Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Gofynnodd
y Comisiynwyr |
|
Ail Gyllideb Atodol Comisiwn y Senedd 2022-23 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa
ariannol y Comisiwn yn 2022-23. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyllideb atodol
sy’n lleihau’r gofyniad arian parod cyffredinol gan £0.975 miliwn wedi cael ei
hargymell. Dyma’r prif ffactorau a oedd llywio’r gyllideb atodol hon: · Y ffaith bod y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant
Gwladol cyflogwyr wedi cael ei wrthdroi · Gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer gwyliau blynyddol a
gronnwyd · Rhagolwg o danwariant yn y cyllidebau a glustnodwyd ar
gyfer i) Penderfyniad y Bwrdd Taliadau, ii) cymorth i'r Bwrdd Taliadau a iii)
cymorth i swyddfa’r Comisiynydd Safonau · Gweithredu’r Safonau Adrodd Ariannol Ryngwladol 16 newydd
– Prydlesi. Cytunodd y Comisiynwyr i nodi a chymeradwyo’r Memorandwm
Esboniadol, mewn perthynas â’r ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2022-23, i’w
gyflwyno i’w gynnwys yng nghynnig Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2023 ar gyfer y
gyllideb. Byddai hyn yn lleihad o £1.075 miliwn i’r Gyllideb Atodol Gyntaf a
osodir ar gyfer 2022-23, sef gostyngiad o £0.975 miliwn yn y gofyniad arian
parod net. Cymeradwywyd hefyd y
llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyd-fynd â'r Gyllideb Atodol
arfaethedig. |
|
Taliad Costau Byw 2022-23 i Staff y Comisiwn Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr gynnig i gefnogi gweithwyr y
Comisiwn ar y cyflogau isaf gyda thaliad Costau Byw, a’r rheswm dros
gasgliadau’r Bwrdd Gweithredol. Cytunodd y Comisiwn i wneud y canlynol: · cefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i wneud taliad o
£500 i holl gyflogeion y Comisiwn y mae eu cyflog ar raddfeydd TS ac M3 (EO)
(staff sy’n cael cyflog is na £32,000 cyfwerth ag amser llawn); · cefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i wneud taliad
llawn i'r holl staff cymwys, gan gynnwys staff rhan amser ar sail ei Asesiad
o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA); · nodi bwriad y Bwrdd Gweithredol i wneud y taliad hwn mewn
tri thaliad llai, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth; a chefnogi penderfyniad
y Bwrdd Gweithredol i beidio â gwneud y taliad hwn i staff contractwyr, ac, yn
hytrach, yn cefnogi penderfyniad i ysgrifennu at gyrff sydd â chontractau yn
annog trefniadau tebyg. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Gofynnodd y
Comisiynwyr am sicrwydd ynghylch diogelwch y mynedfeydd i'r ystâd yn dilyn
problem gydag un o'r paneli gwydr. Dywedwyd wrthynt fod atgyweiriadau dros dro
wedi'u cwblhau a bod contractwr arbenigol a'n contractwr rheoli cyfleusterau
wedi asesu'r sefyllfa cyn i'r fynedfa gael ei hailagor. Byddai camau gweithredu ychwanegol yn ymwneud â diogelwch y fynedfa yn
cael eu cymryd yn yr wythnosau nesaf. |