Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.0 Eitem
1 - Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2 Nodwyd
tri ymddiheuriad gan Hefin David, AS a Chomisiynydd; Matthew Richards,
Cyfarwyddwr Dros Dro Busnes y Senedd; ac Eve Jennings, Uwch-reolwr Prosiect
TGCh. |
|
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 10 Chwefror, Camau i'w cymryd a Materion yn Codi Cofnodion: 2.0 Eitem
2 - Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 10 Chwefror, Camau i’w cymryd a Materion yn
Codi ARAC (25-02) Papur 1 -
Cofnodion drafft cyfarfod 10 Chwefror 2025 ARAC (25-02) Papur 2 –
Crynodeb o’r camau i’w cymryd 2.1 Cymeradwywyd
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror. Roedd yr amserlen weithredu
wedi'i diweddaru gyda chamau i’w cymryd a oedd yn weddill naill ai wedi'u
cwblhau neu wedi'u cynnwys ar yr agenda. 2.2 Nododd
y Cadeirydd fod nifer o bapurau wedi cael eu dosbarthu y tu allan i'r pwyllgor
er gwybodaeth. |
|
|
Diweddariad Cynnydd o ran Archwilio Mewnol Cofnodion: Archwilio mewnol 3.0 Eitem
3 - Diweddariad Cynnydd o ran Archwilio Mewnol ARAC (25-02) Papur 3 –
Adroddiad Cynnydd o ran Archwilio Mewnol – Mai 2025 3.1 Adroddodd
Lee Glover fod y cynllun archwilio mewnol yn mynd rhagddo yn ôl y disgwyl, gyda
nifer o archwiliadau wedi'u cynllunio tua diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd tri
adroddiad wedi’u cwblhau, a chadarnhaodd Lee fod digon o waith wedi’i gwblhau i
gefnogi ei farn flynyddol. 3.2 Roedd
nifer o adroddiadau’n aros am ymatebion gan y rheolwyr, ac roedd eraill i fod i
gael eu cwblhau’n fuan. Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd sicrhau bod yr
holl adroddiadau wedi'u cwblhau erbyn y cyfarfod nesaf. Camau i’w cymryd Lee Glover a Lisa Bowkett i sicrhau bod yr
holl adroddiadau archwilio mewnol yn cael eu cwblhau cyn gynted â phosibl. |
|
|
Strategaeth Archwilio Mewnol 2025-28, Cynllun Blynyddol a Siarter Archwilio Mewnol Cofnodion: 4.0 Eitem
4 – Strategaeth Archwilio
Mewnol ar gyfer 2025-26 i 2027-28 Cynllun Archwilio
Mewnol ar gyfer 2025-26 Siarter Archwilio
Mewnol (gan gynnwys cydymffurfio â’r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS)) ARAC (25-02) Papur 4 –
Strategaeth Archwilio Mewnol 2025-28, Cynllun Blynyddol a Siarter Archwilio
Mewnol 4.1 Cyflwynodd
Lee y strategaeth archwilio fewnol a oedd wedi'i diweddaru ar ôl ymgynghori â'r
rheolwyr. Tynnodd sylw at rai newidiadau bach o ganlyniad i'r Safonau Archwilio
Mewnol Byd-eang (GIAS) newydd, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2025. Roedd y GIAS yn
ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gael strategaeth ar waith ac roedd yn
cyfeirio at bwysigrwydd annibyniaeth archwilio mewnol ac yn cynnwys Strategaeth
Archwilio Mewnol. Roedd y rhain eisoes ar waith ar gyfer y Comisiwn. Bu newid
hefyd yn y derminoleg, gyda'i deitl yn newid o Bennaeth Archwilio Mewnol i’r Prif
Weithredwr Archwilio, fel rhan o'r ymdrech i hyrwyddo archwilio mewnol ar draws
sefydliadau. 4.2 Disgrifiodd
Lee integreiddio Siarter Archwilio Mewnol i'r ddogfen strategaeth. Amlinellodd
hefyd y meysydd archwilio arfaethedig ar gyfer 2025–26, gan gynnwys rheoli
risg, urddas a pharch, rheoliadau ariannol, a pharhad busnes. 4.3 Mewn
ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor am y strategaeth, eglurodd Lee y byddai
disgrifiad yr archwiliad seiberddiogelwch yn cael ei ddiweddaru a bod yr
archwiliad rheoli ystadau wedi'i drefnu ar gyfer 2027-28 oherwydd cydbwyso'r
