Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Buddug Saer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1     Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru.

1.2     Croesawodd y Cadeirydd Mark Neilson (Pennaeth TGCh a Darlledu) a Richard Coombe (Pennaeth Seilwaith a Rheoli Gweithrediadau).

1.3     Nododd Eric Gregory ei fod yn parhau i fod yn rhan o'r tîm gweithredu ar gyfer yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. 

1.4     Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau eraill.

 

2.

Cofnodion 5 Chwefror 2018 a camau i’w cymryd

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 1 - Cofnodion 5 Chwefror 2018

ACARAC (02-18) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd

2.1        Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror a chafodd y camau gweithredu, a nodwyd ym mhapur 2, eu nodi.

 

3.

Diweddariad ar Ddiogelwch Seiber

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

3.1     Cytunodd y Pwyllgor i drafod ACARAC (02-18) Papur 11 - Diogelwch Seiber ynghyd â'r risgiau sy'n ymwneud â diogelwch seiber (ICT16) a'r diweddariad gan benaethiaid TGCh a Seilwaith TG o dan yr eitem hon.

3.2     Daeth Mark Neilson a Richard i'r cyfarfod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i wella diogelwch seiber.

3.3     Cafodd y Pwyllgor wybod bod dau faes y canolbwyntir arnynt: technegol a dynol. Darparodd Mark ystadegau ar gyfer sawl ymgais o ymosodiadau seiber a fu ar y Comisiwn dros y chwe mis blaenorol. Nododd y Pwyllgor fod y risg gorfforaethol yn ymwneud â seiber-ddiogelwch yn adlewyrchu ei bod hi'n amhosibl i atal ymosodiadau seiber a bod rhaid canolbwyntio ar ddiogelu, canfod ac ymateb iddynt.

3.4        Tynnodd Richard sylw at newid yn yr agwedd at seiber-ddiogelwch o un dull 'cylch dur' i ddiogelwch sawl haen gan ddefnyddio mwy o ddadansoddiadau ac adrodd. Dywedodd Richard bod y Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol yn anfon rhybuddion pan ymosodir ar sefydliadau.

3.5     Holodd y Pwyllgor pa waith sydd wedi'i wneud mewn perthynas â bygythiad mewnol, yn arbennig ymddygiad maleisus posibl. Dywedodd Richard fod nhw’n meddwl cyflwyno system dosbarthu gwybodaeth newydd ac fe wnaeth y Cadeirydd annog y Comisiwn i gyflymu hyn, gan ystyried gwersi a ddysgwyd gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

3.6     Nododd y Pwyllgor y sgôr archwilio mewnol gwell.

3.7     Nododd y Pwyllgor fod cynlluniau ymateb seiebr wedi'u profi'n llwyddiannus a byddai Mark a Gareth Watts yn goruchwylio profion pellach ar gyfer cynlluniau amddiffyn ac adfer.  Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor cadarnhaodd Dave fod y broses gaffael yn cynnwys rhestr wirio seiber-ddiogelwch ar gyfer cyflenwyr trydydd parti a bod adolygiadau contractau rheolaidd yn sicrhau y glynir i hyn.

3.8     Awgrymodd y Pwyllgor y gellid creu model aml-ddimensiwn a fyddai'n amlygu cipolwg o elfennau amrywiol seiber-ddiogelwch. Cadarnhaodd Mark y byddai'n gweithio gyda Gareth Watts a Clive FitzGerald (TIAA) i ddatblygu hyn.

3.9     Hysbysodd Mark y Pwyllgor am waith sy'n mynd rhagddo i godi a phrofi ymwybyddiaeth o arfer gorau seiber-ddiogelwch ymysg staff y Comisiwn, Aelodau’r Cynulliad a'u staff cymorth. Y nod oedd lleihau graddfa difrifoldeb y risg.

3.10 Gofynnodd y Pwyllgor p'un a yw dod â TGCh yn fewnol wedi sicrhau buddion seiber-ddiogelwch. Roedd Dave o'r farn bod y Comisiwn mewn sefyllfa well i deilwra a phrofi rheolaethau seiber-ddiogelwch. Ychwanegodd Mark fod y trefniadau presennol yn caniatáu i'r Comisiwn gael agwedd hyblyg, tra hefyd yn gallu dibynnu ar brofiad Microsoft.

3.11 Nododd y Pwyllgor fwriad Gareth i gynnal archwiliad blynyddol ffurfiol a chytunodd fod y dylid darparu diweddariad ar seiber-ddiogelwch, gan gynnwys gweithredu argymhellion archwilio mewnol, bob chwe mis.

