Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o
fuddiant. |
|
Cofnodion cyfarfod 10 Gorffennaf, y camau i'w cymryd a'r materion a gododd Cofnodion: ARAC (05-20) Papur 1 - Cofnodion drafft y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2020 ARAC (05-20) Papur 2 - Crynodeb o’r camau i’w cymryd 2.1
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod
10 Gorffennaf. Gofynnwyd am un pwynt eglurder o ran paragraff 2.4 ynghylch p’un
a oedd cytundebau wedi'u cwblhau ar drefniadau cyllido'r Comisiwn Etholiadol yn
y dyfodol a sefydlu Pwyllgor y Llywydd y byddai'n atebol i'r Senedd drwyddo. Byddai'r
tîm Clercio yn sicrhau bod diweddariad yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r
pwyllgor. 2.2
Croesawodd y Cadeirydd y
cyfoeth o wybodaeth a rannwyd gydag aelodau'r Pwyllgor dros y misoedd diwethaf.
Roedd y Cynghorwyr Annibynnol hefyd wedi croesawu cael eu gwahodd i'r cyfarfod
holl staff, a oedd yn eu hysbysu o weithgareddau a thrafodaethau mewnol. |
|
COVID-19 - Diweddariad corfforaethol Cofnodion: Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar 3.1
Rhoddodd Dave Tosh ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y
trefniadau sydd ar waith ar yr ystâd a llwyddiant parhaus busnes rhithwir a
hybrid y Senedd. Roedd y Cyfarfod Llawn wedi'i ddarparu’n rhithwir yn ystod y
cyfnod atal byr ond wedi dychwelyd i fformat hybrid pan godwyd cyfyngiadau
cenedlaethol ar 9 Tachwedd. 3.2
Profwyd yr 'ap' pleidleisio ar-lein yn drylwyr mewn
dadl ddiweddar ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gyda
phleidleisiau wedi'u cynnal ar dros gant o welliannau. 3.3
Roedd cynlluniau i brofi'r model hybrid ar gyfer
Pwyllgorau'r Senedd wedi'u hatal oherwydd y cyfnod atal byr ond byddent bellach
yn digwydd ym mis Rhagfyr. Roedd yr Aelodau a'r Comisiwn yn awyddus i
drefniadau hybrid o'r fath barhau ar gyfer busnes y Senedd yn y dyfodol gan y
byddai'n sicrhau buddion fel ymgysylltiad ehangach a llai o deithio. 3.4
Yn ddiweddar, roedd Siwan Davies a Sian Wilkins,
Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau, wedi darparu tystiolaeth i un o
bwyllgorau Senedd yr Alban ar ein trefniadau gweithdrefnol ac ymarferol yn
ystod y pandemig. Roedd y sesiwn, a gafodd dderbyniad da, yn myfyrio’n
gadarnhaol ar y ffyrdd hyblyg yr oedd y Comisiwn yn cefnogi busnes ffurfiol y
Senedd a'r trefniadau technegol sydd ar waith i hwyluso ymgysylltiad. 3.5
Yna rhannodd Dave ganlyniadau'r arolwg pwls staff
diweddaraf a ddangosodd lefelau uchel o foddhad â'r trefniadau gweithio
cyfredol ac a amlygodd rai heriau o ran diffyg rhyngweithio cymdeithasol, yr
oedd y Tîm Arweinyddiaeth yn eu hystyried. 3.6
O ran y lle gwaith ffisegol, amlinellodd Dave sut
yr oedd yn gweithio gyda'r tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau i ystyried
opsiynau i ddarparu ar gyfer presenoldeb ffisegol a rhithwir preswylwyr yr
adeilad. Roedd hynny'n cynnwys ystyriaethau megis sicrhau bod digon o leoedd
cyfarfod, wedi'u cefnogi gan offer a thechnoleg i hwyluso ymgysylltiad â'r rhai