cynllun ag adnoddau. Nododd y Pwyllgor hefyd y byddai'r adolygiad o reoli
dangosyddion perfformiad allweddol yn digwydd yn 2027-28, ac y byddai dwyn
hynny ymlaen yn effeithio ar adolygiadau eraill yn y strategaeth. Nododd Lee
hefyd y byddai'r strategaeth yn cael ei hadolygu'n barhaus i ymateb i risgiau
sy'n dod i'r amlwg. 4.4 Gofynnodd
aelodau’r pwyllgor hefyd am gyfeiriadau yn y strategaeth at effeithiolrwydd
rheolaethau risg ac ymhelaethodd Lee ar hyn, gan nodi y byddai’r archwiliad o
reoli risg bellach yn digwydd yn 2025-26. |
|
|
Trafod yr adroddiad Archwiliad Mewnol diweddaraf Cofnodion: 5.0 Eitem
5 – Trafod yr adroddiad Archwiliad Mewnol diweddaraf ARAC (25-02) Papur 5 –
Adroddiad Archwiliad Mewnol ar Gaffael i Dalu 5.1 Adroddodd
Lee Glover fod yr archwiliad Caffael i Dalu wedi derbyn lefel ddigonol o
sicrwydd. 5.2 Mewn
ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor, cadarnhaodd Phil Boshier fod y
Strategaeth Gaffael wedi’i diweddaru yn fuan ar ôl i’r archwiliad gael ei
gwblhau er mwyn adlewyrchu’r Ddeddf Gaffael newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar, a
bod cofrestr contractau ar waith (ar gael ar wefan y Senedd) ac yn cael ei
rheoli’n weithredol. Rhoddodd sicrwydd hefyd ynghylch gweinyddu llofnodion
contractau a amlygwyd yn ystod yr archwiliad.
5.3 Croesawodd
y Pwyllgor yr adroddiad hwn ac fe’u calonogwyd gan y systemau a’r gwiriadau
sydd ar waith. |
|
|
Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2024-25 Cofnodion: 6.0 Eitem
6 - Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2024-25 ARAC (25-02) Papur 6 -
Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2024-25 6.1 Cyflwynodd
Lee ei Adroddiad Blynyddol a'i Farn Archwilio Mewnol ar gyfer 2024-25, gan
gadarnhau bod y Comisiwn wedi cynnal prosesau llywodraethu, rheoli risg a
rheolaeth fewnol digonol ac effeithiol. Tynnodd sylw at gydymffurfiaeth â
safonau proffesiynol, gan gynnwys y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS)
newydd a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2025, ac addasrwydd trefniadau i sicrhau
annibyniaeth rôl y Prif Weithredwr Archwilio. 6.2 Mynegodd
y Pwyllgor foddhad ar yr adroddiad a'r sicrwydd a ddarparwyd. |
|
|
Diweddariad Archwilio Cymru Cofnodion: Archwiliad allanol 7.0 Eitem
7 – Diweddariad Archwilio Cymru ARAC (25-02) Papur 7 –
Cynllun Archwilio Cymru 2025 7.1 Disgrifiodd Clare Thomas y Cynllun Archwilio gyda pherthnasedd cynllunio
wedi'i osod ar 1% o wariant gros a'r trothwy adrodd wedi'i osod ar 5% o
berthnasedd. 7.2 Tynnodd
Clare sylw at yr ymatebion bwriadedig i risg sylweddol safonol o amgylch
gorbwyso rheolwyr, fel sy'n ofynnol gan safonau archwilio, a meysydd ffocws
eraill, gan gynnwys: datgeliadau adroddiadau tâl; gwerthuso asedau eiddo;
gwerthuso rhwymedigaeth/gwarged net cronfa bensiwn; datgeliadau partïon
cysylltiedig; a throsglwyddo i ddarparwr cyflogres newydd. 7.3 Ceisiodd
y Cadeirydd sicrwydd ynghylch prosesau gwerthuso ac archwilio annibynnol
gwybodaeth am bensiynau o ystyried yr oedi a brofwyd yn ystod archwiliad y
llynedd. Sicrhaodd Archwilio Cymru y Pwyllgor fod prosesau ar waith fel rhan
o’r contract i sicrhau na fyddai hyn yn achosi problem eleni. 7.4 Arhosodd
y tîm archwilio yr un fath, a byddai'r archwiliad yn dechrau ar 12 Mai fel y
trefnwyd. Nododd Clare fod yr amserlen ar gyfer adrodd erbyn 9 Mehefin ac i'r
Pwyllgor ar 23 Mehefin yn dynn ond yn gyraeddadwy. Amlinellodd Clare y ffi archwilio
