Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd ymddiheuriadau gan Sian Wilkins,
Cyfarwyddwr Dros Dro Busnes y Senedd, ac Uzo Iwobi, Cynghorydd Annibynnol. 1.2 Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
|
Cofnodion cyfarfod 3 Mai, camau gweithredu a materion yn codi Cofnodion: ARAC (24-03)
Papur 1 – Cofnodion Drafft 3 Mai 2024 ARAC (24-03)
Papur 2 – Crynodeb o'r camau gweithredu 2.1 Cymeradwywyd
cofnodion cyfarfod 3 Mai yn ffurfiol a byddent yn cael eu cyhoeddi ar y wefan
maes o law. 2.2 Nododd y
Pwyllgor y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol. |
|
|
Adroddiad gweithgarwch Archwilio Mewnol Cofnodion: ARAC (24-03)
Papur 3 – yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch Archwilio Mewnol 3.1 Croesawodd
y Cadeirydd Lee Glover, Pennaeth Archwilio Mewnol, i’r cyfarfod. Dywedodd Lee
wrth y Pwyllgor fod dau adroddiad archwilio mewnol (sef Llywodraethu Rhaglenni
a Phrosiectau, a Seiberddiogelwch) bellach gyda'r rheolwyr er mwyn ymateb
iddynt ac y byddent yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor cyn gynted ag y byddent ar
gael. 3.2 Byddai Lee
yn amserlennu’r gwaith archwilio i’w wneud yn ystod 2024-25, fel y nodir yn y
Strategaeth Archwilio Mewnol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod blaenorol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor, cadarnhaodd Lee a Kate fod yr
archwiliad Treuliau Aelodau rheolaidd wedi’i gynnwys yn rhaglen waith 2024-25,
a byddai’r adroddiad yn cael ei rannu â’r Pwyllgor fel mater o drefn. Cam i’w
gymryd -
Cynnwys adroddiad archwilio Llywodraethu
Rhaglenni a Phrosiectau fel eitem agenda ar gyfer y cyfarfod ar 8 Gorffennaf. |
|
|
Trafod y farn Archwilio Allanol (Adroddiad ISA 260) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 Cofnodion: ARAC (24-03)
Papur 4 – Adroddiad ISA 260 4.1 Cyflwynodd
Archwilio Cymru eu canfyddiadau o’r archwiliad o gyfrifon 2023-24 y Comisiwn a
chrynhoi’r materion sy’n weddill (ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn). Roedd un
mater heb ei ddatrys yn ymwneud ag oedi cyn i'r Comisiwn dderbyn y datgeliadau
pensiwn gofynnol gan MyCPS mewn perthynas â'r adroddiad tâl. Ceir rhagor o
fanylion am hyn o dan eitem 5. 4.2 Cynigiodd
Archwilio Cymru farn archwilio ‘gwir a theg’ diamod. Byddai geiriad yr
adroddiad archwilio terfynol yn dibynnu ar dderbyn y wybodaeth sy'n weddill
mewn perthynas â datgeliadau pensiwn. 4.3 Yna
esboniodd Anthony Veale y trothwy adrodd ar berthnasedd, cadarnhaodd nad oedd
unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro yn y cyfrifon, a chyfeiriodd at y
datganiadau a gywirwyd gan y rheolwyr. Crynhodd hefyd yr argymhellion a
gynhwyswyd yn yr adroddiad archwilio. Diolchodd i Kate a'r tîm Cyllid am eu
cymorth a'u cefnogaeth wrth ddod i gasgliadau'r archwiliad. 4.4 Yna
rhoddwyd cyfle i Kate Innes ymateb i adroddiad ISA 260. Roedd yn fodlon ar yr
adroddiad a'i argymhellion a fyddai'n cael eu gweithredu. Croesawodd drafodaeth
ehangach ar yr amserlenni a chynhyrchu’r cyfrifon a system i olrhain y broses
archwilio, a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Archwilio Cymru, a oedd yn fuddiol
iawn iddi. |
|
|
Trafod Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2023-24 y Comisiwn (i argymell llofnodi'r cyfrifon) Cofnodion: ARAC (24-03)
