Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a dywedodd fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan
Suzy Davies AS. 1.2
Diolchodd i’r
swyddogion hefyd a’u canmol am yr ymdrech eithriadol i baratoi'r papurau yn y
pecyn yn ogystal â'r papurau a gylchredwyd y tu allan i'r Pwyllgor. 1.3
Ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion 27 Ebrill, camau gweithredu a'r materion yn codi Cofnodion: ARAC (03-20) Papur 1 - Cofnodion 27 Ebrill 2020 ARAC (03-20) Papur 2 - Crynodeb o'r camau
gweithredu 2.1
Cytunwyd ar
gofnodion cyfarfod 27 Ebrill. 2.2
Rhoddodd y
Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau i drefnu cyfarfod rhwng y Bwrdd
Gweithredol a’r Cynghorwyr Annibynnol am y strategaeth ar gyfer y Chweched
Senedd. Roedd
trafodaethau wedi’u cynnal â Manon Antoniazzi, Dave Tosh a Chadeirydd Pwyllgor
y Comisiwn ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu, ac roedd gwaith yn mynd
rhagddo i geisio dod o hyd i ddyddiad addas ar gyfer y cyfarfod. Anogodd Ann Beynon y
swyddogion i ystyried ffactorau allanol yn ystod y cyfarfod hwnnw a chytunodd y
Cadeirydd y dylid ystyried ymgysylltu â phobl allanol berthnasol maes o law. 2.3
Argymhellodd y
Cadeirydd y dylid nodi pwynt gweithredu 2.3 (adolygiad o seiberddiogelwch) fel
un a oedd wedi’i gwblhau, gan fod Gareth Watts wedi cadarnhau y byddai’r adran
TGCh yn adnewyddu ei strategaeth seiberddiogelwch cyn bo hir. 2.4
Mewn perthynas â'r
gwaith ar y strategaeth gyfathrebu ddiwygiedig ar gyfer y prosiect newid enw,
ac i ategu papur a gylchredwyd allan o'r pwyllgor, rhoddodd Arwyn Jones
ddiweddariad i'r Pwyllgor. Oherwydd pandemig y coronafeirws, roedd cam nesaf y
strategaeth yn cael ei gynllunio ar gyfer yr hydref a byddai'n cyd-fynd â chodi
ymwybyddiaeth ynghylch pleidleisio yn 16 oed ac etholiadau’r Senedd yn 2021.
Byddai canlyniadau arolygon gyda grwpiau ffocws yn cael eu defnyddio i lywio'r
strategaeth. Ychwanegodd Arwyn fod cydweithwyr yn gweithio'n agos gyda
Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol i gydlynu gwaith ymgysylltu.
Argymhellodd aelodau'r Pwyllgor y dylai swyddogion y Comisiwn barhau i gynnal
cyfarfodydd ffurfiol â’r ddau sefydliad fel mater o flaenoriaeth a gofynnodd y
Cadeirydd am ddiweddariadau rheolaidd gan y swyddogion. Yn y cyfamser, byddai’r
broses o ailstrwythuro'r tîm cyfathrebu yn mynd rhagddi a byddai hyn yn cynnwys
penodi arweinydd cyfathrebu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a chreu tîm i
ymdrin â’r cyfryngau cymdeithasol o blith y staff presennol. 2.5
Rhoddodd Ann
Beynon adborth i'r Pwyllgor ar drafodaethau yng nghyfarfod diweddar Pwyllgor
Cynghori’r Comisiwn ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu. Trafodwyd canlyniadau
arolwg PULSE diweddar, lle y gofynnwyd i staff wneud sylwadau am eu lles
corfforol a meddyliol yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd y Pwyllgor wedi
nodi'r camau lliniaru a gyflwynwyd ar ffurf polisïau, ac wedi nodi bod staff yn
teimlo’u bod yn cael eu cefnogi. Ystyriwyd yr Adroddiad Blynyddol ar Amrywiaeth
a Chynhwysiant hefyd, gyda thrafodaethau manwl am ystadegau anabledd a BAME y
Comisiwn. 2.6