amcangyfrifedig, a oedd yn adlewyrchu cynnydd cymedrol oherwydd costau cyflogau
a meysydd ffocws ychwanegol ar gyfer yr archwiliad. Cadarnhaodd y byddai'r ffi
derfynol yn seiliedig ar y gwaith gwirioneddol a gwblhawyd. 7.5 Cafodd
y Pwyllgor eu calonogi gan y cynllun, yn enwedig gan fod y tîm wedi aros yr un
fath o'r flwyddyn flaenorol. |
|
|
Protocol ar gyfer cydweithio Cofnodion: 8.0 Eitem
8 – Protocol ar gyfer cydweithio ARAC (25-02) Papur 8 -
Protocol Cydweithio IA-EA (fel y'i cyflwynwyd ym mis Mai 2024) 8.1 Nododd
y Pwyllgor y protocol cydweithio. |
|
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft y Comisiwn a'r Datganiad Llywodraethu ar gyfer 2024-25 Cofnodion: Llywodraethu'r Comisiwn 9.0 Eitem
9 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft y Comisiwn a'r Datganiad
Llywodraethu ar gyfer 2024-25 ARAC (25-02) Papur 9 –
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25 - papur cwmpasu ARAC (25-02) Papur 9 –
Atodiad A – Datganiad Llywodraethu Drafft ARAC (25-02) Papur 9a –
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2024-25 - papur cwmpasu naratif ARAC ARAC (25-02) Papur 9a
– Atodiad A – Naratif drafft 9.1 Cyflwynodd
Arwyn Jones yr adran naratif, gan egluro'r broses ar gyfer casglu a golygu
erthyglau. Nododd hefyd fod y fethodoleg a'r fformat yn parhau i fod yn gyson
â'r flwyddyn flaenorol. Canmolodd y Pwyllgor eglurder a chydlyniant thematig
cynnwys y drafft a chanmolodd y dyluniad a'r cynllun. 9.2 Roedd
gan aelodau'r Pwyllgor sylwadau bach ar naratif y Dangosyddion Perfformiad
Allweddol, gan awgrymu y gallai hyn fod yn fwy eglur i rai, a chytunwyd i rannu
eu hadborth gyda swyddogion. 9.3 Awgrymwyd
y dylai’r Pwyllgor ailystyried fframwaith y Dangosyddion Perfformiad Allweddol
maes o law, a allai fwydo i unrhyw adolygiad yn y dyfodol o’r mesurau cyn y
Seithfed Senedd. Adran cyfrifon 9.4 Gan
nad oedd yr archwiliad wedi dechrau eto, ni chyflwynwyd unrhyw ffigurau i’r
Pwyllgor. Fodd bynnag, yn seiliedig ar ffigurau drafft, adroddodd Lisa am
danwariant disgwyliedig o 1.1% ar y cap gweithredol a oedd o fewn y targed
Dangosyddion Perfformiad Allweddol sefydledig. Datganiad Llywodraethu 9.5 Amlinellodd
Phil Boshier fethodoleg newydd sy'n sail i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol
(AGS), gan gynnwys Datganiad Sicrwydd Corfforaethol (CAS) trawsbynciol a oedd
wedi disodli'r datganiadau Cyfarwyddwyr a gynhyrchwyd yn flaenorol. Cyfeiriodd
at y diagram yn yr AGS drafft yn amlinellu'r corff tystiolaeth ategol i lywio'r
CAS, a oedd wedi'i adolygu gan y Bwrdd Gweithredol, y Prif Weithredwr a'r
Clerc, ac a oedd yn destun gwaith craffu annibynnol gan aelodau'r Pwyllgor ym
mis Mawrth. 9.6 Nododd
Phil y cynnydd cadarnhaol a adroddwyd yn erbyn y meysydd i ganolbwyntio arnynt
a oedd wedi'u cynnwys yn AGS y flwyddyn flaenorol. Cyfeiriodd hefyd at y
lefelau sicrwydd ar bob elfen yn y CAS, a thynnodd sylw at rai o'r meysydd i'w
gwella a nodwyd, a oedd wedi llywio'r meysydd i ganolbwyntio arnynt a
gynhwyswyd yn yr AGS drafft. 9.7 Diolchodd
Phil i Bob Evans a Menai Owen-Jones am eu cyfraniadau gwerthfawr i sesiwn her
CAS ym mis Mawrth. 9.8 Rhoddodd
aelodau’r Pwyllgor rywfaint o adborth penodol ar yr AGS, a oedd yn cynnwys
awgrymu’r angen am eglurder pellach ynghylch sut mae’r strwythurau llywodraethu
newydd yn cyd-fynd, ac i ystyried tynnu sylw at gynnwys a oedd yn wahanol i
flynyddoedd blaenorol. 9.9 Croesawodd