sy'n gweithio o bell ac mewn ffyrdd a oedd y lleiaf aflonyddgar. Roeddent hefyd
yn ystyried modelau arfer gorau o fannau eraill ac atebion a fyddai'n gweithio
orau i'r sefydliad. 3.7
Tynnodd Suzy Davies sylw at yr adborth cadarnhaol
gan Aelodau’r Senedd, yn enwedig y ddarpariaeth TG a’i gwytnwch yn ystod y
pandemig a chynigiodd ei llongyfarchiadau i’r Comisiwn am y trosglwyddiad
di-dor i drafodion hybrid a rhithwir. 3.8
Diolchodd aelodau'r pwyllgor Dave am y diweddariad
hwn a chroesawwyd y ffyrdd yr oedd y Comisiwn yn ystyried opsiynau, gan
ychwanegu bod astudiaethau wedi dangos nad oedd system o weithio wrth sawl
gweithfan bob amser yn gweithio'n dda. Gwnaethant hefyd annog swyddogion i
gasglu ffigurau ar gyfran y staff sy'n debygol o weithio gartref yn y dyfodol,
gan y byddai hyn yn hanfodol wrth bennu'r lle sydd ar gael. 3.9 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor am y brechlyn Coronafeirws ar gyfer gweithwyr allweddol dynodedig y Senedd, dywedodd Dave y byddent yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd Gareth Watts fod rolau seneddau wedi’u trafod mewn cyfarfod rhyngseneddol diweddar, gan nodi y byddai Tŷ’r Cyffredin yn helpu i gydgysylltu unrhyw drafodaethau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd Cofnodion: ARAC (05-20) Paper 3 – Governance and Assurance
update report ARAC (05-20)
Papur 3 - Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd 4.1
Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad diweddaru
Llywodraethu a Sicrwydd. Roedd wedi cymryd rhan mewn Fforwm Penaethiaid
Archwilio Mewnol gyda'i gymheiriaid o bob rhan o sector cyhoeddus Cymru lle
roedd y drafodaeth wedi canolbwyntio ar wahanol ddulliau o roi sicrwydd yn
ystod Covid-19 a'r effaith a gafodd hyn ar gynlluniau archwilio mewnol. Roedd
adolygiadau archwilio mewnol craidd wedi ildio i ddarnau o waith mwy
ymgynghorol a ffocws ar yr heriau o gynnal trefniadau llywodraethu a sicrwydd
effeithiol. Nodwyd y byddai'r rhan fwyaf o adroddiadau archwilio mewnol craidd
yn cael eu cyflwyno yn y chwarter olaf. 4.2
Roedd y paratoadau ar gyfer casglu sicrwydd i
lywio'r Datganiad Llywodraethu blynyddol ar gyfer 2020-21 bellach wedi mynd yn
eu blaenau’n dda. Diolchodd Gareth i'w dîm am gwrdd â phob Pennaeth Gwasanaeth
i drafod materion llywodraethu a sicrhau eu bod yn hollol barod ar gyfer
drafftio eu Datganiadau Sicrwydd. Cynhaliwyd cyfarfod dilynol gyda'r tri
Chyfarwyddwr ac anfonwyd e-bost comisiynu at y Penaethiaid Gwasanaeth. Roedd y
templedi a'r canllawiau ar gyfer y datganiadau wedi'u haddasu i bwysleisio'r
ffocws ar effaith Covid-19. Byddai cyfarwyddwyr yn drafftio eu datganiadau
erbyn dechrau mis Ionawr a byddai diweddariad ar y cynnydd yn cael ei ddarparu
yng nghyfarfod mis Chwefror 2021. 4.3
Cadarnhaodd Gareth ei fod wedi parhau i
gydymffurfio â safonau archwilio mewnol a bod gwaith ar raglen archwilio fewnol
2020-21 yn mynd rhagddo. Roedd yr archwiliadau ar reoli risg a materion a
rheoli asedau bron â chael eu cwblhau a byddai'r adroddiadau'n cael eu dosbarthu
