Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni ddaeth ymddiheuriadau i law ar gyfer y cyfarfod.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion 13 Gorffennaf.

2.

Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2021/22

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr ddiwygiadau pellach i'r gyllideb ddrafft, gyda mân newidiadau ers cyfarfod y Comisiwn ar 13 Gorffennaf.

Gwnaethant gymeradwyo Cyllideb Ddrafft 2021-22, cyn iddi gael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog.

At hynny, cytunodd y Comisiynwyr ar y diwygiadau i'r datgeliadau ar gyfer Safon Cyfrifeg Ariannol Ryngwladol newydd 16 – Prydlesi (IFRS 16) a diwygio blaenoriaethau Cronfa Brosiect.

At hynny, nododd y Comisiwn y llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

3.

Diweddariad ynghylch COVID-19

Cofnodion:

A.  Diweddariad ynghylch Covid-19

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a gafwyd ar drefniadau a fydd ar waith ar gyfer tymor yr hydref, a thrafodwyd y newidiadau diweddar i reoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Gwnaethant gytuno i ymestyn

y cyfnod presennol o fod ar gau i’r cyhoedd tan 8 Tachwedd er mwyn ystyried y trefniadau o ran pwy sy’n bresennol yn yr adeilad yn eu cyfarfod nesaf, yn dilyn profiad hanner cyntaf y tymor ac o ystyried y sefyllfa bryd hynny.

 

B.  Y dewisiadau o ran cynyddu’r niferoedd sy’n bresennol mewn person yn y Cyfarfod Llawn

Ystyriodd y Comisiynwyr y dewisiadau o ran cynyddu capasiti’r Siambr er mwyn i’r Aelodau allu bod yno yn ystod Cyfarfodydd Llawn, y tu hwnt i’r gallu presennol, tra bod yn dal i fod angen cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr.

Daethant i'r casgliad, er ei bod yn bwysig eu bod wedi ystyried y dewisiadau, ni ddylid mynd ar drywydd hynny ar hyn o bryd.

4.

Cysylltiadau gwleidyddol yr Aelodau

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y broses o gofnodi cysylltiadau gwleidyddol Aelodau nad oeddent yn perthyn i grwpiau pleidiau a gynrychiolir lle mae adnoddau'r Comisiwn yn cael eu defnyddio, e.e. y wefan, Cofnod y Trafodion, darpariaeth deunydd wedi’i argraffu, ac ati.

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid caniatáu i'r Aelodau nodi eu cysylltiad ag unrhyw blaid sydd wedi'i chofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol. Bydd y Comisiwn yn dychwelyd at y mater yn ei adroddiad etifeddiaeth i'r Chweched Senedd.

5.

Urddas a Pharch - adroddiad ar yr arolwg

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr gynnwys y trydydd adroddiad sy’n adolygu perfformiad yn erbyn ymrwymiad y Senedd i Urddas a Pharch, yn dilyn arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020. Wrth wneud hynny, cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n amserol adolygu'r polisi yn ei gyfanrwydd – yn barod ar gyfer y Chweched Senedd yn enwedig – ac ochr yn ochr â gwaith y Pwyllgor Safonau o adolygu'r Cod Ymddygiad. At hynny, cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth i feysydd gwaith y dyfodol sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar ôl ei gwblhau.

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Croesawodd y Comisiynwyr ddiweddariad ynghylch paratoadau o ran gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer mis Tachwedd yr oeddent, yn eu barn hwy, yn gynhwysfawr ac yn amrywiol. Gwnaethant drafod arwyddocâd estyn allan i gymunedau sy’n anodd eu cyrraedd, ac roeddent yn gefnogol o'r dull, sydd eisoes yn dangos mwy o gyfranogiad gan ystod fwy amrywiol o bobl.

7.

Papurau i’w nodi:

7.a

Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd – Adroddiad

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad, sy'n cynnwys 32 o argymhellion ar gyfer Gweinidogion Cymru, y Senedd, Comisiwn y Senedd, pleidiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau a'r Comisiwn Etholiadol.

7.b

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio, sy’n cael ei ddarparu i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

7.c

Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

7.d

Newid rheolau cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr fod y Bwrdd Taliadau wedi ysgrifennu am gynnig i newid rheolau’r Cynllun i roi hyblygrwydd i'r Actiwari, o ran pryd y mae'n rhaid cwblhau a llofnodi'r prisiad actiwaraidd. Ymgynghorwyd â'r holl Aelodau.

8.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

·       Hwyluso datganiad trawsbleidiol – Cytunodd y Comisiynwyr i ymgynghori â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gydraddoldeb Hiliol o ran hwyluso datblygu datganiad Cymraeg trawsbleidiol, gan ymgorffori egwyddorion y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil, yn unol â chais y Senedd.

·       Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Nododd y Comisiynwyr lythyr a gafodd y Prif Weithredwr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn dilyn sesiwn dystiolaeth y pwyllgor ar 21 Medi.

 

Ers y cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un penderfyniad brys yn ymwneud ag ymestyn y cyfnod ar gyfer canslo gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus wyneb yn wyneb.