Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Buddug Saer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan gynnwys aelodau newydd y Pwyllgor, sef Menai Owen-Jones a Mark Egan. Yn ogystal, croesawodd Simon Hart, y prif swyddog cyllid dros dro, i'w gyfarfod cyntaf.

 

1.2 Nododd y Cadeirydd fod ymddiheuriad wedi dod i law gan Gareth Lucey o Archwilio Cymru, a nododd fod Clare James wedi disodli Gareth yn ddiweddar fel y rheolwr archwilio. Diolchodd i Clare am y gwaith yr oedd wedi'i wneud ers dechrau yn ei rôl.

 

1.3 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, camau gweithredu a materion yn codi

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 1 – Cofnodion drafft 21 Tachwedd 2022

ARAC (23-01) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd

 

2.1 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 21 Tachwedd yn ffurfiol, a nodwyd diweddariadau i’r camau gweithredu.

3.

Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys y cynnydd a wneir ar weithgarwch archwilio mewnol)

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd 

 

3.1 Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch archwilio a gweithgarwch llywodraethu ehangach. Diolchodd i Kathryn Hughes am ei gwaith ar reoli’r broses o gael sicrwydd gan bob rhan o’r Comisiwn, a fydd yn cael ei fwydo i mewn i Ddatganiad Llywodraethu 2022-23. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys addasu'r dull o fapio sicrwydd, yn unol â’r arferion gorau sy’n dod i'r amlwg. Bu’r cyfarwyddwyr yn adolygu'r datganiadau sicrwydd ar lefel gwasanaeth, a chafodd datganiadau’r Cyfarwyddiaethau eu cyflwyno i Manon i'w hadolygu. Nodwyd y byddai Aled a Bob yn darparu her annibynnol ynghylch Datganiadau Sicrwydd y Cyfarwyddwyr yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 13 Mawrth.

 

3.2 Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, gwnaeth Gareth gyflwyniad i’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ynghylch ei ganfyddiadau yn deillio o’r Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd. Bwriad y Bwrdd oedd cyhoeddi’r adroddiad ym mis Ebrill. Roedd hefyd wrthi’n gweithio ar adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol (EB). Roedd dadansoddiad bwrdd gwaith cychwynnol wedi'i gynnal gan Kathryn Hughes a Victoria Paris, a nodwyd y byddai Gareth yn ymgysylltu ag aelodau o’r Bwrdd Gweithredol a rhanddeiliaid perthnasol.   

 

3.3 Roedd yr archwiliad ynghylch y Rheolaethau Ariannol Allweddol wedi cael ei gwblhau cyn ymadawiad y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Pennaeth Cyllid. Rhannwyd yr adroddiad â'r Cadeirydd, a nodwyd y byddai'n cael ei rannu ag aelodau'r Pwyllgor. Roedd Gareth hefyd wrthi’n cwblhau adroddiad dilynol ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil COVID-19.

  

3.4 Roedd Victoria a Gareth wedi cwrdd â Haines Watts er mwyn pennu cwmpas archwiliadau ar barhad busnes a seiberddiogelwch, a fyddai'n dechrau ym mis Mawrth.  Roedd gwaith wedi dechrau ar gynllun archwilio mewnol 2023-24, a chafwyd trafodaethau gyda chydweithwyr a Haines Watts. Roedd Gareth yn falch o adrodd bod rhywun wedi cysylltu ag ef parthed cynnal archwiliad posibl yn y Gyfarwyddiaeth Busnes. Nododd y byddai'n trafod y mater ag aelodau perthnasol y Bwrdd Gweithredol.  

 

3.5 Yn olaf, dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor ei fod wedi bod yn cefnogi'r tîm Cyllid o ran sicrhau bod yr archwiliad diwedd blwyddyn mor llyfn â phosibl. Bydd yn darparu her archwilio, ynghyd ag adolygiad o’r broses, yn dilyn archwiliad prawf ym mis 10.

