Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am Eitem 2
yn y cofnodion. Ar 13 Ionawr 2012, ysgrifennodd Rhodri Glyn Thomas AC at y
Llywydd yn gofyn am ei phenderfyniad ynghylch a oedd y Bil Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) arfaethedig o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol y Cynulliad. Ysgrifennodd hefyd at Gadeirydd y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i roi hysbysiad ynghylch y bwriad i
gyflwyno’r Bil. Cafodd y Bil ei gyflwyno ar 30 Ionawr. Diolchodd y Comisiynwyr
i’r swyddogion am eu gwaith ar y Bil a’r Cynllun a’r ymgynghoriad a oedd yn
gysylltiedig â hwy. Mae swyddogion yn gweithio ar bob un o’r camau eraill. Cytunwyd ar y cofnodion yn ffurfiol. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Comisiwn y Cynulliad 2012-16 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Diolchodd y Llywydd i Ross Davies am lunio a
chyflwyno gwybodaeth ar gyfer Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a nododd
bod safle’r Cynulliad wedi gwella eto eleni i fod yr 20fed lle mwyaf ystyriol o
bobl hoyw i weithio yn y DU, a’r trydydd yn y DU yn y categori Llywodraeth.
Mynegodd y Comisiynwyr eu llongyfarchiadau i bawb oedd wedi cymryd rhan, yn
ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â’r rhwydwaith staff, sydd hefyd yn cynnwys staff
cymorth Aelodau’r Cynulliad, ac a ddaeth i’r brig yn y categori rhwydwaith
gorau Cymru eleni. Cyflwynwyd y papur ar y cynllun cydraddoldeb
gan Sandy Mewies AC. Mae Deddf Cydraddoldeb 2012 yn nodi
bod angen i’r Comisiwn gyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb erbyn mis Ebrill 2012.
Datblygwyd Cynllun Cydraddoldeb 2012-16, mewn ymgynghoriad ag Aelodau, eu staff
a staff y Cynulliad, yn ogystal â phartneriaid allanol a rhanddeiliaid, i
gynnwys dyletswyddau cyfreithiol y Comisiwn mewn cysylltiad â chydraddoldeb,
ethos corfforaethol y Comisiwn, rolau a chyfrifoldebau, ein hamcanion mwyaf
blaenllaw, y fethodoleg ar gyfer ymgynghori ar y cynllun a chynllun gweithredu.
Er bod rhai o’r camau yn cynrychioli meysydd gwaith newydd, mae llawer ohonynt
yn adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yma i ymgorffori cydraddoldeb yng ngwaith y
Cynulliad. Y Tîm Cydraddoldeb fydd yn cefnogi ac yn
monitro’r Cynllun, unwaith y cytunir arno. Cyflwynir adroddiad blynyddol i’r
Comisiwn ar gynnydd yn ôl y Cynllun bob mis Ebrill. Canmolodd y Comisiynwyr y
dulliau ymgynghori trwyadl a fu ar waith wrth ddatblygu’r cynllun a nodwyd ei
fod yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Trafodwyd y bydd angen sicrhau bod digon o
ddata ar gael i fonitro’r cynllun, yn arbennig mewn cysylltiad â chyfansoddiad
y gweithlu. Cytunwyd bod y cynllun yn
ddarn o waith sylweddol a thrwyadl. Diolchwyd i’r tîm Cydraddoldeb a phawb a
fu’n ymwneud â’r gwaith o baratoi’r strategaeth am eu hymdrechion hyd yma. Cytunwyd ar y Cynllun
Cydraddoldeb 2012-16 yn ffurfiol gan y Comisiwn. Cam i’w gymryd: Swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i
wella dulliau monitro’r gweithlu. Bydd adolygiad llawn o’r cynllun ym mis
Ebrill 2013. |
|
Adolygu effeithiolrwydd Comisiwn y Cynulliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Comisiwn ar ei egwyddorion
llywodraethu a’r darpariaethau ategol ym mis Mehefin 2011. Roedd hyn yn cynnwys
ymrwymiad i werthuso effeithiolrwydd y Comisiwn fel corff, yn hytrach nag
effeithiolrwydd y sefydliad cyfan. Cytunwyd y byddai’r gwerthusiad ffurfiol
cyntaf yn digwydd ymhen tua deuddeg mis. O 2011-12 ymlaen, mae’n ofynnol i adroddiad
blynyddol a chyfrifon y Comisiwn gynnwys Datganiad Llywodraethu, a fydd,
ymhlith pethau eraill, yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y
sefydliad cyfan. Trafodwyd yr amserlen arfaethedig a’r fethodoleg
ar gyfer cynnal y gwerthusiad, a chytunwyd arnynt. Yn benodol, nodwyd y bydd yr
adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr hydref 2012. Proses
ailadroddus fydd hon, yn nodi meysydd ar gyfer gwelliant a gaiff eu monitro’n
barhaus. Bydd wedi’i seilio ar dystiolaeth a gesglir gan yr Aelodau a
rhanddeiliaid eraill yn ogystal â gwybodaeth a ddarperir gan y Comisiynwyr eu