3.12 Diolchodd Eric i'r swyddogion am fynychu ac am ddatganiad clir ar fater cymhleth.

Camau i’w cymryd

Seiber-ddiogelwch i'w ychwanegu i'r flaenraglen waith i'w adolygu bob chwe mis.

 

4.

Meini Prawf Blaenoriaethu

Cofnodion:

Diweddariad drwy gyflwyniad

4.1        Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod mis Mehefin.

 

5.

Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2017-18

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 3 – Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2017-18 – papur cwmpasu

ACARAC (02-18) Papur 3 – Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2017-18

5.1        Cyflwynodd Manon ddrafft cynnar o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2017-18. Roedd y ffigurau ariannol yn dal i gael eu cwblhau ond roedd y Comisiwn yn hyderus na fyddai gorwariant.

5.2        Trafododd y Pwyllgor y sesiwn herio a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2018 lle roedd Eric yn craffu ar Ddatganiadau Sicrwydd y Cyfarwyddwyr a chynnig heriau annibynnol. Cytunodd Eric a swyddogion ei bod wedi bod yn sesiwn gadarn gyda thrafodaeth agored a onest.

5.3        Awgrymodd y Pwyllgor ychwanegu mwy o fanylion ar y newidiadau llywodraethu ac uwch reolwyr diweddar, ymgysylltu â staff wrth adnewyddu gwerthoedd sefydliadol a chydnabyddiaeth allanol. Awgrymodd y Pwyllgor y meysydd canlynol i ganolbwyntio arnynt yn 2018-19: gweithredu a chadarnhau newidiadau Rheoleiddio Diogelu Data Cyffredinol (GDPR); seiber-ddiogelwch; a pholisïau a gweithdrefnau urddas a pharch.

5.4        Gofynnodd y Cadeirydd a fu unrhyw ganllawiau newydd ar ddatganiadau llywodraethu a sicrhaodd Gareth Watts nad oedd unrhyw beth newydd wedi'i lunio a bod arfer gorau presennol, gan gynnwys adroddiadau archwilio a rhestr wirio'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar ddatganiadau llywodraethu, wedi'u hystyried.

5.5        Disgrifiodd Manon y gwaith sy'n cael ei wneud i symleiddio adroddiadau ac allbynnau drwy gydol y flwyddyn i leihau achosion o ddyblygu ymdrech, tra'n cynnal llif gwybodaeth briodol i'r holl randdeiliaid.

5.6        Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod hwn yn ddrafft cyntaf da a bod lefel y manylion yn briodol wrth gydbwyso tryloywder a darllenadwyedd. Cytunwyd y byddai unrhyw awgrymiadau pellach yn cael eu hanfon dros e-bost.

Camau i’w cymryd

Aelodau'r Pwyllgor i e-bostio newidiadau a awgrymir i'r Datganiad Llywodraethu at Kathryn Hughes.

 

6.

Adolygu'r Fframwaith Sicrwydd yn ei gyfanrwydd

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 4 – Diweddariad ar y Fframwaith Sicrwydd

ACARAC (02-18) Papur 4 – Atodiad A – Map Sicrwydd

ACARAC (02-18) Papur 4 – Atodiad B – Sicrwydd FW Ebrill 2017 – Mawrth 2018

6.1        Cyflwynodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Fframwaith Sicrwydd y Comisiwn yn cael ei chyflenwi. Eglurodd fod Penaethiaid Gwasanaeth yn cymryd mwy o berchnogaeth o'r broses mapio sicrwydd ac yn ymgysylltu mwy â hi. Cyflawnwyd hyn, yn rhannol, drwy ddirprwyo cyfrifoldeb ar gyfer adolygu a chynyddu'r prosesau mapio sicrwydd a gweithgareddau i lywio datganiadau sicrwydd. Roedd ei dîm wedi gweithio gyda gwasanaethau i helpu i ddatblygu diwylliant llywodraethu a sicrwydd ar draws y Comisiwn, gan gynnwys darparu sesiynau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth wedi'u teilwra.

6.2        Amlygodd y Pwyllgor fod pob un heblaw un o'r elfennau Map Sicrwydd â statws RAG gwyrdd ac awgrymodd y dylid ystyried dulliau gwahanol ar gyfer nodi meysydd i wella. Cytunodd Gareth, ac roedd ef a Kathryn Hughes eisoes wedi dechrau ffyrdd amgen o gyflwyno'r wybodaeth hon yn y dyfodol.

