Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.b

Datgan buddiannau

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 19 Mehefin.

2.

Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg / y Pwyllgor Taliadau

2.a

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Cofnodion:

Croesawyd Bob Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, i'r cyfarfod a chyflwynodd Adroddiad Blynyddol y pwyllgor, gan amlinellu'r gwaith yr oedd y pwyllgor wedi'i wneud yn y flwyddyn a chrynhoi ei ganfyddiadau a'i gasgliadau.

Tynnodd sylw at y newid mewn Cynghorwyr Annibynnol a oedd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn, a meysydd ffocws penodol yn ei adroddiadau. Y rhain oedd: bod cyfrifon y flwyddyn flaenorol wedi mynd yn ddidrafferth, soffistigeiddrwydd cynyddol gwaith cynllunio'r Comisiwn, yr heriau a fydd yn codi yn y dyfodol gyda maint y newidiadau, y newidiadau o fewn Archwilio Mewnol a'r bygythiad seiberddiogelwch sy'n esblygu'n barhaus.

Nododd y Comisiynwyr y byddai'r Adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau'r Pwyllgor ar wefan y Senedd maes o law.

Gofynnodd y Llywydd i fater a godwyd gan Gomisiynydd yn ymwneud â gwybodaeth am ystyriaethau'r Comisiwn fod yn destun trafodaeth bellach gyda'r Prif Weithredwr a'r Clerc.

2.b

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr Adroddiad y Pwyllgor Taliadau, a oedd yn amlinellu rôl y Pwyllgor a'i ganfyddiadau a'i gasgliadau o'r gwaith yr oedd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn, a chytunwyd ar yr addasiadau arfaethedig i'r Cylch Gorchwyl, sef y gellid gofyn i aelodau'r pwyllgor:

  • gyfrannu at faterion penodol o ran y gweithlu, lle mae eu harbenigedd yn gwneud hyn yn briodol; a

rhoi adborth i'r Pwyllgor ar faterion perthnasol o ran gweithlu’r Comisiwn lle maent wedi bod yn rhan o’r mater.

3.

Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig Drafft

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn ddiweddariad ar waith i ddatblygu fframwaith cyllidebol a chynllunio'r gweithlu yn y tymor canolig. Roedd hyn yn seiliedig ar egwyddorion a rhagdybiaethau cynllunio y cytunwyd arnynt, i helpu i reoli'r pwysau sylweddol ar adnoddau yn y dyfodol i'r Comisiwn. Cyflwynwyd cynigion cyllideb drafft 2024-25 iddynt hefyd, yn amodol ar waith manylach cyn cyflwyno cynnig cyllideb derfynol yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Medi.

Nododd y Comisiynwyr gefndir a gyrwyr ar gyfer Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, yn rhoi mwy o amlygrwydd i'r persbectif tymor hwy, gan gydnabod nad yw'r broses graffu flynyddol ar y gyllideb yn newid. Nodwyd y senarios cynllunio ariannol a’r adnoddau ychwanegol y byddai eu hangen ar bob un dros y cyfnod 2024-25 i 2026-27.  Y dull cyffredinol o ymdrin â'r Fframwaith fyddai galluogi tryloywder ar gostau rhaglenni mawr drwy ei wahanu oddi wrth adrodd costau gweithredol presennol y Comisiwn a chyflwyno Targed Cynllunio Gweithlu blynyddol i gynnwys Ffactor Effeithlonrwydd a bennir bob blwyddyn ar y lefel y bydd angen i gyfran o'r twf gofynnol mewn sefydliad bob blwyddyn gael ei amsugno gan y sefydliad cyfredol ar y pryd.

Trafododd y Comisiynwyr awgrym i gynnwys Aelodau yn fwy colegol yn y dull tymor canolig a hirdymor o bennu cyllideb a chynigiwyd i ddeiliad portffolio'r Comisiwn ar gyfer y gyllideb a llywodraethu gael cynnig bod yn rhan o weithgaredd i gefnogi hynny.

Cytunodd y Comisiynywr y bydd swyddogion yn parhau i ddatblygu cynigion cyllideb 2024-25, ar y cyd â’r Llywydd a’r Comisiynwyr, cyn cyflwyno cynnig terfynol ar y gyllideb ddrafft i’r Comisiwn ym mis Medi.

Bydd y gyllideb ddrafft derfynol yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog yn yr hydref.

4.