y tu allan i'r pwyllgor pan fyddant yn derfynol. Roedd Gareth yn hyderus y
byddai'n cwblhau'r cynllun archwilio y cytunwyd arno erbyn mis Ebrill 2021 gan
nodi, fel gyda sefydliadau eraill, y byddai'r rhan fwyaf o'r adroddiadau'n cael
eu cyflwyno yn y chwarter olaf. Amlinellodd y byddai ei feysydd ffocws
allweddol yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys seiberddiogelwch a chwmpasu'r
archwiliad ar ddiwylliant cydymffurfio. 4.4
Mewn perthynas â'r archwiliad ar ddiwylliant
cydymffurfio, cafodd aelodau'r Pwyllgor eu calonogi gan yr offeryn meta
cydymffurfio a ddefnyddiwyd i fonitro derbyn y Rheolau Diogelwch TGCh wedi'u
diweddaru. Gofynnodd aelodau'r pwyllgor am ehangu'r defnydd o offer
cydymffurfio i Aelodau'r Senedd a'u staff. Mewn ymateb, dywedodd Gareth, gan
fod y Comisiwn ond yn darparu gwasanaeth ymgynghorol i’r Aelodau mewn perthynas
â pholisïau a gweithdrefnau na fyddai’n bosibl gorfodi hyn. Eglurodd hefyd fod
yr archwiliad cydymffurfio mewn perthynas â staff y Comisiwn yn unig. 4.5
Hysbysodd Gareth y Pwyllgor ei fod, ar gais y Prif
Weithredwr a'r Clerc, hefyd yn gwneud darn ychwanegol o waith ar adolygu'r set
ddiwygiedig o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol er mwyn i'r Comisiwn roi
sicrwydd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu bod yn parhau i fod yn gadarn ac yn
addas at y diben. Roedd yn rhagweld y byddai'n cwblhau'r gwaith hwn erbyn mis
Chwefror 2021. 4.6 Yn gysylltiedig â'r archwiliad o reoli asedau, cwestiynodd aelodau'r Pwyllgor y canllawiau a roddwyd i’r Aelodau ynghylch diddymu, yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adolygu canllawiau Trysorlys EM/canllawiau eraill ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (y Cadeirydd a'r Pennaeth Archwilio Mewnol) Cofnodion: Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar 5.1
Cadarnhaodd
y Cadeirydd a Gareth Watts na fu unrhyw newidiadau i Lawlyfr Pwyllgor Archwilio
a Sicrwydd Risg Trysorlys EM ers mis Mawrth 2016. Teimlai'r Cadeirydd y gallai
fod yn ddefnyddiol rhannu adran rolau a chyfrifoldebau 'Llyfr Oren' Trysorlys
EM, Rheoli Risg - Trosolwg Strategol gydag aelodau'r Pwyllgor. 5.2
Rhannodd
Gareth ddiweddariad gan Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol ar y model 'Tair Llinell
Amddiffyn' ar gyfer fframweithiau sicrwydd. Gollyngwyd y defnydd o’r gair
“amddiffyn” er mwyn cynnwys ffocws ar rôl rheoli risg wrth wneud penderfyniadau
ar sail risg ynghylch cyfleoedd, yn ogystal â materion amddiffyn. Pwysleisiodd
y model newydd bwysigrwydd cyfathrebu ar draws pob llinell sicrwydd ac roedd
Gareth yn teimlo bod gan y Comisiwn ymagwedd aeddfed tuag at hyn. 5.3
Roedd
rhywfaint o ganllawiau ychwanegol hefyd ar y parodrwydd i dderbyn risg y
byddai'r Comisiwn yn eu hystyried. Er ei fod yn cydnabod mai mater i'r Comisiwn
oedd penderfynu ar ei barodrwydd i dderbyn risg, gofynnodd y Cadeirydd am i hyn
gael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol o ran sut y byddai hyn yn cael ei