 

3.6 Ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn i nifer o gwestiynau penodol a ofynnwyd gan aelodau'r Pwyllgor:

 

i.             Cytunodd Gareth i rannu linc i'r adroddiad ar yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol pan gaiff ei gyhoeddi, a nodwyd y byddai'r Pwyllgor yn trafod yr argymhellion yn y dyfodol.

ii.            Cadarnhaodd Gareth fod Haines Watts, y partner archwilio mewnol a gaiff ei ariannu ar y cyd, wedi cynnal yr archwiliad ynghylch y rheolaethau ariannol allweddol, a nodwyd y byddai'n cynnal yr archwiliadau sydd i ddod ynghylch parhad busnes a seiberddiogelwch.

iii.          Nodwyd y byddai Gareth yn dosbarthu ei adroddiad dilynol ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil COVID-19 i aelodau’r Pwyllgor fel mater o drefn. Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn cael ei rannu â’r Pwyllgor Taliadau.

iv.          Eglurodd Gareth y rheswm dros ohirio'r adolygiad ynghylch y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynt y broses gynllunio parthed archwilio cyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2022-23

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 4 – cynllun archwilio amlinellol

 

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey i'r cyfarfod. Fel rhan o’r polisi cylchdroi, roedd Clare wedi disodli Gareth Lucey yn rôl y Rheolwr Archwilio. Cadarnhaodd Ann-Marie y byddai gweddill y tîm yn aros yr un peth.

 

4.2 Cyflwynodd Clare gynllun archwilio amlinellol, a oedd yn gynllun lefel uchel iawn, a gofynnodd am adborth gan y Pwyllgor. Roedd yn cynnwys y ffi arfaethedig a manylion y tîm archwilio. Roedd Archwilio Cymru wedi amcangyfrif y byddai'r ffi archwilio yn £68,985, sy'n cynrychioli cynnydd o 15 y cant. Roedd hyn yn seiliedig ar amcangyfrif cynnar o effaith y safon archwilio newydd, sef ISA 315, sy’n gofyn am asesiadau risg mwy manwl gan archwilwyr mwy profiadol a medrus. Nodwyd y byddai gwaith cynllunio manwl yn ystod yr wythnosau nesaf yn arwain at amcangyfrif mwy cywir. Cadarnhaodd Archwilio Cymru na fyddai unrhyw newid i'r trothwy perthnasedd, sef 1 y cant o'r gwariant gros. 

 

4.3 Yn hanesyddol, roedd set gyflawn o gyfrifon archwiliedig yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gyfarfod ym mis Mehefin, ac roedd Archwilio Cymru yn ymwybodol o'r effaith ar y Comisiwn pe bai’r trefniant hwn yn symud i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, yn sgil y cymhlethdod ychwanegol a’r dull gweithredu newydd sydd ynghlwm wrth y safon ISA 315 newydd, ac yn sgil problemau o ran recriwtio archwilwyr mwy profiadol, roedd y sefydliad wedi nodi mis Gorffennaf yn y papur gan nad oedd modd gwarantu y byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y cyfarfod ym mis Mehefin. Nodwyd y byddai amserlen fwy manwl yn cael ei darparu i Simon a'r tîm Cyllid unwaith y bydd y gwaith cynllunio wedi dechrau, ac y byddai Simon yn sicrhau bod aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn cael gwybodaeth yn rheolaidd.

 

4.4 Diolchodd y Cadeirydd i Archwilio Cymru am y diweddariad hwn. Gofynnodd pa fath o werth a manteision ychwanegol a fyddai'n cael eu darparu i gyfiawnhau cynnydd o 15 y cant yn y ffi.

   

4.5 Roedd Archwilio Cymru yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ar gyllidebau yn y sector cyhoeddus, a chadarnhaodd y sefydliad y byddai'r safon newydd yn arwain at allbynnau ac argymhellion o ansawdd uwch, gyda gwell dealltwriaeth o feysydd megis TGCh.