6.3        Awgrymodd Hugh y gellid darparu mwy o fanylion sy'n nodi'n glir y lefelau o sicrwydd sy'n gysylltiedig â phrosesau a risgiau'r Comisiwn. Atgoffodd Gareth y Pwyllgor fod y map sicrwydd wedi'i ategu gan fapiau sicrwydd lefel gwasanaeth manwl a datganiadau sy'n darparu dadansoddiad mwy manwl a'u bod yn cael eu defnyddio i nodi meysydd o gryfderau a gwendidau o ran sicrwydd. Roedd y wybodaeth hon ar gael i aelodau'r Pwyllgor.

6.4        Trafododd y Pwyllgor, yn ogystal â diweddaru Map Sicrwydd y Comisiwn i adlewyrchu'r strwythur llywodraethu newydd, p'un a ddylai adlewyrchu'r gwaith craffu a gafodd y Comisiwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid a ph'un a dylid dangos ACARAC yn benodol yn y drydedd linell amddiffyn, er mai dim ond llinellau lefel uchel elfen amddiffyn y fframwaith gafodd eu cyflwyno.

Camau i’w cymryd

Swyddogion i ystyried cyfeirio at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Fap Sicrwydd y Comisiwn ac ychwanegu ACARAC i'r trydydd llinell amddiffyn.

 

7.

Diweddariad ar bolisïau chwythu'r chwiban a thwyll

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 5 - Diweddariadau ar y Polisi Chwythu'r Chwiban a'r Polisi Twyll

7.1        Dywedodd Gareth Watts wrth y Pwyllgor nad oes unrhyw newidiadau o ran sylwedd wedi'u gwneud i bolisïau Chwythu'r Chwiban a Thwyll y Comisiwn. Cytunodd i ystyried profi'r polisi Chwythu'r Chwiban.

7.2        Mewn perthynas â Thwyll, awgrymodd y Cadeirydd y dylai Adroddiad Blynyddol ar Dwyll y Pennaeth Archwilio Mewnol (i'w gyflwyno yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2018) gyfeirio at Fframwaith Polisi'r Comisiwn a mesurau eraill a gymerwyd i godi ymwybyddiaeth.

7.3        Gofynnodd y Cadeirydd hefyd am ddiweddariad ar restr wirio Twyll Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd Gareth Watts eisoes wedi trafod hyn â Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a byddai'n casglu barn rheolwyr yn seiliedig ar ei asesiad ei hun cyn cyflwyno'r rhestr wirio i'r Pwyllgor. Cadarnhaodd Gareth Lucey, o SAC, yn unol â Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (ISA), roedd yn rhaid i bob un o'r cyrff yr oeddent yn eu harchwilio gwblhau'r rhestr wirio.

Camau i’w cymryd

Gareth Watts i gynnwys manylion am ymwybyddiaeth o dwyll yn ei Adroddiad Blynyddol ar Dwyll.

 

8.

Adroddiad risgiau corfforaethol

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 6 - Risgiau Corfforaethol

ACARAC (02-18) Papur 6 - Atodiad A – Adroddiad ar grynodeb o risgiau corfforaethol

ACARAC (02-18) Papur 6 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd

8.1      Dywedodd Dave wrth y Pwyllgor mai cyfrifoldeb y Bwrdd Gweithredol yw adolygu Cofrestr Risg Corfforaethol y Comisiwn ac mai'r Cyfarwyddwyr sydd bellach yn berchen ar risgiau corfforaethol unigol. Byddai'r Cyfarwyddwyr yn comisiynu a herio adroddiadau risg chwarterol gan eu Penaethiaid Gwasanaeth, a fyddai'n bwydo i mewn i drafodaethau yng nghyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol.

8.2      Nododd y Pwyllgor y newidiadau a'r symudiadau a amlygwyd yn y papur a thrafododd sgoriau y Risgiau Cofforaethol a pha mor ddigonol yw'r rheolaethau. O ran y risg Adolygiad Capasiti, byddai data mwy meintiol, gan gynnwys meincnodi â deddfwrfeydd eraill, yn cael eu casglu i lywio penderfyniadau gan y Grŵp Llywio yng ngham dau yr adolygiad.

8.3      Tynnodd y Pwyllgor sylw at y nifer o risgiau 'coch', yn enwedig o gymharu â'r llynedd, ond derbyniodd fod yn hyn yn briodol o ystyried effaith, a'r rheolaeth gyfyngedig sydd gan y Comisiwn dros risgiau gan gynnwys GDPR i Aelodau’r Cynulliad a Brexit. Cadarnhaodd Dave fod y risgiau yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a bod y sesiynau cynllunio senario ar Brexit a Diwygio'r Cynulliad wedi helpu i sicrhau bod y Comisiwn yn wybodus ac wedi paratoi gyda'r adnoddau sydd ar gael.