gyflwyno i'r Comisiwn newydd ar ôl Etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021. Camau gweithredu ·
(5.1)
Rhannu adran rolau a
chyfrifoldebau 'Llyfr Oren' Trysorlys EM, Rheoli Risg - Trosolwg Strategol gydag
aelodau'r Pwyllgor. ·
(5.3)
Ychwanegu parodrwydd i
dderbyn risg i'r agenda ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol i ystyried sut y bydd
hyn yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn newydd. |
|
Adroddiad diweddaru Archwilio Cymru Cofnodion: ARAC (05-20)
Papur 4 - Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru 6.1
Cyflwynodd Gareth Lucey ddiweddariad ar waith cyfredol
ac arfaethedig Archwilio Cymru. Roedd hyn yn cynnwys cyfeiriad at Gynllun
Archwilio 2020, a oedd yn crynhoi'r cynlluniau, y risgiau, a'r amserlen
arfaethedig ar gyfer eu harchwiliad o gyfrifon ar gyfer 2020-21, fel yr
ymdrinnir â hwy o dan eitem 7. 6.2
Cyfeiriodd Gareth at y Llawlyfr Adroddiadau
Ariannol (FReM) wedi'i ddiweddaru, gan nodi bod y rhan fwyaf o'r newidiadau i'r
strwythur a'r fformat. Y newid cyfrifyddu mwyaf fyddai oedi cyn cyflwyno'r IFRS
16 newydd - Prydlesi y byddent yn eu trafod â'r Tîm Cyllid. 6.3
Disgrifiodd Gareth hefyd sut y gwnaethant barhau i
geisio a rhannu arfer da o waith archwilio Cymru gyfan, gan gynnwys meysydd fel
seiberddiogelwch a gwrth-dwyll, yr oedd manylion amdanynt ar gael ar eu gwefan.
6.4
Croesawodd y Pwyllgor gynnig Gareth i rannu
adroddiadau arfer da wrth iddynt gael eu cyhoeddi drwy Gareth Watts. Cytunodd
Ann-Marie Harkin hefyd i rannu canlyniad unrhyw drafodaethau a gafodd Archwilio
Cymru gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn perthynas â'r Ddeddf
Cydraddoldeb. 6.5
Diolchodd y Cadeirydd i Archwilio Cymru am y
diweddariad hwn a chytunodd y dylid ychwanegu diweddariad tebyg ddwywaith y
flwyddyn, gan nodi crynodeb o arfer da, astudiaethau ac adroddiadau sy’n
ymwneud â'r sector cyhoeddus ehangach, at flaenraglen waith y Pwyllgor. Camau gweithredu ·
(6.4) Rhannu’r holl adroddiadau cenedlaethol ag ARAC drwy Nia Morgan/Gareth
Watts wrth iddynt gael eu llunio. ·
(6.4) Rhannu canlyniad unrhyw drafodaethau a gaiff Archwilio Cymru gyda'r
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn perthynas â'r Ddeddf Cydraddoldeb. ·
(6.5) Y tîm clercio i
gynnwys adroddiad diweddaru ddwywaith y flwyddyn gan Archwilio Cymru ym
mlaenraglen waith y Pwyllgor, i rannu gwybodaeth am astudiaethau ac adroddiadau
ehangach y sector cyhoeddus. |
|
Trafod y strategaeth Archwilio Allanol arfaethedig ar gyfer 2020-21 (gan gynnwys y ffi archwilio) Cofnodion: ARAC (05-20)
Papur 5 - Cynllun Archwilio 2020 7.1
Cyflwynodd
Gareth Lucey Gynllun Archwilio 2020 a fyddai’n dilyn amserlen debyg i’r
flwyddyn flaenorol, gan nodi bod hyn yn ddarostyngedig i effaith Covid-19 ar
Archwilio Cymru. Byddai'n cysylltu â'r tîm Cyllid yn ystod yr wythnosau nesaf i
gytuno ar y manylion am yr amserlen a rhannu'r ffi archwilio, ar ôl ei
chwblhau. 7.2
Byddai'r
tîm archwilio yn gweld un newid gyda Steve Wyndham yn cymryd lle Gareth Lucey.