Papur 5 - ARA 2023-24 - papur blaen ARAC (24-03)
Papur 5 - Atodiad A – ARA 2023-24 5.1 Atgoffodd
Arwyn Jones y Pwyllgor na fu unrhyw newidiadau sylweddol i'r adroddiad ers
cyflwyno'r fersiwn drafft yn y chyfarfod ar 3 Mai. Disgrifiodd y broses o
fewnbwn a chlirio gan y Tîm Arwain a'r Bwrdd Gweithredol, a dywedodd fod yr
adroddiad ar y trywydd iawn i'w gymeradwyo yng nghyfarfod y Comisiwn ddydd Llun
17 Mehefin. 5.2 Awgrymodd
aelodau'r Pwyllgor fod angen eglurhad ar yr adran proffil risg i ddisgrifio
natur pob un o'r risgiau yn well. Awgrymwyd hefyd y dylid egluro'r heriau a
wynebir wrth weithredu'r taliad costau byw a drafodwyd mewn sesiwn graffu o'r
Pwyllgor Cyllid. 5.3 Yna,
edrychwyd ar y dangosyddion perfformiad allweddol. Llongyfarchodd aelodau'r
Pwyllgor y swyddogion ar y perfformiad rhagorol yn gyffredinol a ddangoswyd gan
y Dangosyddion Perfformiad Allweddol. 5.4 Mewn ymateb
i gwestiynau ynghylch ystadegau salwch staff, disgrifiodd Arwyn Jones a Leanne
Baker Strategaeth Llesiant y Comisiwn ac eglurodd fod is-grŵp o Dîm
Arwain wedi ei sefydlu i adolygu'r ystadegau, ynghyd â chanlyniadau'r arolwg staff diweddar. Byddai
hyn hefyd yn cael ei gynnwys mewn diwrnod cwrdd i ffwrdd gan y Tîm Arwain ar ddiwedd mis Mehefin. Disgrifiodd
Ed Williams hefyd sut roedd y tîm
Adnoddau Dynol yn gweithio gyda phob maes gwasanaeth i ddatblygu eu cynlluniau
lles. Roedd ymrwymiad llesiant gydag egwyddorion clir a siarter y cytunwyd arni
hefyd yn cael eu datblygu. 5.5 Cyflwynodd
Kate y papur eglurhaol a oedd yn canolbwyntio ar y cyfrifon a’r mater yn
ymwneud â’r oedi cyn derbyn gwybodaeth datgelu pensiynau gan MyCSP, fel y
cyfeirir ato o dan eitem 4. Roedd hwn yn fater i’r DU gyfan, yr oedd ei ddatrys
yn dibynnu ar gyfarwyddyd gan Drysorlys EF, ac roedd ymgynghoriad yn mynd
rhagddo. Amlinellodd Kate yr opsiynau posibl pe na bai cyfeiriad yn dod a/neu
os na dderbyniwyd y wybodaeth mewn pryd i osod yr Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon cyn dechrau toriad yr haf. Eglurodd effaith gohirio'r broses o osod y
cyfrifon tan dymor yr hydref y byddai angen ei drafod gyda PAPAC o ran amseriad
craffu. Croesawodd farn y Pwyllgor ar yr opsiynau a gyflwynwyd. 5.6 Nododd
Arwyn y bwriad i gyhoeddi Adroddiadau Blynyddol statudol eraill (Amrywiaeth a
Chynhwysiant, Ieithoedd Swyddogol a Chynaliadwyedd) ym mis Mehefin wrth iddynt
ddod ar gael. Cytunodd Manon a'r Pwyllgor fod hyn yn bwysig at ddibenion
craffu. 5.7 Nododd y
Cadeirydd fod y cyfrifon wedi'u llunio i foddhad Archwilio Cymru, swyddogion
a'r Pwyllgor. Crynhodd gytundeb y Pwyllgor i ohirio argymell i'r Swyddog
Cyfrifo lofnodi'r cyfrifon tan y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 8 Gorffennaf. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb Cofnodion: Eitem Lafar 6.1 Eglurodd
Kate, er bod cyllideb atodol y Comisiwn wedi’i chyflwyno, y byddai oedi cyn
cymeradwyo oherwydd na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu gosod eu cyllideb tan
yr hydref. Roedd hyn oherwydd nad oedd data rhagolygon economaidd Llywodraeth y
DU ar gael gan na fyddai ar gael tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol ar 4
Gorffennaf. Byddai hyn yn effeithio ar bob sefydliad yn y sector cyhoeddus.
