Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion. |
|
Strategaeth Cyllideb y Comisiwn 2014-15 papur 2 Cofnodion: Bydd
cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi i’w
hystyried gan y Cynulliad. Cytunodd y Comisiynwyr i’r gyllideb gael ei pharatoi
yn unol â’r egwyddorion a nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gymeradwywyd yn y
ddwy flynedd ddiwethaf. Craffodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar y rhain ym mis
Hydref 2011 a 2012. Bydd y gyllideb yn seiliedig ar y swm o £50.598 miliwn a
nodwyd yn flaenorol. Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi’r gyllideb yn unol â thrafodaethau i’w hystyried yng nghyfarfod y Comisiwn ar 18 Gorffennaf. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol papur 3 Cofnodion: Rôl
Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw helpu’r
Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod gwasanaethau’r Cynulliad yn cael eu
darparu i’r safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio arian
cyhoeddus. Ar gais, mae’r Pwyllgor yn
cynghori’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu ar eu
cyfrifoldebau i gymeradwyo a pholisïau a systemau cydnabyddiaeth ariannol. Mae’n gweithredu mewn capasiti cynghorol, ac
nid oes ganddo bwerau gweithredol. Yn
unol â’i gylch gorchwyl, rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad blynyddol
ffurfiol ar ei waith i’r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn. Cyfarfu’r
Pwyllgor unwaith yn ystod 2012-13 ar 19 Ebrill 2012 ac roedd yr eitemau ar yr
agenda yn cynnwys: ·
y
Strategaeth Wobrwyo Ddrafft ar gyfer Staff y Cynulliad; ·
adolygiad o
gyflog a pherfformiad y Tîm Gweithredol. Yn
ogystal â’r rhain, ystyriodd y Pwyllgor bolisi cyflog y sector cyhoeddus yn fwy
eang i sicrhau bod ei gyngor yn cael ei roi o fewn y cyd-destun ehangach hwn. Cytunodd y Pwyllgor
i’r strategaeth gyffredinol gael ei defnyddio i ddatblygu trefniadau gwobrwyo
mewn cysylltiad â’r cytundeb cyflog 18 mis sy’n dod i ben ym mis Medi 2013, a
oedd yn cyd-fynd â’r cyd-destun economaidd ehangach yng Nghymru a gweddill y
DU. Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad. |
|
Adroddiad ar y prif bwyntiau i’r Comisiwn papur 4 Cofnodion: Mae’r
adroddiad ar y prif bwyntiau yn crynhoi’r gweithgareddau sydd wedi’u gwneud neu
sy’n mynd rhagddynt i wneud cynnydd tuag at nodau strategol y Comisiwn. Nodwyd
bod y Gyfarwyddiaeth Fusnes yn cael ei had-drefnu ar hyn o bryd a dylid
adlewyrchu hyn yng nghanfyddiadau’r adolygiad o gymorth i Bwyllgorau. Darparwyd
amrywiaeth eang o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu, yn unol â’r nod o
ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru. Bydd ail arolwg boddhad defnyddwyr
ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth yn cael ei lansio ym mis
Mehefin. Byddwn yn
adrodd ar y Dangosyddion Perfformiad Allweddol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol,
yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Derbyniodd y Comisiynwyr y
dangosyddion a nododd eu bod yn debygol o gael eu datblygu. Cam i’w gymryd: Angela Burns AC i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cadarnhau y byddai’r dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu defnyddio. |
|
Adroddiad ar gynnydd a pherfformiad TGCh Mai 2013 papur 5 Cofnodion: Cadarnhawyd
bod y gwaith i drosglwyddo gwasanaethau TGCh yn llwyddiannus fel rhan o’r
Prosiect Gwasanaeth TGCh y Dyfodol ar y trywydd iawn. Roedd Cynllun Rheoli
Gadael manwl ar waith yn casglu’r gweithgareddau sydd angen eu cwblhau cyn i
gontract Atos ddod i ben. Roedd swyddogion wedi bod yn gwneud trefniadau ar
gyfer sicrwydd allanol ar gyfer y gwaith i’w wneud gan KPMG. Byddai hyn yn
cynnwys ‘prawf iechyd’ prosiect, adolygiad rheoli prosiectau manwl ac asesiad
rheoli risg. Roedd y
gwaith o ddisodli’r contract Blackberry presennol gyda darpariaeth fwy hyblyg
yn mynd rhagddo, a disgwylir i’r gwaith hwnnw gyflawni arbedion sylweddol yn
ogystal â gwella gwasanaethau i Aelodau. Roedd
opsiynau i wella sain yn y Siambr yn cael eu profi, gan geisio datrys
anawsterau presennol. Trafododd Comisiynwyr i ba raddau y dylid defnyddio
dyfeisiau yn yr oriel gyhoeddus. Cytunwyd y byddai’r rhai sy’n ymweld â’r oriel
gyhoeddus yn cael defnyddio dyfeisiau symudol yn y dyfodol, cyhyd â nad oeddent
yn achosi unrhyw ymyrraeth. Cam i’w gymryd: Swyddogion i sicrhau bod staff a’r cyhoedd yn ymwybodol o’r newid i bolisi ynghylch defnyddio dyfeisiau symudol yn yr oriel gyhoeddus, yn amodol ar rai cyfyngiadau. |
|
Adborth o Bwyllgor Archwilio 18 Ebrill eitem lafar Cofnodion: Nid oedd cofnodion y Pwyllgor Archwilio ar 18 Ebrill ar gael eto. Soniodd Angela Burns AC am y wybodaeth ddiweddaraf ar y materion a drafodwyd yn y cyfarfod, gan gynnwys prosiect sicrwydd annibynnol a fyddai’n cael ei reoli gan Gyfarwyddwr Cyllid y Cynulliad ar ran y pwyllgor. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr gais gan Star Walk Wales yn gofyn am ganiatâd gan
Gomisiwn y Cynulliad i osod pafin a sêr ar ystâd y Cynulliad. Byddai’r prosiect
yn dathlu bywydau a gwaith unigolion sydd wedi cyfrannu at fywyd Cymru, a
byddai gweithgor yn arsylwi’r prosiect hwnnw. Ni fyddai unrhyw gostau i’r
Comisiwn. Cytunodd y Comisiynwyr mewn egwyddor y dylai’r prosiect gynnwys Ystâd y
Cynulliad, ar yr amod y ceir cyfraniad gan gynrychiolydd o’r Comisiwn. Cam i’w gymryd: Byddai llythyr yn cael ei anfon at Brif Weithredwr y
prosiect i gadarnhau cytundeb y Comisiwn mewn egwyddor. Yr
Ysgrifenyddiaeth Mai 2013 |