Cafodd Comisiwn y
Senedd ei longyfarch gan aelodau’r Pwyllgor am ennill statws Platinwm
Buddsoddwyr mewn Pobl (IIP). Camau Gweithredu ·
(2.5) Eitem reolaidd i'w chynnwys o dan faterion sy'n
codi, sef bod Ann yn rhoi adborth am drafodaethau’r Pwyllgor Cynghori ar
Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu. |
|
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd Cofnodion: ARAC
(03-20) Papur 3 - Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd ARAC
(03-20) Papur 3 Atodiad A - IASAB 3.1
Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad a disgrifiodd sut yr
oedd yn dal i gyfrannu at ymateb y Comisiwn i bandemig Covid-19. Bellach roedd
hefyd yn arwain y llif gwaith llywodraethu a sicrwydd yn y cynlluniau i
ddychwelyd i'r ystâd. Er bod yr ymrwymiadau hyn wedi amharu ar ei gynlluniau
gwreiddiol ar gyfer archwilio mewnol, rhoddodd Gareth sicrwydd i’r Pwyllgor
drwy egluro sut yr oedd ei dîm wedi parhau i roi sylw manwl i lywodraethu a
sicrwydd. Er enghraifft, disgrifiodd sut yr oeddent wedi parhau i sicrhau: bod
y prosesau rheoli risg yn dal i fod yn gadarn; eu bod yn ymateb i geisiadau
Rhyddid Gwybodaeth o fewn terfynau amser; bod cydweithwyr wedi’u cefnogi i greu
hysbysiadau preifatrwydd ac ymholiadau diogelu data; a bod yr adrannau naratif
yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a'r Adroddiad Blynyddol wedi'u cwblhau i
safon uchel iawn ac i derfynau amser heriol. 3.2
Ychwanegodd Gareth y byddai'n trafod â TIAA (partneriaid
archwilio mewnol ar gontract allanol) i ddynodi meysydd y gellid eu harchwilio
mewn ffordd ‘rithwir’, a byddai’n diweddaru'r Pwyllgor yn unol â hynny. 3.3
Cyfeiriodd Gareth at y papur gwybodaeth am gydymffurfio
â'r PSIAS yn ystod y pandemig coronafeirws, papur a oedd wedi’i greu’n
ddiweddar gan y Bwrdd Cynghori ar Safonau Archwilio Mewnol ac a gyflwynwyd yn
Atodiad A i'r papur hwn. Cynghorodd y byddai'n rhannu papur gwybodaeth arall
â’r Pwyllgor am sut y mae archwilwyr mewnol yn gwneud pethau'n wahanol yn ystod
y pandemig, a hwnnw i’w gyhoeddi cyn hir. Camau Gweithredu (3.3) Gareth
Watts i gylchredeg y papur gwybodaeth IASAB/CIPFA ychwanegol pan gaiff ei gyhoeddi. |
|
Barn Archwilio Allanol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 Cofnodion: ARAC (03-20) Papur 4 Adroddiad ISA
260 4.1
Cyflwynodd Gareth Lucey adroddiad ISA 260 i’r Pwyllgor,
gan gadarnhau eu bwriad i gyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni.
Ychwanegodd fod hwn wedi bod yn archwiliad clir iawn heb unrhyw gamddatganiadau
wedi'u nodi na chywiriadau sylweddol i'w dwyn i sylw'r Pwyllgor. Dim ond mân
newidiadau cyflwyniadol yr oeddent wedi'u nodi i ddatgeliadau yn yr Adroddiad
Blynyddol a'r Cyfrifon, a hynny mewn perthynas â phrisio asedau a oedd wedi dod
i feddiant y sefydliad. 4.2
Esboniodd Gareth fod y tabl o effeithiau Covid 19 a
gynhwyswyd yn yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon (ISA 260) yn eitem safonol ar
gyfer pob archwiliad. Ni chafwyd unrhyw effaith sylweddol ar y cyfrifon, er bod
yr adroddiad yn cyfeirio at sylw gan y prisiwr eiddo yn nodi ansicrwydd materol
ynghylch gwerthoedd asedau adeiladau'r Senedd. Er mwyn sicrhau tryloywder (a