Roedd oedi gyda'r gyllideb atodol yn golygu bod goblygiadau i'r Comisiwn a oedd
yn cynnwys y rhai yn ymwneud â thrafodaethau cyflog staff. 6.2 Cyfeiriodd
Hefin David, fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, at y gefnogaeth drawsbleidiol i’r
gyllideb atodol a nododd y byddai’r gyllideb ddrafft yn cael ei hystyried ym
mis Hydref. 6.3 Nododd y
Pwyllgor y diweddariad hwn a gofynnodd i Kate roi diweddariad pellach ar y
gyllideb atodol pan fyddai ar gael. Cam i’w
gymryd -
Kate i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y
gyllideb atodol pan fydd ar gael. |
|
|
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu Cofnodion: ARAC (24-03) Papur 6 – Diweddariad Llywodraethu 7.1 Cyflwynodd Phil Boshier yr adroddiad diweddaru
ar weithgarwch a gyflawnwyd gan y tîm Llywodraethu. Tynnodd sylw at y canlynol: - cwblhau gwaith ar y Fframwaith Sicrwydd, gyda'r
Datganiad Llywodraethu Blynyddol bellach wedi'i gynnwys yn Adroddiad Blynyddol
a Chyfrifon 2023-24; - y gwaith a wnaed gan y tîm Caffael, a nododd yr
hyfforddiant yr oeddent yn ei wneud ar y diwygiadau caffael sydd i ddod; - cynnydd gyda'r Fframwaith Cynllunio Strategol a
Rheoli Portffolio, gan nodi bod y Grŵp Rheoli Portffolio wedi argymell bod y Bwrdd
Gweithredol yn rhoi awdurdod i wario canran o'r Portffolio 24 prosiect
perthnasol a bod pob un wedi'i gymeradwyo; a - gweithredu argymhellion yr adroddiad Archwilio
Mewnol ar lywodraethu rhaglenni a phrosiectau sy'n ymwneud â'r rhaglen Ffyrdd o
Weithio. 7.2 Diolchodd y Pwyllgor i Phil am ei ddiweddariad
a byddai'n croesawu gweld y ddogfen Strategaeth Bortffolio pan fyddai ar
gael. |
|
|
Risgiau Corfforaethol Cofnodion: ARAC (24-03)
Papur 7 – Risgiau corfforaethol ARAC (24-03) Papur 7 – Atodiad A -
Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol ARAC (24-03)
Papur 7 – Atodiad B – Risgiau corfforaethol a nodwyd 8.1 Nododd y
Pwyllgor Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn a’r bwriad i ad-drefnu’r
risgiau ynghylch Diwygio’r Senedd. Roedd yr eitem hon yn canolbwyntio ar y risg
Seiber Ymosodiad (cyfeirnod ICT-R-64) a chroesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o
TGCh i gyflwyno diweddariad, a nododd gytundeb y byddai’r Adroddiad Sicrwydd
Seiberddiogelwch chwarterol yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis
Tachwedd. 8.2 Cododd y
swyddogion y pwyntiau canlynol: - Roedd y
sefyllfa bresennol o ran bygythiadau seiberddiogelwch yn newid o hyd ac roedd
sefydliadau’n fwy tebygol nag erioed o fod yn agored i ymosodiad. - Roedd y
ffocws ar wella rheolaethau yn barhaus i atal a chanfod ymosodiadau, yn enwedig
gan fod datblygiadau technolegol a digwyddiadau megis gwrthdaro ac etholiadau
yn gyffredin, yn ogystal â natur soffistigedig y tactegau a ddefnyddir gan
ymosodwyr. - Roedd y tîm
TGCh yn adolygu diweddariadau a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch
Genedlaethol ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau bord gron rhyng-seneddol i
rannu gwybodaeth am wendidau ac i ddeall yr hyn yr oedd deddfwrfeydd eraill yn
canolbwyntio arno. - Y mesurau
sy’n cael eu cymryd i annog mwy o bobl i fanteisio ar y dilysiad Aml-ffactor
(MFA) yn y rhaglen FiYw. 8.3 Croesawodd
y Pwyllgor y diweddariad hwn a chwestiynodd y risgiau cadwyn gyflenwi mewn
perthynas â chyflenwyr trydydd parti. 8.4 Nododd Mark
Neilson fod mesurau lliniaru ynghylch risg seiberddiogelwch wedi’u cynnwys yn y
cam negodi contract yn y broses gaffael, fel rhan o ofynion answyddogaethol.
