Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Buddug Saer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.0    Eitem 1 - Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

1.1    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd ymddiheuriadau gan Aled Eirug, Cynghorydd Annibynnol, Anthony Veale, Archwilio Cymru, Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Darlledu ac Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol.

1.2    Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Camau gweithredu a materion yn codi

Cofnodion:

2.0    Eitem 2 – Camau gweithredu a materion yn codi

ARAC (24-05) Papur 1 – Crynodeb o'r camau gweithredu

2.1    Cafodd cofnodion cyfarfodydd Mehefin a Gorffennaf eu cymeradwyo y tu allan i'r pwyllgor a'u cyhoeddi ar y wefan.

2.2    Cafodd y camau gweithredu a drefnwyd eu diweddaru a chafodd pob cam gweithredu a oedd yn weddill ei gwblhau.

 

3.

Cynllun Archwilio Mewnol 2024-25 ac adolygiad o gynnydd gweithgarwch Archwilio Mewnol

Cofnodion:

Archwilio Mewnol

3.0    Eitem 3 – Cynllun Archwilio Mewnol 2024-25 ac adolygiad o gynnydd gweithgarwch Archwilio Mewnol

ARAC (24-05) Papur 2 - Cynllun Archwilio Mewnol 2024-25 ac Adroddiad Cynnydd

 

3.1    Croesawodd y Cadeirydd Lee Glover, Pennaeth Archwilio Mewnol, i’r cyfarfod. Cyfeiriodd Lee at yr Adroddiad Cynnydd ar Archwilio Mewnol a oedd yn cynnwys Cynllun Archwilio Mewnol 2024-25 a diweddariad ar gynnydd. Nododd fod yr archwiliad o Dreuliau Aelodau wedi cael ei gwblhau, ac y byddai’r adroddiad yn cael ei gynnwys o dan eitem 4. Roedd briff archwilio wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer y Prawf Iechyd Gwrth-dwyll ac roedd yr archwiliad Caffael i Dalu ar fin cychwyn.

3.2    Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch amserlen yr archwiliadau yn y cynllun, dywedodd Lee fod y dyddiadau fel yr oeddent wedi’u cynnig gan swyddogion a rhoddodd sicrwydd bod adnoddau o fewn Validera wedi cael eu hamserlennu.

3.3    Diolchodd y Cadeirydd i Lee am y diweddariad hwn ac anogodd bawb a fydd yn ymwneud ag unrhyw archwiliadau yn y dyfodol i'w prosesu cyn gynted â phosibl. Nododd bwysigrwydd Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i roi'r sicrwydd angenrheidiol i'r Comisiwn.

 

4.

Adroddiad Archwilio Mewnol

Cofnodion:

4.0    Eitem 4 – Adroddiad Archwilio Mewnol

ARAC (24-05) Papur 3 – Adroddiad Archwilio Mewnol - Treuliau Aelodau - 2024

 

4.1    Cyflwynodd Lee yr adroddiad archwilio ar Dreuliau Aelodau a oedd wedi cael lefel sicrwydd 'Sylweddol'. Amlygodd yr adroddiad feysydd o arfer da o ran rheolaethau, a thri maes bach ar gyfer gwella.

4.2    Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad hwn a'r lefel uchel o hyder a ddangoswyd yn y tîm Cymorth Busnes i Aelodau (MBS). Roedd yn amlwg bod y tîm yn dilyn prosesau penodol ac yn barod i herio'r Aelodau a'u swyddfeydd pan fyddai angen.

4.3    Disgrifiodd Arwyn y prosesau sydd ar waith i sicrhau cysondeb a gwelliant parhaus. Cytunodd hefyd i rannu rhywfaint o wybodaeth bellach â’r Pwyllgor mewn perthynas â nifer yr hawliadau treuliau a heriwyd gan dîm MBS.

4.4    Atgoffodd Manon y Pwyllgor am y broses apelio ffurfiol sydd ar waith ar gyfer hawliadau a wrthodwyd. Ar ôl i apêl ddod i law, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol y cyngor angenrheidiol iddi, fel y Swyddog Cyfrifyddu, a chyhoeddwyd y canlyniad yn ddienw ar y wefan.

4.5    Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a nododd y Cadeirydd bwysigrwydd cael sicrwydd sylweddol yn y maes hwn.

Camau i’w cymryd

Arwyn i ddarparu rhagor o wybodaeth am nifer yr hawliadau treuliau yr oedd angen craffu ychwanegol arnynt.

