Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad Cofnodion: Croesawyd Kate Innes
i’w chyfarfod Comisiwn cyntaf fel y Prif Swyddog Cyllid. |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
cyfarfod 22 Mai. |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2022-23 Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr eu hadroddiad blynyddol a’u cyfrifon ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill
2022 i 31 Mawrth 2023. Cawsant sicrwydd bod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd
Risg wedi argymell cymeradwyo’r adroddiad, a chytunwyd ar y fersiwn derfynol
i'w chyhoeddi, yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau. |
|
Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2022-23 Cofnodion: Cyflwynodd y Comisiynydd gyda’r portffolio datblygu cynaliadwy yr adroddiad
ar berfformiad cynaliadwyedd ystâd y Senedd a gweithrediadau dros y flwyddyn
ddiwethaf. Roedd yr adroddiad yn amlygu cyflawniadau amgylcheddol allweddol,
perfformiad yn erbyn targedau gan gynnwys ail flwyddyn y Strategaeth Carbon
Niwtral, y defnydd o gyfleustodau, a chrynodeb o’r gwelliannau arfaethedig ar
gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Trafododd y Comisiynwyr fesurau arbed ynni ac awgrymwyd y gallai fod yn
ddefnyddiol casglu data ychwanegol mewn perthynas â theithio mewn cerbydau
trydan. Cytunodd y Comisiynwyr
i gyhoeddi'r adroddiad yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau, ac i
ddarparu'r adroddiad i'r Pwyllgor Cyllid yn unol â’i argymhelliad sy’n ymwneud
â gwybodaeth am arbed ynni. |
|
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2022-23 Cofnodion: Cyflwynodd y Comisiynydd gyda'r portffolio Ieithoedd Swyddogol yr adroddiad
ar y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei
ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol, gan gynnwys cymeradwyo a
gweithredu'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad gan nodi y byddai dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu cyn
diwedd y tymor. |
|
Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-23 Cofnodion: Cyflwynodd y Comisiynydd gyda’r portffolio Cydraddoldebau yr Adroddiad
Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer 2022-23, a oedd yn adrodd ar
gynnydd a wneir gan dimau ar draws Comisiwn y Senedd o ran cyflawni’r amcanion
sydd wedi’u nodi yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Comisiwn (2022-26).
Nododd y Comisiynwyr y penawdau o ddiddordeb ac eitemau newydd yn adroddiad
eleni gyda'r bwriad o gynyddu tryloywder data a gwella hygyrchedd. Trafodwyd y
data economaidd-gymdeithasol a lledaeniad daearyddol yr ymateb i recriwtio i
swyddi’r Comisiwn. Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad i'w gyhoeddi, ynghyd â'r gyfres
gysylltiedig o adroddiadau data Amrywiaeth a Chynhwysiant a fyddai'n cyflawni
dyletswyddau'r sector cyhoeddus a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Cytunodd y Comisiynwyr
hefyd ar y cynnig i adnewyddu aelodaeth y Comisiwn o Raglen Hyrwyddwyr
Amrywiaeth Stonewall ar gyfer 2024/25. |
|
Adroddiad Adolygu Urddas a Pharch Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad ar
ganlyniad yr adolygiad urddas a pharch. Clywodd y Comisiynwyr am gynlluniau rhai grwpiau i orfodi cyfranogiad mewn
hyfforddiant urddas a pharch a chytunwyd ar werth eirioli bod yr hyfforddiant a
gynigir gan y Comisiwn yn cael ei gymryd gan yr holl Aelodau a'u staff yn
ddieithriad. Awgrymwyd y dylid ystyried urddas a pharch wrth i staff ryngweithio ar
ddechrau ac ar ddiwedd eu cyflogaeth. Trafodwyd hefyd bwysigrwydd darparu
gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bawb y mae materion sy'n
gysylltiedig ag urddas a pharch yn effeithio arno, ac amlygwyd ei bod wedi bod
yn ddefnyddiol pan oedd gwybodaeth yn cael ei harddangos yn gorfforol ar yr
ystâd. Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad, ei wyth argymhelliad a'r camau nesaf; yn benodol: · ailddatgan eu hymrwymiad i gefnogi a datblygu diwylliant
o urddas a pharch ar draws y Senedd; · gwahodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd i ystyried
canfyddiadau'r adolygiad, gan gynnwys y dylai'r Senedd roi Datganiad trosfwaol
ar y cyd ar Urddas a Pharch yn lle’r polisi tair rhan presennol; · cytuno ar ddatganiad trosfwaol drafft ar y cyd i'w
ystyried gan y Pwyllgor Safonau; · camau i'w cymryd o fewn y Comisiwn ynghyd â
chyfrifoldebau clir am arweinyddiaeth a gweithgareddau; ac · eirioli ymhlith eu grwpiau, a’r Aelodau annibynnol, fod
yr hyfforddiant urddas a pharch a gynigir gan y Comisiwn yn cael ei gymryd gan
yr holl Aelodau a'u staff yn ddieithriad. Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai'r adroddiad yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
fyddai'n cyhoeddi'r adroddiad fel rhan o'i waith ar y mater hwn, y Comisiynydd
Safonau, y Bwrdd Taliadau a'r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Diweddariad Ffyrdd o Weithio Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y diweddariad am gyfeiriad a chynnydd eu rhaglen
newid mawr 'Ffyrdd o Weithio', wrth i'r gwaith symud y tu hwnt i gyfnod y
Cynllun Gweithredu Cychwynnol i'w gyfnod cyflawni strategol. |
|
Canlyniadau’r Arolwg Staff Blynyddol Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad ar Arolwg Staff Blynyddol Comisiwn y
Senedd ar gyfer y flwyddyn 2022/23. |
|
Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 27 Ebrill Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i'r
Comisiwn am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau awdurdodi recriwtio) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir
fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Diwygio'r Senedd –
cafodd y Comisiynwyr wybod bod disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cais i addasu'r
rhagdybiaethau ar gyfer amcangyfrifon costau Comisiwn y Senedd yn sgil Bil
Diwygio'r Senedd sydd yn yr arfaeth. Byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i
gyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf. Llythyr gan PCS - cafodd y Comisiynwyr wybod am lythyr gan Gangen y PCS
yng Nghomisiwn y Senedd. Newid Comisiynydd – diolchodd Rhun ap Iorwerth i bawb a oedd wedi gweithio
gydag ef a'i gefnogi yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd, cyn iddo ymddiswyddo. |