y Pwyllgor y fframwaith sicrwydd cryfach ac roeddent wedi’u plesio gan y gwaith
yn y maes hwn, a roddodd sicrwydd cryf i’r Swyddog Cyfrifyddu. |
|
|
Adroddiad Diweddariad Llywodraethu Cofnodion: 10.0 Eitem
10 – Adroddiad Diweddariad Llywodraethu ARAC (25-02) Papur 10
– Diweddariad Llywodraethu 10.1 Cyflwynodd
Phil Boshier ei adroddiad diweddaru, a thynnodd sylw at y canlynol: - alinio
cofrestr risg y Comisiwn â'r cynllun Archwilio Mewnol i sicrhau bod digon o
sylw i archwilio ar gyfer risgiau allweddol a chynlluniau i adolygu rheolaethau
risg, y ddau o ganlyniad i'r gwaith a wnaed ar y fframwaith sicrwydd; - y defnydd o’r datganiadau parodrwydd i dderbyn risg a gymeradwywyd yn
ddiweddar mewn papurau penderfyniad a chynlluniau i sicrhau bod eu defnydd
wedi’i wreiddio; - cynnydd ar adnewyddu’r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, y cynllun
gweithlu a chynlluniau gwasanaeth a fyddai’n bwydo i’r gwaith o ddatblygu
cyllideb 2026-27, gan ddangos bod hyn i gyd wedi’i alinio; - cymeradwyaeth
y Bwrdd Gweithredol o bortffolio o brosiectau fel rhan o'r Fframwaith Rheoli
Portffolio y byddai achosion busnes yn ceisio awdurdod i wario ar eu cyfer ac a
fyddai'n cael eu monitro gan y Grŵp Rheoli Portffolio; a - gwelliannau gweinyddol ar gyfer olrhain ac adrodd ar gamau gweithredu o'r
Strategaeth Newid i Fwrdd Newid Senedd 26, ac i hwyluso olrhain penderfyniadau
ac unrhyw newidiadau i linellau sylfaen yn y strategaeth, a sut y cafodd y
rhain eu hadlewyrchu mewn cynlluniau gweithredu. 10.2 Mewn
ymateb i gwestiynau ynghylch ystyriaeth y Comisiwn o gontractau mewnol,
eglurodd Ed fod y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig yn cynnwys manylion am y
gwaith hwn a fyddai'n cael ei ddatblygu yn y Seithfed Senedd. 10.3 Gofynnodd
y Pwyllgor am fynediad at y Fframwaith wedi'i ddiweddaru pan fyddai ar gael, ac
awgrymodd sesiwn friffio ar wahân ar hyn maes o law. 10.4 Nododd
y Pwyllgor y diweddariad, gan ddiolch i Phil am ei gyfraniad. Camau i’w cymryd Dosbarthu’r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig
wedi'i ddiweddaru pan fydd ar gael. |
|
|
Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb Cofnodion: 11.0 Eitem
11 - Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb ARAC (25-02) Papur 11
- Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb 11.1 Cadarnhaodd Lisa fod
cyllideb 2024–25 wedi’i rheoli’n effeithiol, gyda thanwariant disgwyliedig o
1.1% ac arbedion o £315,000 wedi’u cyflawni, gyda chymorth gweithrediad
effeithiol y Grŵp Rheoli Portffolio. 11.2 Cododd
aelodau’r Pwyllgor nifer o gwestiynau’n ymwneud â thargedau arbedion, a oedd
arbedion oherwydd effeithlonrwydd yn hytrach na llai o alw, a phenderfyniadau
ynghylch lefelau staffio. 11.3 Eglurodd
Lisa nad oedd targedau arbedion ar gyfer y dyfodol wedi'u gosod oherwydd y
newid sylweddol yn y ddwy gyllideb nesaf i gefnogi Senedd fwy, gyda'r ceisiadau
cyllideb mor fach â phosibl. Mewn ymateb i gwestiwn gan Mark Egan ynghylch a
oedd yr arbedion yn cynrychioli gostyngiadau mewn cyfaint neu effeithlonrwydd,
cytunodd Lisa i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor. 11.4 O
ran cyflog staff, amlinellodd Lisa y trafodaethau parhaus ynghylch cytundeb
cyflog staff newydd a fyddai’n cael ei adlewyrchu mewn cynigion cyllideb yn y
dyfodol. Roedd cynnig cynnydd o 5% gan Lywodraeth y DU ar draws Gwasanaeth
Sifil y DU wedi'i adlewyrchu yng nghais cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2025-26,
