Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates AS.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi.

2.

Ymateb i'r Pwyllgor Cyllid ynghylch y Gyllideb

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith ar Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 yn dilyn sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref.

Cytunodd y Comisiynwyr ar ymateb y Comisiwn i’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, gan nodi’r adroddiad hwnnw hefyd, cyn cymeradwyo’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24, sydd i’w gosod cyn Cynnig y Gyllideb a fydd yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Tachwedd 2022.

Wrth wneud hynny, cytunodd y Comisiynwyr y dylai Cyllideb Derfynol y Comisiwn ar gyfer 2023-24 gynnwys geiriad ychwanegol (“a’r llog a geir ar falansau gweithredol”) a bod cyfeiriad at y newid hwn yn cael ei gynnwys yn y llythyr mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2023-24. Gwneir hyn i adlewyrchu effaith y cynnydd yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr.

Hefyd, nododd y Comisiynwyr y llythyr at y Pwyllgor Cyllid yn rhoi rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn graffu.

3.

Ffyrdd o Weithio - swyddfa Gogledd Cymru

Cofnodion:

Fel rhan o’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio, trafododd y Comisiynwyr yr achos busnes dros ddarparu’r cyfleusterau sydd ar gael ar hyn o bryd i staff ac Aelodau yn swyddfa’r Comisiwn ym Mae Colwyn drwy gytundeb trwydded cydleoli gyda Llywodraeth Cymru yn ei swyddfa yn Sarn Mynach (Cyffordd Llandudno).

Roedd yr achos busnes yn nodi'r achos dros newid; cwmpas, amcanion, anghenion busnes a'r hyn y gellir ei gyflawni; a rhestr fer o opsiynau ynghyd â'r costau a gwerthusiad.

Trafododd y Comisiynwyr yr angen i ofalu am staff, yn ogystal â’r goblygiadau i ddefnyddwyr eraill y swyddfeydd, gan gynnwys Aelodau a'r cyhoedd. Hefyd, trafodwyd pwysigrwydd cael swyddfeydd y tu allan i Gaerdydd, a gallu cynnig swyddi ar ran y Senedd mewn rhannau eraill o Gymru. Daethant i’r casgliad y dylid pwysleisio annibyniaeth y swyddfa ar Lywodraeth Cymru, gan gynnwys drwy frandio priodol, ac y dylid cyfathrebu’r newid yn glir ynghyd â gwella’r wybodaeth sydd ar gael am y ffyrdd y gellir defnyddio’r gofodau. Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu yn dilyn trafodaethau manylach.

Cytunodd y Comisiynwyr i arfer y cymal terfynu ym mhrydles Swyddfa Gogledd Cymru (Prince's Park) a symud swyddfa’r Comisiwn yng Ngogledd Cymru. Byddai'r lleoliad newydd yn darparu man gwaith ar wahân ac ystafell gyfarfod hybrid, gyda storfa a chegin, yn ogystal â mynediad at ystod o gyfleusterau ar y cyd.

Yn amodol ar gyngor cyfreithiol a chyngor proffesiynol y gwasanaeth ystadau, disgwylir y byddai’r newid yn digwydd ym mis Mehefin 2023.

8.

Diwygio'r Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr wahoddiad gan y Pwyllgor Busnes i rannu safbwyntiau ar argymhellion penodol y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, yn enwedig mewn perthynas ag Argymhelliad 6 ar nifer y Comisiynwyr.

Cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu at y Pwyllgor i fynegi’r farn nad oedd achos amlwg a chryf dros symud o’r sefyllfa bresennol, oherwydd ni ragwelir y bydd diwygio’r Senedd yn newid swyddogaethau statudol Comisiwn y Senedd fel ag y maent ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, wrth i waith y Senedd barhau i ddatblygu yn ystod y blynyddoedd i ddod, nodwyd y gallai themâu ddod i'r amlwg y byddai’n rhaid i'r Comisiwn roi sylw iddynt, ac efallai y byddai angen ailystyried capasiti’r Comisiwn bryd hynny.

Pe bai sefyllfa o’r fath yn codi, nid oedd y Comisiynwyr yn rhagweld y byddai angen mwy nag un aelod ychwanegol, gan arwain at Gomisiwn o chwech, gan gynnwys y Llywydd.   

4.

Fframwaith ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol

Cofnodion:

Croesawodd y Comisiynwyr fersiwn ddiweddaraf y fframwaith ar y cymorth y mae’r Comisiwn yn ei roi ar gyfer gweithgarwch seneddol rhyngwladol yn ystod y Chweched Senedd. Bydd y fframwaith yn galluogi’r Comisiwn i ddangos sut y mae’n gweithio tuag at gyflawni’r canlyniadau a nodwyd, gan ddangos cryfderau’r Senedd a’r Comisiwn a chysylltu’n uniongyrchol â buddiannau o ran polisi a gweithdrefn, yn ogystal â buddiannau corfforaethol.

Trafododd y Comisiynwyr y gweithgarwch rhyngwladol sy’n rhan o rôl Aelod, gan gydnabod ei bod yn bwysig i Aelodau fod yn ymwybodol o ddarpariaethau'r Penderfyniad yn ogystal â’r cymorth y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu ar gyfer gweithgareddau amrywiol. Cytunwyd ar y fframwaith, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Senedd.

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am Brosiect Diogelwch Swyddfeydd a Chartrefi’r Aelodau, sy'n cael ei arwain gan y tîm Diogelwch.

Croesawodd y Comisiynwyr y cynnydd ers i'r prosiect ddechrau, yn ogystal â’r wybodaeth am yr opsiynau a’r gofynion yn y dyfodol mewn perthynas â diogelwch Aelodau. Trafodwyd pwysigrwydd cymryd camau er budd diogelwch staff yr Aelodau, yn ogystal â’r etholwyr sy’n ymweld â’r swyddfeydd.

Cytunodd y Comisiynwyr i bwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau'r tîm Diogelwch, yn enwedig o ran diogelwch yn y cartref, ymhlith aelodau eu grwpiau.

6.

Papurau i'w nodi:

6.a

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio sy’n cael ei lunio ar gyfer pob un o gyfarfodydd y Comisiwn.

6.b

Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i roi gwybodaeth ychwanegol

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y llythyr sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn dilyn y sesiwn graffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2021-22.

Yn benodol, trafododd y Comisiynwyr y rhaglenni cymorth a gynigir i staff y Comisiwn, gan gytuno y dylid cadw llygad barcud ar y sefyllfa. Hefyd, cafodd trefniadau eraill o ran cyflogaeth eu trafod, fel staff cymorth yr Aelodau a chontractwyr y Comisiwn.

7.

Unrhyw fusnes arall

Cofnodion:

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi gwneud un penderfyniad yn ymwneud â phenodi Cynghorwyr Annibynnol i'r Comisiwn, gan gynnwys ar gyfer aelodaeth o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) a'r Pwyllgor Taliadau.