 

9.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm Cyllid

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm Cyllid

ACARAC (02-18) Papur 7 – Atodiad A

9.1        Amlinellodd Nia y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2017-18 a'r sefyllfa a ragwelir ar gyfer 2018-19 a 2019-20.  Roedd yn rhagweld, gyda chymorth blaenoriaethu gwariant cadarn gan y Bwrdd Gweithredol, y byddai'r Comisiwn o fewn y targed heriol o 0.5% ar ddiwedd y flwyddyn.

9.2        Roedd Cyllid a Thollau EM yn cynnal archwiliad o drefniadau tâl y Comisiwn a oedd wedi gorfod dargyfeirio rhai adnoddau o fen y tîm Cyllid. Byddai'r broses yn cymryd rhwng 12 a 18 mis ac nid oedd disgwyl iddo effeithio ar amserlen yr archwiliad.

9.3        Trafododd y Pwyllgor y goblygiadau ar gyfer cyllideb y Comisiwn o ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Danwariant Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ac ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau ar gynigion sy'n deillio o'r adolygiad ar gymorth staffio i Aelodau.

9.4        Diolchodd y Pwyllgor i Nia am adroddiad rhagorol.

 

10.

Adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am archwilio allanol

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 8 – Adroddiad diweddaru archwilio mewnol

10.1     Cyflwynodd Gareth ei adroddiad diweddaru. Tynnodd sylw at y cynnyd a wnaed ers cyfarfod mis Chwefror, a oedd yn cynnwys cwblhau pedwar adroddiad archwilio mewnol. Roedd ei ymrwymiadau ychwanegol yn ystod 2017-18 yn golygu bod peth gwaith archwilio mewnol yn parhau heb eu cwblhau. Llongyfarchodd Victoria Paris, a oedd wedi pasio Rhan 1 o'r cymhwyster Archwilio Mewnol Ardystiedig yn ddiweddar.

10.2      Roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda'r adroddiad ac yn cydnabod y gwaith ychwanegol a wnaeth Gareth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gofynnwyd, o ystyried llwyth gwaith ychwanegol Gareth, pe gallai'r Comisiwn wneud mwy o ddefnydd o TIAA. Roedd Gareth yn cydnabod bod hyblygrwydd o hyd yn y contract ar gyfer hyn, ac amlygodd y cynnydd mewn gwytnwch a chapasiti mewnol ar gyfer archwilio mewnol a oedd hefyd yn cael ei gyflwyno drwy hyfforddi Victoria. Cadarnhaodd ei fo dyn dal mewn sefyllfa i gyflwyno barn flynyddol yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2018. Ymrwymodd i barhau i adolygu capasiti ac adnoddau gweithgareddau archwilio mewnol.

 

11.

Sicrhau Ansawdd Allanol Archwilio Mewnol (EQA)

Cofnodion:

ACARAC (02-18) - Papur 9 – papur esboniadol EQA

ACARAC (02-18) Papur – cynnydd cynllun gweithredu EQA

11.1     Nododd y Pwyllgor y cynnydd da a wnaed yn erbyn yr argymhellion a nodwyd yn adroddiad 2017.

 

12.

Trafod yr amlinelliad o'r cynllun archwilio mewnol ar gyfer 2018-19

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 10 – Cynllun Archwilio Mewnol 2018-19

12.1     Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynllun archwilio ar gyfer 2018-19.

 

13.

Yr adroddiad archwilio mewnol diweddaraf a Adroddiadau IA a ddosbarthwyd yn flaenorol

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 11 - Seiber-ddiogelwch

Adroddiadau IA a ddosbarthwyd yn flaenorol

ACARAC (02-18) Papur 12 - Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad

ACARAC (02-18) Papur 13 – GDPR

ACARAC (02-18) Papur 14 - Adolygiad Sicrwydd Ansawdd

13.1     Roedd y Pwyllgor wedi trafod ACARAC (02-18) Papur 11 - Seiber-Ddiogelwch o dan eitem 3 ar yr agenda. Nododd y Pwyllgor y papurau a ddosbarthwyd yn flaenorol a chytunodd i drafod adborth gyda Gareth yn y sesiwn breifat a oedd yn dilyn y cyfarfod hwn.   

14.

