Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd.

2.

Cyllideb Atodol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2020-21

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2020-21 a’r argymhelliad ar gyfer cyllideb atodol mewn perthynas â’r cyfrifiad costau cyllid pensiwn IAS19 canol y flwyddyn (£0.4 miliwn) a chynnydd disgwyliedig yn y ddarpariaeth gwyliau blynyddol a gronnwyd (£1.3 miliwn).

Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol i'w chynnwys yn nhrydydd cynnig cyllideb Llywodraeth Cymru. Cytunwyd ar y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig a’r llythyr at y Pwyllgor Cyllid.

3.

Pontio dros gyfnod yr etholiad

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y sefyllfa o ran bwriad y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn newydd yn ymwneud ag etholiad 2021. Byddai'r ddeddfwriaeth yn debygol o ddefnyddio'r weithdrefn frys oherwydd yr amser sydd ar gael. Y disgwyl oedd y byddai'r ddeddfwriaeth yn cynyddu'r cyfnod y gellid amrywio'r etholiad, a byddai'n debygol o gynnig lleihau hyd Diddymu’r Senedd, a fyddai'n cael ei ddatgysylltu o'r cyfnod cyn yr etholiad.

Trafododd y Comisiynwyr yr amserlenni a'r goblygiadau a ragwelir ar gyfer y Comisiwn, gan gynnwys y goblygiadau ar gyfer y penderfyniadau a wnaed eisoes ynghylch mynediad at adnoddau yn ystod y broses Ddiddymu.

3.a

Croeso, Cynefino a Dysgu

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr drosolwg o'r trefniadau croesawu a chynefino arfaethedig ar gyfer Aelodau a'u staff yn dilyn etholiad y Senedd yn 2021; a hefyd argymhellion ar gyfer rhaglen ddysgu Aelodau a staff cymorth yn y Chweched Senedd. Fe wnaethant nodi gwybodaeth am ddehongli’r Rheolau Sefydlog i alluogi cymryd llw o bell a newidiadau arfaethedig i basys diogelwch ar gyfer priod/partner.

 

Nododd y Comisiynwyr y trefniadau croesawu a chynefino arfaethedig, gan gydnabod y sylfeini cryf ar gyfer y ddarpariaeth, a’r cyfeiriad cyffredinol a’r dull amlinellol ar gyfer rhaglen ddysgu’r Aelodau yn y Chweched Senedd.

 

Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd elfennau o'r pecyn cynefino a hyfforddi, a cytunwyd y dylid eu hystyried yn gynnwys hanfodol, yn enwedig y Cod Ymddygiad, Urddas a Pharch, y Rheolau ar Ddefnyddio Adnoddau, cyfrifoldebau fel cyflogwr ac fel rheolydd data, a seiber-ddiogelwch.

3.b

Dyraniad TGCh yr Aelodau

Cofnodion:

Cyflwynwyd opsiynau ac argymhellion i’r Comisiynwyr ar gyfer dyrannu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i Aelodau a'u staff cymorth yn y Chweched Senedd. Cododd y Comisiynwyr nifer o bwyntiau i'w hegluro, a thrafodwyd y dulliau ar gyfer gwaredu offer nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach.

 

Cytunwyd y byddai fersiwn fyrrach o'r papur yn cael ei thrafod gyda'r Comisiynwyr bob yn un, fel y gallent ddarparu adborth ysgrifenedig gan eu grwpiau am ddyraniad TGCh arfaethedig yr Aelodau ar gyfer y Chweched Senedd, gan gofio bod angen bod yn ddarbodus wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.   

3.c

Asedau’r Senedd

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr bapur yn rhoi gwybod iddynt am y dull arfaethedig o ddefnyddio a dychwelyd asedau'r Senedd yn ystod y cyfnod o Ionawr 2021 a thrwy’r etholiad gan gynnwys y trefniadau dirwyn i ben ar gyfer Aelodau na chânt eu hail-ethol.

Cytunodd y Comisiynwyr ar y dull o drin asedau'r Senedd fel rhan o drefniadau dirwyn i ben yr Aelodau:

·            Dylid dychwelyd pob eitem a all roi gwerth am arian drwy gael ei hailddefnyddio neu ei hail-bwrpasu gan y Comisiwn.

·            O ran eitemau eraill, lle byddai costau ychwanegol neu bwysau adnoddau (e.e. anghenion storio) yn anghymesur neu’n methu â rhoi gwerth am arian, dylai’r Aelod dan sylw gael gwared arnynt, a dylid cytuno ar y dull ar gyfer gwneud hynny drwy ei gynllun dirwyn i ben.  

·            Dylid cael gwared ar eitemau mewn modd cynaliadwy (ail-bwrpasu/ailgylchu) ac ni ddylai’r Aelod na'i staff elwa’n bersonol o ganlyniad i hynny.

 

Nododd y Comisiwn y materion a godwyd mewn perthynas â chanfyddiadau’r cyhoedd o ddefnydd darbodus o adnoddau yn y cyfnod cyn yr etholiad, a’r angen i ddangos egwyddorion gwerth am arian ym misoedd olaf y Pumed Senedd a’r cyfnod dirwyn i ben.

4.

Arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2020

Cofnodion:

Gwelodd y Comisiynwyr ganlyniadau arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2020, a nodwyd y byddai’r data o’r arolwg yn cyfrannu at ddau Ddangosydd Perfformiad Allweddol yn Adroddiad Blynyddol 2020-21 y Comisiwn. Gwnaethant drafod gwerth clywed barn yr Aelodau gan ddefnyddio’r arolwg gan gytuno y dylai barhau i gael ei ddefnyddio fel un o'r ffyrdd o gael adborth. Gan gydnabod y gyfradd ymateb isel yn yr arolwg hwn, myfyriodd y Comisiynwyr y byddai'n rhesymol tybio bod pobl sy'n anhapus â gwasanaethau yn fwy tebygol o flaenoriaethu llenwi arolwg o'r fath na’r rhai a oedd yn fodlon.

Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau’r arolwg a chytunwyd i rannu adroddiad ar y canlyniadau yn y ffyrdd arferol; ac i rannu crynodeb o'r canfyddiadau perthnasol â’r Bwrdd Taliadau.

5.

Diweddariad ynghylch COVID-19

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Clywodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau sydd ar waith tra bod y Senedd yn parhau i weithredu o dan reoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru, a chafwyd sicrwydd bod y gwaith monitro ar gyfer y camau nesaf wrthi’n cael ei wneud.

6.

Papurau i'w nodi:

6.a

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio, sy’n cael ei ddarparu i bob cyfarfod o’r Comisiwn.

6.b

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 26 Tachwedd, a chytunwyd y dylai deiliad y portffolio gytuno ar yr ymateb y tu allan i’r cyfarfod.

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Dywedodd un Comisiynydd fod y penderfyniadau a wnaed ym mis Mehefin ynghylch mynediad cyn-Aelodau at adnoddau’r Comisiwn yn ystod y cyfnod pan fydd y Senedd yn cael ei Diddymu wedi arwain at rai ymholiadau gan aelodau eu grŵp. Egwyddor graidd y broses benderfynu honno oedd darparu ar gyfer etholiad rhydd a theg.

Yng ngoleuni'r potensial ar gyfer newid y cyfnod Diddymu trwy ddeddfwriaeth frys arfaethedig y Llywodraeth, nododd y Llywydd y gallai fod angen ailedrych ar y mater a gofyn am adborth gan y Comisiynwyr.