ond nid oedd y cylch gwaith cyflog i lywio cyllidebau yn y dyfodol wedi'i
gyhoeddi. 11.5 Eglurodd
Lisa a Phil fod y cap sefydliad wedi'i osod ar gyfer cyflawni gweithgareddau
busnes fel arfer, a oedd yn eithrio unrhyw swyddi newydd yn ymwneud â'r
Seithfed Senedd neu raglenni Ffyrdd o Weithio. Amlinellwyd sut y cafodd yr holl
recriwtio ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwyr cyn ei gyflwyno i'r Bwrdd
Gweithredol i'w gymeradwyo. Rhoddwyd sicrwydd fod y prosesau sydd ar waith yn
cynnwys herio a thrafodaethau priodol, fel rhan o’r gwaith o gynllunio
gwasanaethau, ynghylch fforddiadwyedd neu unrhyw achos posibl o dorri'r
cap. 11.6 Nododd
y Pwyllgor y colledion a'r taliadau arbennig a oedd wedi'u cynnwys yn
niweddariad Lisa. Camau i’w cymryd Lisa Bowkett i ddosbarthu rhagor o fanylion am
yr arbedion a gyflawnwyd. |
|
|
Adroddiad Blynyddol ar Dwyll Cofnodion: 12.0 Eitem
12 – Adroddiad Blynyddol ar Dwyll ARAC (25-02) Papur 12
- Adroddiad Blynyddol ar Dwyll 12.1 Cyflwynodd
Lisa yr Adroddiad Blynyddol ar Dwyll, gan nodi nad oedd unrhyw bryderon mawr.
Roedd archwiliad iechyd gwrth-dwyll diweddar wedi gwneud mân argymhellion, gan
gynnwys un ynghylch mwy o hyfforddiant ymwybyddiaeth o dwyll. Roedd bancwyr y
Comisiwn eisoes yn darparu hyfforddiant rheolaidd ar faterion twyll ond byddai
Lisa yn canolbwyntio ar fwrw ymlaen â'r argymhellion pan fyddai archwiliad y
cyfrifon wedi'i gwblhau. 12.2 Cymeradwyodd
y Pwyllgor yr adroddiad, gan nodi ei fod yn ddarn pwysig o sicrwydd. |
|
|
Polisïau Chwythu'r Chwiban a Thwyll Cofnodion: 13.0 Eitem
13 - Polisïau Chwythu’r Chwiban a Thwyll ARAC (25-02) Papur 13
- Polisi Chwythu'r Chwiban a Pholisi Twyll 2025 - Diweddariadau ARAC (25-02) Papur 13
– Atodiad A – Polisi Chwythu’r Chwiban ARAC (25-02) Papur 13
– Atodiad B – Polisi Llygredd Twyll a Llwgrwobrwyo ARAC (25-02) Papur 13
- Atodiad C - Cynllun Ymateb i Dwyll 13.1 Nododd
y Pwyllgor y polisïau wedi'u diweddaru a thynnodd yr aelodau sylw at yr awgrym
yn yr archwiliad diweddar ar atal twyll, o gyflwyno llinell adrodd annibynnol i
wella hyder yn y broses chwythu'r chwiban. Cynigiodd Lee Glover wasanaethau
Validera ar gyfer mecanwaith o'r fath, a chytunodd Lisa i ystyried hyn. 13.2 Nodwyd
y papurau, a diolchodd y Pwyllgor i Lisa am ei diweddariad. |
|
|
Risgiau corfforaethol Cofnodion: 14.0 Eitem
14 – Risgiau corfforaethol ARAC (25-02) Papur 14
- Risgiau corfforaethol ARAC (25-02) Papur 14
- Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol ARAC (25-02) Papur 14
– Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd 14.1 Nododd
y Pwyllgor y gofrestr risg wedi'i diweddaru, a chododd nifer o gwestiynau. 14.2 Mewn
ymateb i gwestiynau’n ymwneud â'r risg seiberddiogelwch, rhoddodd Arwyn y
diweddariadau a ganlyn: byddai hyfforddiant ymwybyddiaeth seiberddiogelwch i’r
Aelodau yn uchel ar yr agenda ar ddechrau tymor newydd y Senedd; roedd
adolygiad o ddefnydd yr Aelodau o ddyfeisiau personol yn mynd rhagddo; roedd y
broses gaffael ar gyfer adnewyddu llwyfan amddiffyn e-bost yn mynd rhagddi;
byddai system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid newydd ar waith erbyn mis Medi;
byddai adolygiad o brosesau fetio sy'n ymwneud â swyddfeydd etholaethol yn cael
ei symud ymlaen; a byddai cynlluniau ar gyfer y prosiect segmentu rhwydwaith
arfaethedig yn cael eu symud ymlaen. 14.3 Nododd
y Pwyllgor yr ychwanegiad o'r risg ynghylch cefnogi’r Aelodau i weithredu