Adolygu'r Siarter Archwilio Mewnol a chydymffurfiad Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 15 – papur cwmpasu'r Siarter Archwilio Mewnol

ACARAC (02-18) Papur 15 – Y Siarter Archwilio Mewnol

14.1     Nododd y Pwyllgor y mân newidiadau i'r Siarter Archwilio Mewnol a gafodd ei diweddaru yn unol â PSIAS, a chymeradwyodd y Siarter ar gyfer 2018-19.    

 

15.

Diweddariad o bresenoldeb yng Nghynhadledd Cadeiryddion Archwilio TIAA

Cofnodion:

Eitem lafar

15.1     Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod mis Gorffennaf.

Camau i’w cymryd

Y wybodaeth ddiweddaraf am rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ac Archwilio Mewnol, gan gynnwys adborth o Gynhadledd Cadeiryddion TIAA, i'w hychwanegu i'r agenda ym mis Gorffennaf.

 

16.

Adroddiad diweddaru Swyddfa Archwilio Cymru (SAC)

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 16

16.1     Cyflwynodd Gareth Lucey adroddiad diweddaru SAC. Ymweliadau interim a gynhaliwyd ym mis Ionawr cyn yr archwiliad 2017-18 a oedd i fod i ddechrau'n ffurfiol ar 21 Mai.

16.2     Cytunodd y Pwyllgor ei bod yn ddefnyddiol cael dadansoddiad o ffi SAC.

16.3     Cadarnhaodd Gareth Watts fod cytundeb wedi'i gyrraedd gyda SAC a Llywodraeth Cymru ynglŷn â thrin cyflog Archwilydd Cyffredinol Cymru a bod hyn wedi'i ddogfennu.

 

17.

Adolygu'r Protocol Gweithio ar y Cyd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilio Mewnol

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 17

17.1     Nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw newidiadau o ran sylwedd wedi'u gwneud i'r Protocol Gweithio ar y Cyd a bod y camau a gytunwyd ar waith.

17.2     Cadarnhaodd Gareth Lucey fod yn rhaid i SAC ei hun gyrraedd safonau rhyngwladol. Mae gan SAC gyfundrefn adolygu sicrwydd ansawdd fewnol yn ogystal â bod yn destun adolygiadau allanol gan Adran Sicrhau Ansawdd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW).

 

18.

Crynodeb o’r ymadawiadau

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 18 – Crynodeb o’r ymadawiadau

18.1     Nododd y Pwyllgor dri achos o ymadael â'r weithdrefn gaffael arferol. Dywedodd Dave wrth y Pwyllgor fod y contract Cyfresi Corfforaethol wedi ymestyn oherwydd absenoldeb cyflenwyr allanol ar y Fframwaith Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

18.2     Mewn ymateb i gwestiwn am feincnodi cydraddoldeb rhyw, dywedodd Manon ei bod yn bwysig i'r Comisiwn ganolbwyntio ar gydraddoldeb ac arwain drwy esiampl. Cadarnhaodd nad oedd y Comisiwn wedi ymrwymo eto i gymryd rhan yn y blynyddoedd i ddod.

 

19.

Amlinelliad o Adroddiad Blynyddol ACARAC

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 19 – Adroddiad Blynyddol ACARAC Drafft

19.1     Amlygodd y Cadeirydd rai diweddariadau mân i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol yn well, gan gynnwys GDPR. Cadarnhaodd Gareth nad oedd unrhyw faterion yn deillio o'r adroddiadau Archwilio Mewnol. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Trawsnewid Digidol.

Camau i’w cymryd

Dave i ddarparu manylion am yr hyn a gyflwynwyd trwy Drawsnewid Digidol ar gyfer Cynhwysiant yn Adroddiad Blynyddol ACARAC.

 

20.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Y flaenraglen waith

20.1     Cytunodd y Pwyllgor i ychwanegu'r eitemau canlynol i'r agenda ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf: sylwadau gan Keith ar ei rôl fel Cynghorydd Annibynnol i'r Comisiwn; diweddariad ar Ddiwygio'r Cynulliad, Brexit, a Llety; canlyniad yr ymchwiliad i Danwariant Penderfyniad y Bwrdd Taliadau; a chyflawni amcanion yr Adolygiad Capasiti. Byddai'r tîm clercio yn diweddaru ac yn dosbarthu'r flaenraglen waith ddiwygiedig.

21.   Sesiwn breifat

21.1     Roedd Gareth Watts yn bresennol ar gyfer sesiwn breifat gydag aelodau'r Pwyllgor unwaith i'r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion yn ystod y sesiwn hon.