Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

 

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Parrott.  Dirprwyodd William Powell ar ei rhan.

1.3        Nodwyd bod Jocelyn Davies wedi'i hethol yn aelod o'r Pwyllgor ers y cyfarfod diwethaf.

 

(14:00 - 15:45)

2.

Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog – Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd 2010 gan Lywodraeth Cymru

 

CSFM(4)-01-14 Papur 1- Tystiolaeth ysgrifenedig

 

·         Carwyn Jones AM, Prif Weinidog

·         Rhodri Asby – Dirprwy Cyfarwyddwr Gwrthsefyll & Gweithredu Hinsawdd

·         Lucy Corfield - Pennaeth Gwrthsefyll & Gweithredu Hinsawdd

Themâu Craffu:

1.           Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd - cynnydd hyd yma

2.           A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd?

3.           Y sector preswyl

4.           Newid ymddygiad ac addysg

5.           Busnes/ynni adnewyddadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn mewn perthynas â Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010:

1. Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd - cynnydd hyd yma

2. A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd?

3. Y sector preswyl

4. Newid ymddygiad ac addysg

5. Busnes/ynni adnewyddadwy

 

2.2 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog, a ddaeth i law gan sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

 

 

 

(15:45 - 15:50)

3.

Papurau i’w nodi

 

CSFM(4)01-14 (ptn1) Perthynas gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Preifat. - Ymateb Llywodraeth Cymru

CSFM(4)01-14 (ptn1-atodiad) Wales Social Partners Unit Evaluation (Saesneg yn Unig)

Gohebiaeth-Cadeirydd i'r Prif Weinidog (Mawrth 2014)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i ohebiaeth gan y Cadeirydd yn ymwneud â pherthynas y Llywodraeth â'r trydydd sector a'r sector preifat.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 5

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr agenda.

 

(15:50 - 16:00)

5.

Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y sesiwn graffu flaenorol.