 

4.6 Mewn ymateb i her bellach gan aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â’r amserlen, rhoddodd Archwilio Cymru sicrwydd y byddai’n ceisio cwblhau’r archwiliad ym mis Mehefin ac y byddai’n blaenoriaethu’r gwaith archwilio ar Gomisiwn y Senedd. Fodd bynnag, tynnodd sylw eto at y problemau y mae’n eu hwynebu o ran recriwtio, ynghyd â’r her o gymhwyso methodoleg newydd.

 

4.7 Pwysleisiodd Manon y rhesymau pam fod y Comisiwn yn dymuno i'r cyfrifon gael eu cwblhau erbyn mis Mehefin, yng nghyd-destun prosesau a chyfarfodydd mewnol y Comisiwn, y dasg o alinio cyfres o adroddiadau blynyddol eraill, a'r angen i osod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn cyn toriad yr haf.

  

Camau i’w cymryd

 

·         Archwilio Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i swyddogion am y cynnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Sesiwn friffio ar ISA 315

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 5 – Sesiwn Friffio ar Safon Archwilio ISA 315

 

5.1 Cyflwynodd Clare bapur briffio ar y dull archwilio, gan ganolbwyntio’n benodol ar safon archwilio ddiwygiedig, sef ISA 315 (DU) – Nodi ac Asesu’r Risgiau o Gamddatganiad Perthnasol (wedi’i diwygio ym mis Gorffennaf 2020).

 

5.2 Eglurodd Clare y byddai'r safon ddiwygiedig yn ysgogi asesiadau risg a fyddai’n fwy effeithiol ac o ansawdd gwell, yn ogystal â hyrwyddo’r arfer o gynnal amheuaeth broffesiynol. Mae rôl ddatblygiedig technoleg a chymhlethdod fframweithiau adrodd ariannol yn gofyn am brosesau mwy soffistigedig ar gyfer adnabod ac asesu risg. Nodwyd y byddai'r safon ddiwygiedig yn darparu adolygiad gwell o amgylchedd rheoli'r Comisiwn, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg.

 

5.3 Diolchodd y Pwyllgor i Archwilio Cymru am y sesiwn friffio.

6.

Diwygio'r Senedd - Diweddariad corfforaethol

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

 

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

 

6.1 Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies, Anna Daniel ac Alun Davidson i’r cyfarfod, gan wahodd Siwan i gyflwyno’r eitem. 

 

6.2 Rhoddodd Siwan sicrwydd i’r Pwyllgor fod Rhaglen Diwygio’r Senedd ar y trywydd iawn, gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y ffrydiau gwaith sy’n ymwneud â chyllid, busnes y Senedd a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol.

 

6.3 Ers cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ym mis Tachwedd, roedd yr amcangyfrifon cost, a oedd wedi'u seilio ar gyfres o ragdybiaethau cyffredin, wedi cael eu cwblhau. Y bwriad oedd eu cyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ar 23 Mawrth. Pe byddai’r amcangyfrifon yn cael eu cymeradwyo, byddent wedyn yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru i'w cynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r Bil. Byddai'r costau hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. 

  

6.4 Mewn perthynas â pharatoadau ar gyfer busnes yn y Seithfed Senedd, roedd gweithdy wedi'i gynnal i fapio cyd-ddibyniaethau a rolau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid. Roedd trefniant gweithio ar y cyd wedi'i gytuno rhwng y Comisiwn a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol, ac roedd gwaith ar y gweill ar fanylion y broses o roi’r trefniant hwn ar waith yn ymarferol, o ystyried statws annibynnol y Bwrdd.