 

5.

Diweddariad Archwilio Cymru

Cofnodion:

Archwilio Allanol

5.0    Eitem 5 – Diweddariad Archwilio Cymru

ARAC (24-05) Papur 4 – Adroddiad Diweddaru Archwilio Cymru - Tachwedd 2024

 

5.1    Croesawodd y Cadeirydd Clare James i’r cyfarfod. Rhoddodd Clare grynodeb o archwiliad 2023-24 a dywedodd fod y dull archwilio newydd wedi sicrhau rhai arbedion effeithlonrwydd ac, o’r herwydd, y byddai’r ffi derfynol 12% yn llai na’r amcangyfrif.

5.2    Derbyniodd y Comisiwn bob un o'r pum argymhelliad yn yr adroddiad archwilio, ond nodwyd nad oedd yr un ohonynt yn arwyddocaol ei natur a;u bod yn ymwneud â gwelliannau gwerth eu hystyried. 

5.3    Roedd gwaith cynllunio archwiliad 2024-25 yn mynd rhagddo ac roedd Archwilio Cymru yn gweithio ar amserlen debyg i un 2023-24. Roedd rhaglen ehangach yr Archwilydd Cyffredinol o astudiaethau gwerth am arian cenedlaethol wedi'i chynnwys yn y papur.

5.4    Diolchodd y Pwyllgor i Clare am ei diweddariad a'r wybodaeth ychwanegol a gynhwyswyd yn yr adroddiad.

 

6.

Diweddariad ar seiberddiogelwch

Cofnodion:

Llywodraethu'r Comisiwn

6.0    Eitem 6 – Diweddariad ar seiberddiogelwch

ARAC (24-05) Papur 5 - Adroddiad Archwilio Mewnol - Seiberddiogelwch - 2024

         ARAC (24-05) Papur 6 - Adroddiad sicrwydd Seiberddiogelwch

         ARAC (24-05) Papur 7 – Diogelwch y Gadwyn Gyflenwi

 

6.1    Cyflwynodd Lee Glover yr Adroddiad Archwilio Mewnol ar Seiberddiogelwch ac, y rhoddwyd ynddo lefel sicrwydd ‘Digonol' a 'Da' yn gyffredinol o ran cymhwyso rheolaethau. Cytunodd y rheolwyr ar dri cham gweithredu: roedd un o’r rhain yn ymwneud â rhoi prawf ar ddealltwriaeth defnyddwyr o ofynion seiberddiogelwch yn dilyn cyfnod cynefino a hyfforddiant.  

6.2    Roedd Jamie Hancock ar hyn o bryd yn ymwneud ag ymarfer caffael ar gyfer Llwyfan Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Defnyddwyr, a oedd i'w gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd. O'r arddangosiadau yr oedd wedi'u gweld, byddai'r hyfforddiant newydd yn rhyngweithiol ac yn llawn gwybodaeth.

6.3    Trafodwyd hefyd gyfathrebu, o ran y defnydd ohono a’r dulliau a ffafrir gan Aelodau, a nododd Lee y gwaith sy'n cael ei wneud i hybu’r dulliau mwyaf diogel ymhlith staff ac Aelodau.

6.4    Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor fod y prosesau a’r technolegau sydd ar waith ar gyfer rheoli dyfeisiau symudol a gollir yn ddigonol, yn enwedig gan fod Aelodau o’r Senedd yn rheolwyr data yn eu rhinwedd eu hunain. 

6.5    Cyflwynodd Jamie Hancock a Tim Bernat yr Adroddiad Sicrwydd Seiberddiogelwch. Disgrifiodd Tim y dirwedd fygythiadau. Yn ystod 2024, aeth ymosodiadau seiber yn fwy niferus ac yn fwy soffistigedig. Roedd data mewnol, yn ogystal â data o’r diwydiant oddi wrth Verizon a Microsoft, yn nodi cynnydd nodedig yn y risg a berir gan we-rwydo, meddalwedd wystlo, a gwendidau o ran y gadwyn gyflenwi. Mae’r tueddiadau hyn yn amlygu ymhellach bwysigrwydd ymdrechion parhaus y tîm TGCh i gynnal a gwella seiberddiogelwch a diogelu asedau digidol.

