Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau Cofnodion: Diweddarwyd
y Comisiynwyr i’r perwyl fod disgwyl ymateb i'r cynnig gan reolwyr mewn
perthynas â thaliad costau byw – a gynigiwyd i Ochr yr Undebau Llafur gyda
chytundeb y Comisiynydd – ddydd Mawrth. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2023 Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 10 Gorffennaf. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Awst 2023 Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 15 Awst. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Medi 2023 Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 6 Medi. |
|
Cyllideb Ddrafft 2024-25 Cofnodion: Cyflwynwyd Cyllideb
Ddrafft 2024-25 i’r Comisiynwyr i’w chytuno. Amlygwyd y newidiadau i’r gyllideb
ers cyfarfod y Comisiwn ar 6 Medi. Roedd y rhain yn cynnwys y gofyniad y gyllideb weithredol a chyfanswm gofyniad y
gyllideb ar gyfer 2024-25, darpariaethau wedi'u neilltuo ar gyfer Diwygio'r
Senedd a hefyd Costau rhaglen Ffyrdd o Weithio, mân newid i’r gyllideb staffio sylfaenol,
cyfuno taliad i’w wneud i staff cymorth a chynllun Pensiwn yr Aelodau. Rhoddwyd diweddariad pellach gan gynnwys mewn perthynas â meysydd lle roedd
yn hysbys y gellid disgwyl newid, ond lle na fyddai manylion ar gael o fewn
terfynau amser y gofynion ar y Comisiwn i osod y gyllideb. Roedd y rhain yn
cynnwys gwaith i'w wneud gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar daliadau i Staff Cymorth
yr Aelodau/Aelodau o’r Senedd, a chyflogau staff cymorth. Cydnabuwyd y byddai'n
rhaid mynd i'r afael â'r rhain, o bosibl drwy brosesau'r gyllideb atodol,
unwaith y byddai'r manylion ar gael pe bai'r rhagdybiaethau cyllidebol yn
annigonol. Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd gorfod cydbwyso'r
broses o ddarparu rhaglenni newid sylweddol ochr yn ochr â'r her i ddarparu'n
briodol ar gyfer busnes fel arfer, a gofynnwyd am ragor o wybodaeth yn y
cyfarfod nesaf i lywio ystyriaethau blaenoriaethu a phenderfyniadau polisi o
ran cynhyrchu incwm. At hynny, gofynnodd y Comisiynwyr am nodiadau byr i nodi
dadansoddiad o Floc Cymru ac i ddarparu gwybodaeth am reoli contractau a oedd
wedi arwain at arbedion costau, a drafodwyd mewn perthynas â llungopïwyr. Gwnaeth y Comisiynwyr nodi Datganiad o Egwyddorion y
Pwyllgor Cyllid (dim newid ers 2019) a’r llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2024-25 i’w gosod, yn ddarostyngedig i’r
addasiadau a drafodwyd. |
|
Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y Fframwaith Adnoddau Tymor
Canolig drafft ar gyfer y cyfnod 2024-25 i 2026-27, a buont yn ystyried y
berthynas rhwng y dull hwn o gynllunio mwy manwl yn y tymor hwy, a’r cylch
gosod cyllideb blynyddol. Trafododd y Comisiynwyr yr ymagwedd at y tymor
canolig a'r fframwaith fel arf i gynllunio ar gyfer – a rheoli ac ymateb yn
effeithiol i – unrhyw fwlch rhwng yr adnoddau sydd eu hangen, a'r adnoddau sydd
ar gael mewn modd strategol. Byddai'r fframwaith yn nodi gofynion y gyllideb a
ragwelir ar gyfer 2025-26 a 2026-27, wedi'u gosod ar sail 'senario twf a
reolir' yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig; yn cynnig Sefydliad Targed y
Comisiwn bob blwyddyn ariannol fel rhan o'r Cynllun Gweithlu, fel y prif ddull
strategol ar gyfer alinio blaenoriaethau adnoddau ag argaeledd adnoddau; ac yn
mabwysiadu strategaeth datblygu staff drwy'r Cynllun Gweithlu i sicrhau bod
adnoddau pobl yn cyd-fynd â blaenoriaethau. Nododd y Comisiynwyr y bwriadwyd i’r ddogfen fod yn ddogfen weithredol i lywio'r
gwaith o bennu cyllideb flynyddol y Comisiwn, a'i flaenoriaethau mewnol. Buont
yn myfyrio ar y berthynas ag ymarfer arbed costau'r flwyddyn gyfredol, a gofyn
am gynnal iteriad pellach o waith er mwyn nodi meysydd i'w trafod gan y
Comisiwn yn ei gyfarfod nesaf mewn perthynas â blaenoriaethu darpariaeth
gwasanaeth, arbed costau a chynhyrchu incwm. Trafododd y Comisiynwyr lesiant staff a'r offer sydd ar gael i gefnogi hyn.