 

6.5 O  ran llywodraethu, roedd adolygiadau yn mynd rhagddynt mewn perthynas â risgiau corfforaethol a risgiau rhaglen yn nghyd-destun diwygio’r Senedd, a’r gwaith o fapio cyfrifoldebau rhanddeiliaid. Nodwyd y byddai canlyniad yr adolygiad sylfaenol o risgiau corfforaethol, a fyddai'n cynnwys cysylltiadau â'r Rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Ebrill. Nodwyd hefyd y byddai Bwrdd Rhaglen Diwygio’r Senedd yn trafod cofrestr risg y rhaglen yn ei gyfarfod nesaf. Nodwyd y byddai matrics atebolrwydd, sef y matrics Cyfrifoldeb, Atebolrwydd, Ymgynghori, Hysbysu (yn Saesneg, ‘Responsible, Accountable, Consult, Inform’, neu RACI), yn cael ei fabwysiadu i amlinellu’r ffiniau rhwng Comisiwn y Senedd, Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol.

 

6.6 Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn cael amserlen fanwl i’w helpu i ddeall ar ba adegau y byddai’r Comisiwn yn gwneud ymrwymiadau ariannol, yn ogystal ag elfennau deddfwriaethol y rhaglen. 

 

Eglurodd Siwan fod gwaith ymgysylltu a chraffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn fusnes craidd i’r Senedd, ac y byddai’n digwydd pan fyddai’r Senedd yn cytuno ar y model diwygio. Nid oedd fformat y gweithgarwch ymgysylltu wedi'i gytuno, er bod trafodaethau cynnar wedi'u cynnal gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch y prif negeseuon. Gallai’r broses ddiwygio ddigwydd ar lefel sylfaenol iawn, a bydd addysgu’r cyhoedd yn hanfodol. Nodwyd y byddai’r gwaith craffu ar y ddeddfwriaeth yn dechrau yn nhymor yr hydref, a bod cyllideb wedi'i dyrannu i'r rhaglen yn y flwyddyn ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol nesaf. Mae gwaith eisoes ar y gweill i baratoi’r Siambr ar gyfer Aelodau ychwanegol, a nodwyd y byddai hyn yn cael ei nodi’n glir fel gwariant sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd. 

 

6.7 Cydnabu’r Pwyllgor y byddai lefelau diddordeb ymhlith y cyhoedd yn cynyddu wrth i adroddiadau gael eu cyhoeddi ar elfennau ariannol y broses ddiwygio, ac y byddai’r berthynas rhwng Aelodau ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Archwiliad beirniadol o un risg neu fater amserol sydd wedi'i nodi neu sy'n dod i'r amlwg - Diweddariad Corfforaethol - Ffyrdd o Weithio

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 6 – Diweddariad ynghylch Ffyrdd o Weithio

 

7.1 Rhoddodd Ed drosolwg o'r rhaglen Ffyrdd o Weithio (WoW). Cynlluniwyd y strwythur hwn fel un strwythur rheoli rhaglen, a fyddai’n caniatáu i strategaethau presennol y Comisiwn ynghylch ystadau, pobl a chynaliadwyedd presennol, a'i gynlluniau ar gyfer adolygu capasiti a Dyfodol Ystwyth, gael eu halinio o dan fframwaith strategol.

 

7.2 Cyfeiriodd at nifer o weithgareddau sydd i’w cyflawni yn y ffrydiau gwaith amrywiol, a soniodd am benderfyniad y Comisiwn, ym mis Tachwedd 2022, i gymeradwyo achos busnes parthed arfer y cymal terfynu sydd wedi’i gynnwys yn y brydles ar gyfer swyddfa’r Comisiwn yng ngogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd ym Mae Colwyn. Byddai symud i drefniant cydleoli yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, sef swyddfeydd Sarn Mynach, yn arbed mwy na £100,000 dros gyfnod o bedair blynedd.