canlyniad adolygiad y Bwrdd Taliadau Annibynnol o strwythurau cyflog a graddio
ar gyfer staff cymorth yr Aelodau. Camau i’w cymryd Arwyn Jones i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am
yr adolygiad o ddyfeisiau personol yr Aelodau. |
|
|
Archwiliad Beirniadol o Un Risg Gorfforaethol neu Fater Cyfoes a Nodwyd - System Adnoddau Dynol/Cyflogres (prosiect PAR) Cofnodion: 15.0 Eitem
15 - Archwiliad Beirniadol o Un Risg Gorfforaethol neu Fater Cyfoes a Nodwyd –
System Adnoddau Dynol/Cyflogres (prosiect PAR) Eitem lafar (yn
cyfeirio at y diweddariad yn y Gofrestr o Risgiau Corfforaethol - eitem 14) Mae rhai manylion yn
absennol o’r cofnodion hyn am resymau cyfrinachedd masnachol 15.1 Cyflwynodd
Ed yr eitem hon, gan nodi nad oedd wedi bod yn bosibl cyflwyno adroddiad cau'r
prosiect gan fod rhai materion yn weddill, a oedd wedi cael eu huwchgyfeirio. 15.2 Rhannodd
Bedwyr Jones ddiweddariad gyda'r Pwyllgor yn absenoldeb Eve. Roedd prif
elfennau'r system wedi mynd yn fyw mewn pryd ar gyfer cyflogres mis Ionawr.
Canmolodd ymdrechion tîm y prosiect wrth fynd i'r afael â'r heriau a wynebwyd
yn ystod y prosiect, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â newidiadau personél.
Roedd yr amserlen ar gyfer Cam 1 y prosiect wedi'i hymestyn hyd nes bod y
broblem rhyngwyneb pensiwn (MyCSP) wedi'i datrys. Pan fydd hyn wedi'i ddatrys,
gellid llunio adroddiad cloi a gwersi a ddysgwyd ar gyfer Cam 1 y prosiect. 15.3 O
ran adrodd ar gynnydd, cyflwynodd Bedwyr ddiweddariadau misol ar y risgiau a'r
problemau i'r bwrdd prosiect ac i'r Bwrdd Gweithredol. Ymhelaethodd ar y
materion a’r risgiau byw i'r Pwyllgor. 15.4 Amlinellodd
Bedwyr hefyd y cynnydd ar ddatblygu prif elfennau Cam 2 y prosiect. Roedd y
rhain yn cynnwys cofnodi oriau hyblyg, cyfeiriadur rhyngweithiol, adrodd ar
berfformiad (adolygiadau PDR), system rheoli dysgu, archifo data ac adroddiadau
rheoli. 15.5 Ceisiodd
y Pwyllgor sicrwydd ar reolaeth o'r effaith ar lesiant staff sy'n ymwneud â'r
prosiect hwn a'r amserlen estynedig, a chanmolodd ymdrechion y tîm. Cytunodd
swyddogion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynnydd, a rheoli
risgiau allweddol. 15.6 Pwysleisiodd
y Cadeirydd bwysigrwydd datrys y problemau pensiynau (MyCSP) cyn y dyddiad cau
ym mis Gorffennaf er mwyn osgoi cosbau ariannol i'r Comisiwn. |
|
|
Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth Cofnodion: 16.0 Eitem
16 – Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth ARAC (25-02) Papur 15
- Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth 16.1 Nododd
y Pwyllgor yr adroddiad, a oedd yn rhan bwysig o'r fframwaith sicrwydd, a
diolchodd i Matthew Richards am y sicrwydd a ddarparwyd ganddo. |
|
|
Crynodeb o'r ymadawiadau Cofnodion: 17.0 Eitem
17 – Crynodeb o'r ymadawiadau ARAC (25-02) Papur 16
– Crynodeb o’r ymadawiadau 17.1 Nodwyd
tri achos o ymadael â gweithdrefnau caffael arferol. Gofynnodd aelodau'r
Pwyllgor am fanylion pellach am y prosiect archifo, a chytunodd Matthew i'w
rhannu. Camau i’w cymryd Matthew Richards i roi'r wybodaeth ddiweddaraf
am y prosiect archifo. |
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu Cofnodion: Y Pwyllgor Busnes 18.0 Eitem
18 - Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu ARAC (25-02) Papur 17 - Adroddiad Blynyddol drafft ARAC ar gyfer 2024-25 18.1 Diolchodd
y Cadeirydd i Kathryn Hughes am ei gwaith ar Adroddiad Blynyddol drafft y