6.6    Mewn ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, disgrifiodd swyddogion y gwaith sy'n cael ei wneud mewn meysydd fel: mynd i'r afael â bygythiadau meddalwedd wystlo; cofnodi ac adrodd ar ddigwyddiadau (cafodd fersiwn lefel uchel ei chynnwys yn yr adroddiad sicrwydd); cynnal cynlluniau parhad busnes cadarn, a chynlluniau wrth gefn ac adfer yn sgil trychineb; a hyfforddiant, cyfathrebu ac ymwybyddiaeth, gan gynnwys y cynnig parhaus o sesiynau briffio pwrpasol i Aelodau a'u staff. Er gwaethaf y dirwedd fygythiadau, rhoddodd Tim sicrwydd i’r Pwyllgor fod y Senedd, o safbwynt hylendid technegol a seiberddiogelwch, mewn sefyllfa dda, ond pwysleisiodd fod y risg yn parhau’n uchel.

6.7    Cytunodd swyddogion â’r Pwyllgor y byddai tymor Senedd newydd yn gyfle delfrydol i ystyried diwygio gweithdrefnau a chanllawiau cyn y Seithfed Senedd.

6.8    Nododd y Pwyllgor yr adroddiad sicrwydd a'r papur ar y gadwyn gyflenwi a diolchodd i bawb a fu'n gysylltiedig am eu gwaith yn y maes hwn. 6.9      Roedd y Cadeirydd o’r farn bod yr adroddiad sicrwydd yn addas i'r diben ond croesawodd adborth gan aelodau eraill y Pwyllgor. Cytunwyd y byddai trafodaeth yn canolbwyntio ar y Fframwaith Asesu Seiber (CAF) yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod ym mis Chwefror. 

Cam i’w gymryd

Trafod y Fframwaith Asesu Seiber (CAF) yn y cyfarfod ym mis Chwefror.

 

7.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

Cofnodion:

7.0    Eitem 7 – Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

Diweddariad llafar

 

7.1    Gwahoddodd y Cadeirydd Simon Hart i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb.

7.2    Cadarnhaodd Simon fod y gyllideb atodol gyntaf wedi cael ei chymeradwyo. Roedd y gyllideb hon yn cynnwys cynnydd net yng nghyfraniadau pensiwn y cyflogwr yn ogystal â’r cynnig cyflog ôl-ddyddiedig ar gyfer bandiau cyflog is. Bydd y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael effaith sylweddol ar gyllideb 2025-26, ond bydd y cynnydd yng nghyllideb ganlyniadol ac atodol Barnett yn talu’r gost ychwanegol. 

7.3    Gyda chynnydd sylweddol yng nghyllideb 2025-26, tynnodd Simon sylw at bedwar maes allweddol o wariant wedi’i neilltuo yn ymwneud â newid trawsnewidiol:

7.4    Diwygio'r Senedd;

-        Bae 32;

-        Gwaith ar Dŷ Hywel; a

-        chynnydd yng nghyflog staff y Comisiwn.

7.5    Roedd y Comisiynydd, Hefin David, ynghyd â swyddogion y Senedd wedi trafod yr ymrwymiadau hyn yn y Pwyllgor Cyllid ym mis Hydref, ac roedd holl argymhellion y Pwyllgor wedi cael eu derbyn. Mewn perthynas ag arbedion, nodwyd y bwriad i ystyried defnyddio datchwyddwr Cynnyrch Mewnwladol Crynswth cyfartalog dros dair blynedd fel mecanwaith ar gyfer amcangyfrif cyllidebau'r dyfodol.

7.6    Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi gofyn am i gynllun gael ei ddatblygu i nodi sut oedd y Comisiwn yn bwriadu ymgysylltu ag Aelodau ynghylch ymrwymiadau cyllidebol. 

7.7    Manteisiodd Hefin ar y cyfle hwn i ddiolch i'r tîm Cyllid am ansawdd y cyngor a'r briffiadau manwl a gawsai; roedd yn hyderus y byddai'r gyllideb yn cael ei chymeradwyo yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol.

Camau i’w cymryd

Cynnwys cynllun ymgysylltu yn yr eitem i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb yng nghyfarfod mis Chwefror

 

8.