Gwnaethant groesawu gwybodaeth am y ddarpariaeth newydd o ran y Cynllun
Gweithredu ar yr Economi, a oedd ar fin cychwyn ar gyfer staff y Comisiwn, yr
Aelodau a'u staff. Buont hefyd yn ystyried nifer o fanylion penodol, a gofyn am
nodyn ynghylch teleffoni, a threfniadau ar gyfer cael gwared ar offer TGCh. Nododd y Comisiynwyr
grynodeb gweithredol y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, ar sail y gwaith
pellach sydd i'w wneud. |
|
Diwygio'r Senedd (diweddariad ar lafar) Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad
llafar i’r Comisiynwyr yn dilyn cyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac
Etholiadau). Fe'u hysbyswyd bod darpariaethau'r Bil wedi bod yn unol â'r
disgwyl i raddau helaeth, yn cyd-fynd yn fras ag argymhellion y Pwyllgor Diben
Arbennig a/neu'r Pwyllgor Busnes, er bod rhai darpariaethau wedi'u cynnwys nad
oedd Swyddogion wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen (e.e. dyletswydd a
osodwyd. ar y Llywydd mewn perthynas ag adolygiad o rannu swyddi ar ddechrau’r
Seithfed Senedd). Roedd y
darpariaethau’n cynnwys cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod; cynyddu’r terfyn
deddfwriaethol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru; cynyddu uchafswm nifer y
Dirprwy Lywyddion y caniateir eu hethol o’r tu mewn i’r Senedd i ddau; newid
system etholiadol y Senedd fel bod pob Aelod yn cael ei ethol drwy system
rhestr gyfrannol gaeedig, gyda phleidleisiau'n cael eu trosi'n seddi drwy
fformiwla D'Hondt; ac ailbwrpasu ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth
Leol Cymru, gan gynnwys rhoi iddo'r swyddogaethau angenrheidiol i sefydlu
etholaethau newydd yn y Senedd, ac i gynnal adolygiadau parhaus o ffiniau
etholaethau'r Senedd. Hysbyswyd y
Comisiynwyr bod darpariaethau ychwanegol yn cynnwys y canlynol: ·
Dychwelyd i’r amser
arferol rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd, sef pedair blynedd; ·
ei gwneud yn ofynnol i
ymgeiswyr i’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru; ·
adolygiad o
weithrediad ac effaith y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn
etholiadau 2026 a 2030; a ·
mecanwaith ar gyfer
ystyriaeth y Senedd o rannu swyddi sy'n ymwneud â'r Senedd, yn y Seithfed
Senedd. O fewn yr amserlen ar
gyfer ystyried y Bil byddai'r Comisiwn yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid
ar 11 Hydref ac i Bwyllgor y Bil Diwygio ar 26 Hydref. |
|
Ffyrdd o Weithio – Datblygiad Dylunio Prosiect Siambr 26 Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr am y prosiect a’r gwaith
sydd ar y gweill i ddatblygu’r opsiwn a’r dyluniad a ffefrir ar gyfer Siambr
gynyddol ar gyfer 96 Aelod, ar gyfer y Seithfed Senedd. Cytunwyd ar y weledigaeth lefel uchel a’r cwmpas ar gyfer
y prosiect, i alluogi’r gwaith o gaffael gwasanaethau dylunio a phensaernïol i
ddechrau ym mis Hydref, ar y sail y dylai gwaith archwilio ystyried yn eang y
posibiliadau o fewn ffiniau senedd gylchol, a bod gofynion o ran hygyrchedd i'w
cynnwys yn y fanyleb, ac y dylai tendrau ar gyfer gwasanaethau dylunio a
phensaernïol fynd y tu hwnt i faterion hygyrchedd ffisegol. Nododd y Comisiynwyr y
gwaith arfaethedig ar gyfer y prosiect, a chroesawyd y ffaith y byddai
grŵp cyfeirio o Aelodau yn cymryd rhan yn yr hyn a fyddai’n broses
ailadroddol, a fyddai’n dychwelyd i’r Comisiwn ar gyfer penderfyniadau, ar yr
adeg briodol. |
|
Adolygiad o’r Polisi Defnydd o'r Ystâd Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad
i'r Comisiynwyr am y materion a godwyd drwy'r ymarfer ymgynghori ar y defnydd
o'r ystâd; a gwnaethant nodi crynodeb byr o’r cynnydd a wnaed eisoes gan Dîm
Digwyddiadau a Lleoliadau’r Senedd o ran adolygu sawl agwedd ar y broses sy’n
gysylltiedig â defnyddio’r ystâd. Byddai papur pellach yn cael ei ddarparu yn
ddiweddarach yn y flwyddyn yn amlinellu atebion posibl i rai o'r materion a
godwyd. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Diweddariad ar Faterion Cynllunio Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
ceisiadau cynllunio diweddar a adolygwyd a'r ymgysylltiad cynhyrchiol â
datblygwyr a swyddogion Cynllunio; a'r Ymgynghoriad a gynlluniwyd yn ystod yr
haf a'r hydref 2023 gan yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu
Lleol ar gyfer Bae Caerdydd. |
|
Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at y Llywydd ynglŷn â: Costau Diwygio'r Senedd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
llythyr a gafwyd oddi wrth y Prif Weinidog yn ymwneud ag amcangyfrifon costau
ar gyfer Diwygio’r Senedd. |
|
Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) dyddiedig 12 Mehefin Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i’r Comisiwn am gyfarfodydd y
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Unrhyw fusnes arall Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater arall. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiwn, drwy fwyafrif, wedi cefnogi’r cynnig
rheoli mewn perthynas â thaliad costau byw, a gafodd ei gynnig, wedyn, i Ochr
yr Undebau Llafur. |