Pwyllgor i'r Comisiwn. Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gwblhau y tu
allan i'r cyfarfod, ac y byddai'r amserlen ar gyfer derbyn sylwadau yn cael ei
dosbarthu. |
|
|
Cylch gorchwyl Cofnodion: 19.0 Eitem
19 – Cylch gorchwyl ARAC (25-02) Papur 18
- Cylch gorchwyl wedi’i ddiweddaru - Ebrill 2025 19.1 Nododd
y Pwyllgor y cylch gorchwyl a oedd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r newid yn y
derminoleg i Brif Weithredwr Archwilio a fyddai'n cael ei gyhoeddi ar y wefan. |
|
|
Y flaenraglen waith Cofnodion: 20. Eitem
20 - Y flaenraglen waith ARAC (25-02) Papur 19
- Y flaenraglen waith 20.1 Roedd
y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol wedi cael ei thrafod yn fanwl yng nghyfarfod
mis Chwefror ac nid awgrymwyd unrhyw newidiadau pellach. |
|
|
Rhaglen y Seithfed Senedd Cofnodion: Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion
corfforaethol 21.0 Eitem
21 - Rhaglen y Seithfed Senedd ARAC (25-02) Papur 20
– Rhagdybiaethau Cynllunio Cyffredin Corfforaethol y Seithfed Senedd ARAC (25-02) Papur 21
– Amserlen Rhaglen y Seithfed Senedd - eitem lafar 21.1 Croesawodd
y Cadeirydd Anna Daniel i’r cyfarfod. Cyflwynodd Anna y rhagdybiaethau
cynllunio corfforaethol a'r amserlenni wedi'u diweddaru ar gyfer Rhaglen y
Seithfed Senedd. Amlinellodd hefyd yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal ar hyn o
bryd gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol mewn perthynas ag adolygiad y Penderfyniad
ar gyfer cyflog a graddio staff yr Aelodau. Adroddodd, yn dilyn ymarfer
recriwtio diweddar, fod y Bwrdd bellach yn ôl i'w nifer llawn o bum aelod. 21.2 Eglurodd
Arwyn fod cyfathrebu allanol yn cael ei gynyddu i baratoi ar gyfer y newidiadau
yn y system etholiadol. Roedd y rhaglen yn cynnwys mynychu sioeau amaethyddol
rhanbarthol a chyfres o ddigwyddiadau mewn neuaddau tref. 21.3 Eglurodd
Anna fod gwaith ar y gweill i ystyried goblygiadau adroddiad Pwyllgor Senedd y
Dyfodol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a oedd yn darparu rhai myfyrdodau defnyddiol
yn ogystal ag argymhellion ar gyfer y Pwyllgor Busnes a Fforwm y Cadeiryddion.
Roedd tîm Cymorth Busnes yr Aelodau hefyd yn paratoi canllawiau ar rai materion
yn ymwneud yn benodol â staff cymorth yr Aelodau a allai wynebu diswyddiadau ar
ddiwedd y Senedd hon. Amlinellodd Anna hefyd ddechrau gwaith ar archwiliad
sensitif i rywedd o’r Senedd, a fyddai'n cael ei gynghori gan arbenigwr
byd-eang mewnol ar y pwnc, a byddai cynigion yn cael eu cyflwyno i'r Comisiwn. 21.4 Canolbwyntiodd
trafodaeth bellach ar gapasiti ystafelloedd pwyllgora, y ddarpariaeth ar gyfer
y Gymraeg, a hyfforddiant cydraddoldeb. 21.5 Cadarnhaodd
swyddogion nad oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer ystafelloedd pwyllgora
ychwanegol gan ei bod yn bosibl cynnal pum cyfarfod pwyllgor ar yr un pryd,
gyda rhai pwyllgorau'n cyfarfod yn rhithwir. Roedd ystafell bwyllgora
ychwanegol ar gael hefyd at ddibenion parhad busnes, rhag ofn y bydd problemau
technegol neu aflonyddwch. 21.6 Ar
ddechrau pob tymor yn y Senedd, adolygwyd ac adnewyddwyd y Cynllun Ieithoedd
Swyddogol. Byddai'r Comisiynwyr newydd yn gyfrifol am osod yr uchelgais ar
gyfer y Seithfed Senedd. Roedd Arwyn yn hapus i gynnwys Menai mewn trafodaethau
yn y dyfodol. 21.7 Cododd
Uzo Iwobi gwestiwn penodol ynghylch y gwaith cydraddoldeb cyffredinol, a sut y
gallai hyn adlewyrchu pryderon yn y gymuned ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant.