Adroddiad Diweddaru Llywodraethu

Cofnodion:

8.0    Eitem 8 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu (i gynnwys diweddariad ar strwythurau llywodraethu rhaglenni a rhannu gwybodaeth ag ARAC)

ARAC (24-05) Papur 8 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu – Tachwedd 2024

 

8.1    Gwahoddodd y Cadeirydd Phil Boshier i gyflwyno'r adroddiad ar gynnydd yn erbyn meysydd llywodraethu. Atgoffodd Phil y Pwyllgor y byddai Dangosfyrddau Senedd 26 ar gael yn llyfrgell aelodau ARAC bob pythefnos. 8.2         Tynnodd sylw hefyd at y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu prosesau casglu sicrwydd ar lefel gorfforaethol, gan ystyried adborth gan Gynghorwyr Annibynnol, a datblygu datganiadau awydd risg y Comisiwn.

8.3    Amlinellodd hefyd y cylch cynllunio blynyddol integredig sy'n cyd-fynd â gwaith cynllunio'r gyllideb a datblygiad Strategaeth Bortffolio a Strategaeth Newid Senedd 26.

8.4    Nododd y Pwyllgor y gwelliannau parhaus yn y trefniadau llywodraethu ac, mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar sut y byddai’r trefniadau llywodraethu hyn yn gweithio’n ymarferol, rhoddodd Phil ragor o fanylion a sicrwydd tra’n cydnabod y newid diwylliannol sydd ei angen o ran cynllunio a blaenoriaethu gwasanaethau.

 

9.

Myfyrio ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol

Cofnodion:

9.0    Eitem 9 – Myfyrio ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol

ARAC (24-05) Papur 9 – Dangosyddion Perfformiad Allweddol

 

9.1    Gwahoddodd y Cadeirydd Menai Owen-Jones a Phil Boshier i gyflwyno'r eitem hon. Crynhodd Phil y papur a gyflwynwyd a oedd yn dangos hanes datblygiad y Dangosyddion cyfredol a’r cynllun i adolygu’r rhain yng ngoleuni Strategaeth y Comisiwn ar gyfer y Seithfed Senedd, yn 2026.

9.2    Trafododd y Pwyllgor y broses a'r fframwaith ar gyfer adolygu'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a'i rôl yn hyn o beth. Nododd aelodau’r Pwyllgor hefyd yr angen i sicrhau bod y Comisiwn yn mesur y gwasanaethau a ddarperir i Aelodau o’r Senedd a’r defnydd o wybodaeth a gesglir drwy arolygon, er enghraifft.

9.3    Eglurodd Manon fod y Dangosyddion presennol yn cynnwys cymysgedd o fesurau craidd ac ymestynnol, y byddai rhai ohonynt yn cymryd amser i'w cyflawni. Amlygodd bwysigrwydd cadw set graidd o fesurau i ganiatáu ar gyfer cymariaethau blwyddyn ar ôl blwyddyn a phwysigrwydd y naratif sy'n cefnogi ac yn cyd-destunoli'r mesurau yn yr Adroddiad Blynyddol. Ychwanegodd Phil fod yna hefyd gyfres o fesurau mewnol yn cael eu defnyddio ar lefel gwasanaeth.

9.4    Nodwyd hefyd fod angen gofal ynghylch dibynnu ar ganlyniadau arolygon staff ac Aelodau, yn enwedig os nad oedd digon o ymgysylltu â'r arolygon.

9.5    Cafodd y Pwyllgor y papur a'r drafodaeth yn ddefnyddiol a nodwyd byddai'n trafod Dangosyddion Perfformiad Allweddol ymhellach fel rhan o'i adolygiad o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon nesaf y Comisiwn.

 

10.

Adrodd ar achosion o dorri diogelwch data

Cofnodion:

10.0  Eitem 10 – Adrodd ar achosion o dorri diogelwch data

ARAC (24-05) Papur 10 – Torri Diogelwch Data

 

10.1  Soniodd Matthew Richards am bum achos o dorri diogelwch data, ond nid oedd yr un ohonynt yn croesi’r trothwy ar gyfer cyflwyno adroddiad i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

10.2  Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad hwn a nododd na ellid byth ddileu gwall dynol yn llwyr.

 

11.

Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

11.0  Eitem 11 – Risgiau Corfforaethol

ARAC (24-05) Papur 11 - Risgiau corfforaethol

ARAC (24-05) Papur 11 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol

         ARAC (24-05) Papur 11 – Atodiad B – Risgiau corfforaethol a nodwyd

 

11.1  Tynnodd Ed Williams sylw at y ffaith bod y sgôr risg ar gyfer risg Capasiti a Galluogrwydd Corfforaethol (HR-R-170) wedi newid o Uchel i Ganolig, yn rhannol o ganlyniad i ddatblygiad Cynllun Gweithlu fel rhan o'r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig.

