Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datganiad o fuddiant Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr. |
|
Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd a'r gofynion o ran cyflwyno adroddiad blynyddol Cofnodion: Cyflwynodd Adam Price, sef deiliad y portffolio, gynigion ar gyfer Cynllun
Ieithoedd Swyddogol newydd Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pumed
Cynulliad. Rhoddodd y Comisiynwyr sylw arbennig
i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r ffyrdd y mae barn y rhai yr ymgynghorwyd â
hwy wedi cynorthwyo i lunio'r Cynllun drafft.
Roedd yr
ymatebion i'r ymgynghoriad yn gefnogol ar y cyfan ac ystyriodd y Comisiynwyr
rai o'r meysydd lle y gwnaed awgrymiadau a'r addasiadau a wnaed i'r drafft o
ganlyniad. Trafodwyd hefyd sut y byddai staff yn cael eu cefnogi a'r berthynas
rhwng cyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau yn y ddwy iaith
swyddogol, a chyfrifoldebau eraill, er enghraifft cydraddoldebau. Nododd y Comisiynwyr y camau
cadarnhaol a gymerwyd ers cyflwyno'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, ac roeddent
yn cytuno bod y fersiwn a ystyriwyd gan y Comisiwn yn gam i fyny o ran
darpariaeth gwasanaeth a dull gweithredu cytbwys er mwyn ein symud tuag at
gyflawni ein huchelgais. Derbyniodd y Comisiynwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, cynigion ar
gyfer rhagor o waith craffu ar y Cynllun cyn ei gymeradwyo yn ffurfiol yn y
Cyfarfod Llawn, ac y dylai Adam Price AC gymeradwyo'r fersiwn derfynol ar ran
Comisiwn y Cynulliad. Hefyd, derbyniodd y Comisiwn yr adroddiad blynyddol drafft, a fydd yn cael
ei osod i'w ystyried gan y Cyfarfod Llawn maes o law, gan ddod â'r Cynllun
Ieithoedd Swyddogol presennol i ben. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion strategol |
|
Ystâd y Cynulliad Cofnodion: Cadarnhaodd Dave Tosh ei fod wedi cwrdd â phob un o'r Comisiynwyr i roi’r
wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y gwaith sydd ar y gweill. Gofynnodd y
Comisiynwyr am bapur i roi gwybodaeth gefndir ychwanegol. Penderfynodd y Comisiynwyr gyfyngu ar gwmpas y gwaith sydd i'w wneud i
archwilio'r opsiynau ar gyfer darparu capasiti yn y dyfodol. |
|
Y Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau cyfansoddiadol Cofnodion: Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, roedd y Comisiynwyr
yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau
etholiadol yn mynd rhagddo. Gan barhau â'u gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad, rhoddwyd y
wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn ynglŷn â'r camau a gymerwyd i benodi
aelodau'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad. Bydd y Panel yn
gweithredu'n annibynnol, a'i rôl fydd gwneud argymhellion i Gomisiwn y
Cynulliad erbyn hydref 2017 ynglŷn â nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y
Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar
gyfer etholiadau'r Cynulliad. Er y bydd y Panel yn gweithredu'n
annibynnol, ni all weithio'n llwyr ar wahân i wirioneddau'r sefyllfa
wleidyddol. Bydd y Llywydd hefyd yn sefydlu, ac yn cadeirio, Grŵp Cyfeirio
Gwleidyddol a fydd yn cyflawni rôl ymgynghorol er mwyn cynorthwyo'r Panel i
sicrhau bod argymhellion ymarferol yn deillio o'i waith. Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd fwrw ymlaen â'r cyhoeddiadau. |
|
Yr wybodaeth ddiweddaraf o ran yr UE Cofnodion: Wedi i Gynghorwr blaenorol y
Comisiwn ar yr UE adael, rhoddwyd gwybod i'r Comisiynwyr am y trefniadau newydd
a oedd wedi'u rhoi ar waith, gan ystyried y modd y mae'r sefyllfa wedi newid yn
dilyn y refferendwm ar yr UE. Bydd deiliad newydd y swydd yn gweithio yng Nghaerdydd ac yn teithio'n aml
i Frwsel i barhau i rwydweithio a chynrychioli buddiannau'r Cynulliad a hwyluso
ymweliadau gan Aelodau a phwyllgorau. |
|
Cofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd. |
|
Trefniadau'r Comisiwn Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr yr wybodaeth a ddarparwyd am eu cyfarfodydd yn y
cyfnod hyd at doriad yr haf 2017. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Crybwyllodd Adam Price yr arolwg yn y dyfodol agos ar gyfer Aelodau / staff
cymorth yr Aelodau. |