Lle bo’n briodol ac yn gyraeddadwy, roedd hyn yn cynnwys gofyniad i
gydymffurfio â Cyber Essential Plus ac ardystiadau eraill. Am gyfnod contract
gyda chyflenwr, parhaodd y tîm Seiberddiogelwch i asesu cydymffurfiaeth â
safonau y cytunwyd arnynt. Cadarnhaodd Arwyn pa mor drylwyr oedd y tîm o ran
herio rhinweddau seiberddiogelwch cyflenwyr i liniaru’r risgiau. Cam i’w
gymryd -
Cynnwys manylion am ddiogelwch cadwyn gyflenwi
trydydd parti yn yr Adroddiad Sicrwydd Seiberddiogelwch ac ar yr agenda ar
gyfer cyfarfod mis Tachwedd. |
|
|
Crynodeb o'r ymadawiadau Cofnodion: ARAC (24-03)
Papur 8 – Crynodeb o ymadawiadau 9.1 Nododd y
Pwyllgor ddau achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol. |
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor ar gyfer 2023-24 i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu Cofnodion: ARAC (24-03)
Papur 9 – Adroddiad Blynyddol ARAC drafft – papur eglurhaol ARAC (24-03)
Papur 9 – Atodiad A – Adroddiad Blynyddol ARAC drafft 2023-24 10.1 Mynegodd y
Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor eu diolch i'r tîm Clercio am lunio drafft mor
gynhwysfawr o Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor er mwyn eu hadolygu. Amlinellodd y
Cadeirydd y negeseuon allweddol a ganlyn yr oedd yn bwriadu eu cyfleu i’r
Comisiwn pan fydd yn cyflwyno’r adroddiad ddydd Llun 15 Gorffennaf: - cynnydd
sylweddol ar gyllidebau a fframweithiau ariannol; - methodoleg
rheoli rhaglen a phrosiect yn cael ei mabwysiadu ar gyfer y ddwy brif raglen
drawsnewid; - yr adolygiad
anffurfiol o'r Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu; - newidiadau
i'r trefniadau llywodraethu mewnol; - cynnydd o ran
polisïau a gweithdrefnau Urddas a Pharch.