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am ei waith dros y blynyddoedd diwethaf a
dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol. 7.3
Er na
fyddai Archwilydd Cyffredinol cyfredol Cymru yn ymddangos yn y cyfrifon eleni
(naill ai o fewn datgeliadau cyfrifon blwyddyn gyfredol neu gymharol), roedd
tîm Cyfraith a Moeseg Archwilio Cymru wedi cynghori, gan ei fod wedi bod yn
gyflogai i Gomisiwn y Senedd hyd at fis Gorffennaf 2018, y dylai Cyfarwyddwr
Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio o fewn Archwilio Cymru ardystio cyfrifon
Comisiwn y Senedd ar gyfer 2020-21. 7.4
Mewn
ymateb i gwestiwn gan Aled ynghylch prisiadau ystâd y Senedd, eglurodd Gareth
fod y rhain yn cael eu cynnal bob tair blynedd a bod yn ofynnol i bob sefydliad
ddatgelu ansicrwydd materol cynyddol oherwydd Covid a ffactorau eraill yn eu
cyfrifon ar gyfer 2019-20. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Cofnodion: ARAC (05-20)
Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol
2020-21 a chyllideb 2021-22 8.1
Cyflwynodd Nia Morgan ddiweddariad ar sefyllfa
ariannol 2020-21. Roedd yr alldro a ragwelir ar gyfer y Comisiwn yn cyfateb i
0.5 y cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy a oedd o fewn yr ystod darged o 0
y cant i 1.5 y cant. 8.2
Roedd Nia wedi rhannu lincs ag aelodau’r Pwyllgor
cyn y cyfarfod hwn i sesiynau craffu’r Comisiwn gyda Phwyllgor Cyllid a
Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd gyda gohebiaeth gysylltiedig arall. Un
maes y gofynnodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ragor o wybodaeth amdano oedd
ailosod y ffenestri yn Nhŷ Hywel. Eglurodd Nia y
byddai astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal ar gyfer dull graddol, y
byddai penderfyniad yn debygol o gael ei ohirio hyd nes i'r Comisiwn newydd
gael ei benodi. Mewn ymateb i aelodau'r Pwyllgor yn annog ymgysylltiad cynnar â
darpar gyflenwyr o Gymru, rhoddodd Dave sicrwydd fod hyn yn cael ei wneud. 8.3
Maes arall a godwyd yn y sesiynau craffu oedd
effaith gwyliau blynyddol cronedig a fyddai'n arwain at yr angen am addasiad
cyfrifyddu sylweddol. Trafododd y Pwyllgor yr effaith o ran lles staff, yn
enwedig y rhai na allant gymryd gwyliau oherwydd pwysau gwaith. Dywedodd Nia y
gofynnwyd i Benaethiaid Gwasanaethau annog eu staff i gymryd gwyliau dros
gyfnod y Nadolig ac y byddai eitem ar y dudalen newyddion hefyd yn cael ei chyhoeddi. 8.4
Diolchodd y Pwyllgor i Nia a'i thîm am eu gwaith
parhaus dros yr haf a'r ymdrech barhaus i sicrhau bod sefyllfa ariannol 2020-21
a chyllideb 2021-22 yn cael eu cyflwyno mewn ffordd mor gynhwysfawr. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar 9.1
Amlinellodd Nia y sesiynau tystiolaeth gyda'r
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid. Gosodwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn
ar gyfer 2021-22 ar 1 Hydref 2020 a chynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gyda'r
Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref. Derbyniwyd adroddiad y Pwyllgor a chyhoeddwyd
ymateb. Gosodwyd y gyllideb derfynol ar 4 Tachwedd a chafodd ei thrafod yn y
Cyfarfod Llawn ar 11 Tachwedd. Roedd cyllideb 2021-22 yn ymwneud â blwyddyn
gyntaf y Chweched Senedd a fyddai’n cael ei goruchwylio gan y Comisiwn newydd
sydd i’w phenodi yn haf 2021. 9.2
Roedd gwaith craffu y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ar adroddiad blynyddol 2019-20 wedi canolbwyntio ar les staff a chyfleoedd
caffael Cymru. Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi croesawu gwaith