11.2  Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf yn y Gofrestr.

 

12.

Archwiliad beirniadol o un risg gorfforaethol neu bwnc amserol a nodwyd - EFM-R-192 - Methiant Prosiect Bae 2032

Cofnodion:

12.0  Eitem 12 – Archwiliad beirniadol o un risg gorfforaethol neu bwnc amserol a nodwyd – EFM-R-192 - Methiant Prosiect Bae 2032

Diweddariad llafar

 

12.1  Gwahoddodd y Cadeirydd Ed Williams i roi diweddariad ar reoli risgiau yn ymwneud â phrosiect Bae 2032.

12.2  Cyfeiriodd Ed at y manylion yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol (papur 11) a'r Adroddiad Adolygiad Gateway a gafodd ei ddosbarthu cyn y cyfarfod. Amlygodd y ffaith bod y sgôr Ambr i Wyrdd a'r argymhelliad i symud i'r cam nesaf. Roedd yr adolygiad wedi bod yn broses iteraidd gyda llawer o drafod ag aelodau annibynnol y panel a chrynhoi ar ddiwedd pob dydd. Roedd chwe argymhelliad, a thrafodwyd pob un ohonynt â’r Dirprwy Uwch-swyddog Cyfrifol ac nid oedd yr un ohonynt yn syndod mawr. Byddai'r rhain yn cael eu datblygu gyda ffocws uniongyrchol ar adnoddau a'r cynllun caffael, gan gynnwys datblygu meini prawf gwerthuso.

12.3  Cydnabu aelodau'r Pwyllgor faint y prosiect a diolchwyd i Ed am rannu'r adroddiad mewn amser real, a oedd yn dangos tryloywder da. Gwnaethant hefyd groesawu'r sicrwydd y byddai’r prosiect ar y trywydd iawn wrth fynd rhagddo.

12.4  Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor am y sefyllfa bresennol a’r camau nesaf, esboniodd Ed y broses a’r amserlen ar gyfer datblygu’r Achos Busnes Amlinellol i hwyluso ymgysylltu â’r farchnad, datblygu meini prawf gwerthuso, a’r cyngor cyfreithiol sydd ar waith i gefnogi hyn. O ran adnoddau, roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r timau mewnol ac allanol fyddai eu hangen i gyflawni'r prosiect, a'r posibilrwydd o benodi cyfarwyddwr prosiect i oruchwylio'r gwaith.

12.5  Gwnaeth y Pwyllgor hefyd drafod y risgiau gwleidyddol yn sgil Etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ym mis Mai 2026. Disgrifiodd Ed y gwaith sy’n cael ei wneud i baratoi ar gyfer gwahanol senarios a nododd mai’r Comisiwn presennol fyddai’n gwneud y penderfyniadau, gyda rhai penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud yn hydref 2025.

12.6  Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan aelodau’r Pwyllgor, rhoddodd Ed a Simon sicrwydd ynghylch ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y lefelau uchaf ac ar weithrediad ac effeithiolrwydd Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd. Cyfeiriwyd hefyd at y papurau briffio technegol a gyflwynwyd i Bwyllgor Cyllid y Senedd.

12.7  Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y diweddariadau hyn ac awgrymodd sesiwn friffio bellach gyda'r tîm integredig arfaethedig i ymdrin â chynnydd, materion sy’n codi a gweithredu argymhellion yr adolygiad Gateway.

12.8  Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y byddai gwybodaeth yn ymwneud ag Etholiadau’r Senedd yn cael ei rhannu â’r Pwyllgor pan fyddai ar gael. Dywedodd Arwyn y byddai cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu yn mynd yn fyw yn 2025 a bod Cwestiynau Cyffredin am Etholiadau eisoes ar gael ar y wefan.

Camau i’w cymryd

Sesiwn friffio gyda'r Cyfarwyddwr Adnoddau, cyfarwyddwr y prosiect a swyddogion perthnasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ARAC ar y materion a amlygwyd yn yr adolygiad Gateway

 

13.

