Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

1.2

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Ebrill.

 

2.

Strategaeth Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2020-21

Cofnodion:

Parhaodd y Comisiynwyr i ystyried eu cynigion ar gyfer  strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21.

 

Y ddau brif faes a drafodwyd oedd gofyniad cyffredinol y gyllideb ar gyfer 2020-21; gan gynnwys effaith cyllideb atodol gyntaf 2019-20 ar gostau pensiwn; a blaenoriaethau buddsoddi newydd y Comisiwn ar gyfer 2020-21. Trafodwyd nifer o themâu gan gynnwys archifo, y wefan a gweithgareddau ymgysylltu.

 

Caiff cynigion ar gyfer y gyllideb eu gosod, yn unol â’r Rheolau Sefydlog, ym mis Medi.

 

3.

Diwygio’r Cynulliad – y wybodaeth ddiweddaraf

Papur 3a Diwygio’r Cynulliad: Bil Senedd ac Etholiadau, Atodiad 1-4

Papur 3b Cam 2 rhaglen diwygio'r Cynulliad

 

Cofnodion:

Trafododd y Comisiwn y trefniadau ar gyfer ymateb i adroddiadau pwyllgor yn y dyfodol sy’n ymwneud â Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Cytunodd y Comisiynwyr mai’r Llywydd sydd i benderfynu ar y dull a’r amserlen ar gyfer ymateb i adroddiadau pwyllgorau ac y trafodir ymhellach â hwy cyn y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn.

O ran trefniadau ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad, trafododd y Comisiynwyr y dull arfaethedig a nodwyd y cyngor. Roeddent yn cytuno y dylai’r Llywydd, mewn ymgynghoriad â Suzy Davies a chan ystyried safbwyntiau a fynegwyd gan y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn nhrafodion Cyfnod 1, fynd ati i drafod â’r Cwnsler Cyffredinol i gymeradwyo’r dull.

O ran gwaith pellach ar ddiwygio’r Cynulliad, yn ymwneud â maint y Cynulliad a diwygio’r system etholiadol, penderfynodd y Comisiynwyr nad oedd yn bosibl deddfu yn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, byddai’r gwaith o ystyried materion sy’n ymwneud â maint y Cynulliad a sut y dylid ethol Aelodau yn parhau er mwyn hwyluso’r ddadl gyhoeddus a chynorthwyo’r pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu barn ar y materion hyn.

 

4.

Diogelwch ffisegol

Papur 4 – Gwelliannau Diogelwch Ffisegol (mynediad)

 

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i’r Comisiynwyr am ddatblygiad arfaethedig protocolau diogelwch, a materion sydd wedi codi’n ddiweddar mewn cysylltiad â diogelwch. Byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i’r Comisiynwyr ei hystyried ac yna ei rhannu gyda’u grwpiau.

 

Trafododd y Comisiynwyr gynigion i wneud gwelliannau i wella trefniadau diogelwch yn y mannau mynediad cyhoeddus yn y Senedd a Thŷ Hywel, a chytunwyd arnynt, gan gynnwys hynny yn y gwaith o gynllunio’r gyllideb.

 

5.

Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Cofnodion:

Mae’n ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad “osod adroddiad gerbron y Cynulliad yn nodi sut y mae’r Comisiwn, yn ystod y flwyddyn dan sylw, wedi rhoi effaith i’r Cynllun” - Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.

 

Adolygodd y Comisiynwyr adroddiad yn trafod y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaethant geisio sicrwydd ynghylch y ffordd y mae’r cynllun yn gweithredu mewn perthynas â recriwtio, a thrafodwyd cyfleoedd i gymryd rhan yn rhaglen Common Voice Mozilla i gasglu recordiadau o bobl yn siarad i helpu i ddysgu peiriannau sut mae pobl yn siarad yn Gymraeg.

 

Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

6.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19

Drafft fel ar 3 Mehefin (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2019, ac roeddent yn fodlon ar yr hyn a welwyd.

 

Bydd y fersiwn derfynol i’w chymeradwyo ym mis Gorffennaf, ac yna caiff ei gosod erbyn diwedd tymor yr haf. Bydd ar gael ar-lein.

 

7.

Canlyniadau arolwg yr Aelodau a’u staff cymorth 2019

Cofnodion:

Rhoddwyd crynodeb i’r Comisiynwyr o Arolwg Aelodau’r Cynulliad a’u Staff Cymorth 2019. Yn unol â phenderfyniad y Comisiwn yn 2018, roedd yr arolwg eleni yn fyrrach ac yn bennaf roedd yn casglu data meintiol i ganiatáu ar gyfer cymariaethau a monitro perfformiad o flwyddyn i flwyddyn.

 

Nododd y Comisiynwyr ganfyddiadau’r Arolwg, a chytunwyd i’w rannu â’r Aelodau a’u staff yn ddiweddarach y mis hwn.

 

8.

Papurau i’w nodi:

8.1

Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Taliadau

Cofnodion:

Nododd y Comisiwn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Taliadau.

 

8.2

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr lythyr a anfonwyd at Suzy Davies gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Cynllun Ymadael Gwirfoddol.

 

8.3

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ugainmlwyddiant

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau i nodi 20 mlwyddiant y Cynulliad. Byddai diweddariad arall cyn toriad yr haf ynglŷn â digwyddiadau’r hydref.

 

8.4

Cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ym mis Mawrth

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ym mis Mawrth.

 

9.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

·         Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am achos Tribiwnlys Cyflogaeth sy’n mynd rhagddo.

·         Nododd y Comisiynwyr lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas ag ystyriaeth y Pwyllgor o gynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar ymatebion i’r Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chraffu ar ôl deddfu ac Ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol, i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas ag argymhellion o ran craffu ar y Gyllideb ac i Ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau ar y Penderfyniad (ynghyd ag egwyddorion cysylltiedig ar gyfer teithio gan y Comisiwn).