Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cynhadledd fideo MS Teams

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Ryan Bishop

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru.

1.2        Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

1.3        Er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod enw Comisiwn y Cynulliad wedi newid i Gomisiwn y Senedd, a bod hynny wedi dod i rym ar 6 Mai, cytunwyd y tu allan i’r Pwyllgor y byddai enw llawn y Pwyllgor yn newid i Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Senedd (SCARAC) ac mai’r enw a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n fewnol fyddai ARAC.

 

2.

Cofnodion 20 Ionawr, camau i'w cymryd a materion yn codi

Cofnodion:

ACARAC (02-20) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2020

ACARAC (02-20) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu 

2.1        Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr.

2.2        Cytunodd aelodau'r Pwyllgor i gynnal trafodaethau pellach â swyddogion er mwyn bwrw ymlaen â’r camau yn ymwneud â mynychu cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol yn y dyfodol i drafod y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd, a sesiwn friffio gyda’r tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau ar fonitro treuliau Aelodau’r Cynulliad.

2.3        Ymatebodd Gareth i gwestiynau ar amserlenni ar gyfer gweithredu argymhellion yr archwiliad o seiberddiogelwch ac o ran cynnal yr archwiliad o ddiwylliant cydymffurfio. Esboniodd Gareth, oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan argyfwng y Coronafeirws (Covid-19), a'i ran wrth arwain ymateb y Comisiwn, y byddai rhywfaint o’r gwaith archwilio yn cael ei ddal yn ôl.

2.4        Gwahoddodd y Cadeirydd Arwyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynllun cyfathrebu ar gyfer y prosiect newid enw. Esboniodd Arwyn, gan fod y dyddiad ar gyfer y newid enw wedi ei osod mewn deddfwriaeth, nad oedd cyfle i’w newid. Fodd bynnag, oherwydd Covid-19, roedd y digwyddiadau lansio a gynlluniwyd wedi cael eu disodli gan ddull gweithredu allweddol mwy cynnil, gyda'r posibilrwydd o lansiad mwy cadarn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Eglurodd hefyd fod trafodaethau'n mynd rhagddynt ynghylch y cyfleoedd a ddaw yn sgil gostwng yr oedran pleidleisio i ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio, a byddai cofrestriadau ar gyfer hyn yn agor ar 1 Mehefin 2020 (ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021) i lansio ymhellach neu i godi ymwybyddiaeth ynghylch y newid enw.

2.5        Cydnabu aelodau'r Pwyllgor y newid yn y dull o weithredu a thrafodwyd y potensial i godi ymwybyddiaeth drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhai Aelodau'r Cynulliad, ynghyd â defnyddio grwpiau ffocws. Mewn ymateb, nododd Arwyn gynlluniau i gynyddu arbenigedd yn y Comisiwn o ran y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Nodwyd y dylid cadw'r negeseuon mor syml â phosibl i helpu'r cyhoedd i ddeall rôl y Senedd fel deddfwrfa a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

2.6        Nododd y Pwyllgor y bu ymgysylltu cynnar â rhanddeiliaid allweddol ac y byddai datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi gan y Llywydd ar 6 Mai.

2.7        Diolchodd y Cadeirydd i Arwyn am roi’r wybodaeth ddiweddaraf a gofynnodd iddo sicrhau bod y Pwyllgor yn cael ei hysbysu am gynlluniau cyfathrebu. Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd at hyn yn y cyfarfod ym mis Mehefin.

Camau gweithredu

·         (2.2) y Cadeirydd a Dave i drafod gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu, ynghylch pryd y dylid trefnu cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol gyda Chynghorwyr Annibynnol i drafod y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.

·         (2.2) y Cadeirydd a Gareth i drafod y dull gorau o ddarparu'r briff i ACARAC ar waith y tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau a monitro treuliau Aelodau'r Cynulliad

·         (2.3) Gareth i drafod â Suzy yr amserlen ar gyfer gweithredu’r argymhellion o’r adolygiad o seiberddiogelwch  

·         (2.3) Gareth i gynghori ar amseru'r adolygiad o ddiwylliant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

3.1        Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am waith llywodraethu a sicrwydd diweddar, gan gynnwys ymgysylltiad helaeth â threfniadau cynllunio parhad busnes y Comisiwn mewn perthynas â'r pandemig Covid-19 diweddar. Tynnodd sylw at y meysydd cynnydd a ganlyn:

·         paratoi drafft cyntaf yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2019-20, a oedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn;

