Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant. Nododd David
Rowlands ei fod yn aelod o'r Pwyllgor Diwygio Etholiadol. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd. |
|
Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr gynnig ar gyfer strategaeth i wella’r ffordd y mae'r Cynulliad yn
cyfathrebu ac yn ymgysylltu â phobl Cymru, gan ddod â llawer mwy o bwyslais ar
y cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o siarad â'r cyhoedd a’u cynnwys yn ein
gwaith. Fe wnaethant drafod y pedwar gyrrwr a nodwyd yn y
cynigion: a.
Rhoi'r Dinesydd wrth wraidd popeth y mae'r Cynulliad yn
ei wneud. b.
Rhoi cyfathrebu digidol wrth wraidd gweithrediadau'r
Cynulliad fel ffordd o hwyluso a democrateiddio'r broses ymgysylltu. c.
Gwneud cyfathrebiadau yn symlach ac yn gyson - negeseuon
brand syml, gafaelgar wedi'u targedu at grwpiau demograffig penodol. d.
Gwneud newidiadau
i strwythur y Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gefnogi gweithrediad a
diwylliant 'Digidol yn Gyntaf'; a gwella cymhwysedd digidol, setiau sgiliau a
dulliau cyflwyno yn barhaus. Tynnodd y Comisiynwyr sylw at rai elfennau yr hoffent
gael sicrwydd yn eu cylch, fel allgau digidol, strategaeth cyfryngau
cymdeithasol ac arwyddocâd golygu yn llwyddiant dull newydd. Roeddent yn cefnogi'r strategaeth i roi mwy o
bwyslais ar y cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu ac ymgysylltu â dinasyddion,
ac fe wnaethant gadarnhau bod y strategaeth yn adlewyrchu eu blaenoriaethau
ymgysylltu. Cytunodd y Comisiynwyr
hefyd i adolygu effeithiolrwydd cychwynnol y newid hwn mewn cyfeiriad strategol
cyn diwedd y Cynulliad hwn. |
|
Cais y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr gais gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i gael
gafael ar gyllid o gyllideb Comisiwn y Cynulliad er mwyn comisiynu gweithgarwch
ymgysylltu â'r cyhoedd i lywio ei waith ar faint a chapasiti’r Cynulliad a sut
mae Aelodau'n cael eu hethol. Trafododd y
Comisiynwyr gydbwysedd y cynigion, un yn nodi hoff ddewis ymhlith grŵp o
Aelodau y dylid trafod y materion sy'n ymwneud â diwygio etholiadol yn y
Cynulliad nesaf. I gloi, cytunodd y
Comisiwn ar y dewis sy’n cael ei ffafrio gan y Pwyllgor. |
|
Diwygio’r Cynulliad - materion newid enw Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y
cynnydd hyd yma gyda’r gwaith o fwrw ymlaen â'r newid enw. Fe wnaethant drafod
cyfres o benderfyniadau sy'n angenrheidiol i weithredu’r newid enw yn
effeithiol erbyn 6 Mai 2020, pan ddaw'r darpariaethau i rym. · Brandio dangosol i'w
ddefnyddio ar logo ac arwyddion ac ati; · Confensiwn enwi
ysgrifenedig, y datganiad diwygiedig o ddiben, sôn am y tro cyntaf/yr ail dro o
fewn y testun; · Termau’r Cynulliad -
cyfeiriadau hanesyddol ac yn y dyfodol; · Y wefan, cyfeiriadau
e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol; · Cyfeiriad a chod post; · Diweddaru’r Cynllun
Ieithoedd Swyddogol; · Nodi’r newid ffurfiol
o’r Cynulliad i’r Senedd; · Sêl newydd y Comisiwn. |
|
Diweddariad Brexit Eitem lafar Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
fod y paratoadau ar gyfer gadael yr UE ar 31 Ionawr a'r cyfnod gweithredu
dilynol (hyd at 31 Rhagfyr 2020) yn mynd rhagddynt, mewn perthynas â busnes y
Cynulliad a'r gwasanaethau corfforaethol (gan gynnwys contractau gwasanaeth a
chyflenwi). |
|
Cyllideb atodol Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr gynigion ar gyfer cyllideb atodol, oddeutu £0.35 miliwn, i'w
cynnwys yng nghynnig cyllideb Llywodraeth Cymru. Dyma’r prif ffactorau
a lywiodd y gyllideb atodol hon: • Tanwariant ar Benderfyniad y Bwrdd Taliadau
(lleihau'r dyraniad i dalu costau’r Penderfyniad £0.500 miliwn); • Cyfrifiad cost canol blwyddyn cyllid
pensiwn y Safon Cyfrifyddu Rhyngwladol 19 (IAS19) (cynyddu cyllideb gostau’r
cyllid pensiwn £0.150 miliwn). Nododd a chymeradwyodd
y Comisiynwyr y Memorandwm Esboniadol, a fydd yn gostwng Cyllideb 2019-20 £0.35
miliwn; a llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. |
|
Cynigion y Pwyllgor Cyllid i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
lythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch ymgynghoriad y Pwyllgor ar Fil Archwilio
Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft. Roedd y Comisiwn wedi
cyflwyno barn i'r Pwyllgor yn flaenorol.