Mewn ymateb, rhoddodd Anna sicrwydd y byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan
o'r rhaglen hyfforddi ar gyfer y Seithfed Senedd, nad oedd wedi'i chwblhau eto,
a chynigiodd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor. 21.8 Fel
y gofynnwyd gan y Cadeirydd, rhoddodd Anna ddiweddariad ar gapasiti y tîm i
gefnogi'r Rhaglen ehangach. Rhoddodd sicrwydd bod adnoddau’n parhau i gael eu
defnyddio’n briodol, gan gynnwys y rhai a ryddhawyd nawr bod Pwyllgor Senedd y
Dyfodol wedi cyhoeddi ei adroddiad. 21.9 Croesawodd
Mark Egan ei gyfranogiad yn y gwaith cynllunio senario a ddisgrifiodd fel un
trawiadol, proffesiynol a soffistigedig, ac y gallai'r Pwyllgor gymryd sicrwydd
ohono. Byddai maint y gwaith hwn yn rhoi'r Comisiwn yn y sefyllfa orau bosibl. 21.10 Mewn
ymateb i gwestiynau ynghylch goblygiadau'r gwaith hwn ar gyfer y gyllideb,
rhoddodd Ed sicrwydd bod darn sylweddol o waith ar y gweill i adolygu
cynlluniau gwasanaeth yn erbyn y rhagdybiaethau cyffredin ac y byddai unrhyw
effaith ar gyllidebau y tu allan i'r rhai a gafwyd eisoes yn cael ei
huwchgyfeirio'n briodol. Camau i’w cymryd Anna Daniel i rannu manylion am y ddarpariaeth
hyfforddi fel rhan o'r broses gynefino i’r Aelodau newydd, yn benodol ar gyfer
Amrywiaeth a Chynhwysiant. |
|
|
Ways of Working - Corporate update Cofnodion: 22.0 Eitem
22 – Ffyrdd o Weithio Eitem lafar - mae rhai
manylion yn absennol o’r cofnodion hyn am resymau cyfrinachedd masnachol 22.1 Adroddodd
Ed ar y cynnydd allweddol a ganlyn ar gyfer y pedwar prosiect o dan y rhaglen
Ffyrdd o Weithio: - Y
Pierhead - roedd swyddogion yn adolygu defnyddiau posibl o'r adeilad yn y
dyfodol. - Tŷ Hywel – roedd y gwaith o
greu swyddfeydd newydd i’r Aelodau o flaen yr amserlen ac roedd adleoli
swyddfeydd Llywodraeth Cymru o fewn Tŷ Hywel ar y gweill. - Y Siambr – aeth y broses o
symud y trafodion ffurfiol o Siambr y Senedd i Siambr Hywel o fewn Tŷ
Hywel yn dda, gyda rhai problemau cymharol fach a oedd yn cael sylw. Gan y
byddai cyfarfodydd pwyllgor yn parhau yn y Senedd, byddai sŵn a tharfu yn
cael eu cadw i'r lleiafswm tra byddai busnes yn mynd rhagddo. - Bae 32 - roedd y broses
gaffael yn mynd rhagddi fel y disgwyliwyd, ac roedd deialog yn parhau â
chyflenwyr posibl. Gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad yn dilyn y dyddiad cau
ar gyfer cyflwyno cynigion dylunio, sef 6 Mehefin. Unrhyw fater arall 23.0 Eitem
23 – Unrhyw fater arall Eitem lafar 23.1 Ni
chodwyd unrhyw fater arall. Bu Clare Thomas, Archwilio Cymru yn bresennol
mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i
ben. Nid oedd unrhyw swyddogion eraill y Comisiwn yn bresennol ac ni chymerwyd
cofnodion. Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 23
Mehefin 2025. |
|
|
Addendum - IA report |
PDF 54 KB