Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr i beidio a chyhoeddi’r
papurau cyfyngedig. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol (9 Mai 2012) – Papur 1a (14
Mai 2012) – Papur 1b Dogfennau ategol: |
|
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog Papur 2 Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr hynt Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), ar
ôl i ystyriaeth Cyfnod 2 o’r Bil ddod i
ben ar 21 Mehefin. Cytunwyd
ar y saith gwelliant a gyflwynwyd gan y Comisiwn yng Nghyfnod 2, gan gynnwys
gwelliant yn egluro y cyfyngir y ddyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog
i drafodion y Cyfarfod Llawn. Yn ystod
trafodion y Pwyllgor, cyflwynodd nifer o Aelodau welliannau nad oeddent wedi
pwyso am bleidlais arnynt ond yr oeddent wedi gofyn i’r Comisiwn eu hystyried
ymhellach cyn i’r Bil ddychwelyd i’r Cynulliad llawn ar gyfer Cyfnod 3. Roedd y
Comisiwn yn cydnabod pe byddai’r Bil yn cael ei drafod ymhellach ar 18
Gorffennaf, fel y bwriadir ar hyn o bryd, na fyddai digon o amser i’r Comisiwn
a’r Aelodau perthnasol ystyried a thrafod y materion hyn yn drylwyr ac mewn
modd adeiladol. Cytunodd
y Comisiwn i ofyn i ohirio’r ddadl Cyfnod 3 ar y Bil tan yn gynnar yn nhymor yr
Hydref. Camau
i’w cymryd: ·
Rhodri
Glyn Thomas AC i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn gofyn i ohirio trafodion
Cyfnod 3. ·
Rhodri
Glyn Thomas AC i weithio gyda swyddogion ac Aelodau’r Cynulliad i drafod y
materion y mae angen eu hystyried ymhellach cyn Cyfnod 3. |
|
Adroddiad a chyfrifon blynyddol ar gyfer 2011-12 Papur 3 Cofnodion: Mae
Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-12 yn rhoi trosolwg
strategol ar flaenoriaethau strategol Comisiwn y Cynulliad, ac yn rhoi pwyslais
cryf ar adeiladu Cynulliad ar gyfer y dyfodol Caiff yr Adroddiad Blynyddol ei gyhoeddi arlein ar 12
Gorffennaf a chaiff y ddogfen lawn, gan gynnwys cyfrifon, ei gosod yn ffurfiol
erbyn diwedd y tymor. Cytunodd
y Comisiynwyr ar yr adroddiad. |
|
Cyllideb ddrafft 2013-14 Papur 4 Cofnodion: Cadarnhaodd
y Comisiynwyr y byddant yn parhau â’u hymrwymiad i weithio o fewn y gwariant
dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn nogfen gyllidebol y llynedd. Y gyllideb
ddangosol ar gyfer 2013-14 yw £49.5 miliwn. Mae £33.5 miliwn yn gysylltiedig â
chostau gweithredu ac mae £13.7 miliwn ar gyfer cyllideb yr Aelodau ac mae’r
gweddill ar gael ar gyfer buddsoddiadau. Trafododd
y Comisiynwyr flaenoriaethau cyllideb 2013-14. Cytunodd Angela Burns AC i
gyfarfod ag Aelodau unigol i drafod cyllideb y Comisiwn cyn pennu’r gyllideb
derfynol. Disgwylir i’r Gyllideb gael ei chytuno yng nghyfarfod y
Comisiwn ar 27 Medi a’i gosod ar 28 Medi. Caiff y gyllideb ei hystyried
ymhellach yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf. Cam i’w gymryd: Swyddogion i ddod â dogfen ar y gyllideb ddrafft i’r cyfarfod nesaf. |
|
Rhaglen Gwasanaethau TGCh y dyfodol Papur 5 Cofnodion: Mae’n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru
ac Atos o’i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol erbyn
30 Ebrill 2013. Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu’r ddau
opsiwn a ganlyn:
Cytunwyd y byddai’r swyddogion yn parhau i ddatblygu’r opsiynau hyn er mwyn galluogi’r Comisiwn i wneud penderfyniad ar ddarpariaeth yn y dyfodol yn nhymor yr hydref. |
|
Adolygiad o fanteision y prosiect UNO Papur 6 Cofnodion: Yn y cyfarfod ym mis Hydref 2011, cyflwynwyd adolygiad
i’r Comisiwn o’r manteision ac arbedion a ddarparwyd gan y prosiect UNO a
gofynnodd i gael adroddiadau cyson ar y manteision a gaiff eu cyflawni. Cyflawnodd
UNO ei amcan o wahanu seilwaith y Cynulliad oddi wrth seilwaith Llywodraeth
Cymru. Roedd hwn yn gam angenrheidiol ac anochel sydd wedi rhoi’r Cynulliad
mewn sefyllfa lle gall benderfynu ar ei ddarpariaeth gwasanaethau TGCh a
strategaeth TGCh yn y dyfodol. Manteision eraill oedd mudo i Windows 7 ac Office 2010,
gwelliannau i gysondeb busnes a chadernid systemau’r Cynulliad a gwell
cysylltedd, yn enwedig i swyddfeydd etholaethol. Cafodd amrywiaeth o broblemau technegol eu datrys ond
rydym yn parhau i ystyried rhai eraill, gan gynnwys uwchraddio i’r system
gwaith achos, datrys problemau argraffu lleol a symleiddio mynediad at
gymwysiadau. Er bod y Comisiynwyr yn cydnabod bod y camau a gymerwyd fel rhan o’r broses UNO yn angenrheidiol, gwnaethant fynegi pryder am y problemau TGCh y mae Aelodau a’u staff yn parhau i’w hwynebu a chytunwyd y dylai swyddogion barhau i flaenoriaethu’r gwaith o ddatrys y problemau hyn. |
|
Portffolios Comisiwn y Cynulliad Paper 7 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Comisiynwyr yn trafod eu portffolios yn dilyn y flwyddyn gyntaf o weithredu a gwnaethant gytuno ar y newidiadau a gynigiwyd yn y papur, yn amodol ar un gwelliant. Bydd Sandy Mewies AC yn cymryd cyfrifoldeb dros gyfleusterau’r Cynulliad a bydd Peter Black AC yn parhau i fod yn gyfrifol am ystâd y Cynulliad oherwydd y cysylltiadau â chynaliadwyedd. |
|
Y Pwyllgor Taliadau Papur 8 i’w nodi Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr adroddiad blynyddol a chylch gorchwyl diwygiedig Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol y Cynulliad. |
|
Rhaglen dreigl Papur 9 Cofnodion: Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ddydd Iau 12
Gorffennaf. Bydd yr eitemau ar yr agenda
yn cynnwys:
|
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: ·
Trafododd
y Comisiynwyr statws Cofnod y Trafodion. ·
Gofynnodd
y Comisiynwyr am wybodaeth bellach am yr holl wasanaethau sydd ar gael i
gefnogi trafodion y pwyllgorau. ·
Pwysleisiodd
Angela Burns AC eitemau i’w nodi yn Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol
Comisiwn y Cynulliad. ·
Cytunodd
y Comisiynwyr i gynnal cyfarfod anffurfiol yn ystod toriad yr haf. Yr Ysgrifenyddiaeth Mehefin
2012 |