Agenda a chofnodion drafft
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Phipps
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(11.00 - 11.05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
|
(11.05 - 12.00) |
Uned Gyflawni'r Prif Weinidog Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Gyda'r Prif Weinidog ar
gyfer yr eitem hon roedd Derek Jones, yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth
Cymru a Marion Stapleton, Pennaeth Uned Gyflawni'r Prif Weinidog. 2.2 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar
waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn: • Rôl yr Uned Gyflawni; • Y dull o weithio; • Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu; • Cyflawni'r rhaglen ddeddfwriaethol. |
|
(12.00 - 13.00) |
Tlodi plant - Craffu ar waith y Gweinidog Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Gyda'r Prif Weinidog ar
gyfer yr eitem hon roedd Kate Cassidy, Cyfarwyddwr Cymunedau a Chyfiawnder
Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru ac Eleanor Marks, Dirprwy Gyfarwyddwr yr
Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru. 3.2 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar
waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn: • Tlodi plant a gweithio trawsadrannol; • Targedau a mesurau tlodi plant; • Rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Llywodraeth y DU; • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. 3.3 Nododd y Cadeirydd bod data sy'n dangos bod yr Alban wedi bod yn fwy llwyddiannus na gwledydd eraill o ran lleihau tlodi plant. Bydd y Prif Weinidog yn ysgrifennu at y Cadeirydd i amlinellu ei farn am y mater hwn a'r rhesymau dros hynny. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5. |
||
(13.00 - 13.10) |
Ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog. |