Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 27 Mawrth.

2.

Ffyrdd o Weithio – Opsiynau strategol ar gyfer prosiect Bae 2032

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar gyngor proffesiynol cychwynnol ynghylch opsiynau hyfyw sicrhau llety sy'n diwallu anghenion hirdymor y Senedd a'r Comisiwn. Roedd y cyngor yn seiliedig ar yr anghenion a'r gofynion drafft y cytunwyd arnynt ym mis Rhagfyr 2022.

Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd ystyriaethau datblygu cynaliadwy a chyfle cyfartal ynghyd â phwysigrwydd cael safbwynt hirdymor ar werth i bwrs y wlad.

Cytunodd y Comisiynwyr yn unfrydol y dylai swyddogion fwrw ymlaen â'r opsiynau prosiect ar y rhestr fer a bwrw ymlaen â drafftio cam cyntaf yr achos busnes ar gyfer prosiect Bae 2032 (yr Achos Amlinellol Strategol) ar sail y cyngor a ddarparwyd. 

Cytunodd y Comisiynwyr i gael diweddariad yng nghyfarfod mis Gorffennaf, ynghylch cynnydd o ran archwilio'r holl opsiynau.

3.

Cyllideb Ddrafft 2024-25

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr nifer o faterion a oedd yn debygol o effeithio ar gyllid y Comisiwn yn ystod 2024-25 a rhoi cyfarwyddyd y dylid datblygu cynigion yn y meysydd hyn fel rhan o gyllideb ddrafft 2024-25. Roedd y rhain yn cynnwys:

·       Diwygio'r Senedd

·       Rhaglen Ffyrdd o Weithio (rhagamcanion manwl) 

·       Effeithiau Strategaeth Gyflogau'r Comisiwn ar y gyllideb.

·       Ystyriaethau nad ydynt yn ymwneud â thâl.

Trafododd y Comisiynwyr yr heriau sy’n gysylltiedig â gweithredu mewn amgylchedd lle mae arian yn dynn, gyda dewisiadau anodd yn gorfod cael eu gwneud, a chydbwyso'r angen i ddarparu’r gwasanaethau presennol, bodloni rhwymedigaethau cytundebol, ac ymateb i ofynion newydd. Cyfeiriwyd at sefyllfa gadarnhaol barhaus y Comisiwn o wahardd diswyddiadau gorfodol.

Cytunwyd i ystyried y gyllideb ddrafft ochr yn ochr â'r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig drafft, gwaith a fyddai'n dwyn ynghyd Gynlluniau Tymor Canolig Ariannol a'r Gweithlu, fel rhan o gyflawni'r amserlenni sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog.

Nododd y Comisiynwyr hefyd y byddai unrhyw effaith gyllidebol o ran amcangyfrif costau ynni yn y dyfodol; adolygu cyllidebau ystadau, TGCh a chronfeydd prosiect; unrhyw newidiadau i gostau cyfraniadau pensiwn y cyflogwr; a'r adolygiad blynyddol o Gostau Penderfyniad yn cael eu nodi yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25.

4.

Diweddariad i'r Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr i llythyr at y Pwyllgor Cyllid i roi gwybodaeth mewn perthynas ag Argymhelliad 7 o Adroddiad y Pwyllgor am waith craffu ar Gyllideb 2023-24, ynghylch gwerthuso effeithiolrwydd y mentrau a gyflwynwyd gan y Comisiwn i liniaru effaith pwysau costau byw ar staff.

5.

Diweddariad i PAPAC

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr wybodaeth i’w darparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn dau faes yn dilyn Craffu ar y Cyfrifon ar gyfer 2021-22. Roedd y rhain yn ddadansoddiad o'r prosiectau a weithredwyd fel rhan o’r gronfa brosiectau, a chrynodeb o ganlyniadau'r arolwg staff a'r arolwg pwls. Gofynnodd y Comisiynwyr am rywfaint o eglurhad a chytunwyd ar gynnwys y llythyr at y Pwyllgor.

6.

Diwygiadau i Gylch Gorchwyl ARAC

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi nodi newidiadau yr oedd am eu gweithredu i'w Gylch Gorchwyl. Cytunwyd ar y newidiadau, ynghyd â'r cytundeb ar gyfer gwneud newidiadau i enwau teitlau swyddi/cyrff y cyfeirir atynt yn y ddogfen yn ôl yr angen.

7.

Papurau i'w nodi:

7.a

Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) 13 Chwefror

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a ddarperir i'r Comisiwn.

7.b

Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

7.c

Nodiadau ar Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd 9 Mawrth

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth am gyfarfod 9 Mawrth.

7.d

Llythyr ac Ymateb PCS

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr yn ffurfiol y llythyr at y Llywydd gan Undeb y PCS ar gyfer staff y Comisiwn a'r ateb. Dosbarthwyd y ddau lythyr i Gomisiynwyr y tu allan i gyfarfodydd.

7.e

Diweddariad ar Adleoli Swyddfeydd y Gogledd

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gynnydd y prosiect i adleoli cyfleusterau a gwasanaethau Comisiwn y Senedd a ddarperir yn swyddfa Bae Colwyn i swyddfa yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Sarn Mynach (Cyffordd Llandudno).

 

8.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Materion yn ymwneud â chwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn – cyfeiriodd dau Gomisiynydd at faterion a godwyd yn ystod Cwestiynau Llafar i'r Comisiwn ar 17 Mai. Roedd y rhain yn ymwneud â hawliau gwyliau blynyddol i staff y Comisiwn a gwelededd gwybodaeth am y gefnogaeth y mae'r Comisiwn yn ei darparu ar gyfer staff y Comisiwn a staff yr Aelodau sy'n cael profiad o aflonyddu. 

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd Comisiynwyr wedi cytuno ar gynnwys y Memorandwm Esboniadol, a llythyr eglurhaol ar gyfer y Pwyllgor Cyllid, yn ymwneud â'r Gyllideb Atodol.