Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol papur
1 Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol papur
2 ac atodiad Cofnodion: Mae
Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn darparu gwasanaethau i Lywyddion,
y Comisiwn, pwyllgorau a phob Aelod Cynulliad, fel rhan o dîm integredig llawn
o swyddogion arbenigol y Comisiwn. Ym mis Mehefin 2013, cytunodd y Comisiynwyr
ar ddull o ddatblygu’r gwasanaeth hwn a oedd yn cynnwys: -
is-gontractio’r gwaith o ddrafftio
Biliau Aelodau i ddrafftwyr allanol arbenigol yn y tymor byr, ar yr un pryd â
threfnu hyfforddiant ar gyfer y cyfreithwyr mewnol drwy’r drafftwyr allanol
hynny; -
cyflwyno rhaglen datblygu
proffesiynol ddwys ar gyfer cyfreithwyr mewnol; -
ymchwilio i’r galw am wasanaethau
cyfreithiol masnachol ac unrhyw alw pellach, nad yw wedi’i ateb, am wasanaethau
cyfreithiol yn y Cynulliad. Roedd
is-gontractio’r gwaith o ddrafftio Biliau Aelodau yn gweithio’n dda, ac yn
galluogi’r cyfreithwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn hyn o beth a
fyddai’n gwella eu gallu yn y tîm dros amser. Cytunodd y Comisiynwyr i barhau â’r dull gweithredu hwn,
ond roeddent am weld opsiynau ar gyfer gwella capasiti drafftio deddfwriaethol
mewnol yn gynt. Roedd cydnabyddiaeth y gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i gael
rhagor o adnoddau. Byddai’r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cyfreithiol yn ystyried yr opsiynau o ran y camau pellach i’w cymryd, ac yn eu
nodi wrth y Comisiwn maes o law. Gwnaed cynnydd
mewn meysydd eraill, gan gynnwys y gwaith sydd wedi’i ddechrau i asesu’r galw am
ragor o gymorth cyfreithiol masnachol yn fewnol, a’r cynnydd o ran hyblygrwydd
a welir yn y gwasanaeth drwyddo draw. Byddai’r
Gyfarwyddiaeth yn parhau i adolygu ei strategaeth, i sicrhau y gallai ymateb i
unrhyw newidiadau arwyddocaol sy’n effeithio ar y Cynulliad, fel pwerau
ariannol newydd, a’u cefnogi. |
|
Cynnydd o ran Cyfieithu Peirianyddol papur
3 Cofnodion: Un ymrwymiad yng Nghynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad oedd gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i
gynorthwyo Aelodau’r
Cynulliad a staff i gyflawni eu swyddogaethau’n effeithiol. Ym mis Tachwedd 2013, cytunodd y Comisiynwyr i barhau i
weithio gyda Microsoft i ddatblygu cyfleuster cyfieithu Microsoft o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg a fyddai ar gael i’r cyhoedd yn 2014. Ers hynny,
gwnaethpwyd profion ansawdd ac mae swm sylweddol o ddata wedi’i fwydo i’r
system, gan gynnwys data a ddarparwyd gan nifer o sefydliadau dwyieithog. Mae
canllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad ac Aelodau’r
Cynulliad a’u staff, i gynorthwyo i hybu’r cyfleuster a chynyddu’r ddealltwriaeth
o’r ffordd gywir o’i ddefnyddio. Caiff y cynnyrch ei lansio yn y Cynulliad ar
21 Chwefror, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith. O’r dyddiad hwnnw
ymlaen bydd y cyfleuster ar gael i bob Aelod Cynulliad, staff, ac yn fyd-eang
drwy Microsoft Office a chynnyrch eraill. Llongyfarchwyd
y swyddogion am y cynnydd cyflym a wnaed ar y prosiect hwn, a oedd yn dangos
bod y Cynulliad ar flaen y gad yn y ffordd y mae’n defnyddio technoleg i
gefnogi dwyieithrwydd. |
|
Arolwg Omnibws papur
4 ac atodiad Cofnodion: Er mwyn llywio
gwaith Comisiwn y Cynulliad ar ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu allanol,
cynhaliwyd pôl piniwn ym mis Tachwedd 2013 i gasglu data ynghylch gwybodaeth y
cyhoedd am y Cynulliad ac i ba raddau y mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â’r
Cynulliad. Casglwyd y data fel rhan o’r arolwg Omnibws chwarterol a gynhaliwyd
gan Beaufort Research. Nid oedd y
canlyniadau, a ddangosai mai cyfyngedig oedd dealltwriaeth y cyhoedd o’r
Cynulliad yn gyffredinol, yn creu syndod, er bod yr ymwybyddiaeth ymhlith pobl
ifanc yn is na’r disgwyl o gofio’r ymdrechion sylweddol a fu yn y maes hwn
drwy’r system addysg. Cytunodd y Comisiynwyr fod angen rhagor o waith i
benderfynu ar y ffordd orau o gasglu’r data hwn yn y dyfodol, gan gynnwys
ystyried a oes ffordd fwy effeithiol o fesur gwybodaeth pobl ifanc am y Cynulliad.