Crynodeb o'r Ymadawiadau a dadansoddiad o'r tueddiadau o ran pob ymadawiad oddi wrth weithdrefnau caffael arferol dros y ddwy flynedd ddiwethaf

Cofnodion:

13.0  Eitem 13 – Crynodeb o’r Ymadawiadau a dadansoddiad o’r tueddiadau o ran pob ymadawiad oddi wrth weithdrefnau caffael arferol dros y ddwy flynedd ddiwethaf

ARAC (24-05) Papur 12 - Crynodeb o’r ymadawiadau a dadansoddiad o’r tueddiadau

ARAC (24-05) Papur 12 – Atodiad 1 Cymeradwyo ymadawiadau

 

13.1  Gwahoddodd y Cadeirydd Phil Boshier a Helena Grant i gyflwyno'r papur.

13.2  Tynnodd Phil sylw at y ffaith bod nifer yr ymadawiadau oherwydd tendrau sengl wedi bod yn gostwng yn gyffredinol yn y blynyddoedd diwethaf a bod y rhesymau dros y rhain, a’r rhesymau dros gael llai na thri chynnig, yn cael eu dogfennu yn y papur. Roedd y tîm Caffael wedi nodi nad oedd rhai cyflenwyr yn gallu bodloni ein gofynion yn ymwneud â seiberddiogelwch neu’r Gymraeg, er enghraifft, sy’n ofynion cwbl haearnaidd.

13.3  Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am y diweddariad defnyddiol hwn a oedd wedi rhoi sicrwydd ychwanegol.

 

14.

Canlyniadau arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor

Cofnodion:

Busnes Pwyllgor

14.0  Eitem 14 - Canlyniadau arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor

ARAC (24-05) Papur 13 - Adroddiad ar Arolwg Effeithlonrwydd ARAC 2024 – Adroddiad

 

14.1  Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm Clercio am eu gwaith ar ddadansoddi canlyniadau'r arolwg effeithiolrwydd diweddaraf.

14.2  Thema a godwyd yn flaenorol oedd y diffyg gwelededd neu eglurder o ran y berthynas a’r cyfathrebu rhwng ARAC a'r Comisiwn. Roedd y Cadeirydd yn hyderus y byddai gwelliannau yr oedd wedi sylwi arnynt gyda'r llif gwybodaeth dwyffordd yn parhau.

14.3  Roedd nifer fach o sylwadau yn ymwneud â lefel y mewnbwn i'r strategaethau ac i’r cynlluniau archwilio mewnol, ac o ran olrhain argymhellion archwilio mewnol. Nododd y Cadeirydd fod y rhyngweithio ynghylch archwilio mewnol bellach yn fwy ffurfiol nag o'r blaen, a'i fod wedi cael sicrwydd bod log o argymhellion yn cael ei reoli gan swyddogion.

14.4  Ar y cyfan, er gwaethaf maint bach y sampl, roedd y Cadeirydd yn fodlon ar yr ymatebion a diolchodd i bawb am gymryd rhan.

 

15.

Adolygu canllawiau Trysorlys EF/canllawiau eraill ar gyfer y Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg

Cofnodion:

15.0  Eitem 15 – Adolygu canllawiau Trysorlys EF/canllawiau eraill ar gyfer y Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg

ARAC (24-05) Papur 14 – Llawlyfr Trysorlys EF 2024

 

15.1  Nododd y Cadeirydd y papur fel y'i cyflwynwyd.

 

16.

Adolygiad o'r Cylch Gorchwyl

Cofnodion:

16.0  Eitem 16 - Adolygiad o’r Cylch Gorchwyl

ARAC (24-05) Papur 15 – Cylch Gorchwyl

16.1  Nododd y Cadeirydd y cylch gorchwyl heb unrhyw newidiadau i'w prosesu.

 

17.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

17.0  Eitem 17 – Blaenraglen Waith

ARAC (24-05) Papur 16 - Y Flaenraglen Waith

 

17.1  Nododd y Cadeirydd flaenraglen waith y Pwyllgor ac y byddai dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ar ôl Chwefror 2025, a oedd i'w halinio â'r amserlen ar gyfer archwilio'r cyfrifon, yn cael eu trefnu cyn gynted â phosibl.

 

18.

Prosiect Pobl a Thaliadau (System Adnoddau Dynol/y Gyflogres)

Cofnodion:

18.0  Eitem 18 – Prosiect Pobl a Thaliadau (System Adnoddau Dynol/y Gyflogres)

Diweddariad llafar

 

18.1  Diolchodd y Cadeirydd i Eve Jennings am y nodyn a ddarparwyd ganddi cyn y cyfarfod ac fe’i gwahoddodd hi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor.

