Agenda a Chofnodion

Lleoliad: External

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion 16 Mawrth yn gofnod cywir.

 

2.

Cyllideb Atodol 2020-21

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gynnig y dylid gosod Cyllideb Atodol, i leihau cyllideb 2020-21 y Comisiwn o £61.411 miliwn i £59.575 miliwn.

Diben hynny oedd adlewyrchu'r cyhoeddiad gan Drysorlys Ei Mawrhydi bod gweithredu Safon Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 16 – Prydlesi i gael ei ohirio am 12 mis tan 1 Ebrill 2021. Nid yw hyn yn newid gofyniad arian parod 2020-21 y Comisiwn o £56.075 miliwn.

Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Memorandwm Esboniadol (Atodiad un), i adlewyrchu'r cyhoeddiad gan Drysorlys Ei Mawrhydi, a nodwyd y newid yn yr amserlen graffu sy'n gysylltiedig ag amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru.

 

Byddai'r Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod yn y ffordd arferol.

 

3.

Coronafeirws

Cofnodion:

Rhoddwyd crynodeb i'r Comisiynwyr o'r dull, y penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan y Comisiwn i reoli effaith pandemig Covid-19 er mwyn cynnal gweithgaredd seneddol hanfodol a chadw Aelodau, staff a'r cyhoedd yn ddiogel.

Hefyd, nodwyd crynodeb o'r penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Taliadau hyd yma ar yr ymateb i Covid-19.

Trafododd y Comisiynwyr yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a diolchwyd i'r holl staff a fu ynghlwm â'r gwaith cefndir i alluogi parhad busnes seneddol. I ddilyn, cafwyd trafodaeth ehangach am y cyfnod sydd i ddod. Trafodwyd y berthynas rhwng y penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Busnes ynghylch busnes a'r adnoddau a ddarperir i gefnogi'r gweithgareddau hynny. Cydnabuwyd y gofynion a roddir ar dimau penodol drwy weithio o bell a phwysigrwydd cydnerthedd a dulliau cyflawni cadarn.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran cynllunio ar gyfer y camau nesaf.

 

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Senedd

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr cyn dyddiad gweithredu’r newid enw.

 

5.

Adroddiad blynyddol – sylwadau’r Comisiynwyr ar y drafft

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi trafod fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn yn ymwneud â 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020, er mwyn rhoi sylwadau cyn cwblhau'r adroddiad.

Roedd y Comisiynwyr yn croesawu’r gwaith hyd yma gan gydnabod y byddai diweddariadau ychwanegol i adlewyrchu digwyddiadau diweddar. Awgrymwyd hefyd y dylid cynnwys adran edrych ymlaen.

 

Bydd yr adroddiad yn cael ei osod a'i gyhoeddi ar-lein yn dilyn cymeradwyaeth derfynol ym mis Mehefin.

 

6.

Papurau i’w nodi:

6.a

Y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y Bwrdd Gweithredol (Penderfyniadau Recriwtio)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o’r penderfyniadau recriwtio a ddarperir i holl gyfarfodydd y Comisiwn.

 

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr amseriad cyfarfodydd yn y dyfodol os bydd patrwm cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn parhau.

 

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi gwneud tri phenderfyniad brys.

Roedd y rhain yn ymwneud â darlledu’r cyfarfod llawn a chyfarfodydd phwyllgorau ac ymestyn y cyfnod pan na fydd gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael eu cynnal.

Cafwyd briffio ychwanegol hefyd i egluro'r adnodd ychwanegol, er mwyn cefnogi’r flaenoriaeth strategol o ymgysylltu.