Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Nododd Adam Price AS
fod ei frawd yn cael ei gyflogi gan Gomisiwn y Senedd. |
|
Cynnig Taliad Costau Byw 2023-24 Cofnodion: Yn dilyn penderfyniad
y Comisiwn mewn egwyddor i wneud taliad costau byw yn y flwyddyn ariannol
gyfredol, cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod rhwng
swyddogion ac Ochr yr Undebau Llafur (TUS) a gynhaliwyd ar 5 Medi. Eglurwyd bod
y sefyllfa wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a gyfleuwyd yn y papurau a bod y Clerc
yn gofyn am gyfle i'r Bwrdd Gweithredol ymateb i geisiadau undebau llafur am
ragor o wybodaeth cyn cytuno ar y taliad yn ystod y flwyddyn. Trafododd y
Comisiynwyr awydd i flaenoriaethu ymateb i anghenion y rhai sydd ar y cyflogau
isaf a nodwyd na fu'n bosibl sicrhau cyfranogiad llawn yn y prosesau dros
gyfnod yr haf. Gwnaethant ystyried goblygiadau lleihau gwasanaethau, er
enghraifft, cymorth TGCh, hyfforddiant a gweithgarwch rhyngseneddol, a
gweithgarwch newydd na fyddai’n cael eu cefnogi yn y modd disgwyliedig.
Mynegwyd pryderon hefyd am yr effeithiau ar lesiant staff oherwydd y mesurau
arbed costau. Roedd un o’r Comisiynwyr yn dal i wrthwynebu gwneud taliad y tu
hwnt i'r cytundeb cyflog presennol. Cytunodd y Comisiwn y dylai Swyddogion barhau â'r
trafodaethau gydag Ochr yr Undebau Llafur ar y cyd (sy'n cynnwys cynrychiolwyr
o PCS, FDA, a Prospect) am gyfnod byr. Byddai'r trafodaethau’n seiliedig ar
fforddiadwyedd y taliad a’r effaith y byddai setlo’r anghydfod yn ei chael ar
staff a gwasanaethau. Awgrymodd y Comisiynwyr y dylai Ken Skates, fel y deiliad
portffolio perthnasol, fod yn rhan o’r broses pe bai hynny’n ddefnyddiol.
Gofynnwyd am i nodyn byr gael ei baratoi i’r Comisiynwyr ei rannu â’u grwpiau
fel diweddariad am y camau sy’n cael eu cymryd, a gofynnodd y Llywydd i’r
Comisiynwyr rannu adborth o’u grwpiau wedi hynny. Dywedodd y Clerc ei
bod yn fwriad ganddi, fel y Swyddog Cyfrifo, ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid
ynghylch y goblygiadau unwaith y byddai gwedd derfynol ar y sefyllfa gan y
byddai'r amrywiad yn y defnydd o arian yn un sylweddol. |
|
Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2024-25 Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr waith a wnaed i baratoi ar gyfer cyllideb ddrafft derfynol y
Comisiwn ar gyfer 2024-25, a fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer penderfyniad
terfynol yn y cyfarfod ar 25 Medi. Gwnaeth y Comisiynwyr
drafod a rhannu barn mewn perthynas â’r canlynol: • costau staffio ac effaith yr argyfwng
costau byw; • gofyniad y gyllideb weithredol a
chyfanswm gofyniad y gyllideb ar gyfer 2024-25, gostyngiadau costau o ran
pwysau’r gyllideb, ac arbedion y mae angen eu nodi drwy'r broses cynllunio
gwasanaeth a'r adolygiad corfforaethol; • y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig ac
amcangyfrifon cyllideb y dyfodol; • clustnodi costau sy'n ymwneud â
rhaglenni sy'n ymateb i waith y gofynnwyd amdano gan y Senedd a'r Pwyllgor
Cyllid h.y. Diwygio'r Senedd, Ffyrdd o Weithio, ac unrhyw Daliad Costau Byw yn
y dyfodol; • y Penderfyniad a chefnogaeth i’r Bwrdd
Taliadau. Dywedodd y Clerc mai
argymhelliad y Bwrdd Gweithredol oedd peidio ag ymgorffori cyllid ar gyfer
canlyniad cytundeb cyflog yn y dyfodol, yn seiliedig ar safbwynt cyfredol PCS
yn y trafodaethau cyflog, yn y gyllideb graidd. Argymhellodd y Bwrdd
Gweithredol y dylid cyflymu trafodaethau ynghylch y cytundeb cyflog nesaf.
Cadarnhaodd y Comisiynwyr y seiliau ar gyfer datblygu cyllideb ddrafft derfynol
y Comisiwn ar gyfer 2024-25, gan gynnwys paratoi ar sail y cytundeb cyflog
presennol. Bydd y gyllideb ddrafft derfynol yn cael ei hadolygu yn y cyfarfod
nesaf a'i gosod wedi hynny yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog. Cytunwyd y
byddai'n ddefnyddiol ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i ddarparu gwybodaeth
ychwanegol ar gyfer y gwaith craffu ar y gyllideb. |