·         cwblhau'r adolygiad archwilio mewnol o seiberddiogelwch, a ddosbarthwyd y tu allan i’r Pwyllgor, ac a gofnododd raddfa sicrwydd cymedrol;

·         cwblhau'r archwiliad o lywodraethu prosiectau, a fyddai'n cael ei rannu â'r Pwyllgor yn fuan ac a oedd wedi cofnodi graddfa sicrwydd cymedrol hefyd;

·         gwaith ar adolygiad o gydymffurfiad â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol a oedd wedi, yn sgil argyfwng Covid-19, gweithredu dull gwahanol i’r hyn a gynlluniwyd. Roedd hyn wedi cynnwys trafodaethau gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi lle’r oedd yn gallu cael sicrwydd a thystiolaeth dda o gydymffurfiaeth, gan gynnwys drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Comisiwn a Chomisiynydd y Gymraeg. Byddai papur yn ymdrin â chanfyddiadau'r adolygiad yn cael ei rannu â'r Pwyllgor maes o law: ac

·         roedd Victoria Paris wedi cwblhau’r arholiadau Archwilio Mewnol Ardystiedig yn llwyddiannus.

3.2        Eglurodd Gareth, oherwydd yr anawsterau sy’n codi o ganlyniad i weithio o bell, y byddai'r archwiliad arfaethedig o’r Gwasanaeth Ymchwil yn wynebu oedi a bod ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi o ran ymarferoldeb cynnal yr archwiliad o dreuliau’r Aelodau ar gyfer 2019-20.

3.3        Holodd aelodau'r Pwyllgor am adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar drefniadau Gwrth-dwyll yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a chytunodd swyddogion i ddosbarthu hyn.

3.4        Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am y wybodaeth ddiweddaraf a chroesawodd aelodau'r Pwyllgor ei ddull pragmatig o flaenoriaethu gwaith, o ystyried yr amgylchiadau.

3.5        Mewn ymateb i gwestiynau gan Ann am effaith gohirio'r archwiliad o dreuliau’r Aelodau ac a oedd datrysiadau technolegol ar waith i liniaru hyn, dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor nad oedd hyn yn bosibl ar hyn o bryd oherwydd y broses sy’n gysylltiedig. Dywedodd hefyd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng Archwilio Cymru a chydweithwyr yn y tîm Cymorth busnes i'r Aelodau i fod mewn sefyllfa i roi sicrwydd minimol ar gyfer 2019-20. Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith y byddai'r briff arfaethedig ar dreuliau’r Aelodau yn helpu i roi mwy o ddealltwriaeth i aelodau'r Pwyllgor o ran y prosesau sydd ar waith.

3.6        Mewn perthynas â chwestiynau am y defnydd o dechnoleg, gofynnodd Aled am eglurhad ar y sail resymegol dros y defnydd amlwg o feddalwedd fideogynadledda Zoom yn lle technolegau eraill sydd ar gael ar y farchnad. Mewn ymateb, dywedodd Dave a Manon y dewiswyd Zoom gan ei fod yn gallu hwyluso'r rhwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer busnes swyddogol y Cynulliad. Roedd yn cynnwys nodweddion defnyddiol eraill hefyd, gan gynnwys y gallu i ddangos nifer uwch o gyfranogwyr ar y sgrin na llwyfannau eraill.

3.7        Wrth ymateb i geisiadau am ddiweddariad ar yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2019-20

Cofnodion:

ACARAC (02-20) Papur 4 - Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2019-20

4.1        Amlinellodd Gareth Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2019-20, gan nodi, er nad oedd wedi gallu cwblhau rhannau o'r cynllun archwilio mewnol y cytunwyd arno ar gyfer y flwyddyn, ei fod yn dal yn gallu cyhoeddi barn gymedrol o ran digonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol Comisiwn y Cynulliad.

4.2        Ychwanegodd Gareth fod hyn yn rhannol oherwydd y diwylliant iach parhaus o ymgysylltu ag archwilio mewnol yn ôl meysydd gwasanaeth, gyda'r rheolwyr yn ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion a wnaed a'u gweithrediad.

4.3        Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a diolchodd i Gareth am ei waith yn ystod y flwyddyn.

5.

Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol

Cofnodion:

ACARAC (02-20) Papur 5 - Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol

5.1        Cyflwynodd Gareth yr Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol i'r Pwyllgor a gwahoddodd sylwadau. Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch pam na adroddwyd am unrhyw ymgeisiadau amlwg o dwyll, cydnabu Gareth fod gan y Comisiwn reolaethau cadarn ar waith a oedd wedi ystyried yr hyn a ddysgwyd o brofiad blaenorol. Ychwanegodd fod sicrwydd pellach yn cael ei ddarparu drwy’r arfer o rannu gwybodaeth yn barhaus am ddigwyddiadau twyll gan bartneriaid allanol gan gynnwys Archwilio Cymru.

