Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson, 029 2089 8705 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan.

1c

Cofnodion y cyfarfod 14 Gorffennaf 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cofnodion cyfarfod 14 Gorffennaf 2011

 

Cytunwyd yn ffurfiol ar y cofnodion.

 

Materion yn codi o’r cyfarfod ar 14 Gorffennaf 2011

 

Roedd cais wedi cael ei wneud i newid Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 i gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol fel corff a enwir. Byddai’r Comisiwn yn cael ei hysbysu unwaith y byddai ymateb wedi dod gan Swyddfa’r Cabinet.

 

2.

Cyllideb ddrafft 2012-13

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yr egwyddorion sy’n ganolog i strategaeth cyllideb y Comisiwn, fel y cytunwyd ym mis Gorffennaf 2011, oedd:

 

i.   y dylai’r gyllideb gynnwys digon o adnoddau i ganiatáu i’r Comisiwn ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad fel deddfwrfa sydd â phwerau deddfu llawn yn dilyn y refferendwm;

 

ii. bod angen safon uchel o wasanaethau cymorth ar y Cynulliad, fel sefydliad sy’n tyfu, gydag adnoddau priodol ar gyfer y gwasanaethau hynny, er mwyn galluogi’r Aelodau i wneud eu gwaith; ac

 

iii. y byddai’n hanfodol parhau i sicrhau effeithiolrwydd a gwerth am arian.

 

Cafodd cynigion y gyllideb ddrafft, i ariannu’r blaenoriaethau hyn, eu trafod. Penderfynwyd ar y cynigion drwy gyfuniad o arbedion, ailddosbarthu’r adnoddau presennol a thwf yn y gyllideb a gaiff ei gyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaeth y Comisiynwyr gais i dynnu mwy o sylw at yr arbedion, yn arbennig y rhai sy’n deillio o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau, bod tystiolaeth i gefnogi meysydd buddsoddi arfaethedig yn cael ei gryfhau, a bod ychydig o ailddrafftio yn cael ei wneud i wella eglurder yr iaith a ddefnyddir yn y ddogfen.

 

Cafodd y gyllideb ddrafft o £47.7 miliwn ar gyfer 2012-13 ei thrafod. Roedd hyn yn gynnydd o 6.6 y cant o gymharu â 2011-12; yn dilyn trafodaeth o’r cynigion manwl, cymeradwyodd y Comisiwn gynnydd o 6.4 y cant. O hwn, byddai angen 5.1 y cant i dalu costau ychwanegol anochel. Cytunwyd bod y gyllideb hon, sy’n cynrychioli 0.3 y cant o Floc Cymru, yn bris rhesymol a phriodol ar gyfer cefnogaeth briodol i’r broses ddeddfwriaethol, craffu ar y Llywodraeth a chynrychiolaeth ddemocrataidd. Pwysleisiodd y Comisiwn ei fod am sicrhau bod gwasanaethau gwerth am arian yn cael eu darparu’n effeithlon ac yn effeithiol.

 

Bydd y gyllideb ddrafft, a gaiff ei diweddaru i adlewyrchu atborth y Comisiynwyr, yn cael ei gosod ar 29 Medi. Bydd Angela Burns, gyda swyddogion, yn cyflwyno’r gyllideb i’r Pwyllgor Cyllid ar 6 Hydref.

 

Byddai sesiwn yn cael ei threfnu ar ôl y Cyfarfod Llawn i gyflwyno’r gyllideb a strategaeth y Comisiwn i holl Aelodau’r Cynulliad.

 

Camau gweithredu: Swyddogion, mewn trafodaeth ag Angela Burns, i ddiweddaru dogfen y gyllideb ddrafft yn unol ag atborth gan y Comisiwn.

 

Camau gweithredu: Sesiwn i gael ei threfnu i gyflwyno’r gyllideb a strategaeth y Comisiwn i holl Aelodau’r Cynulliad.

3.

Rhaglen dreigl Comisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y rhaglen dreigl.

4.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid paratoi opsiynau ar gyfer cydnabod cyfraniadau sylweddol tuag at ddatblygu’r Cynulliad, er enghraifft gan Lywyddion, a chreu arteffactau a fyddai’n gofnod hanesyddol priodol o ddatblygiad y Cynulliad.

 

Camau gweithredu: Swyddogion i baratoi opsiynau ar gyfer cydnabod cyfraniadau sylweddol i’r Cynulliad

 

Roedd nifer o Aelodau’r Cynulliad a’u staff yn y Cynulliad a’u swyddfeydd yn y rhanbarthau a’r etholaethau wedi parhau i gael trafferthion TGCh. Roedd cylchedau newydd yn cael eu gosod, a fyddai’n gwella cyflymder y cysylltiad mewn swyddfeydd pell. Cytunwyd y gallai’r Aelodau gysylltu â Peter Black os oeddynt yn wynebu trafferthion sylweddol, ac y dylai Saesneg clir, heb jargon, gael ei ddefnyddio i gyfleu unrhyw drafferthion y gwyddom amdanynt, i’r Aelodau.

 

Roedd rhai Aelodau wedi wynebu trafferthion wrth ddefnyddio ystafelloedd pwyllgora 1, 2 a 3 yn ystod wythnos gyntaf y tymor. Roedd ymchwiliadau yn cael eu cynnal a bydd adroddiad yn cael ei ddosbarthu.