Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Phipps 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones.

 

Roedd Ken Skates yn dirprwyo ar ran Mark Drakeford.

2.

Trafod llythyr drafft - Cyfarfod Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 27 Chwefror 2013

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar eiriad y llythyr, yn amodol ar newid yn y paragraff olaf ond un.

3.

Trafod papur drafft - Gweithgaredd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol - opsiynau ar gyfer tymor yr haf 2013

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelod i gynnal y cyfarfod nesaf yng Ngogledd Cymru. Cynhelir y cyfarfod yn ystod tymor yr haf. 

 

Cytunwyd y byddai'r tîm clercio yn cysylltu â'r Prif Weinidog i bennu dyddiad a lleoliad addas ar gyfer y cyfarfod.

 

Cytunodd yr Aelodau mai darpariaeth prosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys ynni, ddylai fod pwnc y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y dylid canolbwyntio'n arbennig ar enghreifftiau yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys trydaneiddio'r rheilffyrdd, gwelliannau i'r A55, ynni niwclear ac adnewyddadwy, gwella'r grid a dinas-ranbarthau.

 

Awgrymodd yr Aelodau y gallai'r ymweliad â Gogledd Cymru hefyd gynnwys digwyddiad y noson cyn y cyfarfod.

 

Awgrymodd yr Aelodau hefyd y dylid cynnal digwyddiad ymgysylltu fel sesiwn meic agored.  Efallai y gellid gwahodd y Prif Weinidog i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.

 

Dywedodd yr Aelodau eu bod yn hoffi arddull y papur briffio a ddarparwyd yn ystod y cyfarfod blaenorol, a byddent yn hoffi gweld rhywbeth tebyg ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.