chysondeb â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus sy'n wynebu problemau tebyg),
mae'r Comisiwn wedi cynnwys sylwadau'r prisiwr o dan Nodyn 4 yn y datganiadau
ariannol. Esboniodd Gareth fod Archwilio Cymru hefyd wedi cynnwys paragraff
pwysleisio mater yn rhan o dystysgrif archwilio'r Archwilydd Cyffredinol
Cynorthwyol i dynnu sylw at hyn. Fodd bynnag, nid yw'r mater hwn yn effeithio
ar farn archwilio 2019-20. 4.3
Roedd y dystysgrif archwilio ar gyfer 2019-20 hefyd yn
cynnwys ymwadiad newydd ynghylch sicrwydd am 'wybodaeth arall' yn yr Adroddiad
Blynyddol. Eglurodd Gareth mai’r wybodaeth arall hon yw’r wybodaeth a geir yn
yr adroddiad blynyddol ac eithrio'r datganiadau ariannol. Mae'r ymwadiad yn
nodi nad yw'r farn archwilio ar y datganiadau ariannol yn berthnasol i’r
wybodaeth arall. Fodd bynnag, cadarnhaodd Gareth fod tîm Archwilio Cymru wedi
adolygu'r Adroddiad Taliadau fel rhan o'i waith a'i fod yn fodlon bod y
wybodaeth arall yn yr Adroddiad Blynyddol yn gyson â'r datganiadau ariannol. 4.4
Diolchodd tîm Archwilio Cymru i dîm Cyllid Comisiwn y
Senedd am eu gwaith caled yn sicrhau archwiliad mor glir a phroses archwilio
ddidrafferth a syml. Nodwyd hefyd, oherwydd eu bod yn gallu addasu rhai
prosesau, na fu unrhyw effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i bandemig
Covid-19. 4.5
Roedd Nia Morgan hefyd am ddiolch i'w thîm am yr ymdrech
anhygoel a'r oriau ychwanegol yr oeddent wedi'u gweithio i sicrhau bod y gwaith
archwilio wedi'i gwblhau yn unol â’r amserlenni gwreiddiol. Diolchodd hefyd i
dîm Archwilio Cymru, gan gydnabod pa mor galed yr oedd y ddau dîm wedi gweithio
i gynnal archwiliad mor drylwyr. 4.6
Roedd effeithlonrwydd y gwaith archwilio wedi creu cryn
argraff ar aelodau’r Pwyllgor, yn enwedig ac ystyried sefyllfa Covid-19.
Gofynnwyd sut y byddai gwersi a ddysgwyd o'r profiad hwn, yn enwedig o ran yr
heriau a'r cyfleoedd a ddaw drwy weithio o bell, yn cael eu cofnodi a'u
hymgorffori ar gyfer cynnal archwiliadau yn y dyfodol. 4.7 Esboniodd Ann-Marie Harkin y byddai Archwilio Cymru yn cysylltu â chyrff archwilio eraill fel rhan o'u mecanweithiau dysgu mewnol, ac y byddai hyn yn cynnwys ystyried sut y gellid rhannu arferion gorau yn ehangach ar draws archwilwyr y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Byddai hyn hefyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2019-20 Cofnodion: ARAC (03-20) Paper 5 – Annual
Report and Accounts 2019-20 ARAARAC (03-20) Papur 5 - Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2019-20 ARAC (03-20) Papur 5 Atodiad A
– Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 5.1
Dywedodd aelodau’r Pwyllgor
fod fformat, cynnwys a chywirdeb yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon wedi
gwneud cryn argraff arnynt, yn enwedig gan fod yr amserlen ar gyfer creu’r
rhain wedi’i chwtogi eleni, a chan ystyried sut y mae’r pandemig Covid-19 wedi
amharu ar bethau. Gwnaeth ansawdd y gwaith cynhyrchu argraff arnynt hefyd, yn
enwedig ac ystyried bod y tîm yn un bach. 5.2
Argymhellodd y Pwyllgor i'r
Swyddog Cyfrifyddu y dylid llofnodi'r datganiadau ariannol ar gyfer 2019-20.