 

7.3 Nodwyd y byddai ffrwd waith benodol yn y rhaglen Ffyrdd o Weithio yn gyfrifol am lunio opsiynau a chyngor manwl mewn perthynas â phrydles Tŷ Hywel, a fydd yn dod i ben yn 2032. Roedd y Comisiwn hefyd wedi cytuno i ddatblygu Strategaeth Rheoli Adnoddau er mwyn pennu paramedrau o ran adnoddau a chynllunio'r gweithlu. Yr allbwn a fyddain deillio o'r Strategaeth fyddai Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, a fyddai’n cynnwys Cynllun Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Gweithlu.

 

7.4 Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi maint y rhaglen hon, sy’n ymwneud â nifer o wahanol feysydd. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Ed – yn y cyd-destun hwnnw, ac o ystyried yr angen am gydgysylltu agos a pharhaus â rhaglen Diwygio’r Senedd – o’r farn bod y cymysgedd cywir o sgiliau, capasiti a gallu ar waith i reoli’r risgiau a chyflawni’r allbynnau disgwyliedig a’r canlyniadau disgwyliedig.

 

7.5 Cadarnhaodd Ed fod yr adnoddau sydd wedi’u neilltuo ar y gyfer y rhaglen ar hyn o bryd wedi rhoi sicrwydd iddo, ond ychwanegodd ei fod yn y broses o fapio gofynion manwl at y dyfodol. Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o faterion diwylliannol a oedd yn bodoli yn y Swyddfa Rhaglen a Newid yn flaenorol. Nododd y Pwyllgor, er bod y materion hyn bellach wedi’u datrys, fod nifer o swyddi gwag ar gyfer dadansoddwyr busnes o fewn y Comisiwn o hyd.

 

7.6 Roedd cryn dipyn o waith wedi'i wneud i adolygu'r cyllidebau. Roedd hyn yn cynnwys systemau a phrosesau cynllunio ar gyfer materion ariannol, materion gweithlu a materion corfforaethol amrywiol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, cyfnod ariannol 2023-24, a’r cyfnod o dair blynedd y tu hwnt i hynny. Bwriad y gwaith hwn oedd sefydlu Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig (gan gynnwys cynllun ariannol tymor canolig manwl a chynllun gweithlu llawn) erbyn mis Mehefin 2023. Nodwyd y byddai’r broses ar gyfer blaenoriaethu prosiectau yn cael ei chysylltu'n agos â phrosesau cynllunio corfforaethol, ac y byddai adnoddau ar gyfer rheoli prosiectau yn cael eu dyrannu i brosiectau craidd yn unig, a hynny’n seiliedig ar yr offeryn blaenoriaethu.

 

7.7 Mae’r wasg wedi datgelu bod defnydd swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar lefel o oddeutu 20 y cant. Cadarnhaodd Ed  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

ARAC (22-01) Papur 7 – Risg Corfforaethol

ARAC (23-01) Papur 7 – Atodiad A – Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol

ARAC (23-01) Papur 7 – Atodiad B – Risgiau Corfforaethol a nodwyd

 

8.1 Nododd y Pwyllgor y diweddariadau a wnaed i Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn, ac roedd wedi cytuno i ganolbwyntio ar y diweddariad ynghylch y rhaglen Ffyrdd o Weithio (gweler eitem 7) i ddisodli’r adolygiad manwl arferol o risg.

9.

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 8 – Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

ARAC (23-01) Papur 8 – Papur y Bwrdd Gweithredol ar y Fframwaith Adnoddau

 

9.1 Cyflwynodd Simon Hart y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid, gan gynnwys y rhagolwg diweddaraf ynghylch tanwariant diwedd blwyddyn ar gyfer 2022-23, a gyflwynwyd i’r Bwrdd Gweithredol ar 10 Chwefror. Nodwyd y byddai hyn yn cael ei fonitro'n agos, ac y byddai'r Tîm Arwain yn cael ei atgoffa o bwysigrwydd adrodd gwybodaeth gywir yn y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn.