blaengynllunio prosiectau hirdymor ac wedi codi cwestiynau pellach ar y cynllun
ymadael gwirfoddol y mae'r Comisiwn wedi ymateb iddo. 9.3
Cwestiynodd y Pwyllgor a oedd ymgysylltiad â
sefydliadau fel y Siambr Fasnach a'r Ffederasiwn Busnesau Bach wrth gaffael am
nwyddau a gwasanaethau. Cadarnhaodd Dave fod y Comisiwn yn ymgysylltu'n
weithredol â chyflenwyr a'u bod yn ystyried ffyrdd y gellid annog cyflenwyr i edrych
yn rhagweithiol ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt. 9.4
Ychwanegodd Gareth y byddai adolygiad o gaffael, a
oedd bellach yn rhan o'i faes gwasanaeth yn cael ei gynnal ac y cyflwynir
adroddiad i'r Pwyllgor maes o law. 9.5
Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y diweddariad hwn
a'r papurau a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod. Gofynnodd am gael dychwelyd at
weithdrefnau ymgysylltu â chaffael mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cam gweithredu ·
(9.5) Ychwanegu ystyriaeth o ymgysylltiad â chyflenwyr
o Gymru a sefydliadau perthnasol at y flaenraglen waith ar gyfer cyfarfod yn y
dyfodol. |
|
Risgiau corfforaethol Cofnodion: ARAC (05-20)
Papur 7 - Risgiau corfforaethol ARAC (05-20)
Papur 7 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol ARAC (05-20)
Papur 7 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd 10.1
Cyflwynodd
Dave Tosh yr eitem hon ac amlinellodd y newidiadau a wnaed i'r Gofrestr o
Risgiau Corfforaethol yn dilyn adolygiad gan y Bwrdd Gweithredol ar 23 Hydref. 10.2
Cwestiynodd
Aled Eirug sgorio'r risg mewn perthynas â Newid Cyfansoddiadol y DU o ystyried
yr effaith sylweddol y byddai'n ei gael ar y Comisiwn ac ymdriniwyd â hyn o dan
eitem 11. 10.3
Mewn
perthynas â’r risg o ran cydymffurfio â risg Cynllun Ieithoedd Swyddogol y
Comisiwn, ychwanegodd Arwyn Jones sicrwydd pellach fod datblygu atebion dros
dro a hirdymor i ganiatáu cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd preifat ar y
gweill. Roedd swyddogion, gan gynnwys Arwyn a Phennaeth TGCh, wedi bod yn
ymgysylltu'n rhagweithiol â Microsoft, Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y
Gymraeg a nododd y Pwyllgor gydnabyddiaeth fod y Comisiwn yn arwain y maes ar ddatblygu
swyddogaethau cyfieithu i hwyluso gweithio o bell yn ddwyieithog. 10.4
Cydnabu’r
Cadeirydd yr ymdrech sylweddol gan y tîm TGCh ac eraill i ddod o hyd i ateb
ochr yn ochr â galluogi busnes rhithwir a hybrid y Senedd. Nododd fod y
cyflawniadau hyd yma wedi dangos bod y Comisiwn yn gwneud cymaint â phosibl i
liniaru'r risg. Croesawodd gynnwys y risg ar Gofrestr o Risgiau Corfforaethol y
Comisiwn a diolchodd i swyddogion am y diweddariad. Gofynnodd hefyd am gael y
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd. 10.5
Trafododd
y Pwyllgor y risgiau o ran Etholiadau’r Senedd yn 2021 mewn perthynas â
chyfathrebu ac ymgysylltu a'r goblygiadau i'r Comisiwn pe bai penderfyniad yn
cael ei wneud i newid dyddiad yr etholiad oherwydd Covid-19. 10.6
Trafododd
aelodau'r pwyllgor yr heriau sy'n ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu
effeithiol yn ystod cyfnod etholiad, yn enwedig o ystyried cyd-ddigwyddiad
etholiadau'r Senedd ac etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. 10.7
Dywedodd
Arwyn y byddai canlyniadau pleidleisio yn llywio’r gwaith o dargedu a theilwra
cyfathrebiadau, er enghraifft er mwyn annog pobl ifanc 16 a 17 oed i
bleidleisio. Ychwanegodd y byddai cyfathrebu'n canolbwyntio ar hyrwyddo
cyflawniadau'r Senedd o ran y gwahaniaeth yr oedd wedi'i wneud i bobl Cymru, a
sut roedd hyn wedi'i lywio gan dystiolaeth a ddarparwyd i bwyllgorau'r Senedd.