Byddai'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol yn ychwanegu ei lofnod electronig a
byddai'r adroddiad yn cael ei osod a'i gyhoeddi. 5.3
Gofynnodd aelodau'r pwyllgor
am sylw posibl gan y cyfryngau yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad a sut orau i roi
cyhoeddusrwydd i waith y Senedd. Mewn ymateb, dywedodd Arwyn fod trafodaethau
eisoes yn cael eu cynnal â’r cyfryngau i dynnu sylw at straeon cadarnhaol,
megis gostyngiadau sylweddol yn ein hôl troed carbon, ond roedd yn cydnabod ei
bod yn anodd ennyn diddordeb y cyhoedd, gyda’r ffocws yn dal yn bennaf ar
straeon sy’n gysylltiedig â Covid-19. 5.4
Diolchodd y Cadeirydd i bawb
am eu cyfraniadau ac anogodd y swyddogion i ystyried sut i ddefnyddio'r
adroddiad drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo ac amlygu gwaith y Senedd. Cytunwyd
y byddai'r Pwyllgor hefyd yn trafod hyn eto yn yr hydref. Camau gweithredu (5.4) Yn yr hydref, ARAC i adolygu sut y gellir defnyddio'r Adroddiad
Blynyddol a'r Cyfrifon i hyrwyddo gwaith y Senedd drwy gydol y flwyddyn.C (03-20) Paper 5 Annex A – Annual Report
and Accounts 2019-20 5.5
The Committee noted how
impressed they were with the format, content and accuracy of the Annual Report
and Accounts, especially as the timescale for its production had been brought
forward this year, and given the disruption caused by the Covid-19 pandemic.
They were also impressed with the quality of its production, especially given
the small team involved. 5.6
The Committee recommended to
the Accounting Officer that the financial statements for 2019-20 should be
signed. The Assistant Auditor General would add his electronic signature and
the report would be laid and published. 5.7
Committee members asked about
possible media attention following publication of the report and how best to
publicise the work of the Senedd. In response, Arwyn advised that discussions
were already being held with the media to highlight positive stories, such as
significant reductions in our carbon footprint, but acknowledged the
difficulties in capturing the interest of the public with the focus still
primarily on Covid-19 related stories. 5.8
The Chair thanked everyone for
their contributions and encouraged officials consider how to use the report
throughout the year to promote and highlight the work of the Senedd. It was
agreed that the Committee would also return to this in the autumn. Action (5.4) ARAC to review in the autumn, ways in which the Annual Report and ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad Risgiau Corfforaethol y Comisiwn Cofnodion: ARAC (03-20) Papur 6 - Risgiau Corfforaethol ARAC (03-20) Papur 6 Atodiad A - Adroddiad Cryno
Risgiau Corfforaethol ARAC (03-20) Papur 6 Atodiad B - Risgiau
Corfforaethol wedi'u Plotio 6.1
Cyflwynodd Dave Tosh yr eitem
hon a disgrifiodd y gwaith a oedd wedi’i wneud i liniaru risgiau corfforaethol
y Comisiwn yn barhaus. Er nad oedd hyn wedi arwain at unrhyw newid yng
ngraddfeydd y risgiau, roedd yr Atodiad a ddangosai’r risgiau wedi’u plotio ar
fatrics yn dangos y cyfeiriad yn seiliedig ar y camau rheoli sydd ar waith.
Croesawodd y Pwyllgor y diweddariadau manwl a ddarparwyd yn y dogfennau a
gofynnodd am ragor o fanylion am rai o'r camau rheoli a’r camau lliniaru
pellach.
6.2
Mewn
ymateb i gwestiynau penodol ynghylch fideo-gynadledda, disgrifiodd Manon a Dave
fanteision ac anfanteision defnyddio Zoom a Microsoft Teams, gan amlinellu sut
y gwnaed asesiadau i gydbwyso ystyriaethau diogelwch a diogelu data ar y naill
law, a gofynion y ddeddfwriaeth ieithoedd swyddogol ar y llaw arall. Gwnaed hyn
fesul achos. Yn seiliedig ar asesiad risg, penderfynwyd defnyddio Zoom, a oedd
yn hwyluso cyfieithu ar y pryd, ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus lle roedd preifatrwydd
a diogelwch yn llai o broblem (gan eu bod yn cael eu darlledu), a defnyddio
Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd preifat a mewnol gan fod hyn yn fwy
diogel. Yn anffodus, nid oedd Microsoft yn gallu cynnig ateb ar gyfer darparu
cyfieithu ar y pryd. Dywedodd Manon fod Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi
defnydd y Senedd o Zoom a'i fod wedi dweud bod y Senedd yn enghraifft o arfer
gorau. 6.3
Sicrhaodd y Comisiwn y
Pwyllgor y byddai’n dilyn y datblygiadau diweddaraf mewn rhaglenni
fideogynadledda i ddarparu ar gyfer cyfieithu ar y pryd, ac y byddai’n parhau i
edrych ar ddewisiadau amgen. 6.4
O ran y risgiau ynghylch
diwygio'r Senedd, trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud ag amseru codi
ymwybyddiaeth o bleidleisio yn 16 oed ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn
Etholiadol. 6.5
Mynegodd Aled bryder, fel
y crybwyllwyd yn yr adroddiad, nad oedd grwpiau a oedd yn cynnwys swyddogion o
sefydliadau perthnasol sy'n delio â newidiadau etholiadol (gan gynnwys Comisiwn
y Senedd, Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol) wedi cyfarfod ers y
llynedd, a gofynnodd sut yr oedd hyn yn cael sylw. Cadarnhaodd Arwyn fod
trefniadau anffurfiol i fwrw ymlaen â’r gwaith ar y newidiadau etholiadol, a
bod hyn yn gweithio’n dda yn ymarferol. [Roedd disgwyl cynnal cyfarfod o un o'r
grwpiau hyn yn ddiweddarach yn yr haf].