Cytunodd y Comisiynwyr ar ymateb i'r Pwyllgor, yn amodol ar fân
ddiwygiadau, gan dynnu sylw'r Pwyllgor at y darpariaethau yn Neddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynghylch talu treuliau i Gadeirydd Swyddfa Archwilio
Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru. |
|
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar drefniadau asesu ac adrodd 2018-19 - Ymateb y Comisiwn Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am waith craffu arferol y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus ar Gyfrifon 2018-19. Roedd yr adroddiad yn cynnwys chwe argymhelliad.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Diwygio’r Cynulliad - Diweddariad addysg a chodi ymwybyddiaeth Pleidleisiau @16 Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y
cynlluniau i greu adnoddau addysgol ac adnoddau codi ymwybyddiaeth y gall
addysgwyr, gweithwyr ieuenctid, ac eraill sy’n gweithio â phobl ifanc eu
defnyddio. Aeth y Comisiynwyr ati i wirio bod yr adnoddau sy’n cael eu datblygu
yn addas ar gyfer y cwricwlwm newydd. Nododd y Comisiynwyr hefyd y diweddariad
a gafwyd yn dilyn cytundeb y Comisiwn ynghylch pennu dull cyffredinol a
chynulleidfaoedd allweddol ym mis Tachwedd. |
|
Llythyr gan y Bwrdd Taliadau Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
lythyr gan y Bwrdd Taliadau a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn
dilyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd. Gofynnodd y llythyr am wybodaeth
bellach a manylion ynghylch presenoldeb swyddogion mewn un o gyfarfodydd y
Bwrdd yn y dyfodol; roedd hyn yn ymwneud â chostau swyddfa a ddarperir gan
Gomisiwn y Cynulliad, ac Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth. |
|
Newid y Bwrdd Pensiwn i strategaeth fuddsoddi Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a gafwyd gan y Bwrdd Pensiwn am newid i strategaeth fuddsoddi Cynllun
Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, sef gostwng buddsoddiadau’r Cynllun yn y sector olew
a nwy. |
|
Cofnodion cyfarfod ACARAC Cofnodion: Dyma’r diweddariad
arferol, a ddarparwyd yn dilyn cyfarfod ACARAC ar 21 Hydref. |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nodwyd y diweddariad
arferol. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: ·
Mynd â busnes y Cynulliad i leoliad y tu allan i Gaerdydd Mewn trafodaethau â grwpiau ac
arweinwyr plaid, roedd yr adborth, yn gyffredinol, wedi bod yn gefnogol i
wythnos gywasgedig o fusnes y Cynulliad, i'w gynnal yng Ngogledd-ddwyrain
Cymru. Cytunodd y Comisiwn, drwy
fwyafrif, y dylai gwaith i gyflawni'r fenter fynd yn ei flaen yn awr, a
chytunodd i gyllideb ddangosol o hyd at £250k. ·
Llythyr gan dri Aelod Cytunodd y Comisiynwyr i gadw’r polisi cofebion yn ei ffurf bresennol. ·
Digwyddiadau ar yr ystâd Trafododd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud â digwyddiadau sy'n cynnwys
dadl wleidyddol, a'r ffiniau o ran yr hyn sy'n ddefnydd priodol o'r ystâd, a
gofynnwyd am bapur ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno i gais gan y BBC i gynnal
dadl etholiad ar yr ystâd. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfod briffio gyda'r
Comisiynwyr a'r Llywydd ar 11 Tachwedd mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer
cael Comisiynydd Safonau dros dro. |