Ffyrdd o Weithio - Diweddariad Bae 2032

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu'r opsiynau strategol ar gyfer llety yn y dyfodol fel rhan o brosiect Bae 2032. Nodwyd y wybodaeth gefndir, y gwnaethant gais amdani, mewn perthynas â chyfleoedd blaenorol o ran yr ystâd a ystyriwyd gan y Comisiwn a'i ragflaenwyr. 

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad ac amserlenni ar gyfer dyfodol y prosiect (fel sy'n hysbus ar hyn o bryd), gan gynnwys penderfyniadau a fydd yn ofynnol yn 2023-2024 a’r angen i ymgysylltu ag Aelodau’n ehangach.

5.

Llythyr PCS

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn ei hysbysu am gais gan Ochr yr Undebau Llafur y Senedd (Undeb PCS) i wneud taliad costau byw pellach i holl staff y Comisiwn islaw graddau cyflog Cyfarwyddwr.

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth gefndir yn ymwneud â'r cais, cytunwyd ar gamau cychwynnol ac y byddent yn cael gwybod am ddatblygiadau ac opsiynau cysylltiedig.

6.

Papurau i'w nodi:

6.a

Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Heddlu De Cymru

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth gefndir, y gofynnwyd amdani yn eu cyfarfod ym mis Mai, am gynnwys y Cytundeb Lefel Gwasanaeth sydd ar waith rhwng y Comisiwn a Heddlu De Cymru, ac esboniad o sut mae’r Cytundeb wedi datblygu i ymateb i dirwedd risg sy’n newid.

6.b

Ffyrdd o Weithio - Diweddariad Swyddfa Gogledd Cymru

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad bod adleoli cyfleusterau a gwasanaethau Comisiwn y Senedd a ddarperir yn swyddfa Bae Colwyn i swyddfa yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Sarn Mynach (Cyffordd Llandudno) wedi’i gwblhau.

6.c

Darparu Cynhyrchion Gofal Personol

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad ar ôl y chwe mis cyntaf o ddarparu cynhyrchion mislif am ddim yn yr holl dai bach ar Ystâd y Senedd, yn dilyn cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol o gynnig gan Ochr yr Undebau Llafur.

6.d

Prosiect Archif

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gynnydd yn y broses o ddigideiddio recordiadau clyweledol o drafodion y Cynulliad (fel yr oedd ar y pryd) rhwng 1999 a 2014.  Cawsant wybod y byddai'r gwaith yn cael ei gyflawni o dan gytundeb gyda Bow Tie.

Trafododd y Comisiynwyr oblygiadau archifau digidol i'r Aelodau fel deiliaid swyddi unigol, ac awgrymwyd gofyn am gyngor ar ran yr Aelodau.

6.e

Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

7.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Amcangyfrifon costau diwygio'r Senedd - Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad bod gwaith wedi'i wneud ar ailbroffilio'r costau y cytunwyd arnynt yn flaenorol, a bod disgwyl i ohebiaeth ddod i law dros yr haf cyn cyflwyno deddfwriaeth.

Llythyr at y Llywydd gan y Bwrdd Taliadau - ymhellach i’r cytundeb i sefydlu mecanwaith ar gyfer deialog am gefnogaeth i Aelodau yn y dyfodol, hysbyswyd y Comisiynwyr fod y Llywydd wedi cael llythyr yn nodi meysydd o ddiddordeb i'r Bwrdd y mae’n eu nodi a allai fod yn croesi ar draws gwasanaethau a ddarperir gan y Comisiwn. Byddai'r llythyr yn cael ei rannu gyda Chomisiynwyr a darperir rhagor o wybodaeth yn yr hydref.

Dadl Fer - cytunwyd y byddai Comisiynydd yn ymateb i'r Ddadl Fer a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 12 Gorffennaf.

Ymgynghoriad o dan 3(b) Dirprwyo swyddogaethau Comisiwn y Senedd - Ymgynghorodd y Clerc â’r Comisiynwyr, a oedd yn fodlon â mân newid arfaethedig i delerau ac amodau swydd ar lefel cyfarwyddwr.

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi nodi llythyr at y Pwyllgor Cyllid ar eu hadolygiad o'r datganiad o egwyddorion.

Ar ôl cael ei benodi'n Gomisiynydd, rhoddodd Adam Price AS wybod i Brif Ysgrifennydd y Comisiwn fod ei frawd yn gweithio i Gomisiwn y Senedd.