6.6
Cafwyd trafodaeth hefyd
ynghylch effaith unrhyw oedi i gamau’n ymwneud â Chyllido ac Atebolrwydd y
Comisiwn Etholiadol (gyda’r Comisiwn Etholiadol yn dod yn atebol i'r Senedd) ar
y paratoadau ar gyfer cynnal a hyrwyddo etholiadau 2021. Dywedodd Manon fod
penderfyniad ar hyn ar fin cael ei wneud, a bod trefniadau dros dro ar waith.
Gofynnodd y Cadeirydd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn y cyfarfod
nesaf. 6.7 Mewn ymateb i gwestiynau yn ymwneud â risgiau ynghylch Brexit a newid cyfansoddiadol yn y DU, yn enwedig os na cheir cytundeb, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Archwiliad beirniadol o risg - ymateb y Comisiwn i'r coronafeirws (Covid-19) Cofnodion: ARAC (03-20) Papur 7 –
Llacio’r Cyfyngiadau Symud 7.1
Cyflwynodd
Dave y papur, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau'r Comisiwn
mewn ymateb i[r pandemig Covid-19 yn ogystal â nodi'r amcanion, yr egwyddorion
a'r rhagdybiaethau gweithio a fyddai'n llywio’r paratoadau er mwyn i bobl
ddychwelyd i'r ystâd. Yn ogystal, amlinellodd Dave y ffrydiau gwaith i sicrhau,
pan fydd gofyn gwneud hynny, y gallai’r broses ddychwelyd fynd rhagddi’n
effeithiol ac yn ddiogel a bod gwersi ar gyfer y dyfodol yn cael eu cofnodi. 7.2
Clywodd y Pwyllgor fod y
Comisiwn wedi dangos cryn allu i addasu wrth ddarparu Cyfarfodydd Llawn
rhithwir dros gyfnod y cyfyngiadau symud. Fel rhan o'r broses o ddychwelyd i’r
ystâd, roeddent yn ystyried y posibilrwydd o gynnal Cyfarfodydd Llawn hybrid,
gyda chyfran o'r Aelodau’n bresennol yn gorfforol, ac eraill yn cymryd rhan o
bell. Ochr yn ochr â hyn, roeddent yn ystyried defnyddio rhaglen bleidleisio
pwrpasol, a oedd wedi’i datblygu'n fewnol, a fyddai'n galluogi Aelodau'r Senedd
i fwrw pleidleisiau o bell. 7.3
Roedd Cadeiryddion y
Pwyllgorau yn dal i roi adborth cadarnhaol ar y gallu i gynnal cyfarfodydd
rhithwir, gyda busnes wedi'i drefnu tan ddiwedd y tymor. Roedd y Pwyllgor
Busnes i ystyried opsiynau ar gyfer cynnal busnes hanfodol y Senedd yn ystod
toriad yr haf. Ochr yn ochr â hyn, roedd gwaith i baratoi’r ystâd ar gyfer pobl
wedi cael ei wneud, gan gynnwys gosod arwyddion clir ar gyfer staff a niferoedd
cynyddol o fannau diheintio ledled yr ystâd. 7.4
Roedd sicrhau bod staff,
Aelodau'r Senedd a'u staff yn parhau i gael eu diweddaru'n rheolaidd yn rhan
hollbwysig o’r gwaith hwn. Dywedodd Arwyn wrth y Pwyllgor fod grŵp
cyfathrebu mewnol, a hwnnw’n cynnwys aelodau o staff Tîm Arweinyddiaeth y
Comisiwn, wedi'i greu. Roedd yn cyfarfod yn ddyddiol i gydlynu’r broses
gyfathrebu a negeseuon. Roedd sesiwn rithwir ddiweddar i’r holl staff a
ddarparwyd gan Manon a'r cyfarwyddwyr wedi arwain at adborth cadarnhaol, gyda
nifer fawr o staff yn bresennol. Wrth i’r gwaith ar gyfer dychwelyd i’r ystâd
ddatblygu, byddai’r gweithgarwch cyfathrebu'n cynyddu er mwyn helpu i leddfu