Ychwanegodd fod risgiau eraill, megis defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth
ymgyrchu hefyd yn cael eu hasesu. 10.8
Eglurodd
Siwan Davies y rhesymeg dros gyflwyno risg gorfforaethol newydd ar gyfer
etholiadau’r Senedd yn 2021. Amlinellodd
ymgysylltiad parhaus y Comisiwn â Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol,
gan gynnwys drwy aelodaeth o'r Grŵp
Cynllunio Etholiadau, a oedd yn llywio’r gwaith o gynllunio senarios a digwyddiadau wrth gefn ar gyfer cynnal
etholiadau’r Senedd yn ystod y pandemig. Roedd swyddogion hefyd mewn cysylltiad
â Senedd yr Alban o ran trefniadau yn yr Alban. 10.9 Dywedodd Siwan fod y Prif Weinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru yn debygol o gyflwyno deddfwriaeth frys i, ymhlith pethau eraill, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd - newid cyfansoddiadol - Cyfnod pontio'r UE Cofnodion: Y wybodaeth ddiweddaraf,
ar lafar 11.1
Croesawodd y Cadeirydd Phil Boshier i'r cyfarfod a
diolchodd iddo am gyflwyno'n glir y diweddariadau yr oedd wedi'u darparu o'r
blaen i aelodau'r Pwyllgor. Eglurodd Phil fod y risg yn canolbwyntio ar rôl y
Comisiwn, tra’n ystyried effaith Covid-19. 11.2
Mewn ymateb i gwestiwn Aled ynghylch sgorio’r risg,
eglurodd Phil fod y rheolaethau sydd ar waith yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd
y risg yn digwydd ond cydnabu’r ansicrwydd parhaus ynghylch canlyniad
trafodaethau ynghylch cytundeb gyda’r UE. Ychwanegodd fod effaith bosibl
trafodaethau ynghylch cytundeb fasnach, ynghyd ag effaith Covid-19 ar gadwyni
cyflenwi critigol, yn enwedig ar gyfer TGCh a rheoli cyfleusterau, yn cael eu
monitro. Roedd ansicrwydd hefyd ynghylch faint o ddeddfwriaeth sy'n debygol o
gael ei chyflwyno gan y llywodraeth. 11.3
Amlinellodd Phil sut roedd y Comisiwn wedi bod yn
meithrin gwytnwch, sgiliau ac arbenigedd a oedd wedi bod yn hollbwysig, er
enghraifft, wrth gefnogi Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y
Senedd. Disgrifiodd hefyd sut roedd Tîm Arweinyddiaeth y Comisiwn ar y cyd yn
goruchwylio'r rhaglen waith ac yn monitro'r sefyllfa sy'n newid yn gyson gyda
chyfarfodydd gweithredol traws-wasanaeth wythnosol i lywio gwaith cynllunio,
blaenoriaethu ac unrhyw achosion angenrheidiol o adleoli staff. Roedd y gwaith
cynllunio’n cynnwys rhywfaint o gynllunio wrth gefn dros gyfnod toriad y
Nadolig pe bai’r Senedd yn cael ei galw’n ôl ac i reoli’r broses o Lywodraeth
Cymru yn gosod dogfennau. 11.4
Er gwaethaf cysylltiadau parhaus â Llywodraeth
Cymru, Llywodraeth y DU a seneddau eraill, roedd yn anodd rhagweld maint y
gwaith ond rhoddodd swyddogion sicrwydd fod y Comisiwn yn barod i ymateb. 11.5
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor ynghylch
defnyddio cynghorwyr arbenigol, cadarnhaodd Phil y gellid galw ar hyn ar fyr
rybudd drwy'r contract fframwaith a oedd ar waith ac yn gweithio'n effeithiol. 11.6