10.2 Cytunodd
aelodau'r Pwyllgor â'r negeseuon allweddol hyn ac awgrymwyd y byddai hyn hefyd
yn gyfle i atgoffa'r Comisiwn o'r angen i ganolbwyntio'n barhaus ar
seiberddiogelwch, ac i bwysleisio'r ffactorau dynol. 10.3 Tynnodd y
Cadeirydd sylw hefyd at y meysydd ffocws a awgrymwyd ar gyfer 2024-25. Nododd
hefyd yr awgrym y dylid cyfeirio, yn yr adran rheolaeth ariannol, at eitem
agenda ym mhob cyfarfod yn y Gwanwyn ar broses y gyllideb tair blynedd. 10.4 Diolchodd
y Cadeirydd i'r Pwyllgor am eu mewnbwn a gofynnodd i sylwadau gael eu hanfon at
Kathryn Hughes. |
|
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: ARAC (24-03)
Papur 10 – Blaenraglen waith 11.1 Nododd y
Pwyllgor y flaenraglen waith a gofynnodd am i ddiweddariad gael ei drefnu yn
ystod 2024-25 ar gynnydd yn erbyn y Strategaeth Carbon Niwtral, yn enwedig mewn
perthynas ag effaith gostyngiad mewn buddsoddiad cyfalaf oherwydd y cyfyngiadau
cyllidebol. Cam i’w
gymryd -
Cynnwys diweddariad ar gynnydd yn erbyn y
Strategaeth Carbon Niwtral yn ystod 2024-25 |
|
|
Archwiliad beirniadol o un risg gorfforaethol neu bwnc amserol a nodwyd - Diwygio'r Senedd Cofnodion: Eitem lafar 12.1 Croesawodd
y Cadeirydd Anna Daniel i’r cyfarfod i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am
reoli risgiau sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd. Rhoddodd Anna y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y meysydd a ganlyn: - Roedd Bil
Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar y trywydd iawn i gael Cydsyniad
Brenhinol. Roedd y garreg filltir hon yn golygu y gallai'r Comisiwn wneud yr
ymrwymiadau ariannol angenrheidiol i weithredu newidiadau i'r Siambr a
swyddfeydd. - Roedd y
Pwyllgor Biliau Diwygio wedi gorffen gwaith craffu Cyfnod 1 ar Fil Senedd Cymru
(Rhestrau o Ymgeiswyr Etholiadol) gan drafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn
ar 16 Gorffennaf, pan ddisgwylir i Lywodraeth Cymru ymateb mewn perthynas â
chymhwysedd deddfwriaethol. - Roedd
swyddogion y Comisiwn yn cynllunio ar gyfer gwahanol senarios posibl yn ymwneud
â phasio deddfwriaeth ac roedd trafodaethau gyda'r Llywydd yn mynd rhagddynt yn
ogystal â sesiynau briffio rheolaidd gyda'r Prif Weinidog newydd. 12.2 Mewn
ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor, ymhelaethodd swyddogion ar y
senarios a oedd yn cael eu hystyried a’r cynlluniau ar gyfer ymgysylltu
ehangach ar Ddiwygio’r Senedd. 12.3 Diolchodd
y Pwyllgor i Anna am y diweddariad hwn a byddai'n croesawu diweddariad pellach
ar gynnydd yng nghyfarfod mis Tachwedd. |
|
|
Ffyrdd o Weithio Cofnodion: Eitem lafar 13.1 Rhoddodd Ed Williams ddiweddariad i'r Pwyllgor
ar y tri phrosiect byw o fewn y rhaglen Ffyrdd o Weithio. Roedd cynlluniau ar
gyfer 36 o swyddfeydd newydd i Aelodau a staff cymorth ar y gweill ac roedd
cynigion cychwynnol yn cael eu paratoi i'w hystyried a'u cymeradwyo mewn
cyfarfod o'r Comisiwn ym mis Gorffennaf. 13.2 Holodd y
Pwyllgor ynghylch rhwymedigaethau a phwysau ar y Comisiynydd Safonau yn y
dyfodol. Er na fyddai mwy o Aelodau o reidrwydd yn arwain at fwy o gwynion,
rhoddodd swyddogion sicrwydd i’r Pwyllgor fod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn
adolygu’r fframwaith wrth baratoi ar gyfer y Seithfed Senedd. Byddai ymchwiliad
presennol y Pwyllgor i'r Fframwaith Safonau yn bwydo i mewn i'r adolygiad
hwnnw. |
|
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: 14.1 Ni chodwyd
unrhyw fater arall. Bu Anthony
Veale, Archwilio Cymru yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r
Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Nid oedd unrhyw swyddogion y
Comisiwn yn bresennol ac ni chymerwyd cofnodion. Mae'r cyfarfod
nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 8 Gorffennaf 2024.
|
PDF 170 KB