ac
Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau, yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag
aelodau o’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Nid oedd unrhyw
swyddogion eraill y Comisiwn yn bresennol ac ni chymerwyd cofnodion. Mae’r
cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 3 Mai 2024. |