5.2        Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch bod yn fwy agored i risgiau posibl o dwyll o ganlyniad i bandemig Covid-19, rhoddodd Gareth sicrwydd bod y Comisiwn yn effro i'r risgiau hyn a chynigiodd rannu adroddiad diweddar gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar dwyll mewn llywodraeth leol fel gwybodaeth bellach.

5.3        Rhoddwyd sicrwydd i aelodau'r Pwyllgor bod asedau a gymerwyd o'r swyddfa gan staff i hwyluso gweithio gartref yn ystod pandemig Covid-19 wedi'u cofnodi a bod archwiliad blynyddol o'r holl asedau wedi’i gynnal.

5.4        Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a diolchodd i Gareth am y sicrwydd ychwanegol a roddwyd.

Camau gweithredu:

·         (5.2) Gareth i rannu adroddiad y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar dwyll mewn llywodraeth leol gydag aelodau ACARAC.

6.

Cydymffurfiad y Siarter Archwilio Mewnol ac Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)

Cofnodion:

6.1        Nododd a diolchodd y Pwyllgor i Gareth am ei bapur a oedd yn amlinellu cydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) ac yn cynnwys y Siarter Archwilio Mewnol.

6.2        Mewn perthynas â'r Siarter Archwilio Mewnol, nododd y Cadeirydd y byddai'n trafod cyfleoedd datblygu gyda Gareth, fel rhan o'i ddatblygiad proffesiynol parhaus fel Pennaeth Archwilio Mewnol.

Camau gweithredu:

·         (6.2) y Cadeirydd i drafod datblygiad proffesiynol parhaus y Pennaeth Archwilio Mewnol gyda Gareth.

7.

Canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg, a chyngor i'r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch cyflwyno'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon drafft i'r Comisiwn

Cofnodion:

ACARAC (02-20) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru

7.1        Croesawodd y Cadeirydd Gareth Lucey i'r cyfarfod. Tynnodd Gareth sylw’r Pwyllgor at y canlynol:

·         bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi ymgymryd ag ymarfer ail-frandio ac ailenwi yn ddiweddar ac y dylid ei galw bellach yn Archwilio Cymru.

·         bod y gwaith ar archwiliad 2019-20 wedi bod yn datblygu’n dda, ac ar y sail honno, rhagwelwyd y byddai'r ffi a amcangyfrifir yr un fath ag yn y blynyddoedd blaenorol, oni bai y ceir unrhyw newidiadau annisgwyl;

·         er y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i gadw at yr amserlenni cytunedig ar gyfer yr archwiliad drwy gynlluniau wrth gefn ymgorfforedig, oherwydd ansicrwydd ynghylch pandemig COVID-19 byddai hyn yn cael ei adolygu'n barhaus drwy drafodaethau gyda Gareth Watts a Nia Morgan; ac

·         y byddai'r Archwilydd Cyffredinol yn ysgrifennu at yr holl gyrff a archwilir yn amlinellu'r newidiadau yn y broses archwilio oherwydd y tarfu a achoswyd gan y pandemig COVID-19.

7.2        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd Gareth Lucey sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai llwybrau archwilio effeithiol yn cael eu cynnal gan Archwilio Cymru wrth gynnal samplo byw ar-lein o'r system NAV fel rhan o'i archwiliad.

7.3        Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am y wybodaeth ddiweddaraf.

8.

Adolygiad o'r Protocol ar gyfer Cydweithio

Cofnodion:

ACARAC (02-20) Papur 8 - Protocol ar gyfer Cydweithio

8.1        Nododd y Pwyllgor ei fod yn fodlon â'r Protocol ar gyfer Cydweithio.

 

9.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 9 – Y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ariannol

9.1        Cyflwynodd Nia yr eitem, gan ofyn i aelodau'r Pwyllgor nodi'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2019-20 a’r sefyllfa ariannol a ragwelir ar gyfer 2020-21 a 2021-22. Esboniodd Nia, oherwydd amseriad y cyfarfod, nad oedd yn bosibl rhoi esboniad cywir o’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer 2019-20, ond y byddai’r ffigyrau hyn yn cael eu darparu maes o law.