Byddai swyddogion yn edrych ar y dulliau y gellid eu defnyddio i gynyddu
ymgysylltiad, ac yn ystyried tybed a fyddai’n well gweithio gyda sefydliad sy’n
brofiadol yn y gwaith o ddatblygu brand neu gynnyrch o bosibl. Cytunodd
y Comisiynwyr na ddylid cynnal yr arolwg omnibws eto ym mis Mawrth. Cytunwyd y
dylid ystyried a ydynt am gynnal gwaith ymchwil pellach y flwyddyn nesaf, a sut
waith ymchwil y dylid ei wneud. |
|
Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol papur
5 ac atodiad Cofnodion: Roedd yr ail
adroddiad, a oedd yn dangos cynnydd a wnaed yn ôl Dangosyddion Perfformiad Allweddol
y Comisiwn o ran gweithgarwch rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2013, yn nodi y
gwnaed cynnydd da mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys yr ystâd, TGCh,
Ieithoedd Swyddogol a bwrw ymlaen â’r prosiect i Ymgysylltu â Phobl Ifanc. Gellid gweld bod perfformiad wedi
gwella dros y cyfnod o ran amseroldeb y gwasanaethau a ddarparwyd, a tharfiadau ar
gyfarfodydd pwyllgor / y Cyfarfod Llawn. Gofynnodd y Comisiynwyr a oedd modd i
adroddiadau yn y dyfodol gynnwys dangosydd i nodi canran y papurau a gyhoeddwyd
ar amser ar mod.gov. Er y gellid
gweld gwelliant o ran perfformiad hefyd yn ôl nifer yr ymwelwyr â’r Cynulliad a
nifer y rhai sy’n rhyngweithio â ni yn y cyfryngau cymdeithasol, roedd nifer y
bobl a oedd yn defnyddio Senedd.tv wedi lleihau. Roedd darlledu a hybu
adroddiadau pwyllgorau’r Cynulliad yn y cyfryngau print hefyd wedi lleihau.
Cytunwyd y dylid ailystyried y dangosydd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd. Nid oedd y
perfformiad wedi cyrraedd y targed o ran lefelau lleihau ein defnydd o ynni.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai angen iddynt ystyried buddsoddi ymhellach o ran
cynaliadwyedd, neu ail-edrych ar y targedau lleihau ein defnydd o ynni. Cyhoeddir
yr Adroddiad ar y Perfformiad Corfforaethol ar wefan y Comisiwn a’i ddosbarthu
i aelodau Pwyllgor Cyllid y Cynulliad. |
|
Adroddiad y Prosiect Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol papur
6 ac atodiad Cofnodion: Ym mis Rhagfyr
2013 gofynnodd y Comisiynwyr am adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y Prosiect
Gwasanaethau TGCh ar gyfer y Dyfodol, gan gynnwys yr asesiad o’r parodrwydd i
drosglwyddo i ddarparu gwasanaethau TGCh yn fewnol. Roedd y prosiect yn parhau
i fynd rhagddo fel y dylai, a gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd pwysig, gan
gynnwys recriwtio staff allweddol a throsglwyddo gwybodaeth gan Atos. Canmolwyd y
swyddogion am reoli’r prosiect cymhleth hwn yn ofalus ac am eu llwyddiannau hyd
yma. Byddai’r Comisiynwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i lywio
eu penderfyniad ynghylch amseriad y trosglwyddo. |
|
Papur i'w nodi – Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio 7 Tachwedd 2013 papur
7 Cofnodion: Nododd
yr Aelodau gofnodion Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2013
yn ffurfiol. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Nid oedd
materion eraill i’w trafod. Cynhelir cyfarfod nesaf y
Comisiwn ar 13 Chwefror 2014. Yr Ysgrifenyddiaeth Ionawr 2014 |