unrhyw bryder ymhlith staff. 7.5
Dywedodd Gareth wrth y
Pwyllgor mai ei rôl, fel Pennaeth Llywodraethu, oedd parhau i sicrhau y cedwir
at egwyddorion llywodraethu drwy gydol y broses benderfynu. Ychwanegodd ei fod
hefyd yn gwneud darn o waith i gofnodi gwersi a ddysgwyd ym mhob un o'r
ffrydiau gwaith eraill. 7.6
Mewn ymateb i gwestiynau gan
Ann ynghylch adnabod yr aelodau hynny o staff a allai fod angen cymorth
ychwanegol cyn dychwelyd i'r ystâd, sicrhaodd Dave y Pwyllgor fod gwaith wedi’i
wneud i adnabod y staff hynny y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt wrth
ddod yn ôl i'r gweithle. 7.7
Diolchodd y Cadeirydd i Dave
am y papur trylwyr a chydnabu faint yr her sy’n wynebu Bwrdd Gweithredol y
Comisiwn wrth sicrhau bod unrhyw bosibilrwydd o ddychwelyd i'r ystâd yn cael ei
reoli'n effeithiol, ond cafodd ei sicrhau gan y diweddariad a ddarparwyd. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu Cofnodion: 8.1
Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg
o Adroddiad Blynyddol 2019-20 y Pwyllgor, a amlinellai waith y Pwyllgor mewn
perthynas â threfniadau llywodraethu, rheoli risg, rheolaeth fewnol a
fframwaith sicrwydd y Comisiwn. 8.2
Wrth ymateb i wahoddiadau i
wneud sylwadau, awgrymodd Ann y dylai'r adroddiad gyfeirio ymhellach at rai
ffactorau allanol fel y newid yn yr hinsawdd, y dirywiad economaidd a symudedd
cymdeithasol, gan ddangos y cysylltiadau ag amcanion y Comisiwn ar gyfer
amrywiaeth. 8.3
Cymeradwyodd y Pwyllgor yr
adroddiad, yn amodol ar welliannau a awgrymwyd. Byddai'r Cadeirydd yn ystyried
meysydd i dynnu sylw atynt wrth gyflwyno'r adroddiad i'r Comisiwn yn ei
gyfarfod ym mis Gorffennaf. Camau Gweithredu (8.2) Y
Cadeirydd i gael trafodaeth â’r tîm clercio am ychwanegiadau i'r Adroddiad
Blynyddol, er mwyn rhoi sylw i ffactorau allanol fel y newid yn yr hinsawdd, y
dirywiad economaidd a symudedd cymdeithasol (gan greu cysylltiad â’r amcanion
ar gyfer BAME). |
|
Canlyniadau arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor Cofnodion: ARAC
(03-20) Papur 9 - Crynodeb o ganlyniadau arolwg effeithiolrwydd 2020 9.1
Cyflwynodd y Cadeirydd y
papur, a roddai grynodeb a dadansoddiad o Arolwg Effeithiolrwydd diweddaraf y
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. 9.2
Clywodd y Pwyllgor fod y
canlyniadau'n gadarnhaol ym mhob un o'r pum maes a fesurwyd, sef: Cyfansoddiad,
Sefydlu a Dyletswyddau; Trefniadau Gweinyddol; Rheolaeth Fewnol a Rheoli Risg;
Rôl yr Archwiliad; a Chyfrifon Blynyddol. 9.3
Yn dilyn trafodaeth, gwnaed y
sylwadau canlynol i'r Cadeirydd eu trafod â’r tîm clercio: ·
gwella
ymwybyddiaeth ARAC o waith y Comisiwn, gan gynnwys rhannu rhaglen waith y
Comisiwn ag ARAC; ·
ymgorffori
adborth hyblyg mewn arolygon effeithiolrwydd yn y dyfodol; ac ·
adolygiad o’r gwaith a wnaed
yn nhymor cyfredol y Senedd i lywio rhaglen waith y Pwyllgor yn y Senedd nesaf.
