Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2021/22. Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft Annex 1 – Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft Annex 2 -
Cyllideb 2021-22 Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad ar
Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, yn dilyn ei waith craffu.
Trafododd y Comisiynwyr feysydd yr oedd y Pwyllgor wedi bod â diddordeb
arbennig ynddynt: Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19, gan gynnwys yr
effaith ar gronfa’r prosiect; Cynllun Ymadael Gwirfoddol 2019 a’r strategaeth
Cyfathrebu ac Ymgysylltu, ynghyd ag archifo a gwydnwch parhad busnes. Cytunodd y Comisiynwyr
ar eu hymateb i’r argymhellion, gan gymeradwyo dogfen y Gyllideb Derfynol ar
gyfer 2021-22, a fydd yn cael ei gosod ar 4 Tachwedd 2020. Nodwyd bod dadl ar
Gynnig y Gyllideb wedi’i threfnu yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Tachwedd 2020. |
|
Diweddariad ynghylch COVID-19 Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr
bapur yn rhoi’r diweddaraf ar weithrediad y Comisiwn o dan reoliadau a
chanllawiau Llywodraeth Cymru, fel ar 23 Hydref. Cawsant eu diweddaru ar lafar
ar ddatblygiadau mwy diweddar, a thrafodwyd y cyfyngiadau diweddaraf gan
Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd i ddilyn ymlaen o’r cyfnod atal byr
(‘firebreak’), a nodwyd y bydd y Llywydd yn gwneud penderfyniadau mewn
ymgynghoriad â’r Pwyllgor Busnes ar fformat y Cyfarfod Llawn. Trafododd y
Comisiynwyr weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd ar yr ystâd yn ystod
cyfyngiadau covid. Ar ôl trafod agweddau yn ymwneud â diogelwch, cynllunio a
lleoli staff yn effeithiol, cytunwyd ar gyfnod estynedig o gau i’r cyhoedd lle
mai’r rhagdybiaeth ar hyn o bryd yw y bydd yr ystâd yn parhau ar gau i’r
cyhoedd ac ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd hyd nes diddymu’r
Pumed Senedd. Cytunwyd hefyd, pe bai amgylchiadau sy’n ymwneud â Covid-19 yn
newid yn ddramatig yn ystod y cyfnod hwnnw y gellir ailedrych ar y penderfyniad
hwn. |
|
Y diweddaraf ar ymadael â’r UE Cofnodion: Clywodd y Comisiynwyr sut mae’r Comisiwn yn parhau i
gyflawni ei flaenoriaeth o gefnogi ‘ymateb sefydliadol cryf’ i ymadael â’r UE.
Roeddent yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i gefnogi’r Senedd fel deddfwrfa
ac i liniaru’r risg i barhad busnes y Senedd o ran diwedd cyfnod trefniadau
pontio’r UE ar 31 Rhagfyr 2020. Hefyd, trafodwyd yr
angen i wneud penderfyniad ar swyddfa’r Senedd ym Mrwsel, ac ar ôl dod o
wahanol safbwyntiau, cytunwyd ar yr opsiwn i gynnal Swyddfa Brwsel fel y mae’n
gweithredu ar hyn o bryd nes i’r Comisiwn wneud penderfyniad tymor hwy ar ei
dyfodol yn y Chweched Senedd. |
|
Diogelwch personol Eitem lafar Cofnodion: Yn ddiweddar, nodwyd
rhai Aelodau eu bod wedi profi materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a
throlio. Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am y gefnogaeth a oedd ar gael, gan
gynnwys tudalen newydd ar y fewnrwyd, a chamau pellach y gellid eu cymryd.
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd a chytunwyd i dynnu sylw at y
dudalen newydd ar y fewnrwyd gan ddod â gwybodaeth berthnasol ynghyd i aelodau
eu grwpiau. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio, sy’n cael ei ddarparu i bob
cyfarfod o’r Comisiwn. |
|
Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dilyn y
sesiwn dystiolaeth yn ymwneud â chraffu ar gyllideb ar gyfer 2019-20, ym mis
Medi. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: ·
Materion ynghylch yr
etholiad Cafodd y Comisiynwyr eu briffio ar botensial
penderfyniadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion deddfwriaethol neu
newidiadau eraill mewn perthynas ag etholiad Senedd 2021, ar ôl ystyried
adroddiad o’u grŵp etholiadau. · Agwedd at y gwersi a ddysgwyd Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnig i ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd ynghylch
darnau/agweddau allweddol mwyaf arwyddocaol ar waith y Comisiwn yn ystod y
Pumed Senedd, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaeth nesaf y Comisiwn. Bydd
hyn yn disodli’r gwaith o greu ‘adroddiad etifeddiaeth’ mwy traddodiadol, er
mwyn osgoi bod gwybodaeth ddyblyg yn cael ei chasglu a’i chyhoeddi bob blwyddyn
yn yr adroddiad blynyddol. Dilyniant i Gwestiwn
Llafar ar Gefnogi staff y Comisiwn sy’n gweithio gartref yn ystod y pandemig Derbyniodd y Comisiynwyr ddiweddariad byr yn ymateb i
bwyntiau a nodwyd a gwybodaeth am ganlyniadau arolwg Parhad Busnes y Comisiwn.
Roeddent yn croesawu’r gwaith helaeth a wnaed ac yn cydnabod y gallai barn ac
anghenion gweithwyr fod yn wahanol dros gyfnod y gaeaf o gymharu â’u profiad yn
ystod y gwanwyn a’r haf. Roeddent hefyd yn cydnabod arwyddocâd cyfrifoldebau
Aelodau eu hunain fel cyflogwyr, er enghraifft wrth sicrhau bod eu staff
cymorth yn cymryd gwyliau blynyddol. |