hunain. Cytunwyd mai Ian Summers fyddai’n cynnal y gwerthusiad, gan weithio gyda Mair Barnes, ac y bydd y dull gweithredu’n cael ei amlinellu yn y Datganiad Llywodraethu yn y Cyfrifon ar gyfer 2011-12. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddfwriaeth Cymru Ar-lein Cofnodion: Bu’r Comisiwn yn ystyried dyfodol y gefnogaeth ariannol a ddarperir ganddo
ar gyfer gwefan Deddfwriaeth Cymru Ar-lein, yng ngoleuni: yr amcanion a bennwyd
gan y Comisiwn yn 2008 ac yn benodol y cynnydd a wnaed i gael “Llyfr Statud i
Gymru”; y ffaith nad yw’r wefan wedi cael sicrwydd ynglŷn ag arian tymor hir o ffynonellau eraill
i alluogi cynnydd sylweddol i gael ei wneud yn hyn o beth, ac; cynlluniau
eraill Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella hygyrchedd cyfreithiau Cymru, fel y
cyhoeddwyd gan y Cwnsler Cyffredinol ar 5 Hydref 2011. Nododd y Comisiwn y ganmoliaeth roedd y
wefan wedi’i chael gan ystod ehangach o gyrff dros y blynyddoedd, a chytunwyd
bod y safle wedi gwneud cyfraniad defnyddiol i ddealltwriaeth y cyhoedd o
ddatganoli dros y pedair blynedd ddiwethaf, gyda chefnogaeth y Comisiwn. Fodd
bynnag, wrth edrych i’r dyfodol, roedd y Comisiwn yn teimlo mai’r ffordd orau o
sicrhau ei gyfraniad at wella hygyrchedd y cyhoedd i gyfreithiau Cymru oedd
drwy ddatblygu’r wybodaeth a ddarparwyd ar wefan y Cynulliad ei hun. Gofynnodd
y Comisiwn am gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wneir yn hyn o beth. Penderfynodd y Comisiwn i beidio â pharhau i ddarparu cefnogaeth ariannol i Ddeddfwriaeth Cymru Ar-lein a rhoddodd ganiatâd i’r Prif Gynghorydd Cyfreithiol gymryd y camau angenrheidiol i roi’r penderfyniad hwn ar waith cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol bosibl. |
|
Strategaeth ar gyfer gwobrwyo staff y Cynulliad Cofnodion: Bydd cytundeb
cyflog presennol y Comisiwn ar gyfer staff yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012.
Trafodwyd y strategaeth taliadau newydd a fydd yn weithredol o 1 Ebrill 2012, a
phwysleisiodd y Comisiynwyr y byddai’n bwysig ystyried y cyd-destun economaidd
anodd a ffactorau perthnasol eraill. Bydd y strategaeth yn ganllaw ar gyfer trafodaethau
â’r undebau llafur ac yn sail i drefniadau taliadau yn y dyfodol. |
|
Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Bwrdd Rheoli gan Claire Clancy. Roedd y papur yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf am faterion allweddol o fewn pob un o’r amcanion
strategol, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a manylion y
ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a ddaeth i law ers yr adroddiad diwethaf gan y
Bwrdd Rheoli. Y mis hwn, roedd cofnodion cyfarfod diwethaf Pwyllgor Archwilio
Comisiwn y Cynulliad hefyd yn atodedig i’r adroddiad er gwybodaeth. Trafodwyd yr eitemau a ganlyn: Y contract rheoli
cyfleusterau Hefyd bu’r Comisiynwyr yn trafod y dull o ymdrin â chaffael yn fwy
cyffredinol, a chytunwyd y dylai’r mater fod yn eitem ar yr agenda mewn
cyfarfod yn y dyfodol. Y cynllun diswyddo
gwirfoddol Cynigir cynllun ymadael gwirfoddol cyfyngedig i holl staff y Cynulliad.
Cynlluniwyd y cynllun i sicrhau bod modd i nifer staff y Comisiwn a’i strwythur
staffio ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad drwy alluogi’r sefydliad i ymateb i newidiadau yn ein gofynion o ran
sgiliau, gwella effeithlonrwydd y gweithlu, hwyluso newid sefydliadol, a
darparu arbedion tymor hir lle bo modd. Pwysleisiodd y Comisiynwyr mor bwysig
yr oedd bod y penderfyniadau a wneir yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei
ddefnyddio’n effeithiol a bod darpariaeth talu’n ôl i’r sefydliad. Hefyd cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y modd o fynd i’r
afael â’r problemau TGCh parhaus. Eglurodd Claire Clancy ei bod wedi ysgrifennu
at yr uwch reolwyr yn Atos yn mynegi ei phryder difrifol
ynghylch safonau’r gwasanaeth a’r problemau parhaus, gan gynnwys methiant y
system e-bost ar 18 Ionawr. Dechreuodd Atos weithredu cynllun i wella’r
gwasanaeth ar unwaith. Bydd Peter Black AC, ynghyd â swyddogion y Comisiwn, yn cyfarfod ag aelodau
unigol i gasglu tystiolaeth ar y problemau y mae Aelodau yn eu hwynebu er mwyn
sicrhau y caiff y rhain sylw fel rhan o’r cynllun gwella’r gwasanaeth. |
|
Rhaglen dreigl Comisiwn y Cynulliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y rhaglen dreigl. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Gofynnodd y Comisiynwyr am gyfarfod
preifat â’r Prif Weithredwr ar ôl cyfarfod y Comisiwn. |