Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau |
|
Datgan buddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar gofnodion y cyfarfod ar 11 Rhagfyr. |
|
Arbedion yn y Gyllideb ar gyfer 2024/25 Cofnodion: Trafododd y Comisiwn
gynigion ar gyfer cyrraedd y targed arbedion o £315,000 ar gyfer cyllideb
2024-25, y mae'n rhaid ei nodi cyn dechrau blwyddyn ariannol 2024-25. Trafododd y Comisiynwyr effeithiau cymharol y cynigion
sy’n ymwneud ag elfennau o gostau nad ydynt yn gysylltiedig â staff, yn ogystal
â rheoli swyddi gwag i gyflawni'r arbedion. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y cynigion ar gyfer sicrhau’r arbedion targed, yn amodol ar wneud
addasiad i gynnal lefel y cyllid ar gyfer cefnogi gwaith ymgysylltu rhyngwladol
yr Aelodau, gan gynnwys ymgysylltu â’r UE. |
|
Cytundeb cyflog staff y Comisiwn Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y
trafodaethau ffurfiol rhwng Ochr Rheoli'r Comisiwn (CMS) ac Ochr Undebau Llafur
y Comisiwn (TUS) ar y fframwaith cyflog ar gyfer staff y Comisiwn o fis Ebrill
2025. Nodwyd y sefyllfa bresennol gan y Comisiynwyr, gan gynnwys mewn perthynas
â chysylltiadau diwydiannol a'r effaith ar y gyllideb, fel y'i nodir fel rhan o
Gyllideb y Comisiwn. Cytunwyd ar dair egwyddor graidd i arwain dull
gweithredu’r Comisiwn wrth geisio cytundeb terfynol ar y fframwaith cyflog i
staff yn y dyfodol, ynghyd â Chynnig Rheoli Drafft, yn deillio o’r egwyddorion
hynny, a fyddai’n sail i drafodaethau pellach ag Ochr yr Undebau Llafur, gyda’r
bwriad o sicrhau cytundeb terfynol. Gofynnodd y Comisiynwyr am nodyn byr i nodi cyfanswm cost
y newidiadau a awgrymir yn y cynigion. Bydd diweddariad
pellach yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod y Comisiwn ym mis Mawrth, ynghyd
ag argymhellion i'r Comisiynwyr eu cymeradwyo. |
|
Ffyrdd o Weithio: Prosiect y Siambr 2026 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y broses
dendro a’r gwerthusiad a gynhaliwyd i benodi cyflenwr gwasanaethau pensaernïol
i weithio gyda Chomisiwn y Senedd ar brosiect y Siambr 2026. Cytunodd y Comisiynwyr ag argymhelliad y panel gwerthuso
y dylid penodi Rogers Stirk Harbour Partnership (RSHP), sef enw newydd y
Richard Rogers Partnership, i ddatblygu'r opsiwn a'r dyluniad a ffefrir ar
gyfer Siambr fwy i wneud lle ar gyfer 96 o Aelodau mewn ymateb i’r gwaith ar
Ddiwygio’r Senedd, yn amodol ar gytuno ar y telerau ac amodau terfynol gyda
RSHP. Hefyd, trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd sicrhau bod
gwybodaeth ar gael iddynt ei rhannu ag aelodau eu grŵp, a chawsant wybod
am aelodaeth arfaethedig y grŵp cyfeirio, y byddai’n cynnwys aelod o bob
grŵp, ochr yn ochr ag aelodau’r Comisiwn. Cytunwyd y byddai uwch
swyddogion yn mynd i gyfarfod y grwpiau gwleidyddol unigol, petaent yn cael eu
gwahodd i wneud hynny, i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y prif brosiectau
sy’n gysylltiedig â’n ffyrdd o weithio, ac y byddai pecyn gwybodaeth yn cael ei
lunio i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi. |
|
Ffyrdd o Weithio: Prosiect Bae 2032 |
|
Cynnydd hyd yma ac amlinelliad o'r strategaeth gaffael Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect hyd yma, gan nodi’r llwybr lefel
uchel dangosol presennol ar gyfer cyflawni’r prosiect, yn ogystal â lefel yr ansicrwydd
sy’n rhan annatod o gamau nesaf prosiect o’r math hwn. Cytunodd y Comisiynwyr ar y
strategaeth gaffael amlinellol ar gyfer prosiect Bae Caerdydd 2032, a fydd yn
llywio’r gwaith caffael cyffredinol ar gyfer datrysiad llety Bae 2032, gan
gynnwys y broses gaffael benodol a’r llwybr a ddilynir. Nododd y Comisiynwyr yr angen hanfodol i gadw'r tensiwn
cystadleuol rhwng y cyfleoedd am ddatblygiad newydd a'r cyfleoedd i adnewyddu,
er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian i’r cyhoedd. |
|
Y broses gaffael Cofnodion: Ar ôl cytuno ar y strategaeth
gaffael, cytunodd y Comisiynwyr ar broses gaffael benodol, o dan y rheoliadau caffael
cyhoeddus, a fyddai’n bodloni egwyddorion y strategaeth ac yn darparu modd i
gyflawni’r amcanion perthnasol. Cafodd y Comisiynwyr ragor o wybodaeth am
gwmpas arfaethedig y contract, yn ogystal ag asesiad risg cychwynnol,
gwybodaeth lefel uchel am y broses gaffael ar gyfer y prosiect ac amserlen
ddangosol ar gyfer y camau nesaf. Trafododd y Comisiynwyr
baramedrau’r amserlen ar gyfer cyflawni’r prosiect hwn, sydd wedi’i ysgogi gan
ddiwedd prydles bresennol Tŷ Hywel yn 2032. Cytunwyd y dylid gweithredu ar
gam cyntaf y broses gaffael, sef cyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar
gyfer y prosiect, cyn gynted ag y bo’n ymarferol (siŵr o fod ganol mis
Chwefror 2024). Byddai hyn yn helpu i lywio’r broses gaffael gyffredinol ar
gyfer datrysiad o ran llety erbyn 2032. Nododd y Comisiynwyr y camau
dilynol arfaethedig yn y broses gaffael gyffredinol ar gyfer y prosiect, yn
seiliedig ar gyngor cyfreithiol cychwynnol, a oedd yn cynnwys y prif elfennau a
ganlyn: - cynnal ymarfer caffael cystadleuol i gyflawni prosiect Bae
2032; - y byddai'r ymarfer caffael cystadleuol yn canolbwyntio ar
Fanyleb Seiliedig ar Allbwn, a fydd yn nodi anghenion a gofynion y Comisiwn. - y bydd yr ymarfer caffael cystadleuol yn cael ei gynnal
mewn pedwar cam. |
|
Defnydd o'r ystad - gwaith dilynol Cofnodion: Yn ystod y cyfarfod ar 6 Tachwedd, cytunodd y Comisiynwyr
ar nifer o gynigion ynghylch diweddaru’r polisi ar ddefnydd o ystad y Senedd,
gan gynnwys cytuno i ymestyn y ffenestr amser ar gyfer trefnu digwyddiadau o
chwech i 11 mis ac i guradu’r dyraniadau, yn hytrach na dilyn dull ‘y cyntaf
i'r felin’. Trafododd y Comisiynwyr y meini prawf i'w defnyddio i
asesu addasrwydd ceisiadau newydd ar gyfer digwyddiadau ar ystad y Senedd, cyn
cytuno arnynt. Nod y meini prawf hyn yw sicrhau defnydd tecach a mwy amrywiol
o'r ystad. Caiff y polisi ar
ddefnydd o’r ystad ei ddiweddaru yn unol â’r meini prawf y cytunwyd arnynt. |
|
Ymateb i argymhellion Adroddiad Craffu y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfer 2022-23 Cofnodion: Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus ei adroddiad ar Graffu ar Gyfrifon 2022-23 ar 13 Rhagfyr 2023, gan
wneud saith argymhelliad i’r Comisiwn. Cytunodd y Comisiynwyr
ar ymateb i ymdrin ag argymhellion y Pwyllgor. |
|
Ymateb i ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar y Penderfyniad ar gyfer 2024-25 Cofnodion: Gwnaeth y Comisiwn drafod a chymeradwyo ymateb i'r Bwrdd
Taliadau Annibynnol, ar ôl i lythyr gan y Bwrdd ddod i law ar 15 Rhagfyr
ynghylch yr ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer
2024-25. Caiff yr ymateb hwn ei
anfon at y Bwrdd Taliadau Annibynnol maes o law. |
|
Diwygio'r Senedd Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am y tri Adroddiad Cyfnod 1 ar Ddiwygio’r Senedd a
gyhoeddwyd ar 19 Ionawr gan y Pwyllgor Biliau Diwygio, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yn ogystal â’r argymhellion a wnaed
ynddynt y gallai fod angen i’r Comisiwn ymateb iddynt. Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd, cyn cytuno i drafod ymatebion drafft y tu
allan i'r cyfarfod lle bo angen. Roedd yr ymateb i’r
tri argymhelliad i’r Comisiwn gan y Pwyllgor Biliau Diwygio wedi'i ddarparu i'r
Comisiynwyr a'i anfon at y Pwyllgor ar 26 Ionawr oherwydd y dyddiad cau
perthnasol, sef cyn y Ddadl Cyfnod 1. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Diogelwch - Aelodau o’r Senedd yn Ymgysylltu â'r Cyhoedd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
fod canllawiau, gwybodaeth a chyngor ymarferol ar ddiogelwch yn cael eu darparu
i’r Aelodau a’u staff eu hystyried wrth ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu
â’r cyhoedd. |
|
Protocolau'r Heddlu Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
ddau Brotocol, y cytunwyd arnynt rhwng Comisiwn y Senedd a phedwar heddlu
Cymru, ar gyfer mabwysiadau dull cydweithredol o dan rai amgylchiadau. Mae’r
rhain yn cynnwys Protocol Trosfwaol ar drefniadau cyfathrebu a chydgysylltu ac
ar ymchwilio i weithredoedd troseddol honedig gan Aelodau o’r Senedd neu eu
staff a Phrotocol ar Chwiliadau’r Heddlu o Safleoedd y Senedd. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Adrodidad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
llythyrau at y Llywydd a'r Prif Weithredwr gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad i ddull
iechyd y cyhoedd o atal trais ar sail rhywedd. Mae argymhelliad 12 yn cynnig
bod pob Aelod o’r Senedd yn ymrwymo i gwblhau hyfforddiant ar atal trais ar
sail rhywedd. Caiff yr ymatebion arfaethedig eu rhannu â'r Comisiynwyr. |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch llywodraethiant y DU a’r UE Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
llythyr at y Llywydd dyddiedig 19 Rhagfyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gofyn am ymateb i ddau argymhelliad a wnaed yn
adroddiad y pwyllgor. Hefyd, nodwyd y byddai ymateb drafft yn cael ei
ddosbarthu yn dilyn y cyfarfod. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
wybod y bydd papur yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfarfod ym mis Mawrth ar y
defnydd o apiau nad ydynt wedi’u darparu gan y Comisiwn ar gyfer busnes
Seneddol neu fusnes swyddogol. |