9.2        Gofynnodd Nia i'r Pwyllgor nodi bod cyllideb atodol wrthi’n cael ei thrafod gan y Comisiwn, mewn perthynas â'r oedi wrth weithredu newidiadau i IFRS16 - Prydlesi, a oedd i fod i ddod i rym ar 1 Ebrill 2020. Gohiriwyd hyn tan 1 Ebrill 2021. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, ychwanegodd Nia fod y newid hwn wedi cael effaith sylweddol ar alldro 2020-21, felly roedd angen cyllideb atodol.

9.3        Mewn ymateb i gwestiynau am gyfrifo darpariaeth gwyliau blynyddol staff y Comisiwn, rhoddodd Nia sicrwydd nad oedd hyn yn fater arwyddocaol ond bod y safonau cyfrifyddu yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth hon gael ei chynnwys yn y cyfrifon adnoddau.

9.4        Diolchodd y Pwyllgor i Nia am y wybodaeth ddiweddaraf.

10.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft y Comisiwn a'r Datganiad Llywodraethu ar gyfer 2019-20

Cofnodion:

·         ACARAC (02-20) Papur 10 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft

·         ACARAC (02-20) Papur 10 Atodiad A – Naratif yr Adroddiad Blynyddol (gan gynnwys adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI)

·         ACARAC (02-20) Papur 10 Atodiad B – Datganiad Cyfrifon drafft

·         ACARAC (02-20) Papur 10 Atodiad C – Datganiad Llywodraethu drafft

10.1     Amlinellodd Nia y dull cyffredinol a ddefnyddiwyd ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft 2019-20. O ran yr adran Cyfrifon (Atodiad B), nododd Nia, er gwaethaf yr amgylchiadau presennol, bod y Comisiwn yn rhagweld y bydd yn cyflawni ei dargedau tanwario.

10.2     Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfrifon a gwahoddodd Arwyn i amlinellu'r ddogfen naratif (Atodiad A), gan awgrymu y dylid anfon sylwadau manwl ato yn ei gylch ar ôl y cyfarfod. Esboniodd Arwyn y broses ar gyfer llunio'r naratif, gan ddiolch i gydweithwyr, ac yn arbennig i Victoria Paris am ei hymdrechion sylweddol hyd yma, a nododd y byddai cyfraniadau gan rai meysydd gwasanaeth i ddilyn.

10.3     Byddai sylwadau gan aelodau'r Pwyllgor yn cael eu cofnodi ar wahân gan y tîm clercio a byddent yn cael eu hystyried i’w cynnwys yn y naratif. Byddai dyddiad cau yn cael ei bennu ar gyfer unrhyw sylwadau pellach oherwydd yr amserlenni tynn o ran paratoi’r adroddiad terfynol.

10.4     Cyfeiriodd Suzy at adroddiad Laura McAllister ar Ddiwygio'r Cynulliad a thrafododd y Pwyllgor a ddylai'r Adroddiad Blynyddol gynnwys cyfeiriad at yr argymhellion nad oeddent wedi'u gweithredu a'r camau a gymerwyd gan y Comisiwn i liniaru hyn. Cytunwyd y byddai trafodaethau pellach ar hyn yn cael eu cynnal y tu allan i'r Pwyllgor.

10.5     Trafododd aelodau'r Pwyllgor a swyddogion y dull o gyflwyno’r DPA o ran ymgysylltu rhyngwladol, yn benodol a ddylid cynnwys ymweliadau gan bwyllgorau hefyd.

10.6     Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y gwaith a wnaed wrth baratoi'r adroddiad drafft, gan nodi'r safon uchel drwyddi draw.

10.7     Trafododd y Pwyllgor y Datganiad Llywodraethu drafft a nododd, gan mai drafft cynnar oedd hwn, bod bylchau lle y byddai cyfraniadau gan swyddogion perthnasol i ddilyn. Soniodd y Cadeirydd am bwysigrwydd y ddogfen mewn cyd-destun llywodraethu a chanmolwyd y swyddogion am y gwaith a wnaed arni hyd yma.

10.8     Awgrymodd Suzy y dylai swyddogion ystyried gosod troednodyn yn y Datganiad Llywodraethu drafft, i roi eglurder ynghylch cyfeiriadau at benaethiaid gwasanaeth y Comisiwn.

Camau gweithredu

·         (10.3) Kathryn i gofnodi a rhannu sylwadau a roddwyd ar naratif yr Adroddiad Blynyddol a'r Datganiad Llywodraethu 

·         (10.3) Bob i roi cyngor ynghylch pryd y dylai aelodau’r Pwyllgor roi sylwadau pellach ar naratif yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad Llywodraethu 

·         (10.4) Arwyn i ystyried sut i gofnodi ffyrdd yr ydym wedi lliniaru yn erbyn peidio â bwrw ymlaen â rhai o’r argymhellion yn adroddiad Laura McAllister

11.

Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth

Cofnodion:

ACARAC (02-20) Papur 11 – Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth

11.1     Cyflwynodd Dave y papur, gan amlinellu'r heriau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn, a oedd yn ymwneud yn bennaf â staffio ym maes diogelu data dros y cyfnod.

11.2     Er gwaethaf yr heriau, dywedodd Dave fod cynnydd wedi'i wneud mewn meysydd fel adolygu'r polisi Diogelu Data. Canmolodd hefyd waith Nisha Jadva, y swyddog Diogelu Data dros dro, am ei gwaith ymgysylltu da â meysydd gwasanaeth ar draws y sefydliad a chyda staff cymorth Aelodau'r Cynulliad er mwyn gwella ymwybyddiaeth ymhellach. Ychwanegodd fod yr angen am gadernid parhaus, ychwanegol yn y maes hwn wedi cael ei gydnabod.

11.3     Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd am reoli Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth (SAR), esboniodd Dave yr heriau y mae'r Comisiwn yn eu hwynebu o ran ymdrin yn effeithiol â’r nifer cynyddol a natur gymhleth y ceisiadau. Ychwanegodd, er bod prosesau clir ar gyfer ymdrin â Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth, y byddai'r rhain yn parhau i gael eu hadolygu'n rheolaidd.

11.4     Yng nghyd-destun rheoli risg data, tynnodd Ann sylw at yr angen i ystyried sut y gallai grymoedd allanol effeithio ar y sefydliad ac na ddylem gael ein llywio gan broses yn unig. Dywedodd Dave fod hyn eisoes yn cael ei ystyried fel rhan o drafodaethau sganio gorwel y Bwrdd Gweithredol yn y maes hwn.

11.5     Tynnodd Dave sylw hefyd at nifer o newidiadau i feddalwedd ledled y sefydliad a oedd wedi digwydd, gan gynnwys symud i SharePoint ac Office 365, yn ogystal â chyflwyno Microsoft Teams, gyda phob un yn dod â heriau o safbwynt llywodraethu gwybodaeth.

11.6     Roedd SharePoint ar fin cael ei gyflwyno i Aelodau'r Cynulliad a gofynnodd Suzy am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer symud gwybodaeth a'r cynllun marcio amddiffynnol. Rhoddodd Dave wybod i'r Pwyllgor am y gwaith parhaus sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod y llwyfannau a ddefnyddir yn gweithio i'r Comisiwn ac i Aelodau'r Cynulliad a chydnabu'r cydbwysedd y mae angen ei sicrhau rhwng diogelu gwybodaeth a chefnogi gallu Aelodau'r Cynulliad i ymgysylltu'n effeithiol â'r cyhoedd.

11.7     Mewn ymateb i gwestiwn gan Aled ynghylch archifo ac yn benodol ar gydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cytunodd Dave i roi’r wybodaeth ddiweddaraf.

11.8     Roedd aelodau'r Pwyllgor yn fodlon â’r papur a diolchodd i Dave am y wybodaeth ddiweddaraf.

Camau gweithredu

·         (11.2) Dave i rannu'r Polisi Diogelu Data diwygiedig gydag aelodau'r Pwyllgor 

·         (11.5) Dave i drafod gydag Aled ynghylch dull o archifo’r Comisiwn, yn enwedig unrhyw gynlluniau i weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y dyfodol. 

12.

Diwygio'r Cynulliad - Newid Enw

Cofnodion:

ACARAC (02-20) Papur 12 - Ymgysylltiad Allanol o ran y Newid Enw - fel y'i dosbarthwyd o'r blaen y tu allan i’r Pwyllgor

12.1     Trafodwyd hyn o dan Eitem 2.

 

Eitemau a ddosbarthwyd y tu allan i'r Pwyllgor cyn y cyfarfod

12.1     Gwahoddodd y Cadeirydd sylwadau ar y papurau a ddosbarthwyd y tu allan i'r Pwyllgor: 

·         Adroddiad Risgiau Corfforaethol

·         Crynodeb o’r Ymadawiadau;

·         Y Flaenraglen Waith

12.2     Ni chafwyd sylwadau.

 Camau gweithredu

  • (12.2) Dave i rannu papur y Comisiwn ar yr ymateb i’r Coronafeirws gydag aelodau ACARAC

Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 15 Mehefin 2020.