Mewn perthynas â chwestiwn ynghylch lledaenu
gwybodaeth, disgrifiodd Phil ffyrdd yr oedd y Gwasanaeth Ymchwil yn gallu
manteisio ar rwydwaith cynhwysfawr o wybodaeth i lywio'r broses o gynhyrchu
diweddariadau a briffiau yn rheolaidd ar gyfer staff, Aelodau'r Senedd a'u staff
cymorth. Roedd y tîm Materion Cyfansoddiadol Allanol hefyd yn llunio brîff
rheolaidd ar gyfer y Llywydd a Phwyllgorau'r Senedd. Cyfeiriodd hefyd at
lwyddiant sesiynau briffio’r cyfryngau, yn enwedig o ran y Bil Marchnad Fewnol. 11.7
Cydnabu'r Pwyllgor pa mor dda yr oedd y Comisiwn yn
rheoli'r risgiau ond nododd yr effaith ganlyniadol y gallai hyn ei chael ar
fusnes arall y Senedd yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau. Gwnaethant hefyd
gyfeirio eto at yr effaith bosibl ar unrhyw staff y bydd angen iddynt weithio
dros doriad y Nadolig. 11.8
Diolchodd y Cadeirydd i Phil am ddarparu diweddariad
mor gynhwysfawr a gofynnodd am gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau pellach. |
|
Achosion o dorri rheolau gwybodaeth (adroddiad ddwywaith y flwyddyn) Cofnodion: Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar 12.1 Hysbysodd Dave, fel
Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth y Comisiwn, y Pwyllgor o bum achos o dorri rheolau
gwybodaeth, un ohonynt gan drydydd parti ac ni chafodd yr un ohonynt eu
trosglwyddo i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Atgoffwyd y staff dan sylw i
wirio cyfeiriadau e-bost ddwywaith a defnyddio copi carbon dall (BCC) pan fo'n
briodol. Gofynnwyd iddynt hefyd ddiweddaru cyfarwyddiadau desg ac atgoffa staff
o unrhyw brosesau newydd sydd ar waith. |
|
Trafod adroddiad etifeddiaeth gan y Pwyllgor yn deillio o dymor presennol y Senedd Cofnodion: Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar 13.1 Byddai'r eitem hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor. |
|
Adolygiad o gylch gorchwyl y Pwyllgor Cofnodion: ARAC (05-20)
Papur 8 - Cylch Gorchwyl ARAC 14.1
Cyflwynodd
y Cadeirydd y cylch gorchwyl ar gyfer ei adolygiad rheolaidd. Cytunwyd y dylid
ychwanegu rhannu papurau ac adroddiadau perthnasol gan gyrff fel REWAC,
Comisiwn y Senedd ac Archwilio Cymru, ac y dylid cadw cofnod o'r wybodaeth a
anfonir at aelodau'r Pwyllgor. 14.2
Byddai
fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i'w chymeradwyo cyn ei chyhoeddi. |
|
Crynodeb o'r ymadawiadau Cofnodion: ARAC (05-20)
Papur 9 – Crynodeb o’r ymadawiadau 15.1 Byddai'r
eitem hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor. |
|
Y flaenraglen waith Cofnodion: ARAC (05-20)
Papur 10 - Y flaenraglen waith 16.1 Byddai'r eitem
hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor. |
|
Sesiwn breifat Cofnodion: 17.1
Bu Gareth Watts yn bresennol mewn sesiwn breifat
gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd
cofnodion yn ystod y sesiwn hon. Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar
12 Chwefror 2021. |