 

9.2 Rhoddodd Simon sicrwydd i’r Pwyllgor ei fod ef a’r tîm Cyllid yn gweithio’n agos gydag Archwilio Cymru er mwyn sicrhau y glynir wrth y cerrig milltir hollbwysig ar gyfer cynhyrchu cyfrifon 2022-23. Nodwyd y byddai’n parhau i gynllunio a pharatoi, gydag archwiliad prawf yn cael ei gynnal yng nghyfnod 10.   

  

9.3 Rhybuddiodd y Cadeirydd swyddogion am yr oedi ynghylch y broses o gael data gan gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Roedd Simon eisoes wedi trefnu cyfarfod ag Adran Actiwari’r Llywodraeth, gyda’r nod o gadarnhau pryd y byddai’r data yn cael eu darparu.

 

9.4 Cymeradwyodd y Pwyllgor y colledion a'r taliadau arbennig a wnaed, gan ddiolch i Simon am ei bapur cynhwysfawr.  

 

10.

Adolygiad Blynyddol o bolisïau cyfrifyddu

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 9 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu 

 

10.1 Cyflwynodd Simon yr adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu. Yn yr adroddiad, gwelir tabl yn cynnwys y safonau cyfrifyddu newydd a diwygiedig, ynghyd â’r dyddiadau pan ddaw’r safonau hyn i rym sy’n effeithio ar 2022-23 a chyfnodau cyfrifyddu yn y dyfodol. 

 

10.2 Tynnodd Simon sylw at un maes ffocws penodol – IFRS 16 (cyfrif am brydlesi), sydd wedi bod yn destun trafodaethau helaeth mewn cyfarfodydd blaenorol. Nodwyd y byddai cyfrifon 2022-23 yn cael eu paratoi yn unol â gofynion IFRS 16.

 

10.3 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad hwn, gan ddiolch i Simon a'i dîm am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

11.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

ARAC (23-01) Papur 10 - Y flaenraglen waith

 

11.1 Trafodwyd y flaenraglen waith, a chafodd aelodau newydd eu hannog i awgrymu eitemau yr hoffent eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. 

 

11.2 Croesawodd y Cadeirydd awgrym gan Menai, sef y dylai’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen Ffyrdd o Weithio fod yn eitem sefydlog ym mhob cyfarfod, ochr yn ochr â’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Diwygio’r Senedd. 

 

11.3 Yn ogystal, gofynnwyd i'r tîm Clercio drefnu cyfarfodydd ar gyfer mis Gorffennaf a thymor yr hydref.

 

Camau i’w cymryd

·         Darparu diweddariadau corfforaethol ar y broses o gyflawni’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio ym mhob cyfarfod ARAC, ochr yn ochr â’r diweddariadau corfforaethol ar Ddiwygio’r Senedd.

·         Y tîm Clercio i drefnu cyfarfodydd ar gyfer mis Gorffennaf a thymor yr hydref.

12.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Eitem lafar

 

12.1 Nododd Ed y byddai'r cyfweliadau ar gyfer rôl y Prif Swyddog Cyllid yn cael eu cynnal ar 27 Chwefror. Cadarnhaodd fod Simon wedi bod mor garedig â chadarnhau y byddai'n parhau i fod ar gael i'r Comisiwn er mwyn sicrhau parhad yn ystod y broses o archwilio'r cyfrifon, ac er mwyn sicrhau y byddai’r awenau’n cael eu trosglwyddo i’r prif swyddog parhaol newydd mewn modd effeithiol.

 

12.2 Rhoddodd Ed sicrwydd hefyd fod mesurau interim ar waith mewn perthynas ag ymadawiad y Pennaeth Adnoddau Dynol, a oedd ar fin digwydd, ac y byddai ymgyrch recriwtio ar waith maes o law. 

 

Bu’r Pennaeth Archwilio Mewnol yn bresennol mewn sesiwn breifat gydag aelodau’r Pwyllgor wedi i’r trafodion ffurfiol ddod i ben. Ni chymerwyd cofnodion.

 

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 27 Ebrill 2023.