18.2  Adroddodd Eve fod rhediadau cyfochrog gât cam 4 yn mynd rhagddynt yn dilyn profion defnyddioldeb i ddefnyddwyr, gyda'r cyntaf yn cael ei gymeradwyo fel llwyddiant. Roedd y broses o fudo, a sicrhau cywirdeb, data pensiynau MyCSP ar gyfer staff y Comisiwn ac Aelodau yn parhau.

18.3  Roedd y cyfathrebu â'r sefydliad wedi cynnwys cyflwyniadau mewn cyfarfodydd timau, wedi'u hategu gan negeseuon e-bost ac erthyglau ar dudalennau newyddion y fewnrwyd. Roedd amseriad y cyfathrebiadau yn hollbwysig gan fod angen i bob defnyddiwr lawrlwytho ffurflenni P60 a slipiau cyflog erbyn dyddiad penodol. Roedd yr adborth ar gyflwyniadau ar y system newydd wedi bod yn gadarnhaol iawn.

18.4  Roedd materion yn ymwneud â gallu dwyieithog y porth rheolwr yn dal i gael sylw ac roedd hyn yn golygu mai fersiwn Saesneg yn unig o'r rhan honno o'r canllawiau oedd wedi cael ei chwblhau. Hefyd, roedd risg y byddai’r dyddiad ar gyfer mynd yn fyw’n cael ei ohirio pe na bai'r materion hyn yn cael eu datrys, ond cafwyd sicrwydd gan swyddogion fod popeth posibl yn cael ei wneud i osgoi hyn. Roedd hyn yn cynnwys cyfeirio’r mater at Brif Weithredwr y cwmni cyflenwi a sicrwydd y byddai datrysiad ar gyfer swyddogaeth Gymraeg llawn yn cael ei ganfod.

18.5  Mewn ymateb i gwestiynau aelodau’r Pwyllgor ynghylch sicrhau ymwybyddiaeth o’r angen i bob defnyddiwr lawrlwytho ffurflenni P60 a slipiau cyflog, esboniodd Eve y byddai’r rhain yn cael eu lawrlwytho ar gyfer staff absennol a bod cyfathrebiadau yn cael eu hyrwyddo. Cadarnhaodd hefyd fod y rhan Hunanwasanaeth Cyflogeion o'r system wedi cael ei phrofi, a’i bod yn gwbl ddwyieithog ac yn barod i fynd yn fyw yn amodol ar rediadau cyfochrog llwyddiannus pellach.

18.6  Diolchodd y Cadeirydd i Eve ac Ed am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor a chydnabu waith caled pawb a fu'n ymwneud â'r prosiect. Cytunodd Eve i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw faterion a fyddai’n dod i'r amlwg.

 

19.

Dulliau o weithio

Cofnodion:

19.0  Eitem 19 – Ffyrdd o Weithio

Diweddariad llafar

 

19.1  Yn dilyn y drafodaeth o dan eitem 12, eglurodd Ed y cam nesaf o rannu â’r Comisiwn broflenni dylunio ar gyfer darparu lle i Aelodau ychwanegol o’r Senedd. Roedd cynllun y Siambr eisoes wedi cael ei gytuno ac roedd cynlluniau Tŷ Hywel dan drafodaeth.

 

20.

Y Seithfed Senedd

Cofnodion:

20.0  Eitem 20 – Y Seithfed Senedd

Diweddariad llafar

 

20.1  Yn absenoldeb Anna Daniel, rhoddodd Matthew Richards ddiweddariad byr ar baratoadau ar gyfer y Seithfed Senedd. Roedd Pwyllgor Senedd y Dyfodol wedi’i sefydlu ac roedd yn gweithio tuag at lunio adroddiad ym mis Mai 2025.

20.2  Roedd y Bwrdd Taliadau Annibynnol hefyd yn gweithio ar Benderfyniad newydd cyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

 

21.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Unrhyw fater arall

21.0  Eitem 21 – Unrhyw fater arall

 

21.1  Ni chodwyd unrhyw fater arall.

Bu Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau o’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Nid oedd unrhyw swyddogion eraill y Comisiwn yn bresennol ac ni chymerwyd cofnodion.

 

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 10 Chwefror 2025.