Byddai'r Cadeirydd yn trefnu cyfarfod ar wahân â'r aelodau i adolygu gwaith y
Pwyllgor cyn cyfarfod yr Hydref. 9.4
Diolchodd y Pwyllgor i'r
swyddogion am y dadansoddiad trylwyr o'r canlyniadau. Camau Gweithredu ·
(9.4) Y Cadeirydd i drafod yr
adborth o ganlyniadau'r arolwg â'r tîm clercio. ·
(9.4) Rhannu rhaglen waith y Comisiwn ag aelodau ARAC. |
|
Dull y Comisiwn o gynllunio etholiadau Cofnodion: ARAC (03-20) Papur 10 - Cynllunio ar gyfer
Etholiadau’r Senedd yn 2021 10.1 Cyflwynodd Sulafa Thomas, Pennaeth Cymorth i’r
Comisiwn ac i’r Aelodau, y papur a rhoi amlinelliad i'r Pwyllgor o ddull y
Comisiwn o baratoi ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd ym mis Mai 2021. Roedd y
papur yn cynnwys trosolwg o’r risgiau i enw da’r Senedd ar ôl diddymu’r Pumed
Senedd a phontio i’r Chweched Senedd. 10.2 Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch trosiant posibl
ymhlith yr Aelodau, eglurodd Sulafa y byddai'r paratoadau'n ddigon eang i
ymdopi â phob sefyllfa, ac eglurodd fod y lefelau trosiant wedi bod yn eithaf
uchel ar ôl etholiadau blaenorol. O ran cofnodi asedau materol y Comisiwn yn
ystod y cyfnod pontio, dywedodd Sulafa wrth y Pwyllgor fod Tîm Cymorth Busnes
yr Aelodau yn cadw cofrestr o asedau. At hynny, dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor
fod archwiliad o asedau sefydlog wedi'i drefnu yng Nghynllun Archwilio 19-20,
ond gallai amseru’r archwiliad newid oherwydd pandemig Covid-19. 10.3
Mewn
ymateb i gwestiynau gan Aled yn ymwneud â manylion y gyllideb yn y papur,
eglurodd Sulafa y byddai’r costau staff a oedd yn gysylltiedig â'r Agoriad
Brenhinol yn cael eu haddasu i adlewyrchu'r trefniadau gwahanol. Esboniodd Dave
Tosh fod y costau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu swyddfeydd yn gysylltiedig â'r
angen am ddefnydd mwy hyblyg ac effeithlon o ofod swyddfa i ddarparu ar gyfer
unrhyw newidiadau posibl i feintiau’r pleidiau gwleidyddol o ganlyniad i'r
etholiad. 10.4 Trafododd y Pwyllgor ei rôl yn y broses o
gynllunio’r etholiad a gofynnodd am gael diweddariadau wrth i'r gwaith fynd
rhagddo, er mwyn rhoi sicrwydd bod risgiau'n ymwneud â'r etholiad yn cael eu
rheoli'n addas. 10.5 Diolchodd y Cadeirydd i Sulafa am y papur
cynhwysfawr a'r trosolwg trylwyr, a nododd y byddai trafodaethau pellach ar
ddull y Comisiwn o wneud gwaith cynllunio ar gyfer yr etholiad yn digwydd yn
anffurfiol y tu allan i'r cyfarfod, cyn cynnal trafodaeth ffurfiol yng
nghyfarfod yr hydref. Camau Gweithredu ·
(10.4) ARAC i gael
diweddariadau rheolaidd am y gwaith cynllunio ar gyfer etholiad y Chweched
Senedd gyda diweddariad ffurfiol yng nghyfarfod yr hydref. ·
(10.5) Aelodau ARAC i drafod gwaith cynllunio’r etholiad yn anffurfiol ac y tu
allan i'r pwyllgor, er mwyn llywio’r drafodaeth ffurfiol yng nghyfarfod yr
hydref. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: 11.1 Gofynnodd Ann i swyddogion am y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynigion ynghylch mynychu cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol yn y
dyfodol i drafod y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd. Nododd swyddogion
fod dyddiad yn cael ei drefnu, er mwyn i'r sesiwn gael ei chynnal rywbryd ym
mis Gorffennaf. Mae'r
cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 10 Gorffennaf 2020. |